Showing posts with label chwedlau. Show all posts
Showing posts with label chwedlau. Show all posts

28.5.21

Chwedl Calaffate

Addasiad Cymraeg cyntaf chwedl o Batagonia, gan Lleucu Gwenllian
Gwasg Carreg Gwalch, £6.50

El que come calafate, siempre vuelve – Mae’r sawl sy’n bwyta’r calaffate, wastad yn dychwelyd.

Os ei di i’r Wladfa, rwyt ti’n siŵr o gael cynnig jam ffrwyth y Calaffate, ac rwyt ti’n sicr o weld y blodau aur tlws yn tyfu dros y paith. 

Yn ôl y sôn, caiff pawb sy’n blasu’r ffrwyth eu swyno i ddod yn ôl i Batagonia.

Amser maith yn ôl, ymhell cyn bodolaeth y Wladfa, roedd merch ifanc dlos yn byw ymysg llwyth y Tehuelche – pobl wreiddiol talaith Chubut. 

Un dydd, wrth chwilio am baent i’w nain, dyma Calaffate yn cyfarfod bachgen o lwyth y Selk’nam – gelynion y Tehuelche! 

Wrth i’r ddau sgwrsio dyma nhw’n disgyn mewn cariad, ond dydi llwybr cariad byth yn ddirwystr ...


Dyma’r addasiad Cymraeg cyntaf o’r chwedl drist o gariad, brad a thor calon, sy’n rhoi cipolwg i ni o fywyd ym Mhatagonia ymhell cyn i’r Cymry groesi’r môr yn 1865. Wedi’i anelu ar gyfer plant 7-11 oed.

Meddai’r awdur, Lleucu Gwenllian:

“Yn ôl yn 2018, cefais y cyfle i deithio i’r Wladfa am fis diolch i Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog. Roedd popeth yno mor hudolus - y bobl a’u hacen Sbaeneg-Gymraeg hyfryd, y bwyd, y mynyddoedd a’r paith a’r bywyd gwyllt; ond yr hyn ddaliodd fy nychymyg oedd dysgu am y berthynas rhwng y Cymry a’r Tehuelche. Clywais y dywediad y bydd pawb sy’n blasu ffrwyth y Calaffate yn dod yn ôl i Batagonia, a gyda ‘chydig o ymchwil dois ar draws chwedl Calaffate. Yn ôl y chwedl, caiff pawb sy'n bwyta’r Calaffate eu hudo gan y tir yn yr un ffordd a gafodd y cariadon ifanc yn y stori eu hudo gan ei gilydd.”


Ychwanegodd: 

“Mae’r addasiad yma o’r chwedl wedi bod yn llafur cariad i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf - mi wnes i ddisgyn mewn cariad efo'r stori, y cymeriadau a’r diwylliant cyfoethog. Dwi wedi gwneud fy ngorau i ddod â nhw yn fyw, a dwi wir yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau’r chwedl gymaint â gwnes i."

Mae'r awdur a'r cyflwynydd teledu poblogaidd Bethan Gwanas wedi rhoi adolygiad hyfryd o'r llyfr ar ei blog:

"Dwi wedi dotio! Mae’r llyfr yma’n berl" meddai. "Mae’n cael ei farchnata fel llyfr i blant 7-11 oed, ond mae’n addas i bawb dros 11 hefyd yn fy marn i. Bu’r llyfr yn llafur cariad i Lleucu am ddwy flynedd, ac mae’r llafur hwnnw’n dangos, a’r cariad hefyd. Diolch am ei sgwennu a’i ddarllunio, Lleucu.

- - - - - - -

Gallwch brynu Chwedl Calaffate mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru  a gwefan y Cyngor Llyfrau,  www.gwales.com

Mae Lleucu Gwenllian yn ddarlunydd 24 oed o Flaenau Ffestiniog ac â BA mewn Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd. Gellir gweld esiamplau o’i gwaith ar ei chyfrif Instagram a Facebook @studio.lleucu. 

Mae hefyd wedi cyfrannu gwaith celf at Llafar Bro . Hi hefyd yw artist Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy, Myrddin ap Dafydd a chyfres Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel, Gwennan Evans.




5.12.19

Mewn pob daioni mae gwobr

Pytiau am Eisteddfod Genedlaethol gofiadwy i rai o Fro Ffestiniog.

Ein braint ni yma yn nalgylch Llafar Bro ydi cael llongyfarch dau o breswylwyr y dref ar eu buddugoliaethau yn Adran Farddoniaeth prifwyl gofiadwy Dyffryn Conwy eleni.
Bu’n Eisteddfod gofiadwy iawn i Vivian Parry Williams am sawl rheswm.  Na, nid am lunio limrigau y daeth i’r brig y tro yma, ond am gyfansoddi chwe thriban – ‘Chwe Esgus’. Dyma’r un agoriadol:
Ar ran eich holl aeloda’
derbyniwch f’ymddiheuriada’
am fethu ffeindio’r ffordd i’r cwrdd –
mae’r hwrdd ‘di bwyta’r mapia’.
Sgiwsiwch V’ oedd ei ffug-enw gwreiddiol, ond fel ‘Ap Machno’ yr adwaenir o yn yr orsedd o hyn ymlaen.

Dafydd a Vivian efo'u tystysgrifau. Llun- PW


Am gerdd ‘wedi’i llunio o chwe phennill telyn’ dan y teitl ‘Lleisiau’ y cipiodd Dafydd Jones, Bryn Offeren wobr.
"Dyma fardd â dawn i greu darluniau byw o fywyd cefn gwlad ac sy’n gallu tynnu lluniau a’u portreadu i greu stori cymdeithas fel yn ‘Dan y Wenallt’ ...” 
meddai’r beirniad, Andrea Parry am waith ‘Twrog.’

Dyma flas un ohonyn nhw:
Haul yn machlud dros y Gelli,
Sŵn y byd yn araf dewi,
Lleisiau’r plant wrth bont Llain Mafon,
Lluchio cerrig mân i’r afon.
Cawsom fwynhau ambell gerdd gan Dafydd yn y golofn hon sawl gwaith dros y blynyddoedd.
-Iwan Morgan; Rhod y Rhigymwr, Medi 2019.
----------------------------------------

Cydnabyddiaeth deilwng i ddau o’r Fro

Llongyfarchiadau mawr i Ap Machno a Padrig o Gynfal ar gael eu hurddo i'r wisg werdd Gorsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Mae cyfraniad Vivian Parry Williams a Patrick Young i ddiwylliant yr ardal a thu hwnt, yn haeddu’r clod a ddaw efo anrhydedd pennaf cenedl y Cymry.



Gwych! Mewn pob daioni mae gwobr.






Llongyfarchiadau hefyd i Robin Jones, Trawsfynydd gynt, a dderbyniwyd i’r wisg las am gyfraniad oes i waith gwirfoddol ar lawr gwlad.
-----------------------------------

Celf
Llongyfarchiadau i Lleucu Gwenllian ar ddylunio’r lluniau i gyd yn llyfr diweddaraf Myrddin ap Dafydd, ‘Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy’.

Mae’n edrych yn wych!

Roedd yr Archdderwydd a Lleucu yn lansio’r llyfr gyda chymorth plant Ysgol Ysbyty Ifan yn Nhŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod.

Mae’r llyfr ar gael yn Siop yr Hen Bost!


(Adolygiad Bethan Gwanas)










---------------- 
Pytiau o rifyn Medi 2019



27.11.19

Diolch ‘Stinog; Gracias Rawson!

Baneri Ariannin a Chymru*
Erthygl gan Lleucu Gwenllian, enillydd Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog 2018.

Aeth blwyddyn heibio ers i mi bacio fy magiau i fynd am y Wladfa, a dwi'n ffeindio fy hun yn
hiraethu ‘chydig bach am Batagonia; roedd rhyw hud a lledrith am y lle.  Roeddwn i'n ffodus i gael treulio mis cyfan yn yr Ariannin. Bwriad fy mhrosiect i oedd rhedeg gweithdai celf ar thema chwedloniaeth Gymreig -yn benodol stori Blodeuwedd- efo’r cymunedau Cymraeg. Ar ôl cyflwyno’r stori, byddwn i'n gwahodd pawb i ddadansoddi'r chwedl yn weledol fel yr oedden nhw yn ei ddychmygu.

Ar ôl glanio ym metropolis Buenos Aires, wedyn treulio wythnos wrth draed yr Andes yn Bariloche, cawsom ein profiad cyntaf o Gymraeg yr Ariannin wrth gamu ar y bws i Esquel. Gofynodd y dyn oedd y tu ôl i ni yn y ciw: "ydych chi'n siarad Cymraeg?" Dyna sut wnaethon ni gyfarfod Merfyn, y melinydd o Gwm Hyfryd. Wedi sgwrs hanner Cymraeg-hanner Sbaeneg, mi fuon ni’n hwylio canu "Melinydd oedd fy nhad" a chwerthin ar y daith hir. Aeth Merfyn oddi ar y bws yn Esquel efo copi Sbaeneg o eiriau’r gân, a gwên ar ei wyneb.

Er mai Rawson oedd prif ffocws y prosiect, roeddwn i'n meddwl y byddai'n gyfle da i drefnu gweithdai mewn ysgolion Cymraeg drwy'r Wladfa. Roedd y cyntaf o'r gweithdai hyn yng nghapel Seion, Esquel. O'r holl weithdai, hwn oedd yr un mwyaf cofiadwy - yn rhannol gan mai hwn oedd y tro cyntaf i mi gynnal gweithgaredd i 40 o blant, ond hefyd gan ‘mod i wedi camddeall... Er mor falch oedd llawer o'u gwreiddiau Cymreig, doedd llawer o'r plant ddim wedi meistrioli'r iaith, ac roedd rhaid i fi droi at plan-B!  Diolch byth, roeddwn i wedi  cyfieithu’r stori i’r Sbaeneg rhag ofn- er, mae'n beryg mai joban wael wnes i ohoni, gan mai 'derbyniol' ydi'r asesiad mwyaf optimistic o'n sbaeneg i.

Er gwaetha'r ansicrwydd, roedd y gweithdy yn llwyddiant ac roedd hi mor wych i weld y plant i gyd yn mwynhau darlunio’u hoff gymeriad o chwedl Blodeuwedd. Roeddwn i mor hapus fod pawb wedi mwynhau.

Yn dilyn y gweithdy fe gawsom ni wahoddiad gan Gymdeithas Gymraeg Esquel i rannu te Cymreig efo nhw - te mewn cwpanau tseina tlws a llond bwrdd o wahanol gacennau. Roedd hi'n hyfryd i gael sgwrsio efo pawb.

Tulipanes Cwm Hyfryd*

Yn Nhrevelin roedd gen i 3 gweithdy wedi'u trefnu yn Ysgol y Cwm ac Ysgol yr Andes (yr ysgol Gymraeg i oedolion). Yn y bore cefais i'r profiad hyfryd o gyd-ganu 'Adeiladu tŷ bach' efo’r plant, yn syth ar ôl y seremoni ddyddiol o godi'r faner Archentaidd. Roedd Trevelin ei hun yn lle gwych - cawsom ni weld y 'tulipanes' enwog wrth droed mynydd prydferth o'r enw Gorsedd y Cwmwl; mi welson ni fflamingos; arwyddion ffordd tair-ieithog (Sbaeneg, Cymraeg ac iaith y Tehuelche); a sawl peth rhyfeddol arall.

Arwyddion Trevelin*
Ymlaen wedyn dros y paith i Drelew, ac yna i’r Gaiman lle roedd dau weithdy arall wedi'u  trefnu. Roedden ni newydd fethu protest blynyddol y merched yn Nhrelew ac roedd 'na graffiti ffemisistaidd ffantastig ar bob cornel o'r stryd. Roedden ni yna'r un pryd ac Eisteddfod y Wladfa hefyd - profiad anhygoel arall. Roedden ni'n aros mewn llety efo ‘stafell haul oedd yn llawn melons. Hwn oedd y lle brafia i ni aros ynddo yn hawdd -roedd hi mor braf cael aros yn rhywle oedd wedi'i amgylchynu gan hen ffermydd a chapeli y Cymry cyntaf.

Yn Rawson, roedd criw cymwynasgar y llyfrgell –Meli a Sole- wedi trefnu llety hwylus. Roeddwn yno am wythnos. Wythnos yn llawn ymweliadau swyddogol (mi wnes i droi fyny i'r cyntaf heb ddeall ein bod ni'n cyfarfod pobol bwysig, wedi gwisgo jeans a jymper!); teithiau hanes lleol; gweithdai, a gwleddau. Roedd gweithdai Rawson efo pobol ifanc yn hytrach na phlant ac roedd y rhain yn llawer o hwyl, gan drafod cerddoriaeth Archentaidd a Chymraeg; dawnsio Lladin; a straeon y Teheuelche.

Yn ogystal a'r gweithdai, roedd cyngor Rawson wedi trefnu i ni fynd i weld y "toninas" - y dolffiniaid du a gwyn lleol. Mi gawsom ni fynd allan mewn cwch i weld y creaduriaid anhygoel yma - un o fy hoff atgofion o'r daith. Roedden ni'n ofnadwy o lwcus hefyd i gael mynd efo Nanci a Norberto i Benrhyn Valdés i weld morfilod, ac i weld amgueddfa’r glanio a chyfarfod aelodau croesawgar Cymdeithas Gymraeg Porth Madryn. Roedd o'n wych i weld faint o syniadau oedd ganddyn nhw am sut i ddatblygu eu canolfan. I gloi diwrnod anhygoel, mi fuon ni’n canu "Yma o Hyd" efo'r ddau ohonyn nhw yn y car ar y ffordd yn ôl! Profiad bythgofiadwy.

Lleucu, Patricia a Meli. Puente del Poeta -pont y bardd- yn y cefndir ar safle'r bont gyntaf a adeiladwyd dros afon Camwy, gan Gutyn Ebrill, a adawodd Stiniog am y Wladfa.*

Ar ddiwedd mis o weithdai a theithio, trefnwyd arddangosfa mewn cydweithrediad â llyfrgell Rawson i arddangos gwaith y plant. Roedd o mor hyfryd i weld pob dim efo'i gilydd. Mi gefais anrhegion hael ofnadwy gan y llyfrgell, y cyngor a gan bobol Rawson. Roeddwn i'n reit emosiynol - roedd pawb wedi bod mor annwyl yn barod.

Drannoeth, roedd Patricia, cynrychiolydd Rawson wedi trefnu té Gales yn ei thŷ, efo Amigos de la Cultura Galesa, a gyda'r nos roedd Sole wedi gwahodd pawb i'w thŷ hithau am wledd. Does na'm posib i mi ddiolch digon iddyn nhw i gyd am eu haelioni, eu croeso a'u cymorth tra roedden ni yna. Mi wnaethon ni gyfarfod cymaint o gymeriadau annwyl yn y Wladfa, a dwi'n edrych ymlaen at y dydd pan dwi'n pacio fy magiau eto.

Amigos Rawson**

Caniataodd y trip i mi hel ymchwil ar sut mae celf a chwedloniaeth yn gallu effeithio ar ein hunaniaeth, oedd yn rhan bwysig o fy nhraethwad hir ar ôl dychwelyd i’r Brifysgol. Yn ogystal â hyn, mi wnes i ddysgu cymaint am chwedlau pobol frodorol Patagonia. Roedd perthynas gyfeillgar rhwng y Cymry a'r Tehuelche, a dwi'n credu ei fod yn bwysig i ninnau roi sylw i'w diwylliant nhw.

Hoffwn ddiolch o waelod calon i Gyngor Tref Ffestiniog am yr ysgoloriaeth hael - roedd y profiad yn un bythgofiadwy sydd wedi agor bob math o ddrysau eraill i mi.

Gracias Rawson a diolch Stiniog!
Lleucu Gwenllian
---------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019

Chwedl Calaffate -llyfr gan Lleucu am un o chwedlau Patagonia

Dilynwch Lleucu ar Instagram

Erthygl flaenorol gan Lleucu am gelf: Mae'r Llechi'n Disgleirio

Lluniau:
* Paul W- mwy yn fan hyn
** Norberto Lloyd Jones

ÔL-NODYN

Rhestr enillwyr Ysgoloriaeth Rawson o 2016-2025

 

29.4.17

Stolpia - Dywediadau ein bro

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Ar ôl darllen y golofn ddifyr Geiriau Coll*, euthum ati hi i nodi ychydig o eiriau a dywediadau lleol sy’n gysylltiedig â bodau llên gwerin, mytholeg a hanesion llafar ein gwlad. Efallai y gall rhai o’r darllenwyr ychwanegu tipyn atynt. Beth bynnag, dyma nhw:

Andras:
Mae  rhai ysgolheigion  yn olrhain  y gair hwn yn ôl i enw un o hen dduwiau’r Celtiaid, sef Andraste. Sut bynnag, yn ôl y geiriadur, tardda’r gair o an /gras neu anras, ac enw arall am y diafol neu’r gŵr drwg ydyw. Rywdro yn ei hanes, newidwyd un llythyren ynddo ar lafar a thueddir i’w ynganu fel andros, bellach. Efallai eich bod wedi clywed rhai’n dweud - ‘Mae fel yr andros heddiw’, neu ‘Wel yr andros fawr, be’ sy’ wedi digwydd?’  ‘Y mae hwn yn andros o anodd’ a.y.y.b.

Piod gan Lleucu Gwenllian. Dilynwch hi ar Instagram:  lleucu_illustration

Bo lol:
Ychydig iawn o bobl wyf yn ei glywed yn dweud yr enw hwn heddiw. Ei ystyr, yn ôl y geiriaduron, yw bwgan, bwci bo, y gŵr drwg. Am ryw reswm, nid yw’r geiriadur yn cyfeirio ato fel rhyw fod annaearol du a thywyll chwaith er mai fel hyn y defnyddir ef yn y cyffelybiaethau canlynol.

Clywais fy mam yn dweud sawl tro - ‘Mae hi cyn ddued â’r bo lól draw am y Moelwyn na’. Byddai ambell un yn dweud hefyd ei bod ‘fel y bolol o dywyll’ am rywle tywyll dros ben.
Dyma hen rigwm amdano:

     Bo lól ,bo lól
     A thwll yn ei fol

     Digon o le i geffyl a throl.

Bwgan:
Fel rheol, enw ar ysbryd drwg neu fwci bo yw, ynte? Ond ar adegau, defnyddir  y gair am rywbeth sy’n tarfu cynllun neu  amcanion rhywun. E.e. ‘Hwn ydi’r bwgan neu mi fuasai’r peth yn  gweithio’n iawn.’ Clywir  y lluosog iddo’n cael ei ddweud o dro i dro  mewn ambell gyfarfod  hefyd, h.y. pan fydd rhywun yn ‘taflu dŵr oer’ ar ryw gynllun arfaethedig oherwydd ei fod yn rhagweld rhyw broblem fawr neu gostau aruthrol yn sicr o ddeillio ohono. “O, y mae hwn yn ‘codi bwganod’ eto.” Idiom arall, er nad yn gyfarwydd iawn i mi, yw fersiwn arall o ‘rhych na gwellt’, sef gwneud synnwyr o rywbeth, megis  ‘Mi fethais i a gwneud na rhawn na bwgan o’i bregeth o’.

Coblyn:
Clywir y gair coblyn, a thro arall coblynedig, fel rhan o’n sgwrs, oni wneir? Er enghraifft, ‘Myn coblyn i’ neu efallai - ‘Beth goblyn y mae hwn yn ei wneud?’ Weithiau, dywedwn am rywun prysur ‘Ei fod wrthi hi fel y coblyn’, ac ar dywydd rhewllyd ‘Mae hi’n goblynedig o oer heddiw’. Ar adegau, clywir un yn dweud  am blant anystyriol a di-wrando: ‘Be mae’r coblynnod drwg wedi bod yn ei wneud rŵan?’ Dywediad arall gyda’r un elfen ynddo, ond yn  anaml iawn ei ddefnydd  yn ein hardal bellach, yw ‘Ar gefn ei goblyn’. Dyma a glywid gan ein teidiau a’n neiniau pan fyddai un yn anniddig neu’n ystyfnig ac yn gwrthod cyd-dynnu.

Gyda llaw, un o ystyron y gair coblyn yn wreiddiol yw ‘tylwythyn teg y mwynfeydd’,  ‘cnociwr’,  neu un o’r ‘meinars bach’ a fyddai’n cloddio yn ein mwynfeydd gynt ac yn arwain y mwynwyr at wythïen gyfoethog drwy eu dyfal gnocio. Tybed os  mai oherwydd y trwst diddiwedd a wneid ganddynt  y cyffelybir criw o blant swnllyd â nhw.

Gwrach:
Oes,y mae sawl dywediad gennym gydag enw yr hen wrach ynddo, hefyd. Er enghraifft, ceir yr ymadrodd ‘Breuddwyd gwrach’ neu ‘Breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys’  am yr  ‘wishful thinking’ yn Saesneg, oni cheir?

Un arall sy’n weddol adnabyddus  i  amryw o’r to hŷn yw  ‘coel gwrach’. Ymadrodd llafar am  ofergoel yw hwn. e.e. ‘Rhyw goel gwrach yw credu bod sathru ar falwen ddu yn tynnu glaw, ynte?’ Rhywbeth yn debyg yw’r dywediad ‘chwedl gwrach’, sef ‘stori chwech’ fel dywed eraill. Ystyr y ddau ddywediad  yw stori heb ddim sylwedd iddi hi o gwbl. Mae gennyf gof o glywed  un o’r Blaenau un tro yn  disgrifio cegiad o ddannedd mawr blêr rhyw ddynes  fel ‘dannedd gwrach’. Dwn  i ddim os clywsoch chi am ddywediad tebyg?
------------------------------------------------

*Geiriau Coll

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2005.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.



1.6.15

Sgotwrs Stiniog- cyfoeth Llyn Morwynion

Erthygl o Ionawr 2003 yng nghyfres reolaidd Emrys Evans.

LLYN MORWYNION
Yr hyn yr ydw’i am ei wneud y mis yma yw sôn rywfaint am Lyn y Morwynion a’i gwmpasoedd, ond gan adael sôn am ei bysgota tan ryw dro eto. Yr hyn sydd wedi fy sbarduno i wneud hynny yw imi gael pwt o sgwrs hefo person a oedd yn weddol ddieithr i’r ardal.

Llyn Morwynion, Y Garnedd, a Charreg y Foelgron. Llun gan PW, Mai 2015

Roedd wedi bod am dro wrth Lyn y Morwynion, ac wrth ddisgrifio y lle a’r cwmpasoedd y geiriau a ddefnyddiodd oedd ‘unig, moel, llwm,’ a ‘fawr o ddim i’w weld yno’, ac yn y blaen. Yn amlwg doedd y lle ddim wedi gwneud  rhyw lawer o argraff arno.

Ceisiais innau, yn y tipyn sgwrs a gefais ag ef, roi ar ddeall iddo fod Llyn y Morwynion a’r ardal o’i gwmpas yn lleoedd diddorol iawn, iawn.

Wyddai’r gŵr yma ddim oll am chwedl Gwŷr Ardudwy a merched Dyffryn Clwyd, a sut y cafodd y llyn ei enwi yn Llyn y Morwynion yn ôl y chwedl yma. Doedd o chwaith ddim wedi clywed sôn am Feddau Gwŷr Ardudwy sydd yr ochr draw i’r Drum a’r Garreg Lwyd o’r llyn, nac am Fryn y Castell sydd yn ymyl y Beddau a chysylltiad hwnnw â phedwaredd ran y Mabinogion sy’n cael ei galw yn Fath fab Mathonwy, ac esboniad arall o sut y cafodd Llyn y Morwynion ei enwi.

Y llyn wedyn: mae yna bethau o ddiddordeb o gwmpas glannau hwnnw mewn rhannau ohono.
Llyn naturiol yw Llyn y Morwynion, ond iddo gael ei eangu. Fel y tyfodd y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog ac y cynyddodd y boblogaeth mewn canlyniad i hynny, gwnaed Llyn y Morwynion yn llyn dŵr i’r ardal er mwyn sichrau cyflenwad o ddŵr glân i’r cyhoedd. Gwnaed argae ym mhen isa’r llyn yn 1879, a chodwyd ei arwynebedd o rhwng 12 a 13 troedfedd, gan foddi rhannau o’r tir o’i gwmpas.

Ar un adeg yr oedd tŷ ar lan Llyn y Morwynion a rhai’n byw ynddo hyd at yr 1890au. Gwelir o hyd ychydig o’i olion wrth ymyl yr argae. Gweithio yn y chwareli cyfagos a wnai’r dynion y rhan amlaf, fel, er engraifft, Chwarel Bryn Glas sydd islaw pen isa’r llyn; Chwarel y Drum sydd yr ochr arall i’r gefnen o’r un enw; Chwarel y Foelgron sydd y tu ucha i’r llyn; a Chwarel Groes y Ddwy Afon sydd ond ychydig pellach na’r Foelgron.

Yn ôl cyfrifiad 1871 roedd teulu o un-ar-ddeg yn byw yn Nhŷ Llyn y Morwynion. Y penteulu oedd Cadwaladr Jones, chwarelwr 44 oed. Gydag ef yr oedd ei wraig, pump o ferched a phedwar o feibion.  

Eithr nid yn ystod y cyfnod diweddar y bu pobl yn byw ar lan Llyn y Morwynion. Ym mhen uchaf yr un ochr o’r llyn y mae y gongl a elwir gan y pysgowyr yn Badell Fawnog. Rhyw hanner can llath o’r lan, ar ychydig o godiad yn y tir, mae olion cwt crwn, neu Gwt Gwyddel, fel y’i gelwir hefyd. Mae hi’n amlwg fod yna rai’n byw ar lan hen Lyn y Morwynion ryw oes a fu, pryd bynnag oedd hynny.
Pan godwyd arwynebedd y llyn yn ôl yn 1879, a boddi’r rhan yma, dros y blynyddoedd wedi hynny bu dŵr y llyn yn araf erydu y glannau. Yn y man ac o dipyn i beth dechreuodd Cwt Gwyddel arall ddod i’r golwg. Erbyn heddiw tua’i hanner sydd i’w weld, gyda’r hanner arall yn dal o’r golwg o dan ddwy droedfedd neu fwy o fawn a oedd wedi hel arno dros y canrifoedd. Rhagor o dystiolaeth fod dyn a’i dylwyth wedi bod yn trigo ar lan yr hen Lyn y Morwynion.

Mae hi’n bosibl, ar bwys y trwch o fawndir sydd wedi casglu ar y Cwt Gwyddel yma, yn ôl barn archaeolegwyr, y gallai hwn ddyddio’n ôl i Oes yr Efydd. Ac roedd Oes yr Efydd yn dod i ben tua 500 mlynedd cyn geni Crist. Os yw’r damcanu hyn rywle o’i chwmpas hi, dyna fynd yn ôl oddeutu 2,500 o flynyddoedd beth bynnag, ac efallai mwy.

Os nad yw chwedloniaeth yn apelio, na hen hen hanes, beth am hanes mwy diweddar, sef hanes y diwydiant llechi sydd o gwmpas y rhan yma o’r ardal? Ychydig y tu isaf i’r llyn y mae Chwarel Bryn Glas. Bu rhai o aelodau Fforwm Plas Tan y Bwlch yn cofnodi ei hanes hi yn o ddiweddar.

Yn y tir y tu uchaf i’r llyn y mae rhagor o gyfle i ymwneud ag archaeoleg diwydiannol ar Chwarel y Foelgron. Chwarel Pen Llyn oedd yr hen enw arni, a does dim rhaid dweud pa ‘lyn’ a olygir. Mae nifer o olion chwilio am y gwely llechfaen i’w gweld yn y tir sy’n codi o lan Llyn y Morwynion.
Mae y tipyn ysgrif yma wedi  mynd yn rhy faith o lawer a rhaid yw rhoi pen ar y mwdwl rhag blino bawb.

Ond, Llyn y Morwynion a’i gwmpasoedd a ‘fawr ddim i’w weld yno’!!!
------------

[Ambell lun arall o ardal Llyn Morwynion ar wefan Ar Asgwrn y Graig]


Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod.

29.5.13

Tra bo hedydd



Ymddiheuriadau am y diffyg diweddaru yn ystod mis Mai, gyda lwc gallwn roi'r trwyn yn ol ar y maen efo deunydd rhifyn Mehefin. Yn y cyfamser dyma un darn arall allan o rifyn Mai. Cofiwch adael sylwadau, neu awgrymiadau am erthyglau.

Tra bo hedydd
Daeth un o ganeuon Dafydd Iwan i'r cof yn ddiweddar, wrthi’r genod a’u taid a finna fynd am dro i Fryn Castell.

“Tra bo hedydd ar y mynydd; tra bo ewyn ar y don;
tra bo glas yn nwfn dy lygaid, mi wn mae ni pia hon.”

Cytgan hyfryd. Can sydd heb gael y sylw haeddianol. 

 


Beth bynnag, mynd i chwilio am yr haul oedden ni, heibio Beddau Gwyr Ardudwy, ffordd Rufeinig Sarn Helen, a chwarel lechi'r Drum. Digon o gyfle i drosglwyddo’chydig o hanes a chwedlau'r fro i'r plant, yn union fel wnaeth eu taid i mi yn yr un lle drideg mlynedd yn ol..




Ar y ffordd o'na, mi wnaethon ni aros am gyfnod i wrando ar drydar parablus hyfryd ehedydd, yn canu nerth esgyrn ei ben, yn uchel, uchel yn yr awyr las. Yn datgan hyd a lled ei diriogaeth, fel tasa fo'n dweud 'dwi yma o hyd'.

Efallai y bydd y genod yn gwneud yr un peth dri deg mlynedd o rwan...

 








(Wedi'i seilio ar erthygl a ymddangosodd yn gyntaf ar y blogAr Asgwrn y Graig’.  Blog am dyfu a hel bwyd, a'r byd o'n cwmpas ni ym Mro Ffestiniog. Lluniau gan PW)