2.10.26

Stolpia- Hen Inclên Rheilffordd Ffestiniog

Y mae un neu ddau wedi bod yn fy holi yn ddiweddar sut y gweithiai yr hen inclên ogleddol a fyddai nid nepell oddi wrth geg yr hen dwnnel bach ac yn codi i fyny dros y bryn ar ochr ‘Llyn Gelli Wiog’, neu ‘Llyn Ceg Tynal’ gynt, fel y’i gelwid gan rai.

Dyma’r hanes yn fras. Pan ddechreuwyd ar y gwaith o wneud Rheilffordd Ffestiniog yn yr 1830au bwriad James Spooner y contractor oedd gyrru twnnel yn y rhan hon er mwyn hwyluso cludiant y llechi o’r chwareli, ond roedd Henry Archer, un o hyrwyddwyr amlycaf y fenter am iddynt wneud inclenau tros y bryncyn, a dyna a wnaed yn gyntaf. Penodwyd Robert Stephenson y peiriannydd enwog i arolygu’r gwaith. Dechreuwyd ar y gwaith o wneud y ddwy inclên yn 1834, un i fyny o gyffiniau Nant Ystradau, a’r llall i lawr tuag at Gelli Wiog, ond gan fod y cynllun gwreiddiol yn anfoddhaol bu’n rhaid eu gwneud eilwaith, ac o ganlyniad, ni agorwyd y rhan hon o’r rheilffordd tan fis Tachwedd 1836.

Gan mai gydag olwyn ddŵr y bwriedid gweithio yr un ar yr ochr ogleddol (pen Tanygrisiau) aethpwyd ati i godi cronfa ddŵr, sef ‘Llyn Gelli Wiog’ a gwneud ffos i gario’r dŵr oddi yno i droi’r olwyn. Gweler y cynllun isod o gyfnod diweddarach gydag atodiadau o’m eiddo wedi eu cynnwys arno.


Y mae hi’n bur debyg mai gyferbyn a’r fan lle ceir y gored mesur dŵr bresennol y byddai’r peiriant dirwyn y wageni i ben yr inclên. Gyda llaw, ffordd haearn sengl oedd ar yr inclên ogleddol ac un ddwbl ar yr un ddeheuol fel y gellid criwlio y wageni, sef gollwng y rhai llawn i lawr i godi’r gweigion, fel y gwneid ar rai yn y chwareli. Os edrychwch yn fanwl ar ran isaf yr inclên ddeheuol mi welwch gerrig syliau, h.y. cerrig gyda tyllau ynddynt a ddaliai’r rheiliau y pryd hynny, cyn dyddiau’r sliperi pren.

Pan wnaed prawf ar godi un wagen gyda thunnell a hanner o lechi ynddi cymerodd 4 munud iddi gyrraedd y 200 llath i ben yr inclên. Yr un amser, i bob pwrpas, a gymerodd dwy wagen i gyrraedd y top, ond pan geisiwyd codi tair ar y tro, torrodd un o’r strapiau arni hi a rhedodd y wageni i lawr yn eu holau. Roedd J. Spooner am iddi godi pum wagen ar y tro, ond nid oes sicrwydd y gweithredwyd ei amcanion. Pa fodd bynnag, gweithiodd yr inclên, rhywfodd neu’i gilydd, am tua 6 mlynedd a chludwyd rhai cannoedd o lechi arni hi.

Gwelwyd o fewn dim mai proses drafferthus iawn oedd codi’r wageni llechi tros y bryn, ac felly, penderfynwyd ar adfer drychfeddwl gwreiddiol J. Spooner a gyrru twnnel o dan y bryn. Dechreuwyd gweithio arno ym mis Rhagfyr 1839 a chwblhawyd y cyfan erbyn mis Mai 1842. Talodd hyn ar ei ganfed i’r cwmni rheilffordd gan fod rhediad rhwydd i’r wageni llechi wedyn i fynd i lawr y llinell i’r porthladd ym Mhorthmadog. Ei hyd yw 730 llath ( 667.5122m) gyda 3 siafft. Bu’n weithredol am dros 100 mlynedd. Gwnaed twnnel newydd yn 1977 gyda’r cynllun newydd i gyrraedd Blaenau a thorrwyd yr argae a gwagio’r llyn. Dyma lun a dynnwyd yn ddiweddar gennyf yn dangos llwybr yr hen Inclên heddiw (chwith) a’r trên islaw iddo yn dod trwy fwlch yn hen argae Llyn Gelli Wiog.


Wedi iddynt ddarfod â’r inclên gwelodd rywun y gellid gwneud defnydd o’r olwyn ddŵr a chodwyd melin yn ei hymyl ar gyfer llifio slabiau llechfaen. Gosodwyd hi ar les i Matthews Gloddfa Ganol gan fod prinder dŵr yn broblem yn ei chwarel. 

Yn y felin hon y bu Robert Roberts ‘Moelwyn Fardd’ a James Gruffydd, Dopog yn gweithio. Roedd Moelwyn Fardd yn gerfiwr meini heb ei ail ac yn englynwr pur fedrus. Dyma englyn beddargraff ei wraig ym mynwent Eglwys Dolwyddelan:

Gwraig gywir, eirwir, orau—o filoedd,
    Felus ei thymerau;
Syrth i'r bedd bob rhinweddau,
Oni chaiff hon ei choffhau.

O.N. Diolch i Chris Jones, awdur Trên Bach y Llan (2022) am y cynllun, yn ogystal a’i gymorth gyda’m ymchwil i’w hanes. 
 
- - - - - - - 

Pennod o gyfres Steffan ab Owain a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026 

 
 

1.10.26

Rhod y Rhigymwr- O’r Moelwyn i’r Preselau

Cynhaliwyd cyfarfod Cyfundeb Annibynwyr Meirionnydd yng Nghapel Carmel, Tanygrisiau yr haf hwn. Fel llywydd, mae gofyn i mi agor ein cyfarfodydd efo pwt o anerchiad. 

Gwyddom am sawl un a anwyd ac a fagwyd yn y pentref a wnaeth ei farc yn genedlaethol a thu hwnt. Dau enw a ddaw’n syth i’r meddwl ydy Gwyn Thomas a Merêd. Cefais gyfle yn y golofn yma dri mis yn ôl i gyfeirio at un arall o blant Tanygrisiau – John Griffith Moelwyn Hughes [1866-1944]. 

Priodol felly fyddai tynnu sylw at ŵr a anwyd yn Glaneulan ddechrau Ebrill 1933. Derbyniodd ei addysg yn ysgol gynradd y pentre a symud i’r Ysgol Sir. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed gan ddilyn ei dad i weithio yn Chwarel Maenofferen cyn penderfynu ei throi hi am y weinidogaeth ymhen pedair blynedd, a mynd i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Gwasanaethodd fel gweinidog ymroddedig gydag enwad y Bedyddwyr yng Ngogledd Penfro o 1958 hyd nes iddo ymddeol ychydig cyn ei farw yn 2006 ... cyfnod maith o bron 48 o flynyddoedd.

Sôn rydw i am Thomas Richard Jones - a adwaenwyd yn annwyl yn y parthau yma fel ‘Tomi Richard’ ... ac yn ei gymdogaeth i lawr yn ardal arfordirol gogledd Penfro fel ‘T.R.’ 

Yn ogystal â bod yn weinidog cymwynasgar a phregethwr huawdl, roedd yn emynydd a bardd nodedig. Roedd yn aelod ffyddlon o Orsedd y Beirdd a bu’n Llywydd Undeb y Bedyddwyr ym 1997. 
Ar ei faen coffa ym Mhenfro, mae’r geiriau yma ... ‘gŵr ei gartref, ei gymdogaeth a’i genedl a gwas ffyddlon i Gapel ac i Grist’ ... ynghyd â’r cwpled yma gan ei gyfaill, y diweddar Brifardd Eirwyn George, Maenclochog:

Gŵr clên a phen awenydd,
Dros Iesu bu’n ffaglu’r Ffydd.

Fel y nodais yn ‘Rhod’ Ionawr 2026, cyhoeddodd T.R gyfrol o gerddi ym 1975 ar y cyd efo Eirwyn George – ‘O’r Moelwyn i’r Preselau’.  Yn eu plith, mae’r englyn yma:

Magodd rywiog enwogion – a rhoddodd
    O’i rhuddin i’w meibion,
Nid ei glaw ond ei glewion
I’n tir yw gogoniant hon.

Does dim gwobr am ddyfalu mai ‘Stiniog’ ydy’r testun. Yn yr un gyfrol, canodd i fryniau’r ardal ac i Gwm Orthin. Dyma gerddi grymus yn y mesur penrhydd.

Meddai am Gwm Orthin:

Mae rheiliau rhydlyd ar lethrau Dôlrhedyn,
Ymgordeddodd y rhaff am faril y drym.
Ni ddaw labrwr wysg ei gefn at glip yr inclên
At y Samson gewynnog i griwlio’r slediadau.
Blinodd ein llygaid ar y rwbel a’r diffeithwch,
Taflasom sgarff o briffordd am wddf y Moelwyn.


Daeth T.R. yn bur agos at gipio coron Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman ym 1970 gyda dilyniant o gerddi di-gynghanedd. Pennawd ei ddilyniant oedd ‘Rhwng Groglith a Phasg fy nghenedl’. Nododd un o’r beirniaid, Eirian Davies, fod gan y bardd ‘ffordd ddeallus o drin geiriau’, tra disgrifia beirniad arall, Gwilym R. Jones ef fel ‘ffustiwr galluog o brydydd’. Daeth yn agos ar dro arall yn ogystal â chyrraedd y brig fwy nag unwaith yng nghystadleuaeth y soned a'r delyneg. 

Mae ganddo chwech o emynau yn ‘Caneuon Ffydd’ - sy’n tystio i’w ffydd a’i gred ac sy’n llawn o rin yr awen. Yn eu plith, mae’r un sy’n  seiliedig ar eiriau Iesu Grist yn y ddeunawfed bennod o Efengyl Mathew:

Oherwydd lle y mae dau neu dri wedi dod ynghyd yn fy enw i, yr wyf yno yn eu canol.

Mae’r emyn hwn mor berthnasol yn yr oes ddi-fudd, ddi-feddwl bresennol lle mae criw bychan iawn o hynafiaid yn ceisio cadw drysau’n capeli’n agored. 

Wrth ddyfod, Iesu, ger dy fron
diolchwn yn yr oedfa hon
am dy addewid rasol di
i fod ymhlith y ddau neu dri.

Rhanna bryder am ddirywiad y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru a’i ddyhead i herio’r sefyllfa ac i hau had yr adfywiad hyd ei oes:

O deued wedi’r hirlwm maith
dy wanwyn i fywhau y gwaith,
i’th Eglwys lân O anfon di
gydweithwyr at y ddau neu dri.

Mae Emyn 777, sy’n agor efo’r llinellau:

Yng nghyffro’r gwanwyn pan fo’r ias a’r hud
Yn cerdded yn gyfaredd drwy fy myd ...

yn cymhwyso’n grefftus dymhorau’r flwyddyn â thymhorau bywyd. 

Emyn personol a dwfn ydy Emyn 675 - un a gyfansoddodd T.R yn ystod cyfnod gwaeledd derfynol ei dad, George Washington Jones. Yn y dyddiau dreng yma yn hanes ein byd ac yn hanes ein capeli, mae’n emyn hynod o gyfoes:

Pan daeno’r nos o’n cylch 
ei chwrlid du yn fraw, 
fe gilia’r arswyd wrth i ni 
ymaflyd yn dy law.

Ewch ati i ddarllen emynau cyfoethog T.R. Mae coffa da amdano yn y parthau yma fel yng Ngogledd Penfro.

- - - - - - -

Rhan o gyfres Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026