Showing posts with label cerdd. Show all posts
Showing posts with label cerdd. Show all posts

24.12.20

Cysur cymdogaeth

Cerdd gan Vivian Parry Williams, ar gais BroCast Ffestiniog, yn ystod gofid covid. 

 

Ffordd o fyw a newidiodd yn sydyn,
mae’r effaith i’w weld ar bob stryd,
y gelyn a ddaeth yn ddi-rybudd,
i’n dychryn, ac i newid ein byd.


R’wyn colli cyfarfod ’rhen gwmni,
a ffrindiau dros sgwrs yn y dre’,
gan obeithio ’daw’r haul unwaith eto
i godi’r hen hwyliau ynte.


Mae’n chwith am yr hyn oedd yn arfer
mewn lle sydd mor annwyl â hwn,
’does unlle’n y byd fel ein hardal
am wir gyfeillgarwch, mi wn.


A diolchaf bob dydd am gymdogaeth
a chymdeithas arbennig ein bro;
mae hynny yn eli i’r galon,
i f’anwesu yn llon, fel bob tro.


A phan ddaw yr haul dros ein bryniau   
i adfer yr hyn oedd yn bod,
cawn ddiolch i Dduw am ein gwarchod,
a gweddïo am yr hyn sydd i ddod.



Yn y ffilm fer isod gan BroCast Ffestiniog, mae Ceri Cunnington yn adrodd y gerdd

10.11.20

Stiniog O’r Wasg Erstalwm (4)

Pennod arall o gyfres Vivian Parry Williams
Y cyfeiriad at ddiwydiant angof yn yr ardal wna hysbyseb yn y Manchester Times and
Gazette
ar 9 Medi 1837 mor werthfawr i haneswyr. Hysbyseb am gyfranddaliadau yn y Great Gamallt Lead Mine, a oedd yn cynnig 256 o'r shares ar werth i fuddsoddwyr. Roedd y gwaith dair milltir o ‘Festiniog’, a chwe milltir o'r cei ym Maentwrog, meddai'r hysbyseb, ac yn hawlio hyd at bedwar can erw o dir, ar lês o 21 mlynedd. Byddai'n bosib' meddid i gynhyrchu tunelli o fwyn am ganrifoedd i ddod. Tipyn o ddweud!

Gwaith Plwm Gamallt (neu'r 'Gwaith Mein' fel mae rhai yn ei alw) -Llun VPW

Wedi llith hir yn trafod rhinweddau'r gwaith mwyn, dywed yr hysbyseb, mewn geiriau gonest, tua'r diwedd: 

The proprietors do not hold out any extravagant expectations of realizing rapid and enormous wealth to the shareholders.  

Cafwyd gwybodaeth ychwanegol hefyd am y modd y gweithid y mwynfeydd yn y Gamallt: 

The works are let by contract, ("Bargains") and the wages, &c. settled monthly. They are carried out under the direction of a foreman, and the general superintendence of one of the proprietors resident in the district as manager...

Difyr odiaeth oedd darllen fel yr oedd yn bosib' cael golwg dros lyfrau cownt ac adroddiadau o waith mwyn y Gamallt yr adeg honno, trwy gysylltu â swyddfa Mr J.D.Barry, yr asiant ym Manceinion. Tybed beth ddaeth o'r llyfrau hynny, a fyddent mor werthfawr i haneswyr heddiw fel dogfennau'n ymwneud ag un o ddiwydiannau coll plwyf Ffestiniog?
- - - - - - - -

Trist oedd darllen am hanes damwain ger Rhaeadr Cynfal yn y North Wales Chronicle (NWC), ar 3 Hydref 1837, ac yn y Caledonian Mercury ddeuddydd yn ddiweddarach, pryd y llithrodd merch o’r enw Miss Anwyl, Plas Coch, Y Bala, i ddyfnder pwll islaw’r rhaeadr. Roedd ar ymweliad, gyda’i brawd ac eraill, â Llan Ffestiniog, a’r cwmni, ynghyd â dau fachgen a gyflogwyd fel tywyswyr iddynt, wedi penderfynu ymweld â’r golygfeydd ar Afon Cynfal. Wrth edrych i lawr tua’r dyfnderoedd, dioddefodd y ferch o’r bendro, gan ddisgyn i’r trobwll yn yr afon. Rhedodd y bechgyn am gymorth rhai o’r pentrefwyr, ac wedi rhuthro i’r safle, gollyngodd un ei hun gyda rhaff o ben y dibyn at waelod yr afon, a darganfod corff y ferch ifanc wedi boddi.
- - - - - - - -

Cynigiwyd gwobr o dair gini i felinyddion am gynllun o felin ddŵr i falu ceirch, gyda thair maen melin, i’w chodi ger Glynafon, Tanygrisiau, mewn hysbyseb yn y NWC 9 Ebrill 1839. Cynigiwyd ail wobr o ddeg swllt a phum swllt fel trydedd wobr. Rhaid oedd cyfyngu’r gost o godi’r felin i gyd i £800, yn cynnwys y peirianwaith. Rhaid oedd anfon y cynlluniau i Samuel Holland (iau) neu William Owen, Glynafon, i’r hwn, yn ôl pob golwg y bwriadwyd codi’r felin.
- - - - - - - -

Yn y NWC ar 4 Awst 1840, cafwyd adroddiad tudalen lawn, ddifyr iawn o hanes gosod carreg gyntaf Eglwys Dewi Sant newydd yn y Blaenau, dan nawdd y wraig hynaws o Blas Tan-y-bwlch, Mrs Oakeley. Dyma ddywed rhan o’r ganmoliaeth i’r ddynes garedig honno 

...whose purse is ever open when she can benefit the poor, by contributing to their comfort, educating their children, visiting the sick, and now erecting this church...Her reward is in Heaven.

Cymaint gorfoledd un Rev. Mr Pugh  nes iddo gyfansoddi cerdd Gymraeg, daeogaidd ei naws, yn y papur hwnnw, i dathlu’r achlysur o weld cychwyn codi eglwys Anglicanaidd yng nghanol caer Anghydffurfiaeth yn y Blaenau. Ychydig yn baradocsaidd, Brydeinig ei naws oedd geiriau’r Cymro hwn, dybiwn i, fel y gwelir yn y pedwar pennill cyntaf o’r gerdd!


Tra gwaed Cymro yn fy ngwythi,
A thra ‘nghamrau fo yn Nghymru;
Molaf egwyddorion tyner
Cyfansoddiad Eglwys Loegr.


Pwy fu’n cynheu fel canwyllau
Dros i’r bobl gael eu Biblau;
Pwy r’odd her i’r Pab a’i Bader,
Onid dewrion Eglwys Loegr?


Pwy fu’n rhuddo dros wir ryddid,
Yn y tanbaid fflamau enbyd,
Dan gynddaredd Mair a Boner?
Gweinidogion Eglwys Loegr!


Pwy a safodd yn hardd fyddin,
I wrth’nebu Socialism?
O un galon, gwyr gafaelgar,
Ffyddlon weision Eglwys Loegr.
---------------


Mae Radio Cymru wedi darlledu cyfres berthnasol iawn i’r golofn yma, sef ‘Papur Ddoe’, efo Elin Tomos yn edrych ar hanes Cymru trwy bapurau newydd y gorffennol.  Yn y bennod gyntaf a ddarlledwyd ar ddiwedd Awst, mae Vivian yn son am ‘Glefyd Stiniog’ (sef typhoid). 

- - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020.



6.11.20

'Dathlu' dymchwel tai FRON HAUL

Yn 1998 – cafodd teras o dai -FronHaul- yn Nhanygrisiau eu datgymalu garreg wrth garreg er mwyn eu hail-adeiladu 30 milltir i ffwrdd yn yr amgueddfa lechi. Agorwyd yr atyniad newydd –pedwar tŷ, wedi’u dodrefnu a’u haddurno i adlewyrchu gwahanol gyfnodau yng nghymunedau llechi gogledd Cymru- ym 1999, un mlynedd ar hugain yn ôl.


Oherwydd cyfyngiadau’r gofid mawr, doedd dim posib cynnal gweithgareddau yn yr amgueddfa, felly cynhaliwyd y dathliad ar y we, efo lluniau, ffilmiau, blogio, celf a mwy. Comisiynwyd llawer o gyfraniadau gan bobol Stiniog, gan gynnwys Gai Toms a phlant ysgol Tanygrisiau; yr artist lleol Lleucu Gwenllian, a’r bardd Mirain Rhisiart. 

Rhan o un o luniau Lleucu -tai Fron Haul yn eu cynefin gwreiddiol

Deallwn bod yr Amgueddfa Lechi yn bwriadu gosod panel ddehongli ar safle gwreiddiol y tai, efo gwybodaeth amdanynt, ynghyd â gwaith celf a cherddi Lleucu a Mirain. Mae’n hen bryd, mewn gwirionedd, i rywbeth gael ei wneud yn safle Fron Haul, gan fod Llanbêr wedi cael dau ddegawd o fudd o’r tai –ar draul fe ellid dadlau- Tanygrisiau, sydd wedi gweld y lle’n datblygu’n leoliad blêr, gwag, fyth ers dymchwel y tai.

 

FRON HAUL
gan Mirain Rhisiart, Congl-y-wal

Gwelodd Eryri oes aur y llechi.
Trawsnewid y werin o gaib i gŷn.
Yn nyffryn ‘Stradau, rhesi o feini,
Ymlusga’r rhimyn â‘r graig gyferbyn.
Enfawr fu’r chwyldro, ergyd fu’r chwalfa,
Dirywiad diwydiant, mwy na’i dyfiant.
Tawelwch. Y baracs fu’n segura.
Difrod gan ddwylo diarth, llechfeddiant.
Cyflawni lladrad absen fel llwynog,
Sleifio’n llechwraidd a dwyn o’r Gorlan.
A glaw fu’n llifo o’r llechwedd creigiog,
Trueni mai hyn fu tranc y drigfan.
Rhaid gwarchod ein treftadaeth, mae’n drysor,
Neu diflannu wna, fel llong heb angor.


Daw cyfnod du i darfu – gwêl golau.
Geiriau gobeithiol gŵr gwydn; Elfyn.
Parhau i drigo’r tai mae eneidiau.
Drws llonydd ddaw a cartref i’w derfyn.
Datgymalwyd hwy, cymerwyd sawl dydd
A’u gweddnewid nes nad oedd hoel o draul.
Er yr ail-gartrefwyd yr aelwydydd,
Disgleiriau edefyn ar dîr Fron Haul.
Wrth feddwl am y teuluoedd hynny,
Mae cysylltiad wrth gyffwrdd y meini.
A nghefn at y drws, edrychaf fyny
Ar olygfa gyfarwydd o lechi.
Er fod pellter i gyrraedd Llyn Padarn,
Mi wn y saif y pedwar yn gadarn.


Meddai Mirain ar flog yr Amgueddfa Lechi:
Yn ystod sgwrs efo staff yr amgueddfa, cefais wybod bod Taid wedi bod yn byw yn rhif 3 Fron Haul rhwng 1927 a 1933! Dysgais am fardd lleol hefyd, Elfyn. Rydw i wedi cyfeirio at linell yr ysgrifennodd o tra roedd yn wael ac yn gaeth i’w gartref,

Hyderaf y câf fel cynt, weld yr haul wedi’r helynt”.
I mi, mae’r linell yng nghyd-destun fy ngherdd yn golygu hyn: er na fydd y diwydiant llechi yn debygol o fod mor llewyrchus ag yr oedd dros y ddwyganrif ddwytha, rydw i’n hyderus o’r potensial sydd gan Cymru i oresgyn rhwystrau a llwyddo fel gwlad fychan.
-----------------------

Addasiad o ddarnau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020

Hanes y symud


16.7.20

Yn iach gyfrinach y gân

Rhan o erthygl yng nghyfres RHOD Y RHIGYMWR gan Iwan Morgan.

Diolch i Paul, Cadeirydd ein papur ac un o’m cyd-olygyddion, am gyfeirio at ‘ddirgelwch difyr’ a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2009, ac a ymddangosodd fel erthygl fer ar ein gwefan wedi hynny.

Mewn cyfarfod o Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn 2009, disgrifiodd Allan Tudor sut y bu iddo ganfod ‘englyn rhyfedd iawn’ wedi’i naddu ar wal mewn cwt pren ar un o lefelydd chwarel y ‘Lord’:
Biti fod llinell a hanner wedi mynd o'r cof” meddai, “ond mae amser hir ers 1947!”.
Hola Paul tybed a all rywun lenwi’r bylchau ac anoga ni i adael iddo wybod.
Os nad oes neb yn cofio,” meddai, “beth am gynnig llinellau newydd?
Dyma’r englyn fel ag y naddwyd ef ar wal y cwt:
111  a 2, 999 a 10 - 20   20   20
. . . . .  15  15  15
. . . . . . . . .
1  2  9,  18  a 10
Ym mis Mawrth 2020, gosodwyd her i feirdd ‘Llafar Bro’ a’r byd trwy gyfrif Trydar @LlafarBro i geisio gorffen yr englyn. Bu Barddas a phodlediad Clera yn rhannu a hyrwyddo'r gamp hefyd.


Cafwyd ymateb cyflym iawn gan Mei Mac @MeiMacHuws:
"Dyna’r gorau alla i ei wneud!" meddai.
Tri un a dau, tri naw a deg - tri ugain,
Un trigain a phymtheg,
————- deuddeg,
Un, dau, naw, deunaw a deg.

"Reit!" meddai Annes Glyn @Yr_Hen_Goes   "Dwi wedi creu trydedd llinell i'r englyn, sy'n cynnwys llusg wyrdro slei. Wn i'm beth fydd barn yr hoelion wyth barddol!"
Tri un a dau, tri naw a deg - trigain,
Tri ugain, tri phymtheg,
Un deg a dau ddaw'n ddeuddeg        (10+2=12)
Un, dau, naw, deunaw a deg.

Dydw i ddim yn ’drydarwr,’ ond fe geisiais innau fynd ar drywydd creadigol tebyg i Annes Glyn i ail-greu'r llinell goll. Meddwn wrth Paul:
Ymgais i ddatrys yr englyn - er mod i wedi newid ychydig ar ei drefn! Mae'n amlwg fod llinell 3 yn golledig go iawn. Meddyliais hwyrach mai 'deuddeg' fyddai'r odl, ond fedrwn i ddim canfod rhif i gynganeddu efo hwnnw. Be am hwn felly:
Tri un a dau, tri naw a deg, - trigain,
(Tri ugain), tri phymtheg;
Un, dau, naw, deunaw a deg      (y llinell ola’ wreiddiol!)
A diweddu â deuddeg!


IM
---------------------------------------

Os allwch chi wella ar y cynigion ardderchog uchod, gyrrwch nodyn atom!

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Mai 2020.
Mae'r rhifynnau digidol i gyd ar gael i lawr-lwytho o wefan Bro360.
---------------------------------------

Daeth ymateb wedyn yn rhifyn Mehefin, gan Steffan ab Owain, ond tydi'r dirgelwch dal heb ei ddatrys:

ENGLYN RHYFEDD …
Pan oeddwn i’n gweithio’n yr Archifdy, deuthum ar draws yr ‘englyn rhyfedd’ a welwyd yn ‘Llafar Bro’ Mai...   Fe’i gwelais mewn hen bapur newydd. Dyma fel y cofnodwyd ef:

“AT MYFYR WYN ...
Gyfaill Barddol,
Carwn gael darlleniad cywir cynganeddol gennyt o'r englyn rhif-nodau canlynol:
111, 2, 999, 10, 444 555, 15 15 15 88 88 88, 12 12 12, 222, 9, 18 18 18, 10
Dyma fy narlleniad i ohonynt:
     Tri un, dau, tri naw, deg. - tri phedwar,
     Tri phump, tri phymtheg;
     Tri dau wyth, tri deuddeg,
     Tri dau, naw, tri deunaw, deg.”



Nodyn Iwan, golygydd Mehefin:

Sylwer fod y cyrch a’r drydedd linell wedi ei chynnwys yma, ond yn anffodus, dydy’r gynghanedd ddim yn gywir.

Bum innau yn chwilio ar wefan ‘Papurau Newydd Cymraeg’ y Llyfrgell Genedlaethol a dod o hyd i’r canlynol o’r Faner, 7 Ebrill 1909:
 

“YR ENGLYN MEWN RHIFAU …

Foneddigion,
Yn y Faner, Mercher, Mawrth 3lain, ceir yr englyn canlynol:

     111 2 999 10 - 444
     555 15 15 15
     88 88 88 12 12 12
     222 9 18 18 18 10

Ac, yn ôl yr awgrym geir ynglŷn ag ef, yr wyf wedi anturio ei osod i lawr mewn geiriau (er nad wyf am honni bod yn fardd o gwbl), a dyma fel yr wyf yn ei gael:—
 
     Tri un dau, tri naw a deg, - tri phedwar,
     Tri phum a thri phymtheg;
     Tri wyth ddwywaith, tri deuddeg,
     Tri dau naw, tri deunaw, deg.

Fe wêl y cyfarwydd nad oes ond y llinell gyntaf yn unig yn gywir; ai tybed y gall rhyw un o'r beirdd wneud englyn ohono?
Yr eiddoch, &c., 11, Maes-y-coed, Dinbych.
Evan Davies"


Yn anffodus, ddeuthum innau chwaith ddim ar draws yr ateb cywir hyd yma!
Mae'r dirgelwch yn parhau.


8.6.20

Cwrdd

Mae’r lle ‘ma’n rhy llwyd,
medda nhw.
Rhy wlyb, rhy lawiog,
rhy ddiflas o lwyd o hyd.
Does dim yma i’w wneud,
medda nhw.
Mor llaith, mor lleidiog,
does unman mwy llwm yn y byd.
Cwrdd â fi ar y copa,
meddaist ti,
ar y darn o dir uwchben y cwmwl,
a gwyliwn y gola’n
chwarae mig efo’r niwl.

Cawn gadw oedfa,
meddaist ti,
gyda’r gwynt yn codi canu
hen emyn o’n cwmpas
wrth i ni gusanu.
Ac yma ar ben ein mynydd
mae’r llwyd yn troi’n lliwgar,
ond dim i ni.
Ac yma yng nharddiad ein hafonydd
mae’r llwm yn troi’n llachar,
ond dim i ni.







Fe sgwennais i’r gerdd hon yn wreiddiol ar gyfer oriel gelf Lisa Eurgain Taylor yn Oriel Môn mis Mawrth. Mae gwaith celf Lisa yn hynod o hardd, ac yn darlunio mynyddoedd Eryri mewn ffordd lliwgar a thrawiadol, ac mae hi’n gwneud i’r tirwedd edrych bron yn arallfydol o dlws. Cyrhaeddodd cais Lisa am gerdd ata i ar yr un pryd a darllenais nifer o sylwadau am Blaenau ar TripAdvisor oedd yn galw’r dref yn llwyd, yn llwm ac yn ddiflas.

Wel, dwi’n gwybod yn iawn bod y llechi yn llwyd wrth gwrs, ond dwi erioed wedi meddwl am ardal Stiniog fel lle llwyd, llwm na diflas yn wir! Pan edrycha i ar y mynyddoedd o gerrig o’n cwmpas, dwi’n eu gweld nhw fel tomenni hudol, sy’n newid bob dydd yn dibynnu ar y tywydd a’r golau.

Erin a Llio a’u partneriaid, Rich a Sam, ar gopa’r Moelwyn Mawr
Dyma fynd ati felly i gyfansoddi cerdd oedd yn gwrthgyferbynnu beth mae rhai twristiaid yn ei weld, a be dwi’n ei weld wrth edrych ar ein llechi.

Dwi’n gweld ein hanes a'n dyfodol. Dwi’n gweld dyddiau braf o haf fy mhlentyndod a nosweithiau hwyr yn y Tap. Dwi’n gweld hen straeon y Mabinogi a gossip am bobl drws nesaf. Dwi'n gweld cerddi Gwyn Thomas a lyrics Anweledig. Dwi’n gweld fy nheulu, fy ffrindiau, a rhai gelynion! Yn fras, dwi’n gweld lot mwy na llechi.

Felly tro nesa mae rhywun yn dweud wrthych chi fod Stiniog yn le llwyd, dywedwch wrthyn nhw mae nhw sy’n llwyd wir, am beidio gallu gweld yr hyd a’r lledrith sy’n bodoli ym mhob cornel o’n ardal ni!

Llio Elain Maddocks

--------------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Ebrill 2020.
 
(Mae Llio yn postio cerddi’n rheolaidd ar ei chyfri’ Instagram @llioelain gan gynnwys cyfres am hunan-ynysu. Ewch am sbec i weld ei gwaith.)

23.5.20

Ar y Moelwyn

Cerdd gan Dewi Prysor

Mae dau ddeg pedwar llyn i’w gweld
yn sgleinio yng ngolau’r dydd,ac eraill sydd yn swatio’n swil
mewn cymoedd cyfrin cudd.
Dwi’n edrych dros Eryri,
y Rhinogydd a Phen Llŷn,
does unlle gwell na’r Moelwyn Mawr
i weld fy ngwlad fy hun.

     Llwyfan fy llumanau,
     Lle mae’r gorwel yn grwn,
     Ble dwi’n gweld fy mro yn troi yn wlad,
     A fy lle yn y byd hwn.

Dwi’n gweld yr haul yn felyn
ar ysgwydd Moel yr Hydd,
a chysgodion y cymylau’n
carlamu dros ei rudd.
Dwi’n gweld y Cnicht a’r Wyddfa
fel gogoniant yn fy llaw,
ac os na welai’r Moelwyn Bach,
mae hi’n niwl neu’n bwrw glaw.

     Mi af fyny yn yr eira
     Neu wynt a glaw, neu hindda,
     Pan fo poenau’r dydd yn f’erlyn
     Dwi’n dianc i ben y Moelwyn.

Os af fyny drwy Gwmorthin,
chwarel Rhosydd, heibio’r felin,
neu drwy chwarel Wrysgan
neu dros Graigysgafn o fwlch Stwlan,
dwi’n pasio hen lefelau
sy’n gyrru trydan trwy fy ngwaed,
yn edmygu hen frawdoliaeth
yr agorydd dan fy nhraed.

     Os dio’n gwisgo’i gap neu beidio
     Dwi’n siwr o alw heibio,
     Di’m yn cymryd llawer mwy nag awr
     I fynd i ben y Moelwyn Mawr.

Sŵn tonnau ar yr awyr,
daw’r gigfran ar ei hynt
gan glwcian ei chyfarchion
cyn plymio i nyddu’r gwynt;
a’r goesgoch hy’ sy’n sgrechian
o furiau ei theyrnas hi;
y rhain sydd yn fy atgoffa
mai gwestai ydw i.

     Mangre fy mreuddwydion
     Rhwng y mawn a’r awyr lân,
     Lle dwi’n gweld nad oes ’na nunlla’n bell
     Fel hed y frân.

Af yno i wasgaru
pryderon diflas byd
i’r awel a’r Iwerydd,
dros y Flaenllym yn fflyd;
ac wedi cael eu gwared,
yn rhubanau ar y gwynt,
daw diarhebion bywyd
i wneud i ’nghalon guro’n gynt.

     Ac yng nghwmni’r hen frân goesgoch
     A’r gigfran ddu
     Mi arhosaf ar y Moelwyn
     Efo’r awen fry.

Mae gennyf win i’w rannu
efo Gwyn ap Nudd a’i deulu,
wrth ddawnsio efo’r lleuad braf
er mwyn croesawu Hirddydd Hâf.
A phan ddaw’r tân dros ymyl tir
i liwio’r wlad â’i fysedd hir,
i ddal y wawr ar Droad y Rhod,
y Moelwyn Mawr yw’r lle i fod.

     Ac yng nghwmni’r goesgoch bigog
     A’r gigfran ddu
     Mi orweddaf ar y Moelwyn
     Efo’r awen fry.


Lluniau- Dewi Prysor
---------------------

Ymddangosodd y gerdd yn wreiddiol yn rhifyn digidol Ebrill 2020 efo cerdd arall: COPAON