23.11.20

DATHLU 500!

Mae Llafar Bro yn cyrraedd carreg filltir ym mis Rhagfyr 2020, wrth gyrraedd y 500fed rhifyn!

Ym 1975 roedd bwrlwm trwy Gymru wrth i nifer o gymunedau ac ardaloedd sefydlu bapurau bro, ac fe gyhoeddwyd rhifyn cyntaf Llafar Bro ym mis Hydref y flwyddyn honno. 

Er mwyn nodi’r pum canfed rhifyn, a gan ddilyn y traddodiad gwych o gydweithrediad cymunedol yn Stiniog, mae Cwmni Bro Ffestiniog, cynllun Y Dref Werdd, a Llafar Bro, yn cydweithio i sicrhau y bydd pob tŷ yn y dalgylch –tua 3500- yn derbyn copi o’r rhifyn arbennig yma, yn rhad ac am ddim!

Mae’r Dref Werdd wedi adeiladu sylfaen arbennig o wirfoddolwyr cymunedol ac wedi gwneud gwaith amgylcheddol ardderchog yn lleol, gan gynorthwyo llawer iawn o bobl mewn sawl ffordd yn ystod argyfwng covid; maen nhw’n defnyddio’r profiad helaeth yma i gydlynnu rhwydwaith o bobl i ddosbarthu’r papur trwy’r ardal gyfan!

Un o gynlluniau Cwmni Bro ydi BroCast Ffestiniog, ac mi fydd y rhifyn arbennig yn fodd i hyrwyddo’r Panto unigryw sydd ar y gweill ganddynt. Gan na fedrwn ni fynd i sioeau, mae’r sioe yn dod atom ni eleni. Bydd ‘Y Dewin Ozoom’ yn fyw yn eich ‘stafell fyw rhwng Rhagfyr 14-17.
Meddai Ceri Cunnington: 

‘Mae rhwydwaith Cwmni Bro yn hynod o falch o gael y cyfle i chwarae ein rhan wrth gefnogi gwaith anhygoel gwirfoddolwyr Llafar Bro wrth ddod a newyddion yr ardal yn fyw. Dyma un o’r adnoddau pwysicaf sydd ganddo ni ym Mro Ffestiniog. Hir oes i Llafar Bro!’

Llafar Bro
Yn ôl rheolau sefydlu'r papur, 'darparu deunydd darllen addas yn y Gymraeg, ar ffurf newyddion, hanesion ac erthyglau o ddiddordeb lleol i drigolion Blaenau Ffestiniog, Tanygrisiau, Manod, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Gellilydan a Thrawsfynydd, a thrwy hynny hybu mwy o ddarllen Cymraeg ymysg pobl ifainc ac oedolion y cylch. Cynnig gwasanaeth yn hytrach na gwneud elw fydd y nod.'

Mae Llafar Bro yn dal i gyhoeddi  11 rhifyn y flwyddyn, a'r cyfan yn gwbl wirfoddol. Mae tua 30 o bobl yn cyfrannu bob mis, fel gohebyddion, aelodau'r pwyllgor, dosbarthwyr, golygyddion, colofnwyr, ac ati.

Cyhoeddwyd 4 rhifyn yn ddigidol yn unig dros gyfnod y clo mawr eleni, gan annog darllenwyr i brintio tudalen neu ddwy ar gyfer aelodau o'u teuluoedd a chymdogion nad oedd yn defnyddio'r we. Roedd y rhain ar gael i bawb i’w lawr-lwytho am ddim, diolch i gymwynas cwmni Golwg360 yn ystod Gofid Covid, ac maent ar gael o hyd. Dychwelwyd at argraffu rhifynnau papur eto efo rhifyn Medi.

Cwmni Bro Ffestiniog

Mae Cwmni Bro Ffestiniog yn ddatblygiad hollol arloesol yng Nghymru, sef rhwydwaith o fentrau cymdeithasol llwyddiannus sydd wedi dod at ei gilydd i gydweithio dan faner un cwmni bro. 

Eisoes mae wedi cyflawni llawer o ran datblygu’r economi a’r gymdeithas leol o’r gwaelod i fyny. 

Dechreuwyd adeiladu ar yr hen draddodiad diwylliannol o fentergarwch cymunedol, neu mewn geiriau eraill, y gymuned yn gwneud pethau trosom ein hunain.


Mae BroCast Ffestiniog yn cynhyrchu ffilmiau a phodlediadau am y gymuned ac efo'r gymuned, ac yn hyrwyddo cyfathrebu rhwng mentrau cymunedol yr ardal.
Cysylltwch â Ceri Cunnington:  ceri.c@cwmnibro.cymru


Y Dref Werdd
Prosiect amgylcheddol cymunedol yw’r Dref Werdd a gafodd ei sefydlu’n wreiddiol yn 2006.

Mae'n fenter gymdeithasol a ariennir bellach gan y Loteri, yn gweithio er lles yr amgylchedd a’r gymuned leol ym Mro Ffestiniog.


Ynni. Cydweithio efo trigolion i leihau faint o ynni a ddefnyddir yn eu cartrefi ac i arbed arian.
Amgylchedd. Diogelu afonydd trwy glirio sbwriel a thaclo rhywogaethau ymledol, a chodi ymwybyddiaeth yn yr ysgolion. Ddatblygu mannau gwyrdd a pherllan gymunedol hefyd.
Sgiliau. Cynorthwyo unigolion i gael hyfforddiant a chymwysterau cadwraeth, a datblygu sesiynau Cynefin a Chymuned i bobl ifanc.
Lleihau gwastraff bwyd. Agorwydd Y Siop Werdd yn ddiweddar, lle gall bawb brynu faint bynnag o gynnyrch maent yn gallu fforddio, a hynny yn ddi-wastraff a di-blastig.
Cysylltwch â Gwydion ap Wynn:   ymholiadau@drefwerdd.cymru

P.W.

Diolch i Dime Elenov am logo 500 Llafar Bro


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon