Ein braint ni yma yn nalgylch Llafar Bro ydi cael llongyfarch dau o breswylwyr y dref ar eu buddugoliaethau yn Adran Farddoniaeth prifwyl gofiadwy Dyffryn Conwy eleni.
Bu’n Eisteddfod gofiadwy iawn i Vivian Parry Williams am sawl rheswm. Na, nid am lunio limrigau y daeth i’r brig y tro yma, ond am gyfansoddi chwe thriban – ‘Chwe Esgus’. Dyma’r un agoriadol:
Ar ran eich holl aeloda’‘Sgiwsiwch V’ oedd ei ffug-enw gwreiddiol, ond fel ‘Ap Machno’ yr adwaenir o yn yr orsedd o hyn ymlaen.
derbyniwch f’ymddiheuriada’
am fethu ffeindio’r ffordd i’r cwrdd –
mae’r hwrdd ‘di bwyta’r mapia’.
Dafydd a Vivian efo'u tystysgrifau. Llun- PW |
Am gerdd ‘wedi’i llunio o chwe phennill telyn’ dan y teitl ‘Lleisiau’ y cipiodd Dafydd Jones, Bryn Offeren wobr.
"Dyma fardd â dawn i greu darluniau byw o fywyd cefn gwlad ac sy’n gallu tynnu lluniau a’u portreadu i greu stori cymdeithas fel yn ‘Dan y Wenallt’ ...”meddai’r beirniad, Andrea Parry am waith ‘Twrog.’
Dyma flas un ohonyn nhw:
Haul yn machlud dros y Gelli,Cawsom fwynhau ambell gerdd gan Dafydd yn y golofn hon sawl gwaith dros y blynyddoedd.
Sŵn y byd yn araf dewi,
Lleisiau’r plant wrth bont Llain Mafon,
Lluchio cerrig mân i’r afon.
-Iwan Morgan; Rhod y Rhigymwr, Medi 2019.
----------------------------------------
Cydnabyddiaeth deilwng i ddau o’r Fro
Llongyfarchiadau mawr i Ap Machno a Padrig o Gynfal ar gael eu hurddo i'r wisg werdd Gorsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.
Mae cyfraniad Vivian Parry Williams a Patrick Young i ddiwylliant yr ardal a thu hwnt, yn haeddu’r clod a ddaw efo anrhydedd pennaf cenedl y Cymry.
Gwych! Mewn pob daioni mae gwobr.
Llongyfarchiadau hefyd i Robin Jones, Trawsfynydd gynt, a dderbyniwyd i’r wisg las am gyfraniad oes i waith gwirfoddol ar lawr gwlad.
-----------------------------------
Celf
Llongyfarchiadau i Lleucu Gwenllian ar ddylunio’r lluniau i gyd yn llyfr diweddaraf Myrddin ap Dafydd, ‘Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy’.
Mae’n edrych yn wych!
Roedd yr Archdderwydd a Lleucu yn lansio’r llyfr gyda chymorth plant Ysgol Ysbyty Ifan yn Nhŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod.
Mae’r llyfr ar gael yn Siop yr Hen Bost!
(Adolygiad Bethan Gwanas)
----------------
Pytiau o rifyn Medi 2019
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon