ENILLYDD YSGOLORIAETH PATAGONIA 2025
Nos Fawrth, Ebrill 1af, yn siambr y cyngor yn Y Ganolfan, dyfarnwyd Ysgoloriaeth Rawson Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog i Cadi Dafydd.
Mae Cadi wedi ei geni a’i magu yng Nghwm Teigl ac mae’n dal i fyw yn lleol. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Bro Cynfal, Llan Ffestiniog ac yn Ysgol y Moelwyn. Ar ôl treulio tair blynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio B.A. mewn Llenyddiaeth a Hanes Cymru, a derbyn gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf, penderfynodd fynd ymlaen i gyflawni M.A. mewn Hanes Cymru gan ganolbwyntio yn ei thraethawd hir ar salwch meddwl a hunanladdiadau yn ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru rhwng c.1860 a 1914, gyda chryn sylw yn cael ei roi i brofiadau merched dyffrynnoedd Peris, Nantlle ac Ogwen, a bro Ffestiniog.
![]() |
Cadi Dafydd (canol y llun) ynghyd â’r Cynghorydd Rory Francis a’r pedwar beirniad, Ceinwen Humphreys, Anwen Jones, Nans Rowlands a Tecwyn Vaughan Jones |
Ers pum mlynedd bu Cadi yn gweithio fel golygydd cyffredinol i’r cylchgrawn Cymraeg poblogaidd Golwg ac mae pob rhifyn wythnosol yn cynnwys erthyglau swmpus ganddi ar sawl pwnc. Y dyddiau hyn, yn ogystal, mae’n gweithio tridiau’r wythnos yn Siop Lyfrau’r Hen Bost ar y Stryd Fawr. Mae hefyd yn olygydd misoedd Ionawr a Chwefror Llafar Bro.
Bydd Cadi yn teithio i Batagonia yn ystod eleni ac mae ei sgiliau newyddiadurol yn cyflwyno cyd-destun newydd i’r ysgoloriaeth hon.
Pob lwc i Cadi yn Y Wladfa ac yn sicr bydd lluniau yn cyrraedd yn y man i ni eu cynnwys yn Llafar.
Tecwyn Vaughan Jones
- - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon