Showing posts with label tomen lwch lli. Show all posts
Showing posts with label tomen lwch lli. Show all posts

25.6.18

Stolpia -bwyell

Parhau cyfres Steffan ab Owain am Hynt a Helynt hogia’r Rhiw yn y 50'au

Rwyf wedi sôn mwy nag unwaith yn Stolpia am y domen lwch lli a fyddai ar yr ochr draw i afon Barlwyd, ac i gyfeiriad Tomen Fawr Chwarel Oakeley yn ardal Glan-y-Pwll, on’do?

Wel, roedd cwmni Mr. Tudor, Trawsfynydd, a oedd yn gweithio’r felin goed gerllaw wedi codi pont bren (pompren) i’r diben o groesi tros yr afon gyda berfâu yn llawn llwch lli i’w tipio ar y tir yr ochr draw, ac wrth gwrs, bu hynny yn digwydd yn gyson am flynyddoedd nes yr oedd tomen fawr ohono yno yn y diwedd. Hwn oedd ‘anialwch’ hogia’r Rhiw a Glan-y-pwll pan yr oeddem yn chwarae cowbois ac indiaid yn nyddiau’r 50au.

Melin goed Glanypwll. Llun o gasgliad Steffan

Un tro, yn ystod diwrnod braf un haf, tra’n cerdded ar hyd ochr yr afon efo’r hogiau, deuthum ar draws pen bwyell wedi ei thaflu ar y lan, ac er ei bod ychydig yn rhydlyd, roeddwn yn meddwl yn siŵr y byddai’n gwneud tomahoc dda i ni gael chwarae efo hi. Gan nad oedd coes, neu droed arni, fel y dywed rhai, euthum i’r domen gwastraff coed a fyddai rhwng y felin a chefnau tai Glan Barlwyd i chwilio am ddefnydd coes.

Wedi dod o hyd i goedyn addas, gosodais fel coes ym mhen y fwyell,  ac wrth gwrs, roedd yn rhaid rhoi tro arni hi i weld os gallai dorri drwy’r coed a’r rhisgl o gylch y lle. Wedi canfod ei bod yn gwneud ei gwaith yn foddhaol, mi es ati hi i dreio’n llaw ar rywbeth mwy - sef rhan isaf y bont bren a groesai’r afon. Ar ôl taro y cynhalbost agosa at y felin sawl tro a gweld bod yr hen fwyell yn gwneud ei hôl arno yn bur dda, mae’n rhaid bod y sŵn y taro a’r torri wedi cyrraedd clust gweithwyr y felin, a pheth nesaf roedd Mr Iorwerth Powell, y fforman, (sef gŵr y ddiweddar, Annie Powell, Bryn Twrog) yn sefyll ar y bont yn edrych i lawr ar y fandal bach. A dyma floedd o’i enau:
“Be’ wyt ti’n feddwl wyt i’n wneud y cena’ bach yn torri’n pont ni ?!”
“Dim byd ” meddwn innau yn ddiniwed - a’i sgrialu hi am adre’ nerth fy nhraed. Byddai Annie Powell yn fy atgoffa am un o’m helyntion bore oes o dro i dro, ac yn gwenu wrth adrodd y stori.
-------------------------------------

Ymdangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (rhaid dewis web view os yn darllen ar ffôn).


3.4.18

Briwsion

Cyfres newydd gan Nia Williams

Siop Chips Glanypwll

Fel plentyn y '40au mi roedd yna siop chips ardderchog yng Nglanypwll. Y perchnogion oedd Mr a Mrs Glyn Griffiths.  Mi roedd yna ddwy ferch - Gladys a Freda. Mae’n debyg bod Gladys wedi  bod yn mynd a fi am dro yn y pram ac o hynny ymlaen, y hi oedd yn fy ngwarchod yn ei chartref.  Dim ond rhyw wyth oed oedd hi.

Mi roedd Nain Gladys yn byw hefo nhw. Dynes yn gwisgo cap dyn, a barclod bras (sach) drwy’r amser, ac yn yfed te allan o soser.  Pan ddaeth yn amser imi fynd i’r ysgol - Gladys aeth a fi. Aeth i’r County, a chofiaf ei gweld yn gwisgo cap pig gyda chylchoedd melyn ar gefndir glas tywyll.

Aeth Gladys yn ei blaen i Goleg y Santes Fair ym Mangor, ac ymlaen wedyn fel athrawes. Cadwodd mewn cysylltiad â’r Blaenau tros y blynyddoedd trwy Mrs Anni Powell, Bryn Golau. Bu farw yn Swydd Gaer  y llynedd.  Credaf fod Freda yn Ficer ger Llwydlo.

Eglwyswyr oeddynt fel teulu. Mi oedd llun o’r tad yn llifrau côr yr eglwys. Roedd hyn yn rhyfedd i mi fel plentyn - dyn mewn coban wen. Mi oedd o hefyd yn aelod o’r  Frigâd Dân ac roeddem wrth ein boddau pan ddeuent i ymarfer ger y domen lwch lli.

Yn aml ar nos Wener caem bryd o “fish a chips” a byddwn wrth fy modd yn gwrando ar y sgwrsio a’r tynnu coes.  Cai'r tatws eu malu gyda pheiriant llaw a gorau po hiraf oedd rhaid disgwyl am y bwyd er mwyn cael gwrando ar y sgwrs!  Ymhen amser cafodd Glyn fan a byddai yn crwydro’r dref yn gwerthu pysgod.

Pan oedd Freda  tua wyth oed symudodd y teulu i fyw i Wigan ac yno y buont.
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2018.

Llun -Paul W


24.1.18

Stolpia -gwaywffon a sled

Pennod arall o gyfres 'Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au' gan Steffan ab Owain.

Daeth ambell beth arall i’m côf ar ôl imi ysgrifennu’n strytyn diwethaf am yr hen hogiau. Cofiaf fel y byddem ni’r hogiau a oedd ychydig yn iau na Raymond Cooke Thomas yn ei edmygu ac yn edrych arno fel tipyn o arwr gan nad oedd neb yn gallu ei guro ar daflu javelin yn yr ysgol na thaflu sbîar bren o’r felin goed yng Nglan-y-Pwll. Fel rheol, byddem yn croesi’r bont ac i’r domen lwch lli’ er mwyn chwarae Cowbois ac Indians, neu daflu picell neu sbîar, fel y dywedem.

Bu'n ychydig o gystadleuaeth rhyngom un tro, a ninnau yn ceisio ein gorau i daflu’r sbîar bren o un pen o’r domen lwch lli i’r pen arall, ond nid oedd hyd yn oed y gorau ohonom yn gallu ei thaflu mwy na rhyw hanner ffordd dros y domen.Yna, gafaelodd Rem yn yr un a oedd ganddo fo a’i thaflu dros y domen gyfan nes y diflannodd o’r golwg yng nghanol y brwyn. Roedd hi’n anodd i’r un ohonom gredu y gallai ei thaflu mor bell!

Cofiais hefyd fy mod â llun a dynnodd fy nhad yn y 50au o’m diweddar ewythr Yncl John, gŵr cyntaf Anti Meg, Bryn Tawel, yn dringo’r graig ar Garreg Flaenllym ger Nyth y Gigfran a’r domen lwch lli i’w gweld ymhell islaw.

A dod yn ôl at ein hanturiaethau, cofiaf Rem yn gwneud ffon dafl, (tebyg i’r wmera a ddefnyddir gan gynfrodorion Awstralia) a thaflu y bicell oedd ar y ffon o ben boncan Cae Baltic a chyrhaeddodd rhywle y tu ôl i Gapel Salem, pellter o tua dau gan llath neu fwy. Y mae hi’n dda nad oedd neb yn digwydd bod yn cerdded yn y fan a’r lle pan syrthiodd y taflegryn i’r ddaear!

Yn y gaeaf, a phan oedd trwch o eira, byddem yn sledio (slejio) i lawr y rhiw heibio talcen Baltic Hotel hyd at wastad y cae, gan nad oedd fawr o gerbydau yn teithio y ffordd honno y pryd hynny. Os cofiaf yn iawn, roedd Rem wedi dangos inni y gellid sefyll ar y sled yn hytrach nag eistedd arni, neu orwedd ar ein boliau arni hi, ac felly, ceisiodd rhai ohonom ei efelychu, ond er inni ymdrechu yn galed a chael llawer o hwyl, methu rheoli y slej a chadw ein balans arni oedd ein hanes a syrthio ar ein hyd i’r eira a fu’r canlyniad.

Do, cafwyd llawer orig ddifyr yng nghwmni Rem a llawer cyfaill arall yn y 50au.
----------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar y ffôn.)