Chawsom ni ddim pennod o Sgotwrs Stiniog ers talwm; cyfres y diweddar Emrys Evans, fu'n ymddangos yn fisol am ddegawdau!
Dyma addasiad o erthygl o ddeunaw mlynedd yn ôl, yn rhifyn Hydref 2002.
Yn ystod wythnosau olaf tymor y brithyll eleni cafwyd niferoedd go dda o’r pryf bongoch yn amlwg ar rai o’r llynnoedd. Pryf sy’n deor o’r tir ydyw, fel y gwyr y cyfarwydd, a chyda awel gweddol gref yn cael ei gario ar y dŵr. Yn ei gyfnod mae y pysgod yn mynd amdano’n awchus.
Gamallt. Llun gan Gareth T Jones |
Cefais i ddiwrnod difyr iawn wrth y ddau Lyn Gamallt yn niwedd Awst eleni hefo Rhodri, fy ŵyr. Diwrnod hafaidd braf, y bongoch ar y dŵr, y pysgod yn codi amdano, a hwyl ar gael cynnigion a bachu rhai ohonynt.
Pryf bongoch (Bibio pomonae). Llun gan Hectonichus - CC BY-SA 3.0 comin wiki |
Ydi’r bongoch i’w weld ar bob un o’n llynnoedd? Tir grugog yw ei gynefin. Holais Caradog Edwards, Tan y Grisiau, am Llyn Cwmorthin, ond nid yw’n cofio ei weld yno. Beth am y ddau Lyn Barlwyd? Ydi’r bongoch yno?
* * *
Gawsoch chi eich poeni gan y ‘puwiaid bach’ -gwybaid- ar yr ychydig nosweithiau braf o haf a gafwyd eleni?
Yn ddiweddar darllenais ysgrif gan Twm Elias, Plas Tan y Bwlch, ar y planhigyn helyg Mair yn y cylchgrawn ‘Natur Cymru’, ac ymhlith pethau eraill dywed hyn:
‘Bydd pysgotwyr yn gwisgo sbrigyn ohono, os yw’n gyfleus ar gael, pan yn eistedd mewn cwmwl o wybed ar lan llyn neu afon yn Eryri.’
Fel y gwyr pawb sy’n pysgota nos, mae y gwybaid bach yn medru bod yn bla ar adegau. Weithiau maent mor ddrwg fel eu bod yn gyrru rhywun bron yn wirion. Mae gwahanol fathau o oeliach i’w cael i’w rhoi ar y croen, ond wn i ddim am yr un sy’n effeithiol gant y cant.
Gwrlid, planhigyn llawn olew persawrus sydd wedi'i ddefnyddio i wneud eli gwybaid yn yr Alban. Llun Paul W. |
Tybed pa mor effeithiol yw’r planhigyn helyg Mair? Enwau eraill arno ym Meirionnydd yw ‘cwrli’ a ‘cwrtid’ (gwrlid hefyd -gol.). Oes rhywun wedi’i ddefnyddio rywdro ac a fedr dystio pa mor dda ydyw neu fel arall?
* * *
Rhywbryd yn ystod yr haf bu cyfaill imi am dro o gwmpas Llynnoedd y Gamallt. Bu’n cymryd golwg hefyd ar Dŷ’r Gamallt, fel yr arferwn ni a galw’r caban sydd ym mhen uchaf y Llyn Bach, ac wrth droi o’i gwmpas, digwyddodd sylwi ar yr hyn sydd wedi’i sgrifflo neu ei dorri ar y llechen sy’n sil i’r ffenestr fach yn ymyl y drws.
Yr hyn sydd ar sil y ffenestr yw ‘croes’ gyda’r llythrennau ‘W.G.C’ yn ei phen uchaf, ac ‘R.I.P’ wrth ei throed. A chwestiwn y cyfaill oedd, “Pam fod rhywun wedi sgrifflo hyn ar sil y ffenestr?”
I ateb cwestiwn y cyfaill rhaid yw mynd yn ôl i’r flwyddyn 1889, ac yn rhifyn y 26ain o Fehefin y flwyddyn honno o’r hen bapur newydd hyglod ‘Baner ac Amserau Cymru’ fe geir yr hanes yn llawn. Dyma fel y mae Treborfab, a oedd yn ohebydd Ffestiniog i’r papur, yn adrodd yr hanes:
Marwolaeth Sydyn ar y Mynydd
‘Y gair cyntaf a darawyd ar glustiau trigolion Blaenau Ffestiniog boreu dydd Iau diwethaf oedd am farwolaeth annisgwyliadwy Mr W.G. Casson.
Oddeutu un o’r gloch prydnawn Mercher, yr oeddem yn edrych ar y boneddwr parchus yn mynd yng ngherbyd Dr. Roberts, Isallt, i bysgota i Lyn y Gamallt. Wedi bod yn pysgota am ychydig amser, cymerwyd ef yn wael o ddeutu pump o’r gloch. Yr oedd y pryd hwnnw ychydig bellter oddi wrth y bwthyn. Aeth Dr. Roberts ato ar unwaith. Cwynai ei fod yn wael iawn, ac yr oedd yn taflu llawer o waed i fyny. Wedi ychydig o amser llwyddodd y doctor gyda chymorth bachgen oedd gyda hwy i fyned a Mr Casson i’r tŷ. Anfonwyd y bachgen at Dr. Griffith Roberts i’r Llan i ymofyn cyffuriau, a phob cymorth meddygol, ond yr oedd y cwbl yn rhy ddiweddar, a bu Mr Casson farw tua deg o’r gloch yr hwyr, ar lan y llyn.
Dygwyd ei gorff adref erbyn tri o’r gloch boreu dydd Iau. Yr oedd yn foneddwr hynod o garedig, a’i brif elfen oedd pysgota. Edrychai ar y Gamallt fel ei hafoty, ac yno yr oedd yn gartrefol. Yr oedd yn bleidiol iawn i’r Gymdeithas Enweiriol, ac i roddi hawl i bob dyn i bysgota yn gyfreithlawn. Mab ydoedd i Mr William Casson, a brawd i Mr George Casson, gynt o Flaenau Ffestiniog. Yr oedd yn 50ain mlwydd oed. Efe ydoedd arolygydd ariandy Gogledd a Deheudir Cymru. Yr oedd yn ynad heddwch yn Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon.’
Dyna’r hanes fel y mae i’w gael yn y papur newydd, a dyna sydd y tu ôl i’r hyn sydd wedi’i dorri ar sil ffenestr fach Tŷ y Gamallt. Rydw i’n tybio, er na wn i mo hynny i sicrwydd, mai Dr. Robert Roberts, Isallt, a fu’n gyfrifol am y torri ar sil y ffenestr, a hynny er cof am W.G. Casson. Roedd y ddau yn bennaf cyfeillion, yn ôl a ddywedir.
Rydw’i wedi crybwyll hyn o’r blaen rywdro, roedd W.G. Casson yn un o’r tri a fu’n gyfrifol am gychwyn Cymdeithas y Cambrian yn 1885. Y ddau arall oedd Dr. Robert Roberts, Isallt, ac R.H. Hughes (Cynfoel), y post-feistr, W.G. Casson oedd trysorydd cyntaf y Gymdeithas. Dyna’r hanes, mor llawn ag y medraf i ei roi. Gobeithio y bydd o ddiddordeb i’r rhai sy’n darllen y golofn.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon