29.6.18

Miss Gwynedd yn dal sylw

Taith Shonie Williams i ffeinal ‘Miss Cymru’. Erthygl gan Rhydian Morgan.

Os cofiwch chi yn ôl i rifyn Mawrth, ar dudalen flaen Llafar Bro, ‘roedd hanes y ferch leol, Shonie Williams, oedd yn brwydro am deitl Miss Cymru. Wel, ar benwythnos olaf Ebrill, daeth yr amser ar gyfer y ffeinal fawreddog yn Theatr Glan Yr Afon, Casnewydd. Bu i 28 o ferched ifanc o bob cwr o’r wlad gamu ar y llwyfan, a hynny ar dri ymddangosiad gwahanol. Cynhaliwyd cyfweliadau i bob un ohonyn nhw hefyd efo’r panel beirniadu.

Cynhaliwyd Dawns Elusennol Miss Cymru, pryd y cyflwynwyd gwobrau mewn sawl categori. Un o’r categorïau yma oedd am y ‘Best Publicity Award’, ac mae’n bleser cael dweud mai Shonie oedd enillydd y wobr yma!


Ar y noson wedyn, daeth yr adeg i gynnal yr hyn oedd Shonie wedi gweithio mor galed ar ei gyfer:
A fyddai Shonie yn cipio teitl Miss Cymru?


Yn anffodus, aflwyddiannus fu ymdrechion ein seren ni i gipio’r brif wobr. Ond er y siom yma, roedd hi’n hynod galonogol derbyn y wybodaeth yma a bostiwyd ar Facebook gan ei chwaer fawr, Alex:
“Neithiwr, mi enillodd y ‘Best Publicity Award’,  a heno, mae hi wedi ei choroni yn ‘MISS GWYNEDD’.  Yn y gystadleuaeth gyfan, gorffennodd yn y 5 safle uchaf! Mae hi wedi gwneud yn anhygoel, a da ni mor browd ohoni! Mae’n deg deud mod i’n eitha emosiynol ar hyn o bryd a mor hapus drosti!”
Hwyrach i chi weld Shonie, a hefyd ei mam a’i chwaer, ar raglen ‘Heno’ yn siarad efo ‘Huw Ffash!’

Fel cydweithiwr i Shonie yng Ngwesty ‘Seren’, dwi’n siŵr y ca’ i ddatgan ar ran yr holl staff pa mor falch yr ydym ni o’i llwyddiant aruthrol. Yn wir, rydym ni fel ardal yn ymfalchïo yn ei llwyddiannau diweddar ac yn ei llongyfarch ar gyrraedd safle anrhydeddus mewn cystadleuaeth o safon mor uchel!
----------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2018



25.6.18

Stolpia -bwyell

Parhau cyfres Steffan ab Owain am Hynt a Helynt hogia’r Rhiw yn y 50'au

Rwyf wedi sôn mwy nag unwaith yn Stolpia am y domen lwch lli a fyddai ar yr ochr draw i afon Barlwyd, ac i gyfeiriad Tomen Fawr Chwarel Oakeley yn ardal Glan-y-Pwll, on’do?

Wel, roedd cwmni Mr. Tudor, Trawsfynydd, a oedd yn gweithio’r felin goed gerllaw wedi codi pont bren (pompren) i’r diben o groesi tros yr afon gyda berfâu yn llawn llwch lli i’w tipio ar y tir yr ochr draw, ac wrth gwrs, bu hynny yn digwydd yn gyson am flynyddoedd nes yr oedd tomen fawr ohono yno yn y diwedd. Hwn oedd ‘anialwch’ hogia’r Rhiw a Glan-y-pwll pan yr oeddem yn chwarae cowbois ac indiaid yn nyddiau’r 50au.

Melin goed Glanypwll. Llun o gasgliad Steffan

Un tro, yn ystod diwrnod braf un haf, tra’n cerdded ar hyd ochr yr afon efo’r hogiau, deuthum ar draws pen bwyell wedi ei thaflu ar y lan, ac er ei bod ychydig yn rhydlyd, roeddwn yn meddwl yn siŵr y byddai’n gwneud tomahoc dda i ni gael chwarae efo hi. Gan nad oedd coes, neu droed arni, fel y dywed rhai, euthum i’r domen gwastraff coed a fyddai rhwng y felin a chefnau tai Glan Barlwyd i chwilio am ddefnydd coes.

Wedi dod o hyd i goedyn addas, gosodais fel coes ym mhen y fwyell,  ac wrth gwrs, roedd yn rhaid rhoi tro arni hi i weld os gallai dorri drwy’r coed a’r rhisgl o gylch y lle. Wedi canfod ei bod yn gwneud ei gwaith yn foddhaol, mi es ati hi i dreio’n llaw ar rywbeth mwy - sef rhan isaf y bont bren a groesai’r afon. Ar ôl taro y cynhalbost agosa at y felin sawl tro a gweld bod yr hen fwyell yn gwneud ei hôl arno yn bur dda, mae’n rhaid bod y sŵn y taro a’r torri wedi cyrraedd clust gweithwyr y felin, a pheth nesaf roedd Mr Iorwerth Powell, y fforman, (sef gŵr y ddiweddar, Annie Powell, Bryn Twrog) yn sefyll ar y bont yn edrych i lawr ar y fandal bach. A dyma floedd o’i enau:
“Be’ wyt ti’n feddwl wyt i’n wneud y cena’ bach yn torri’n pont ni ?!”
Dim byd ” meddwn innau yn ddiniwed - a’i sgrialu hi am adre’ nerth fy nhraed. Byddai Annie Powell yn fy atgoffa am un o’m helyntion bore oes o dro i dro, ac yn gwenu wrth adrodd y stori.
-------------------------------------

Ymdangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).


21.6.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -5

Ar ôl crwydro o fferm y Ffynnon i Fwlch Iocyn yn y bennod ddwytha, dyma ran olaf plwyf Ffestiniog Les Darbyshire, a Thrawsfynydd yn dilyn y tro nesa'.

Y ffarm nesaf ydyw Pengwern, hon yn ‘home farm’ y Plas yn cael ei rhedeg gan y goruchwyliwr, ffarm daclus a glân ond er budd y Plas yn unig. Ymlaen ar hyd yr hen ffordd i fferm Bryn Rhug a oedd yn medru cadw y teulu ar gynnyrch y ffarm ac nid oedd angen iddynt gael gwaith tu allan i'r ffarm. Dal ymlaen ar y ffordd a throi i fyny Lôn Dywyll sydd yn ymuno â'r brif ffordd ger y tŷ o’r enw Cartref, neu fel yr oedd yn cael ei adnabod -Plas Bowton-  ac ar ochr arall i'r ffordd, mae ffarm Teiliau Bach, hon eto yn ffarm lewyrchus, a hefyd gerllaw Teiliau Mawr.

I orffen y daith awn yn ôl i gylch Bethania i weld y ffermydd bach yno. Tŷ’n Drain, Penbryn, a'r Fuches Wen:  tyddynnod i gyd ond yn bwysig i'r gymdogaeth, a dyna cylch y Blaenau wedi cau.

Yn bwysig i'r ffermydd defaid oedd yr hawl i'w defaid gael pori ar y mynydd. Roedd gan bob ffarm rif neilltuol yr oedd yn rhaid cadw ato. Tybed, erbyn heddiw, be ydi hanes yr hawl yma? 

Roedd gan ffarm Tyddyn Gwyn hawl i ddefaid a'r ceffylau bori ar fynydd Tanymanod ac ar y mynydd rhwng y gwaith sets Pengwern draw at Gae Clyd.

Er mai hanes ffermydd sydd ganddom, mae yna hefyd yn yr un cyfnod, weithgareddau eraill yn gysylltiedig mwy na heb gyda'r ffermydd, sef cariwrs. Hyd y gwn i roedd yna gariwrs yn Nhanygrisau, Blaenau, Manod a Llan i gyd gyda’u trol a cheffyl. Roeddent yn rhan o'r gymdeithas - yn y Manod roedd Bob Tyddyn Gwyn hefyd yn gariwr, byddai yn clirio'r lludw ar ddydd Llun ac wedyn yn dosbarthu glo, hyn yn golygu llwytho'r glo o'r tryc lein i'r drol ac wedyn ei bwyso a mynd a fo i gwsmeriaid Richard Lewis, John Jones y Post a Dafydd John Russell.  Yn hwyrach fe brynwyd busnes glo Richard Lewis gan y Co-op lleol a sefydlu iard Stesion Manod yn brif depot glo iddynt, a hyn mewn rhyw ffordd oedd yr ergyd olaf i'r cariwrs lleol.  Roedd y Co-op yn defnyddio loris mecanyddol i ddosbarthu’r glo, a hefyd yn medru ehangu y cylch, nid oedd angen ceffyl a throl mwyach.

Un arall oedd yn gariwr oedd Harri Glasfryn o gylch Bethania.  Hen lanc oedd Harri a Mary Bank oedd ei ‘housekeeper’, un o Benmachno oedd hi. Roedd gan Harri drol a cheffyl at waith lleol, ac roedd ganddo un neu ddau o geffylau yn gweithio yn y chwarel. Cofiaf i'r ceffyl a oedd yn gweithio yn y chwarel farw. Nid oedd Harri yn gefnog a dyma y gymdogaeth yn casglu arian i brynu ceffyl arall iddo.

Diddorol hefyd yw hanes beth a elwir yn ‘Y Midnight Express’ -  roedd y cyngor lleol yn cyflogi cariwr gyda throl pwrpasol i glirio golch ayyb, o'r tai nad oedd wedi ei cysylltu â phibellau carthffosaeth ac roedd hyn yn cael eu wneud liw nos - nid wyf yn cofio enw y cariwr, ond yr oedd yn un rhadlon braf ei fyd, yr oedd ganddo fodrwy aur yn un glust, peth anghyffredin yn y cyfnod yna i ddynion.   

Yn olaf, darn arall pwysig i’r byd amaethyddol oedd y busnes llaeth. Yr oedd llawer ohonnynt yn y cylch, Harri Pritchard, Lewis Dorfil, Davies Bowydd, a Glyn Dairy i enwi ond ychydig. Byddant yn mynd i wahanol ffermydd i gasglu llefrith ac wedyn yn ei ddosbarthu i'w cwsmeriaid. Y llaeth yn y mwyafrif mewn poteli gwydr a oedd yn dal peint - ond cyn hynny byddant yn dod a fo mewn piser a defnyddio piser mesur peint, neu un hanner peint, i arllwys y llefrith i jwg y cwsmar.

Byddant allan ym mhob math o dywydd, diolch amdanynt ac am eu hymroddiad i'r gwaith.
---------------------------------------------

Dyma ail hanner erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod.
Llun -Paul W

17.6.18

Y Dref Werdd yn Hau Hadau'r Dyfodol

Mae’r Dref Werdd wedi bod yn chwysu chwartia dros y dair blynedd diwethaf yn datblygu mannau gwyrdd ar draws Bro Ffestiniog ac yn ddiweddar maent wedi ymestyn eu gwreiddiau i Ysgol Manod.

Llun- Y Dref Werdd

Gyda chymorth Cyngor Tref Ffestiniog a Pharc Cenedlaethol Eryri, aethwyd ymlaen i blannu coed ffrwythau brodorol ar gae chwarae’r ysgol gyda phlant blwyddyn 3 a 4 ar fore gwlyb yn mis Mawrth.
Fe ddefnyddiwyd ffrwythau Cymreig ar y diwrnod i godi ymwybyddiaeth am y diffyg coed brodorol sydd o’n cwmpas ym Mlaenau Ffestiniog.

A wyddoch chi fod Blaenau Ffestiniog yn un o drefi Cymru sydd a’r dwysedd lleiaf o goed yn ôl Coed Cadw?

Llun -Paul W
I adfer hyn mae’r Dref Werdd am ddechrau ymgyrch i blannu gymaint o goed brodorol ac sydd bosib o fewn ein hardal. Mae ystadegau’n dangos fod niferoedd uwch o goed yn gwella’r amgylchedd leol yn ecolegol gan gynnwys iechyd meddwl a llesiant cymunedol.

A fuasech yn gefnogol o brosiect fel hyn? Oes gennych awgrymiadau am lefydd yn ein hardal gallwn wella gyda choed?

Mae’r Dref Werdd yn gwahodd syniadau newydd i helpu ddylunio cynllun allwn ni weithredu yn effeithiol. Gallwch gysylltu â’r Dref Werdd drwy ffonio 01766 830 082 neu e-bostio ymholiadau@drefwerdd.cymru
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018.
Dilynwch hynt a helynt Y Dref Werdd efo'r ddolen isod.
 

13.6.18

Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ieuentid Bro Ffestiniog 1968

Dyma gopi o lun a anfonwyd imi'n ddiweddar:

(Cefn o’r chwith): Maldwyn Parry, Ceryl Wyn Davies, Gareth Jones;
(Rhês flaen o’r chwith): Elwyn Hughes (llyfrgellydd ac yna glerc y cyngor tref am flynyddoedd), Morwen Davies (gwraig Powys Davies y fferyllydd), Pegi Lloyd Williams a Geraint Vaughan Jones.


Roedd yn eisteddfod uchelgeisiol ar y pryd ac yn derbyn cefnogaeth eang o fewn y gymuned, a neuadd Ysgol y Moelwyn dan ei sang bob blwyddyn. Cystadleuaeth y Goron oedd yr uchafbwynt, a'r goron honno yn un hardd iawn, o waith cywrain a chwbwl wirfoddol y diweddar Griff Jones o Gae Clyd. Menna Elfyn (enw diarth i bawb ar y pryd!) oedd yr enillydd cyntaf, a dwi'n tybio mai Brian Ifans, Talsarnau ddaeth yn fuddugol yr ail dro.

Dydw i ddim yn cofio am sawl bwyddyn y cynhaliwyd yr eisteddfod.
Falla y byddai hwnnw'n gwestiwn i'r darllenwyr!


A rwan dyma ddod o hyd i lun coroni Brian. Yr osgordd fel a ganlyn o'r chwith - Deian Evans (mab y Parch Irfon Evans, gweinidog Jeriwsalem yn y dyddia hynny), Rhian Haf (merch Ernest a Blodwen Thomas, Llan), Ann Morgan (merch Ron Morgan, prifathro Ysgol Llan y pryd hynny) a Bryn Williams (Trawsfynydd - gŵr Ann erbyn hyn, wrth gwrs).

GVJ
---------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2018


9.6.18

Briwsion -priodas ac angladd

Cyfres Nia Williams

Priodasau
Mi roedd priodas yn achlysur cymdeithasol i’r holl ardal. Adnewyddwyd Capel y Rhiw tua 1948 a bu nifer o briodasau yn dilyn hynny. Mrs Griffiths (mam June, Marjory a Dilys) oedd gofalwraig y capel. Y hi oedd yn rhoi’r arwydd, drwy chwifio hances, i’r organyddes gael gwybod bod y briodferch wedi cyrraedd. Yr organyddion fyddai – Elwyn Roberts (fu’n Brifathro Ysgol y Moelwyn), Alwena Davies, Mari Ceinwen, Gwen (mam Raymond ac Emlyn) a Jinny Wilson (mam Evelyn). Gyda llaw mi roedd Rhiannon awr yn hwyr yn cyrraedd a hithau‘n byw dros ffordd i’r capel!

Heidiai’r plant i seddau yng nghefn y capel, a chwarae teg inni fuo na erioed ddim stŵr. Tra oedd y pâr ifanc yn arwyddo’r cofrestr yn y festri, caem ni gyfle i sefyll wrth y rheiliau a chael gweld y tynnu lluniau.

Y priodasau ydw i yn gofio ydi  Rhiannon, Mari Ceinwen, Luned Pierce a Derek ac Alwena ac Elwyn. Tua diwedd y pnawn mi fyddai’r pâr priod yn gadael am eu mis-mêl ar y trên, Byddai clecars yn cael eu tanio fel bod y dref i gyd yn gwybod bod priodas wedi bod. Safem ni’r plant ger bont y lein yn chwifio.

Yn aml iawn digwyddai’r priodasau cyn diwedd y flwyddyn dreth, er mwyn rhyw fantais ariannol.

Angladdau
Bu dau angladd yn ardal Glanpwll pan oeddwn i tua 8 oed. Un oedd merch ifanc tua 20 oed, yn byw yn y tai steps ger pont y rheilffordd. Bu yn llesg am dipyn o amser. Er bod ein llenni ni wedi eu cau, mi welais yr arch yn cael ei chario i lawr y grisiau troellog cul. Dim ond hers a phawb arall yn cerdded. Mi gofiwch yn aml iawn y byddid yn cyhoeddi “cynhebrwng dynion yn unig” neu “cynhebrwng gwadd”.

Yr angladd arall oedd un hogyn tua 8 oed oedd o. Bu farw drwy ddamwain. Daeth lori lo, ac ar ôl dadlwytho neidiodd y gyrrwr i’r caban a chychwyn y lori, heb wybod ei fod o ac eraill wedi neidio, gan afael yng nghefn y lori er mwyn cael reid. Yn anffodus yn lle symud ymlaen, ysgytwodd y lori am yn ôl, collodd Robat afael yn y lori ac aeth olwyn y lori trosto. Cofiaf y Prifathro J.E. Williams (Dramodydd) yn rhoi teyrnged iddo yn y gwasanaeth – dweud mai bachgen mor annwyl oedd o. Hynny yn wir - mi roedd yn un o’n criw chwarae ni. Cawsom fel criw fynd i'w weld yn ei arch, edrychai fel pe bai yn cysgu. Ysgrifen ar ei wisg wen “Yr Arglwydd yw fy mugail…” Edrychai yn naturiol, yn fodlon dawel  wedi “llithro i’r tawelwch mawr yn ôl”. Wnaeth y profiad ddim codi braw na rhoi hunllef i mi - byw a marw yn bethau naturiol, yn rhan o fywyd, a’i brofi o gyda’r criw. Y marw ddim yn codi ofn. Does gen i ddim cof am y cynhebrwng - mae’n siŵr ei fod ar adeg pan oeddem ni yn yr ysgol. Fel plant mi wnaethom gynnal aml i wasanaeth claddu i adar ac ambell anifail - a hynny yn drefnus, gydag urddas a difrifoldeb.

Fe wyddem bod marwolaeth yn y fro pan welem y saer William Griffiths, Y Nest yn cerdded heibio.

Y cynhebrwng mwyaf niferus, o ran cerddwyr yn dilyn yr arch oedd un Owen Dwyryd (ar lafar gwlad Joni Blawd, gan mai melinydd ydoedd.) Teulu wedi arbenigo mewn canu penillion a chwarae telyn. Pan oedd angladd pwysig fel hyn byddai’r heddlu (un!) yn atal y traffig a byddai’r fintai yn cerdded drwy’r dre i Manod (mynwent Bethesda). Byddai chwarelwyr yn colli hanner diwrnod (hanner stem) o gyflog.
----------------------------------------------

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2018.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod.

(Llun- Paul W)


5.6.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -4

Parhau â chyfres Les Derbyshire

Yn y brif ffordd i'r dde o’r fynediad i Frondirion mae adeilad Rhiwlas, ond does dim gwybodaeth be oedd ei hanes, na'i bwrpas. Mynd i lawr at dai Tanrhos ac yn y cylch yma mae rhyw bump o ffermydd neu dyddynnod - sef Ffynnon (neu Y Ffatri fel y'i gelwid yn ogystal),  Tŷ Newydd Ffynnon, Hendre Ddu a Llwyn Crai.

Yn Ffynnon y trigai John a Mary Evans a'i mherch Myra, tyddyn bach cyffyrddus a John yn gweithio yn y chwarel.  Yr un patrwm yn Nhŷ Newydd Ffynnon gyda’r tad yn y chwarel a'i wraig, y mab a’i ddwy ferch gartref yn gwylio’r ffarm. Hendre Ddu oedd y ffarm wedi ei lleoli ar ochr y ffordd ac yn is na’r Ffatri. William Lloyd a'i wraig oedd yno gyda phump o blant sef Megan, Edwyn, Wyn, Dafydd a Winni. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu y tri o hogiau yn y fyddin a bu Dafydd yn garcharor yn yr Almaen am gyfnod go hir gan ddioddef llawer.  Bu i Edwyn briodi merch o Loegr ac fe wnaeth ei gartref ym mro ei wraig ar ôl y rhyfel.

Mae Llwyn Crai yn ddieithr imi - ond roeddwn yn adnabod un a oedd wedi ei fagu yna, sef James Vernon, a oedd  yn signalman yn Stesion Grêt. Erbyn heddiw mae yn un o ffermydd mwyaf y cylch. Mae ffordd drol yn arwain o Lwyn Crai, croesi'r ffordd newydd ac i fyny i ffarm Bwlch Iocyn, hon yn hen ffarm bwysig yn ei dydd - ffarm ddefaid yn bennaf, ond yn cadw gwartheg hefyd a'r unig fferm yng nghylch Manod oedd yn cadw tarw.  ʼRoedd tarw Bwlch Iocyn wedi ei bridio oddiwrth wartheg duon Cymreig ac roedd hanes fod y tarw yn un peryg’. Roedd William Owens o dai Glanywern yn fforddoliwr ar lein y GWR a phan oeddent yn gweithio o gwmpas cae Bwlch Iocyn a'r tarw yn y cae, byddant yn aflonyddu arno a'i wylltio, ond rhyw ddiwrnod bu rhaid i William groesi’r ffens a mynd i’r cae.  Yn anffodus, roedd yr hen darw yno hefyd, a phan welodd William, dyma’n dechrau rhedeg ato. Unochrog oedd y frwydr, a bu rhaid mynd a William gartref achos ei glwyfau, ond yn dra lwcus am ei fywyd. Mae hen ddywediad Saesneg yn dweud ‘Elephants never forget’. Credaf bod hyn yn wir am deirw Bwlch Iocyn hefyd!

Mae’r tŷ yn dyddio yn ôl i'r pymthegfed ganrif.  Roedd Bwlch Iocyn yn arbennig am y peiriant corddi a oedd yno, yn wahanol i'r arferiad, cŵn oedd yn gweithio yr olwyn i droi y fuddai, yn anffodus fe wnaed i ffwrdd a fo rai blynyddoedd yn ôl.  Yn ddiddorol pan oedd un yn mynd i'r ffarm i gael llaeth neu wyau, y ddefod oedd  i gario piser o ddŵr o'r pistyll bach a oedd rhyw chwarter milltir i ffwrdd o'r tŷ. Roedd y pistyll ar ochr y brif ffordd, ac yn bistyll da gyda’r dŵr bob amser yn glir fel grisial ac yn oer, roedd yn dal i weithredu hyd yn oed mewn amser o rew - ond fel popeth arall dyn a'i ddiweddu.  Bu i'r Cyngor Sir wneud gwelliannau i'r ffordd a drwy hynny fe gollwyd y pistyll am byth. Ni wn beth oedd sefyllfa dŵr ar y ffarm, na pam bod rhaid mynd a dŵr i'r tŷ, oedd yna ffynnon oddeutu y tŷ? Gwyddom mai yn y saithdegau y bu i'r Bwrdd Dŵr gysylltu'r ffarm a'i chyflenwad dŵr. Roedd colli y pistyll yn golled i'r ardal, yma y cawsant ddŵr pan oedd argyfwng ar y cyflenwad cyhoeddus, neu achos rhewi'r pibellau.    

Bu i'r ffarm orffen cyn yr Ail Ryfel Byd a’r tŷ yn cael ei werthu fel tŷ preifat. Bu i John Lloyd y saer, ei atgyweirio i'r perchenog newydd.  Dywedir mai Mr Wiley a oedd yn gysylltiol â Gwesty Portmeirion a theulu Clough Williams-Ellis oedd y perchnogion newydd.

Wedyn bu i un o fawrion y byd llenyddiaeth ymgartrefu yno am dair blynedd, sef Arthur Koestler a'i ail wraig Mamaine.  Iddew o Hwngari oedd yn wreiddiol, ond wedi cael amser caled a rhyfeddol bu yn y Lleng Ffrengig (French Foreign Legion), yn garcharor yn yr Almaen, a bu hefyd yn filwr ym myddin Prydain. Yr oedd yn ffrind i Bertram Russell a theulu Clough Williams-Ellis, a phan ysgrifennodd ‘Darkness at Noon’, daeth George Orwell i Bwlch Iocyn am bythefnos i archwilio'r llyfr newydd.                                            

Bu i Marcus Wright a'i wraig ddod yno wedyn,  nis gwyddwn be oedd ei waith,  roedd ganddo gar gwych ‘Bristol’ a oedd yn gar ‘hand made’, o’r un categori a'r Rolls Royce.  Yr oedd ei wraig yn olffwraig gwych ac yn aelod o dîm Cymru.
------------------------

Hanner gyntaf y bennod a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2018 yw'r uchod.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod.