26.11.20

Hen Enwau -Maenofferen

Hen Enwau o Feirionnydd gan Glenda Carr
Cyhoeddwyd gan Wasg y Bwthyn, 2020.


Mae’r llyfr hwn yn drydedd mewn cyfres o lyfrau sy’n rhoi sylw i enwau a geir ym mröydd Cymru. Eisoes mae Gwasg y Bwthyn wedi cyhoeddi Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd a Hen Enwau o Ynys Môn. Yn ôl Syr John Morris-Jones: ‘Fydd na neb ond ffyliaid yn treio esbonio enwau lleoedd’. Mae Glenda Carr yn deall yn iawn pam y dywedodd hyn gan ei bod yn hawdd mynd ar gyfeiliorn a dilyn sawl sgwarnog wrth geisio esbonio tarddiad enw. Er hynny, mae wedi mynd ati i daclo tarddiad mwy o enwau lleoedd Cymru, a hynny yn yr hen Sir Feirionnydd y tro hwn. 

Y canlyniad yw llyfr arbennig sy’n uno blynyddoedd o waith ymchwil manwl ag arddull hawdd ei ddarllen a difyr. Mae’n trafod sut mae enwau lleoedd yn datguddio hanes gwahanol haenau cymdeithasol: yr uchelwyr, y tlodion, y cleifion a’r crefftwyr. Mae’n bwysig cofio'r dyddiau hyn pa mor bwysig ydy enwau lleoedd a'r hyn maent yn ei ddatgelu am ein hanes, pan fo cymaint o newydd-ddyfodiaid yn mynnu newid enwau traddodiadol Cymreig a rhoi rhyw garbwl Seisnig yn eu lle. Mae’n bwysig fod ein henwau lleoedd yn cael eu cofnodi a’u cadw. A diolch i Glenda Carr am ei gwaith rhagorol.

Yn ei llyfr mae’n sôn am yr enw Maenofferen, sy’n wybyddus i ni yn Stiniog a gwerth dyfynnu rhan o’i disgrifiad:

“Enw fferm yn wreiddiol, a bellach enw ar ardal ym Mlaenau Ffestiniog yw Maenofferen. Mae hwn yn enw ardderchog i ddangos sut yr ydym yn llurgunio a moldio enwau i greu stori dda, neu i roi rhywfaint o ramant i le arbennig. Mewn darlith hynod ddifyr cyfeiriodd Dr Bruce Griffiths at hanesion ei nain am Maenofferen. (Pennau Llifiau, Pennau Cŵn. Darlith Flynyddol y Fainc Sglodion, 1984). Roedd hi’n cofio maen mawr yn y fferm. 

Drylliwyd y maen a defnyddio’r darnau i adeiladu capel Maenofferen. Gellir yn hawdd dderbyn hyn i gyd, ond roedd yn rhaid rhoi dipyn o sglein ar y stori. Roedd cred yn lleol fod y Derwyddon yn arfer lladd eu hebyrth yma, a bod yna dyllau ar ochr y maen gynt lle gosodid cwpanau arian i ddal y gwaed a lifai o’r ebyrth. Os oedd yr hanes i fod i esbonio’r elfen offeren, roedd yma dipyn o gymysgwch dealladwy ynglŷn â litwrgi a defodau’r Derwyddon, ond rhaid dweud fod yna gyffyrddiadau bach hyfryd, megis cwpanau arian, sy’n dangos cryn ddychymyg.

Mae ystyr yr enw yn llawer symlach ac yn llawer llai cyffrous. Elfennau’r enw yw maen+y+fferam. Ystyr fferam yn syml yw ‘fferm’. Ar yr olwg gyntaf gellid tybio mai enghraifft sydd yn yr -a- yn fferam o lafariad epenthetig, neu lafariad ymwthiol. 

Gwelir y math hwn o lafariad mewn geiriau megis 

pobl> pobol

aml> amal

llwybr> llwybyr… 

Rhaid cofio mai gair benthyg o’r Saesneg ‘farm’ yw fferm, beth bynnag. Ceir sawl enghraifft o fferam mewn enwau lleoedd ym Môn, ond ychydig iawn o enghreifftiau a welwyd y tu allan i’r ynys.

Ceir cofnod o Maen y ferran, Festiniog fel cartref Griffith a William Davies ar rôl bwrdeisiaid tref Caernarfon yn 1782. Nodwyd Maen y fferam rhwng 1800 a 1825. Maen-y-fferm oedd ar fap OS 1838. Yng Nghyfrifiad 1841 nodwyd Maenyfferm am enw’r annedd, a cheir cyfeiriad hefyd at chwarel sydd yn yr ardal fel Maenyferem Quarry

Maen y fferam oedd ffurf yn Rhestr Pennu Degwm 1841. Yna gellir gweld yr enw yn newid: Maenofferan sydd yng Nghyfrifiad 1861; Maenofferen yng Nghyfrifiad 1901, ac Maen Offeren ar y map OS cyfredol. Gellid tybio oddi wrth yr enghreifftiau hyn mai datblygiad gweddol ddiweddar yw'r offeren yn yr enw, ond cofnodwyd Maen yr offeren mor gynnar ag 1688 (Casgliad Tynygongl, Prifysgol Bangor). Fodd bynnag, sylwer fod yr Athro Gwyn Thomas yn ei hunangofiant Bywyd Bach yn pwysleisio fwy nag unwaith mai Maenfferam yw ynganiad pobl leol ar yr enw.”

TVJ
--------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2020


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon