Showing posts with label inclên. Show all posts
Showing posts with label inclên. Show all posts

30.11.24

Y Car Gwyllt

Darn gan Tecwyn V Jones, o rifyn Hydref 2024

O weld inclên Chwarel Garreg Ddu fel y mae heddiw ar dudalen flaen y rhifyn hwn, fasa rhywun erioed yn meddwl fod yr inclên yma wedi cynnal math o drafnidiaeth nas gwelwyd yn unman arall sef y car gwyllt ac y byddai gŵyl flynyddol yn Stiniog yn cael ei henwi ar ei ôl, mor effeithiol a gwych oedd y cerbyd bach hwn.

Llun Erwyn J

Dyfeisiwyd y car gwyllt tua 1870 gan Edward Ellis, gof y chwarel (llun). 

Yn ddiweddarach fe'u gwnaed gan Edward Jones, gof annibynnol oedd yn byw ar Ffordd Manod, oedd yn codi 5 swllt yr un amdanynt. Roedd gan bob chwarelwr ei gar ei hun ac felly cyffredin oedd i chwarelwyr brynu car gwyllt newydd gyda’u Tâl Mawr.

Tynnwyd cebl ar hyd yr incleiniau ac roedd cyfres o roleri cebl i lawr canol pob trac. Roedd y ceir yn osgoi'r rhain trwy redeg rhwng y ddau drac, gan ddefnyddio eu rheiliau mewnol yn unig. Yn hytrach na'r lled dwy droedfedd bron yn gyffredinol o reilffyrdd llechi Cymru, roedd y gofod hwn tua thair troedfedd.

Planc pren, tua dwy droedfedd o hyd oedd y car gwyllt ac olwynion yn cael eu rheoli gan frêc llaw syml a hawdd i’w drin. Er gwaethaf symlrwydd y syniad, roedd y ceir yn weddol soffistigedig yn eu gwneuthuriad. Gwnaed y rhan fwyaf gan yr efail, ond gwnaed yr olwyn cast gan ffowndri ym Mhorthmadog. 

Y Car Gwyllt -ar wal Tŷ Coffi Antur Stiniog

Roedd modd datod a thynnu handlen y brêc. Pan nad oedd yn cael ei ddefnyddio cafodd ei gario ym mhoced y chwarelwr, ffurf gyntefig o fesur gwrth-ladrad hwyrach?! Roedd car gwyllt heb frêc yn beryglus iawn petai rhywun yn ei ddefnyddio. Felly, am resymau diogelwch, rheolwyd y defnydd o’r car gwyllt a phenodwyd dynion cyfrifol, oeddynt fel rheol yn dal swyddi yn y chwarel, fel capteiniaid i arwain y daith i lawr yr inclên ar gyflymder diogel. Ar adegau byddai rhes o hyd at ddau gant o geir yn dod i lawr yr inclên tu ôl i’w gilydd!

Yn y chwareli mwy roedd chwarelwyr yn medru byw mewn barics ar y safle yn ystod yr wythnos ac roedd y gweddill yn byw yn yr ardaloedd islaw’r chwarel ac yn teithio i fyny bob dydd a rhain oedd perchnogion y ceir gwyllt. Roedd raid esgyn yr incleiniau bob bore, a chaent, fel arfer, eu tynnu i fyny mewn wagenni gwag (eu criwlio). Heb gar gwyllt roedd cerdded i lawr yn daith gerdded hir, er ei bod ar i waered. 

Chwarelwyr y Graig Ddu, y rhan fwyaf yn byw ym Manod ddaeth o hyd i ffordd o gyflymu eu taith gartref. Yn hytrach na cherdded yn ôl i lawr yr incleiniau, byddant yn defnyddio eu car gwyllt!

Ar ôl cyrraedd troed yr inclein olaf, byddai'r ceir yn cael eu gadael mewn lle arbennig a byddant yn cael eu codi yn ôl i fyny'r incleiniau yn ystod y diwrnod gwaith nesaf ynghyd a’u perchnogion.

Parhaodd y car gwyllt yn gyfyngedig i chwarel Graig Ddu. Roedd hyn oherwydd cynllun y ddau brif inclên: roeddynt yn ddigon hir i wneud yr arbed amser yn werth chweil, ond hefyd yn ddigon hawdd i gadw cyflymder dan reolaeth.. 

Daeth y dull gwahanol hwn o deithio yn fater o ddiddordeb y tu allan i'r chwareli ac yn 1935 roedd yn rhan o ffilm Newsreel Pathé News a elwid yn Railway Curiosities

 

Parhaodd chwarel y Graig Ddu i weithredu hyd ddiwedd y 1930au a dechrau'r Ail Ryfel Byd. Ail-agorodd yn fyr yn ystod y rhyfel, i gyflenwi llechi toi ar gyfer atgyweirio tai a chwalwyd yn y blitz.
- - - - - -

Erthyglau eraill sy'n crybwyll Y Car Gwyllt

Erthyglau Gŵyl Car Gwyllt


28.5.24

Stolpia- Mwy o Hen Ffilmiau

Colofn Reolaidd Steffan ab Owain, o rifyn Ebrill 2024

Gan fod un neu ddau ohonoch wedi cael blas ar fy strytyn diwethaf yn sôn am rai o’r hen ffilmiau yn cynnwys clipiau o’n bro, yn ogystal â’i phobl ar ambell un. 

Gwnaed ffilm gyda’r teitl The Phantom Light yn 1935 gyda Michael Powell yn ei chyfarwyddo, a Binnie Hale, Gordon Harker, Donald Calthrop, Milton Rosmer ac Ian Hunter  yn actio ynddi. Thema’r ffilm yw criw o ddrwgweithredwyr yn ceisio dychryn ceidwad newydd rhyw oleudy dychmygol ym Mhen Llŷn er mwyn iddynt gael rhwydd hynt i achosi llongddrylliad a’i hysbeilio. Yn rhan gyntaf y ffilm y mae’r gŵr sydd wedi ei benodi yn geidwad y goleudy yn cyrraedd gorsaf Tan-y-bwlch, ac yna yn cael pas mewn car i ben ei siwrnai. 

Ewch ar y we os hoffech ei gweld i gyd. Cyn i mi droi at y ffilm nesaf, tybed os gall rhai o’r darllenwyr ddweud wrthym beth oedd enw’r bwthyn bach sydd yn y llun hwn. Gyda llaw, safai ychydig  y tu allan i’n plwyf,  ond dymchwelwyd ef sawl blwyddyn yn ôl, bellach.



Ceir Gwyllt Chwarel y Graig Ddu
Rhyddhawyd ffilm Railway Curiosities o eiddo Pathe News yn y flwyddyn 1935 hefyd, ac ynddi cawn weld gweithwyr Chwarel y Graig Ddu gynt yn dod i lawr Inclên Glan Gors (sef yr un isaf o’r tair inclên) a phob un ar ei gar gwyllt ar wahân i’r rhai sydd wedi cyrraedd y gwaelod. 

Fel amryw ohonoch sy’n cymryd diddordeb yn hanes ein chwareli fe wyddoch yn bur dda bod sawl llun a chlipiau ar hen ffilmiau yn dangos y ceir gwyllt o’r cyfnod pan oeddynt yn eu bri. Credaf bod y ffilm hon, fodd bynnag, yn un o’r rhai gorau o’r oll ohonynt, serch bod y sylwebydd yn dweud mai ym Mhorthmadog y maent. Gyda llaw, y mae rhyw bwt ohoni yn cogio bod y dynion yn cael damwain gyda’u ceir tra ar eu ffordd i lawr! Ychydig o hwyl, ynte? Cewch ei gweld am ddim ar y we o dan y teitl uchod ac ar BBC Cymru Fyw.

Un clip o’r ffilm yn dangos y dynion wedi cyrraedd y gwaelod

O.N.   Yn rhifyn Mawrth bu amryfusedd gyda disgrifiad y Trwnc yn Chwarel Oakeley, y ‘Trwnc Mawr’, neu Trwnc K oedd ei enw,wrth gwrs. (Cywirwyd ar y fersiwn ddigidol)

9.6.21

Stolpia- Pás Gwyllt

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain
Dyma ychydig mwy o’m hanes yn gweithio yn Chwarel Llechwedd yn yr 1960au. Gobeithio bod un neu ddau ohonoch yn cael blas ar ei ddarllen. Yn aml iawn, byddai’n ofynnol inni’r ffitars i fynd i fyny i’r Bonc Uchaf (sef No. 7) ar ryw orchwyl neu’i gilydd, gosod peipiau o’r newydd, neu drwsio yr hen rai, neu wneud rhyw joban yn y felin, sef Melin Sing Sing, a lysenwyd, medd rhai, gan yr hen weithwyr ar ôl y carchar drwg enwog a geir yn Nhalaith Efrog Newydd, U.D.A. Tybed a oedd rhai o’r gweithwyr yn teimlo eu bod fel carcharorion yno? Ynteu, fel yr esboniodd un wrthyf, derbyn yr enw oherwydd bod gan y felin do sinc a wnaeth. 

Beth bynnag, wedi bod yno un tro yn gosod peipiau efo Barry Williams, prentis gof, a hithau bron yn amser cinio, dyma ni’n gofyn am bas i lawr Inclên 7 gan OJ, dreifar yr inclên, er mwyn inni gyrraedd Caban Tŷ Gwyn ar Bonc yr Efail (No 5) mewn pryd.

Wel, byddai wedi bod yn well inni gerdded i lawr o lawer gan fod OJ eisiau mynd am ei ginio hefyd, ac nid oedd ganddo fawr o amynedd i’n gollwng ni i lawr. Pa fodd bynnag, dywedodd wrthym am fynd i eistedd i’r wagen a oedd ar y crimp, a dyma yntau i fyny at y gêr rheoli a dyma fo’n gollwng y wagen i lawr yr inclên, ac o fewn ychydig roedd hi’n mynd fel cath i gythraul, ond tua hanner ffordd i lawr dyma fo’n brecio’n sydyn nes bod y ddau ohonom yn bendramwnwgl dros dîn y wagen a glanio rhwng bariau’r ffordd haearn.

Penderfynu cerdded weddill y ffordd a wnaeth y ddau ohonom wedyn a phan gyrhaeddom ni’r caban ac at ein bwrdd cinio adroddwyd yr hanes wrth y ‘black gang’, fel y gelwid y ffitars a’r gofaint. Dyma Robin George (y gof) yn dweud rhywbeth tebyg i hyn:

Glywsoch chi bod yr hogia wedi cael pas gwyllt gan OJ?”

Mewn wagan tebyg i hon gafwyd y pas gwyllt
Gyda llaw, dyna’r tro cyntaf imi glywed y term ‘pas gwyllt’ yn y chwarel, sef cael reid go siarp i lawr inclên, ond nid oedd y tro olaf imi ei glywed, chwaith.

Y mae gennyf gof hefyd i Emrys, fy mos, ofyn imi bicio i fyny i’r Bonc Uchaf un bore a thu draw i'r felin i agor un o’r falfiau a fyddai’n ochr tanc dŵr a oedd wedi cael ei osod yn y ddaear yno. Er fy mod wedi bod gerllaw y fan unwaith neu ddwy, nid oeddwn erioed wedi agor y falf, a phan yr es i geisio troi’r olwyn er mwyn i’r dŵr lifo drwy’r beipen, methwn yn lân a’i throi.

Ceisiais ei hagor a’r stilson, wedyn, gan ddefnyddio fy holl nerth, ac er fy mod yn ddyn ifanc go gryf, methais a chael yr olwyn i smiciad dim. Dim byd amdani hi, ond cerdded i lawr i’r Cwt Letrig, a dweud wrth Emrys nad oeddwn wedi gallu ei hagor. Dyma yntau yn egluro beth oedd y rheswm am fy nhrafferth:

“Anghofiais a dweud wrthyt mai falf Americanaidd ydi hi ac yn agor o chwith”  
(Hynny yw, fel symudiad y cloc oedd y ffordd iawn i’w hagor).

Yn ôl a fi, i fyny yno, ac agor y falf o fewn rhyw funud go lew. Bu hyn yn ysgol brofiad imi a phob tro y deuwn ar draws falfiau dŵr mawr wedyn roeddwn yn barod i dreio eu troi nhw o chwith os nad oeddynt yn agor y ffordd arferol.

----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2021

 

19.5.21

Stolpia- Lefel A i'r Pympiau

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain: Atgofion am Chwarel Llechwedd yn y 60au

Cofiaf am un tro arall yn yr eira a'r rhew, ac yn helpu Emrys, fy mos, i drwsio un o'r peipiau awyr a fyddai ar fath o drestl ar Bonc Rhif 6, a chan bod cryn dipyn o waith arni hi, bum yn sefyll mewn dŵr rhewllyd am sbelan. 

Erbyn inni orffen atgyweirio'r beipen roeddwn wedi fferru ac erbyn y noson honno roeddwn mewn loes a'r ddwy ochr uwchlaw'r ddwy glun imi yn boenus iawn. Mynd i'm gwely a photeli dŵr poeth i geisio lleddfu'r boen ond nid oeddwn dim gwell erbyn y bore drannoeth. Roeddwn yn dal mewn gwayw, ac o ganlyniad, galwyd ar y doctor i ddod i'm gweld , ac ar ôl cael fy archwilio ganddo, deall fy mod wedi cael oerfel ar fy arennau. 

Gorfod aros adre o'm gwaith oedd fy hanes, wedyn, a  hawlio yswiriant, ond y dyddiau hynny, nid oeddech yn cael eich cyfrio am y tridiau cyntaf. Felly, gorfod byw yn gynnil am yr wythnos a hanner y bum adref. Mor wahanol yw pethau y dyddiau hyn, ynte?

LLUN- Emrys Williams,Trydanwr a Ffitar Chwarel Llechwedd (o gasgliad yr awdur)

Ar adegau, byddai'n ofynnol i'r ffitars wneud rhyw joban yn rhannau tanddaearol y chwarel a bum gydag Emrys sawl tro i lawr yn 'ystafell y pympiau' yng ngwaleod Inclên Sinc Mynydd. Pa fodd bynnag, roeddwn yn digwydd bod wrth Bonc yr Offis un prynhawn a daeth galwad imi fynd i lawr i'r pympiau i gynorthwyo Robin George Griffiths (gof) a weithiai yno y diwrnod hwnnw a phan oeddwn am ei throedio i fyny i fynd yno y ffordd yr oeddwn wedi arfer, dyma  Bleddyn Williams (Conglog) y Stiwart yn dweud wrthyf   "Pam a wnei di ddilyn ffos yr 'A'  i fynd yno ? " - (sef y ffos a gludai'r dŵr o'r pympiau i'r afon yng ngodre'r domen ger Pant yr Afon). Dyma finnau yn ei ateb   "Dwi ddim di bod ffor' na o'r blaen". 

"Y mae hi'n ddigon hawdd wsti, dim ond cerdded hyd y lefel efo ochr y ffos sy'n rhaid iti " meddai.   "Iawn" , meddwn innau, ac ar ôl cael benthyg lamp, dyma ei throedio hi wedyn i berfeddion y ddaear gyda'r lamp yn un llaw a'r stilson yn y llaw arall. 

Wedi mynd am tua chwarter awr hyd ochr y ffos dyma ddod ar draws 'cwymp', h.y. roedd rhan o'r graig wedi dod i lawr yn un swp i ganol y lefel. Gan imi feddwl mai digwyddiad diweddar oedd y rhwb (sef y cwymp) dyma'r galon yn dechrau curo yn gyflymach, ac ychydig o banig yn dod trostof, ac fel yr oeddwn am ei heglu hi yn fy ôl y ffordd y deuais, dyma sylwi bod twll cul ar ben y cwymp ac ôl traed ar rannau ohono. Mentrais ychydig iddo a gwelwn ei bod yn glir y tu draw iddo, a mwy na hynny, gallwn glywed sŵn y pympiau yn y pellter.

Brasgamais wedyn nes cyrraedd y lle ac ar ôl gwneud y joban, penderfynais mai mynd i fyny yn ôl hyd  Inclên Sinc Mynydd oedd orau, er bod honno yn un faith. Dyna'r unig dro imi gerdded ar hyd Lefel yr 'A' i'r pympiau a  gwell oedd gennyf fynd yno y ffordd yr oeddwn wedi arfer a gwneud.

LLUN- Ponc yr Offis ac Injian Isaf Chwarel Llechwedd yn yr 1950au, o gasgliad yr awdur.

------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2021



7.3.21

Stolpia -Eistedd ar Ffrwydron

Ychydig Atgofion am Chwarel Llechwedd, gan Steffan ab Owain

Holwyd fi'n ddiweddar gan gyfaill am y cyfnod pan yr oeddwn yn gweithio yn Chwarel Llechwedd yn niwedd yr 1960au. Felly, dyma rannu ychydig o'm hatgofion am yr amser hwnnw pan y’m cyflogwyd fel ffitar cynorthwyol yno gyda'r diweddar Emrys Williams, Trem y Graig, a Derick Westerman Davies sy'n byw tua Llanrwst.

Er fy mod wedi cael profiad yn gweithio fel peiriannwr ifanc mewn ffatrïoedd nid oeddwn yn gyfarwydd â gwaith peiriannau chwarel ac o ganlyniad, bu'n rhaid dysgu am lawer o bethau newydd yn y swydd.

Un o'm gorchwylion oedd cychwyn y cywasgydd awyr (compressor) yn y boreau, a gyda llaw, 'awyr' oedd y gair a ddefnyddid gennym, ac nid aer, na gwynt. Yn ogystal, byddai'n rhaid sicrhau bod y peipiau awyr yn gweithio'n iawn ac nad oeddynt yn gollwng o gwbl. Ceid peipiau haearn a rhai rwber er mwyn cysylltu yr injins tyllu a'r craeniau gydag awyr, ac os y byddai ambell un wedi dechrau gollwng ar ôl damwain, neu draul, gosodid creffyn, neu glamp, dros y twll.

Inclên y Bôn. Llun o gasgliad yr awdur.

Cofiaf un tro imi gael fy ngalw i drwsio peipen i lawr yn y Bôn, sef un o'r rhannau lle gweithid y graig yng ngodre'r inclên â'r un enw. Wedi cyrraedd yno mi es ati hi i'w thrwsio yn weddol handi, ac fel yr oeddwn am ei throi yn ôl am yr inclên, dyma Emyr Jones (Saint) a John, mab Thomas H. Jones, y rheolwr y pryd hynny, yn dweud wrthyf am ddod i ymochel yn y caban cerrig gan eu bod yn saethu'r graig gerllaw, a dyna a wnes. Tra roeddwn yn eistedd yno i aros y glec, dyma fi yn eistedd ar focs pren, a dechrau rwlio sigarét i gael mygyn bach cyn mynd yn ôl i'r ffiting siop ar Bonc yr Efail, (No. 5) ac fel yr oeddwn am danio'r sigarét dyma Emyr yn tynnu fy sylw at fy sedd. 

"Wyt ti wedi edrych ar beth yr wyt ti yn eistedd arno?" meddai. 

"Naddo" oedd fy ateb. 

"Wel, ar gist bowdwr," meddai yntau. 

Brensiach, mi ddychrynais yn iawn, ond nid wyf yn sicr hyd heddiw os yr oedd ffrwydron yn y gist ar y pryd, ynteu ai tynnu fy nghoes yr oedd Emyr. Diolch i'r drefn, dim ond un glec a fu y bore hwnnw, sef yr un a ddaeth o'r graig!

Cofio rhyw dro arall fel y bu'n rhaid i mi helpu Emrys i drwsio un o'r rhodenni pigfain (spear rods)
yn y pwerdy ym Mhant yr Afon. Y diweddar Glyn Griffiths, Tŷ Capel, Ebeneser, a ofalai am y pwerdy yr adeg honno, ac ar ôl inni fod wrthi am sbelan yn ei gosod yn ôl yn ei lle daeth yn amser cinio, a galwodd Glyn arnom fod y tecell wedi berwi. Roedd Emrys a finnau wedi dod â'n tuniau bwyd efo ni i lawr o'r cwt letrig a oedd i fyny ar y bonc, ond roeddwn wedi anghofio dod a'm tun siwgwr. Felly, dyma fi'n gofyn tybed a fuaswn yn cael llwyad gan Glyn, gan nad wyf yn cael blas ar baned heb siwgwr ynddi, ond nid oedd ganddo beth. Yn wir, nid oedd ef nac Emrys yn ei gymryd yn eu te. Dyma Glyn yn awgrymu rhywbeth - tybed a oedd gennyf rywbeth melys yn fy nhun bwyd, ac atebais fy mod â bar siocled Kitkat ynddo. "Wel", meddai, "treia fwyta dy frechdanau heb yfed dy de, ac wedyn pan fyddi di'n dechrau cnoi dy siocled cymera dy de efo fo." Mi wnes innau hynny, ac wrth gwrs, roedd melysrwydd y siocled yn help mawr imi fwynhau fy mhaned. Heb os, mi ddysgais lawer o bethau yng nghwmni yr hen weithwyr, ac roedd hwn yn un ohonynt. 

Efallai y caf sôn am rai o'm profiadau eraill y tro nesaf.

------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2021