Yn ôl yr arbenigwyr ystyr yr enw ‘Ffestiniog’ yw tiriogaeth gŵr o’r enw Ffestin, a dyna a geir yn yr enw Brycheiniog, sef teyrnas Brychan. Ystyr yr enw ‘Blaenau’ yw pen pellaf cymoedd, neu ran uchaf broydd, a cheir amryw o enghreifftiau trwy Gymru, megis Blaenau Caeo, sir Gaerfyrddin, Blaenau Cellan, sir Aberteifi, Blaenau Gwent, sir Fynwy, Blaenau Mawr, sir Frycheiniog, ac yn nes adref, Blaenau Dolwyddelan yn arwain at Gwm Fynhadog.
-------------------
A throi ein sylw at y pwnc eto, bu dadl rai blynyddoedd yn ôl rhwng rhyw ddau neu dri o academyddion ynghylch yr enw Blaenau Ffestiniog ar ein tref, neu o leiaf ar ran o’r ardal boblog. Honai un nad oedd yr enw yn bodoli o gwbl cyn yr 1870au, tra mynnai un arall mai o’r 1860au y defnyddiwyd yr enw gyntaf, ac ni fedrai weld ei fod dim hŷn na’r degawd hwn. Ag ystyried nad oedd tref o faint yma tan oddeutu yr 1880au -1890au, a thueddid ei galw yn Fourcrosses gan lawer, tybed a oes gwirionedd yn yr hyn a dybid gynt gan y gwŷr dysgedig hyn? Wel, gyda thechnoleg fodern, a modd i chwilota ar y gwahanol wefannau sydd ar y rhyngrwyd, gallwn ganfod nad oedd eu damcaniaeth yn gywir. Mewn gwirionedd gellir canfod un enghraifft o’r enw enw Blaenau Festiniog (sic) mewn adroddiad ym mhapur newydd Carnarvon and Denbigh Herald, mor bell yn ôl a’r 20fed o Chwefror, 1836.
Gyda llaw, adroddiad ydyw am y Mudiad Dirwest yn yr ardal ac yn nodi y bydd cyfarfod yng Nghapel Bethania (A) i drafod y gymdeithas newydd. Mae hi’n werth ichi gael golwg ar rai o’r gwŷr blaenllaw ynghylch y mudiad, megis Samuel Holland, perchennog un o chwareli’r Blaenau, wrth gwrs, y Parchedig Thomas Davies, gweinidog gyda’r Annibynwyr, Robert Griffith, Plas yn Dre, David Williams, Coed y Bleiddiau, Robert Owen, Neuadd Ddu , William Owen, Plas Isaf, a sawl un arall. Nodyn o ddiddordeb i rai ohonoch, y mae Plas yn Dre wedi ei gladdu o dan domen Chwarel Diffwys ers blynyddoedd, ac mae tyddyn Coed y Bleiddiau yn furddun gerllaw’r Rheilffordd Gul, sef rhwng Gorsaf Tan-y-Bwlch a Phlasdy’r Dduallt.
Cyn cloi, nodyn arall parthed yr enw cywir y tro hwn. Yng nghylchgrawn y Dysgedydd Crefyddol am 1 Gorffennaf, 1836 ceir y canlynol am yr un pwnc â’r uchod:
Y mae brodorion Blaenau Ffestiniog, ac ereill, wedi sefydlu Cymdeithas Gymedroldeb (mewn diodydd) yn eu plith, i'r dyben o fod yn wrthglawdd er ataliad y llifeiriaint arswydol o feddwdod sydd yn gorlenwi y broydd. Yr hyn a achosodd y sefydliad ardderchawg yma oedd, i amrai o'r brodorion crybwylledig dosturio yn achos dynion ieuainc y gweithfeydd, y cyfryw ag sydd yn cael eu hudo i wario eu harian, gwario eu hamser, a gwanhau y synhwyrau, ayyb.Gwelwn felly bod yr enw Blaenau Ffestiniog mewn defnydd, o leiaf erbyn, y flwyddyn 1836, er nad oedd tref, yng ngwir ystyr y gair, wedi ei sefydlu yn yr ardal. Cofier, rhyw ychydig tros 3,000 oedd poblogaeth y plwyf cyfan yn 1841 a phryd hynny yr oedd pentre’r Llan yn tipyn mwy na’r ‘Blaenau’. Byddai’n ddiddorol clywed a oes un ohonoch chi wedi dod ar draws enghraifft o’r enw Blaenau F(f)estiniog wedi ei nodi cyn y flwyddyn 1836 ? Y mae hi’n bur debyg ei fod yn bodoli cyn 1836.
Beth bynnag, hoffwn orffen gyda rhywbeth ysgafnach a chynnwys un o hen gardiau post Valentine gyda’r enw ‘Blaenau Festiniog’ (sic) arno ac un yn dyddio o tua 1918.
Gobeithio y byddem ninnau, pob un ohonom, yn gwenu fel yntau ar ôl i’r pla ofnadwy hwn gilio o’r wlad a’r holl fyd cyfan.
Steffan ab Owain
-------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2020.
*Lawr-lwythwch y rhifyn er mwyn darllen yr erthyglau i gyd.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon