23.5.20

Ar y Moelwyn

Cerdd gan Dewi Prysor

Mae dau ddeg pedwar llyn i’w gweld
yn sgleinio yng ngolau’r dydd,ac eraill sydd yn swatio’n swil
mewn cymoedd cyfrin cudd.
Dwi’n edrych dros Eryri,
y Rhinogydd a Phen Llŷn,
does unlle gwell na’r Moelwyn Mawr
i weld fy ngwlad fy hun.

     Llwyfan fy llumanau,
     Lle mae’r gorwel yn grwn,
     Ble dwi’n gweld fy mro yn troi yn wlad,
     A fy lle yn y byd hwn.

Dwi’n gweld yr haul yn felyn
ar ysgwydd Moel yr Hydd,
a chysgodion y cymylau’n
carlamu dros ei rudd.
Dwi’n gweld y Cnicht a’r Wyddfa
fel gogoniant yn fy llaw,
ac os na welai’r Moelwyn Bach,
mae hi’n niwl neu’n bwrw glaw.

     Mi af fyny yn yr eira
     Neu wynt a glaw, neu hindda,
     Pan fo poenau’r dydd yn f’erlyn
     Dwi’n dianc i ben y Moelwyn.

Os af fyny drwy Gwmorthin,
chwarel Rhosydd, heibio’r felin,
neu drwy chwarel Wrysgan
neu dros Graigysgafn o fwlch Stwlan,
dwi’n pasio hen lefelau
sy’n gyrru trydan trwy fy ngwaed,
yn edmygu hen frawdoliaeth
yr agorydd dan fy nhraed.

     Os dio’n gwisgo’i gap neu beidio
     Dwi’n siwr o alw heibio,
     Di’m yn cymryd llawer mwy nag awr
     I fynd i ben y Moelwyn Mawr.

Sŵn tonnau ar yr awyr,
daw’r gigfran ar ei hynt
gan glwcian ei chyfarchion
cyn plymio i nyddu’r gwynt;
a’r goesgoch hy’ sy’n sgrechian
o furiau ei theyrnas hi;
y rhain sydd yn fy atgoffa
mai gwestai ydw i.

     Mangre fy mreuddwydion
     Rhwng y mawn a’r awyr lân,
     Lle dwi’n gweld nad oes ’na nunlla’n bell
     Fel hed y frân.

Af yno i wasgaru
pryderon diflas byd
i’r awel a’r Iwerydd,
dros y Flaenllym yn fflyd;
ac wedi cael eu gwared,
yn rhubanau ar y gwynt,
daw diarhebion bywyd
i wneud i ’nghalon guro’n gynt.

     Ac yng nghwmni’r hen frân goesgoch
     A’r gigfran ddu
     Mi arhosaf ar y Moelwyn
     Efo’r awen fry.

Mae gennyf win i’w rannu
efo Gwyn ap Nudd a’i deulu,
wrth ddawnsio efo’r lleuad braf
er mwyn croesawu Hirddydd Hâf.
A phan ddaw’r tân dros ymyl tir
i liwio’r wlad â’i fysedd hir,
i ddal y wawr ar Droad y Rhod,
y Moelwyn Mawr yw’r lle i fod.

     Ac yng nghwmni’r goesgoch bigog
     A’r gigfran ddu
     Mi orweddaf ar y Moelwyn
     Efo’r awen fry.


Lluniau- Dewi Prysor
---------------------

Ymddangosodd y gerdd yn wreiddiol yn rhifyn digidol Ebrill 2020 efo cerdd arall: COPAON


1 comment:

Diolch am eich negeseuon