29.4.17

Stolpia - Dywediadau ein bro

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Ar ôl darllen y golofn ddifyr Geiriau Coll*, euthum ati hi i nodi ychydig o eiriau a dywediadau lleol sy’n gysylltiedig â bodau llên gwerin, mytholeg a hanesion llafar ein gwlad. Efallai y gall rhai o’r darllenwyr ychwanegu tipyn atynt. Beth bynnag, dyma nhw:

Andras:
Mae  rhai ysgolheigion  yn olrhain  y gair hwn yn ôl i enw un o hen dduwiau’r Celtiaid, sef Andraste. Sut bynnag, yn ôl y geiriadur, tardda’r gair o an /gras neu anras, ac enw arall am y diafol neu’r gŵr drwg ydyw. Rywdro yn ei hanes, newidwyd un llythyren ynddo ar lafar a thueddir i’w ynganu fel andros, bellach. Efallai eich bod wedi clywed rhai’n dweud - ‘Mae fel yr andros heddiw’, neu ‘Wel yr andros fawr, be’ sy’ wedi digwydd?’  ‘Y mae hwn yn andros o anodd’ a.y.y.b.

Piod gan Lleucu Gwenllian. Dilynwch hi ar Instagram:  lleucu_illustration

Bo lol:
Ychydig iawn o bobl wyf yn ei glywed yn dweud yr enw hwn heddiw. Ei ystyr, yn ôl y geiriaduron, yw bwgan, bwci bo, y gŵr drwg. Am ryw reswm, nid yw’r geiriadur yn cyfeirio ato fel rhyw fod annaearol du a thywyll chwaith er mai fel hyn y defnyddir ef yn y cyffelybiaethau canlynol.

Clywais fy mam yn dweud sawl tro - ‘Mae hi cyn ddued â’r bo lól draw am y Moelwyn na’. Byddai ambell un yn dweud hefyd ei bod ‘fel y bolol o dywyll’ am rywle tywyll dros ben.
Dyma hen rigwm amdano:

     Bo lól ,bo lól
     A thwll yn ei fol

     Digon o le i geffyl a throl.

Bwgan:
Fel rheol, enw ar ysbryd drwg neu fwci bo yw, ynte? Ond ar adegau, defnyddir  y gair am rywbeth sy’n tarfu cynllun neu  amcanion rhywun. E.e. ‘Hwn ydi’r bwgan neu mi fuasai’r peth yn  gweithio’n iawn.’ Clywir  y lluosog iddo’n cael ei ddweud o dro i dro  mewn ambell gyfarfod  hefyd, h.y. pan fydd rhywun yn ‘taflu dŵr oer’ ar ryw gynllun arfaethedig oherwydd ei fod yn rhagweld rhyw broblem fawr neu gostau aruthrol yn sicr o ddeillio ohono. “O, y mae hwn yn ‘codi bwganod’ eto.” Idiom arall, er nad yn gyfarwydd iawn i mi, yw fersiwn arall o ‘rhych na gwellt’, sef gwneud synnwyr o rywbeth, megis  ‘Mi fethais i a gwneud na rhawn na bwgan o’i bregeth o’.

Coblyn:
Clywir y gair coblyn, a thro arall coblynedig, fel rhan o’n sgwrs, oni wneir? Er enghraifft, ‘Myn coblyn i’ neu efallai - ‘Beth goblyn y mae hwn yn ei wneud?’ Weithiau, dywedwn am rywun prysur ‘Ei fod wrthi hi fel y coblyn’, ac ar dywydd rhewllyd ‘Mae hi’n goblynedig o oer heddiw’. Ar adegau, clywir un yn dweud  am blant anystyriol a di-wrando: ‘Be mae’r coblynnod drwg wedi bod yn ei wneud rŵan?’ Dywediad arall gyda’r un elfen ynddo, ond yn  anaml iawn ei ddefnydd  yn ein hardal bellach, yw ‘Ar gefn ei goblyn’. Dyma a glywid gan ein teidiau a’n neiniau pan fyddai un yn anniddig neu’n ystyfnig ac yn gwrthod cyd-dynnu.

Gyda llaw, un o ystyron y gair coblyn yn wreiddiol yw ‘tylwythyn teg y mwynfeydd’,  ‘cnociwr’,  neu un o’r ‘meinars bach’ a fyddai’n cloddio yn ein mwynfeydd gynt ac yn arwain y mwynwyr at wythïen gyfoethog drwy eu dyfal gnocio. Tybed os  mai oherwydd y trwst diddiwedd a wneid ganddynt  y cyffelybir criw o blant swnllyd â nhw.

Gwrach:
Oes,y mae sawl dywediad gennym gydag enw yr hen wrach ynddo, hefyd. Er enghraifft, ceir yr ymadrodd ‘Breuddwyd gwrach’ neu ‘Breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys’  am yr  ‘wishful thinking’ yn Saesneg, oni cheir?

Un arall sy’n weddol adnabyddus  i  amryw o’r to hŷn yw  ‘coel gwrach’. Ymadrodd llafar am  ofergoel yw hwn. e.e. ‘Rhyw goel gwrach yw credu bod sathru ar falwen ddu yn tynnu glaw, ynte?’ Rhywbeth yn debyg yw’r dywediad ‘chwedl gwrach’, sef ‘stori chwech’ fel dywed eraill. Ystyr y ddau ddywediad  yw stori heb ddim sylwedd iddi hi o gwbl. Mae gennyf gof o glywed  un o’r Blaenau un tro yn  disgrifio cegiad o ddannedd mawr blêr rhyw ddynes  fel ‘dannedd gwrach’. Dwn  i ddim os clywsoch chi am ddywediad tebyg?
------------------------------------------------

*Geiriau Coll

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2005.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon