Cyfres Steffan ab Owain
Y mae sawl peth wedi aros yn fy nghof yn dilyn ambell ddigwyddiad o ddiwedd y pumdegau a dechrau’r chwedegau. Cofiaf un haf braf iawn fynd i ymdrochi i bwll yn afon Goedol uwchlaw Rhaeadr Dolwen gyda’m cyfaill Philip Roberts (Philip Heulfryn) a mwynhau ein hunain yn iawn yno. Wel, roedd hynny’n wir am y tro cyntaf, a’r ail dro, ond pan aethasom yno y trydydd tro cawsom dipyn o fraw. Fel yr oedd Phil yn codi i fyny o’r dŵr sylwais bod ei goesau ag ugeiniau o bethau duon tebyg i falwod arnynt, ac yna, edrychais innau ar fy nghoesau a gweld yr un math o bethau, ac wrth gwrs, sylweddoli mai gelod oeddynt yn glynud ar groen ein coesau ac yn ceisio sugno ein gwaed. Dyna’r tro olaf i ni o’n dau fynd i ymdrochi i’r pwll hwnnw.
Rhaeadr Dolwen ac un o byllau’r Afon Goedol |
Ffawd-heglu eto
Cofio ffawd heglu sawl tro yn nechrau’r chwedegau o odre domen Penybont ac yn ffodus i gael pas i Betws y Coed, Llanrwst a phellach, ar adegau. Pa fodd bynnag, cofiaf un tro i un gyda motobeic a seidcar stopio a chynnig pas i mi a chyfaill, ond gwrthod a wnaesom y tro hwnnw, gan ddiolch iddo am y cynnig.
Dyma lun rhywun arall efo motobeic a seidcar ger y fan lle byddem yn ffawd-heglu yn y chwedegau a chyn iddynt ledu’r ffordd fawr yn yr 1970au, ac yn ddiweddarach. Sylwch, dim llinellau gwynion ar y ffordd fawr gul na llygaid cathod. Polion trydan yn gwyro i gyfeiriad y ffordd a dim sôn am draffig trwm a diddiwedd.
Dro arall, arafodd un gŵr gyda’i gar gerllaw y fan lle byddem yn bodio, ac fel yr oeddem yn bras gerdded am ei gar, i ffwrdd a fo gan godi ei law a chwerthin i lawr ei lawes. Byddid yn clywed gan hogiau eraill am rai yn gwneud tric sâl fel hyn, a byddai amryw yn eu diawlio yn iawn.Weithiau byddid yn cael pas ar gefn lorri neu dryc a chofiaf dau ohonom yn cael pas i Betws y Coed un tro, a hithau yn oer yng nghefn y lorri, ac erbyn inni gyrraedd pen ein siwrnai roeddem wedi fferru. Dro arall, cofiaf Brei a finnau yn cael pas adref o Fetws y Coed gan ŵr lleol caredig, ond wedi inni fynd i mewn i’w gar, a oedd yn weddol newydd, fe ddywedodd yn syth, mi fuaswn wedi eich pasio pe baech a phaciau ar eich cefn. Cawsom weld ei reswm, ar ôl iddo ddweud ei fod wedi rhoi pas i ryw fachgen gyda phac ar ei gefn rhyw bythefnos ynghynt a phan ddaeth i eistedd ar sedd gefn y car mi fachodd pin un o’r byclau a oedd ar ei bac yn lledr y sedd a’i rhwygo yn ddrwg. Gallwch feddwl nad oedd yn hapus o gwbl ar ôl bod yn Samariad da y tro hwnnw.
Dyna oedd hanes amryw ohonom ni’r hogiau yn y chwedegau cynnar yn ffawd-heglu heb feddwl dim am beth a allasai ddigwydd inni ar ein siwrnai gyda gyrwyr dieithr yn aml iawn. Y mae hi’n wahanol byd heddiw ac ychydig sydd yn ffawd-heglu ar ein priffyrdd a phrin iawn yw’r rhai sydd yn barod i godi neb y dyddiau dyrys hyn.
(Lluniau o gasgliad yr awdur)
------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Stolpia (os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view' i weld y dolenni)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon