Yn 1998 – cafodd teras o dai -FronHaul- yn Nhanygrisiau eu datgymalu garreg wrth garreg er mwyn eu hail-adeiladu 30 milltir i ffwrdd yn yr amgueddfa lechi. Agorwyd yr atyniad newydd –pedwar tŷ, wedi’u dodrefnu a’u haddurno i adlewyrchu gwahanol gyfnodau yng nghymunedau llechi gogledd Cymru- ym 1999, un mlynedd ar hugain yn ôl.
Oherwydd cyfyngiadau’r gofid mawr, doedd dim posib cynnal gweithgareddau yn yr amgueddfa, felly cynhaliwyd y dathliad ar y we, efo lluniau, ffilmiau, blogio, celf a mwy. Comisiynwyd llawer o gyfraniadau gan bobol Stiniog, gan gynnwys Gai Toms a phlant ysgol Tanygrisiau; yr artist lleol Lleucu Gwenllian, a’r bardd Mirain Rhisiart.
Rhan o un o luniau Lleucu -tai Fron Haul yn eu cynefin gwreiddiol |
Deallwn bod yr Amgueddfa Lechi yn bwriadu gosod panel ddehongli ar safle gwreiddiol y tai, efo gwybodaeth amdanynt, ynghyd â gwaith celf a cherddi Lleucu a Mirain. Mae’n hen bryd, mewn gwirionedd, i rywbeth gael ei wneud yn safle Fron Haul, gan fod Llanbêr wedi cael dau ddegawd o fudd o’r tai –ar draul fe ellid dadlau- Tanygrisiau, sydd wedi gweld y lle’n datblygu’n leoliad blêr, gwag, fyth ers dymchwel y tai.
FRON HAUL
gan Mirain Rhisiart, Congl-y-wal
Gwelodd Eryri oes aur y llechi.
Trawsnewid y werin o gaib i gŷn.
Yn nyffryn ‘Stradau, rhesi o feini,
Ymlusga’r rhimyn â‘r graig gyferbyn.
Enfawr fu’r chwyldro, ergyd fu’r chwalfa,
Dirywiad diwydiant, mwy na’i dyfiant.
Tawelwch. Y baracs fu’n segura.
Difrod gan ddwylo diarth, llechfeddiant.
Cyflawni lladrad absen fel llwynog,
Sleifio’n llechwraidd a dwyn o’r Gorlan.
A glaw fu’n llifo o’r llechwedd creigiog,
Trueni mai hyn fu tranc y drigfan.
Rhaid gwarchod ein treftadaeth, mae’n drysor,
Neu diflannu wna, fel llong heb angor.
Daw cyfnod du i darfu – gwêl golau.
Geiriau gobeithiol gŵr gwydn; Elfyn.
Parhau i drigo’r tai mae eneidiau.
Drws llonydd ddaw a cartref i’w derfyn.
Datgymalwyd hwy, cymerwyd sawl dydd
A’u gweddnewid nes nad oedd hoel o draul.
Er yr ail-gartrefwyd yr aelwydydd,
Disgleiriau edefyn ar dîr Fron Haul.
Wrth feddwl am y teuluoedd hynny,
Mae cysylltiad wrth gyffwrdd y meini.
A nghefn at y drws, edrychaf fyny
Ar olygfa gyfarwydd o lechi.
Er fod pellter i gyrraedd Llyn Padarn,
Mi wn y saif y pedwar yn gadarn.
Meddai Mirain ar flog yr Amgueddfa Lechi:
Yn ystod sgwrs efo staff yr amgueddfa, cefais wybod bod Taid wedi bod yn byw yn rhif 3 Fron Haul rhwng 1927 a 1933! Dysgais am fardd lleol hefyd, Elfyn. Rydw i wedi cyfeirio at linell yr ysgrifennodd o tra roedd yn wael ac yn gaeth i’w gartref,
“Hyderaf y câf fel cynt, weld yr haul wedi’r helynt”.I mi, mae’r linell yng nghyd-destun fy ngherdd yn golygu hyn: er na fydd y diwydiant llechi yn debygol o fod mor llewyrchus ag yr oedd dros y ddwyganrif ddwytha, rydw i’n hyderus o’r potensial sydd gan Cymru i oresgyn rhwystrau a llwyddo fel gwlad fychan.
-----------------------
Addasiad o ddarnau a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon