Pennod arall o gyfres Vivian Parry Williams
Y cyfeiriad at ddiwydiant angof yn yr ardal wna hysbyseb yn y Manchester Times and
Gazette ar 9 Medi 1837 mor werthfawr i haneswyr. Hysbyseb am gyfranddaliadau yn y Great Gamallt Lead Mine, a oedd yn cynnig 256 o'r shares ar werth i fuddsoddwyr. Roedd y gwaith dair milltir o ‘Festiniog’, a chwe milltir o'r cei ym Maentwrog, meddai'r hysbyseb, ac yn hawlio hyd at bedwar can erw o dir, ar lês o 21 mlynedd. Byddai'n bosib' meddid i gynhyrchu tunelli o fwyn am ganrifoedd i ddod. Tipyn o ddweud!
Gwaith Plwm Gamallt (neu'r 'Gwaith Mein' fel mae rhai yn ei alw) -Llun VPW |
Wedi llith hir yn trafod rhinweddau'r gwaith mwyn, dywed yr hysbyseb, mewn geiriau gonest, tua'r diwedd:
The proprietors do not hold out any extravagant expectations of realizing rapid and enormous wealth to the shareholders.
Cafwyd gwybodaeth ychwanegol hefyd am y modd y gweithid y mwynfeydd yn y Gamallt:
The works are let by contract, ("Bargains") and the wages, &c. settled monthly. They are carried out under the direction of a foreman, and the general superintendence of one of the proprietors resident in the district as manager...
Difyr odiaeth oedd darllen fel yr oedd yn bosib' cael golwg dros lyfrau cownt ac adroddiadau o waith mwyn y Gamallt yr adeg honno, trwy gysylltu â swyddfa Mr J.D.Barry, yr asiant ym Manceinion. Tybed beth ddaeth o'r llyfrau hynny, a fyddent mor werthfawr i haneswyr heddiw fel dogfennau'n ymwneud ag un o ddiwydiannau coll plwyf Ffestiniog?
- - - - - - - -
Trist oedd darllen am hanes damwain ger Rhaeadr Cynfal yn y North Wales Chronicle (NWC), ar 3 Hydref 1837, ac yn y Caledonian Mercury ddeuddydd yn ddiweddarach, pryd y llithrodd merch o’r enw Miss Anwyl, Plas Coch, Y Bala, i ddyfnder pwll islaw’r rhaeadr. Roedd ar ymweliad, gyda’i brawd ac eraill, â Llan Ffestiniog, a’r cwmni, ynghyd â dau fachgen a gyflogwyd fel tywyswyr iddynt, wedi penderfynu ymweld â’r golygfeydd ar Afon Cynfal. Wrth edrych i lawr tua’r dyfnderoedd, dioddefodd y ferch o’r bendro, gan ddisgyn i’r trobwll yn yr afon. Rhedodd y bechgyn am gymorth rhai o’r pentrefwyr, ac wedi rhuthro i’r safle, gollyngodd un ei hun gyda rhaff o ben y dibyn at waelod yr afon, a darganfod corff y ferch ifanc wedi boddi.
- - - - - - - -
Cynigiwyd gwobr o dair gini i felinyddion am gynllun o felin ddŵr i falu ceirch, gyda thair maen melin, i’w chodi ger Glynafon, Tanygrisiau, mewn hysbyseb yn y NWC 9 Ebrill 1839. Cynigiwyd ail wobr o ddeg swllt a phum swllt fel trydedd wobr. Rhaid oedd cyfyngu’r gost o godi’r felin i gyd i £800, yn cynnwys y peirianwaith. Rhaid oedd anfon y cynlluniau i Samuel Holland (iau) neu William Owen, Glynafon, i’r hwn, yn ôl pob golwg y bwriadwyd codi’r felin.
- - - - - - - -
Yn y NWC ar 4 Awst 1840, cafwyd adroddiad tudalen lawn, ddifyr iawn o hanes gosod carreg gyntaf Eglwys Dewi Sant newydd yn y Blaenau, dan nawdd y wraig hynaws o Blas Tan-y-bwlch, Mrs Oakeley. Dyma ddywed rhan o’r ganmoliaeth i’r ddynes garedig honno
...whose purse is ever open when she can benefit the poor, by contributing to their comfort, educating their children, visiting the sick, and now erecting this church...Her reward is in Heaven.
Cymaint gorfoledd un Rev. Mr Pugh nes iddo gyfansoddi cerdd Gymraeg, daeogaidd ei naws, yn y papur hwnnw, i dathlu’r achlysur o weld cychwyn codi eglwys Anglicanaidd yng nghanol caer Anghydffurfiaeth yn y Blaenau. Ychydig yn baradocsaidd, Brydeinig ei naws oedd geiriau’r Cymro hwn, dybiwn i, fel y gwelir yn y pedwar pennill cyntaf o’r gerdd!
Tra gwaed Cymro yn fy ngwythi,
A thra ‘nghamrau fo yn Nghymru;
Molaf egwyddorion tyner
Cyfansoddiad Eglwys Loegr.
Pwy fu’n cynheu fel canwyllau
Dros i’r bobl gael eu Biblau;
Pwy r’odd her i’r Pab a’i Bader,
Onid dewrion Eglwys Loegr?
Pwy fu’n rhuddo dros wir ryddid,
Yn y tanbaid fflamau enbyd,
Dan gynddaredd Mair a Boner?
Gweinidogion Eglwys Loegr!
Pwy a safodd yn hardd fyddin,
I wrth’nebu Socialism?
O un galon, gwyr gafaelgar,
Ffyddlon weision Eglwys Loegr.
---------------
Mae Radio Cymru wedi darlledu cyfres berthnasol iawn i’r golofn yma, sef ‘Papur Ddoe’, efo Elin Tomos yn edrych ar hanes Cymru trwy bapurau newydd y gorffennol. Yn y bennod gyntaf a ddarlledwyd ar ddiwedd Awst, mae Vivian yn son am ‘Glefyd Stiniog’ (sef typhoid).
- - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon