Yn ystod yr 1960au gwelwyd tro newydd ar fyd gyda llawer iawn o ffasiynau newydd yn cyrraedd pob cwr o’r wlad, yn wisgoedd, a phob math o drugareddau modern, megis y ‘jukebox’ yn y caffis a’r radio dransistor i wrando ar ganeuon pop, ayyb. Heb os nac onibai, gellir dweud y bu chwyldro ym myd pobl ifanc ymhob man o’r bron.
Ymhlith y pethau a ddaeth yn boblogaidd gan lawer o’r to ifanc yn y cyfnod hwn oedd ffawdheglu, neu bodio lifft gan gerbydau i ryw le penodol. Er nad oedd llawer iawn o geir ar y ffordd y pryd hynny roedd gyrwyr yn barotach i godi ffawdheglwyr yn enwedig os byddent eisiau sgwrs efo rhywun ar ran o’u taith. Wrth gwrs, byddai amryw o yrwyr o’r Blaenau a’r Llan a adnabyddid ni yn dda yn ein codi a rhoi pas inni tros y mynydd i Fetws y Coed, neu Lanrwst, neu weithiau ymhellach, ac i leoedd fel Llandudno neu Fae Colwyn.
Yn aml iawn, mynd i weld gêm bêl droed, neu i ryw sioe neu ffair a fyddem, neu i chwilio am recordiau pop i’r siopau, neu dro arall mynd i’r pictiwrs yn Llanrwst, ac wrth gwrs, edrych am ferched del tra yno yn gwmni inni, ynte.
Y mae gennyf gof o fynd i Lanrwst un tro gyda chyfaill imi i weld rhyw ddigwyddiad yn y cae wrth y Bont Fawr a bodio yno a wnaethom. Cawsom bas yr holl ffordd yno o’r Rhiw gan ryw ŵr caredig a oedd ar ei ffordd i Landudno, neu rywle. Beth bynnag ar ôl inni gael ein gollwng ganddo gyferbyn a’r bont anelwyd am y sioe a chael golwg ar y gwahanol bethau yno. Wedi treulio rhyw ddwy awr neu fwy yno, ac wedi dechrau laru ar gerdded ogylch y lle, penderfynasom ei throi hi am adre a ffawdheglu unwaith yn rhagor. Wedi cerdded ychydig bellter o dref Llanrwst i gyfeiriad Betws y Coed, a sawl car wedi mynd heibio ni, daeth ‘Samariad trugarog’ yn y man a rhoi pas inni, ac rwyf bron yn sicr mai un o Fachynlleth oedd y gyrrwr.
Beth bynnag, wedi iddo ein holi a gofyn ymhle yr oeddem eisiau ein gollwng, mi ddywedodd ei fod wedi cael damwain gyda’r car ger y ‘Tro Mawr’ pan oedd ar ei ffordd i Gonwy yn ystod y bore hwnnw. O fewn ychydig clywsom sŵn drwg yn dod o un o’r olwynion blaen, a digwyddai hynny bob tro yr ai’r car ar drofa i’r dde –cnoc, cnoc, am dipyn, ac yna dim byd am sbel. Wel, ar ôl teithio rai milltiroedd a chyrraedd Pont y Pant, a thrwy Ddolwyddelan, heibio’r ffordd fach at orsaf Roman Bridge a’r sŵn o’r olwyn yn gwaethygu, dechreuodd y car ddringo am y Tro Mawr a phryd hynny tynnodd ein sylw at y fan lle cafodd bancan gyda’i gar.
Llun o gasgliad yr awdur |
Beth bynnag ichi, roedd car arall yn dod i fyny’r rhiw i’n cwfwr a stopiodd y gyrrwr hwnnw a dal yr olwyn treigledig, a dod a hi i fyny atom. Dau frawd o’r Blaenau oedd yn y car, ac ar ôl gweld sefyllfa’r dyn druan, dyma un yn awgrymu i’r gŵr dieithr dynnu un nytan oddi ar yr olwynion eraill a’u defnyddio i roi yr olwyn rhydd yn ei hôl, a dyna a wnaed gyda rhybudd iddo gofio cywiro’r sefyllfa ar ôl cyrraedd adref. Nid oes cof gennyf ai gyda’r gŵr o Fachynlleth yr aethom adref, neu gyda’r ddau frawd. Pa fodd bynnag, dyna un o’n profiadau ffawdheglu yn yr 1960au.
Bu sawl un arall, coeliwch fi.
------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2020.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'Web View' os yn darllen ar ffôn)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon