19.5.21

Stolpia- Lefel A i'r Pympiau

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain: Atgofion am Chwarel Llechwedd yn y 60au

Cofiaf am un tro arall yn yr eira a'r rhew, ac yn helpu Emrys, fy mos, i drwsio un o'r peipiau awyr a fyddai ar fath o drestl ar Bonc Rhif 6, a chan bod cryn dipyn o waith arni hi, bum yn sefyll mewn dŵr rhewllyd am sbelan. 

Erbyn inni orffen atgyweirio'r beipen roeddwn wedi fferru ac erbyn y noson honno roeddwn mewn loes a'r ddwy ochr uwchlaw'r ddwy glun imi yn boenus iawn. Mynd i'm gwely a photeli dŵr poeth i geisio lleddfu'r boen ond nid oeddwn dim gwell erbyn y bore drannoeth. Roeddwn yn dal mewn gwayw, ac o ganlyniad, galwyd ar y doctor i ddod i'm gweld , ac ar ôl cael fy archwilio ganddo, deall fy mod wedi cael oerfel ar fy arennau. 

Gorfod aros adre o'm gwaith oedd fy hanes, wedyn, a  hawlio yswiriant, ond y dyddiau hynny, nid oeddech yn cael eich cyfrio am y tridiau cyntaf. Felly, gorfod byw yn gynnil am yr wythnos a hanner y bum adref. Mor wahanol yw pethau y dyddiau hyn, ynte?

LLUN- Emrys Williams,Trydanwr a Ffitar Chwarel Llechwedd (o gasgliad yr awdur)

Ar adegau, byddai'n ofynnol i'r ffitars wneud rhyw joban yn rhannau tanddaearol y chwarel a bum gydag Emrys sawl tro i lawr yn 'ystafell y pympiau' yng ngwaleod Inclên Sinc Mynydd. Pa fodd bynnag, roeddwn yn digwydd bod wrth Bonc yr Offis un prynhawn a daeth galwad imi fynd i lawr i'r pympiau i gynorthwyo Robin George Griffiths (gof) a weithiai yno y diwrnod hwnnw a phan oeddwn am ei throedio i fyny i fynd yno y ffordd yr oeddwn wedi arfer, dyma  Bleddyn Williams (Conglog) y Stiwart yn dweud wrthyf   "Pam a wnei di ddilyn ffos yr 'A'  i fynd yno ? " - (sef y ffos a gludai'r dŵr o'r pympiau i'r afon yng ngodre'r domen ger Pant yr Afon). Dyma finnau yn ei ateb   "Dwi ddim di bod ffor' na o'r blaen". 

"Y mae hi'n ddigon hawdd wsti, dim ond cerdded hyd y lefel efo ochr y ffos sy'n rhaid iti " meddai.   "Iawn" , meddwn innau, ac ar ôl cael benthyg lamp, dyma ei throedio hi wedyn i berfeddion y ddaear gyda'r lamp yn un llaw a'r stilson yn y llaw arall. 

Wedi mynd am tua chwarter awr hyd ochr y ffos dyma ddod ar draws 'cwymp', h.y. roedd rhan o'r graig wedi dod i lawr yn un swp i ganol y lefel. Gan imi feddwl mai digwyddiad diweddar oedd y rhwb (sef y cwymp) dyma'r galon yn dechrau curo yn gyflymach, ac ychydig o banig yn dod trostof, ac fel yr oeddwn am ei heglu hi yn fy ôl y ffordd y deuais, dyma sylwi bod twll cul ar ben y cwymp ac ôl traed ar rannau ohono. Mentrais ychydig iddo a gwelwn ei bod yn glir y tu draw iddo, a mwy na hynny, gallwn glywed sŵn y pympiau yn y pellter.

Brasgamais wedyn nes cyrraedd y lle ac ar ôl gwneud y joban, penderfynais mai mynd i fyny yn ôl hyd  Inclên Sinc Mynydd oedd orau, er bod honno yn un faith. Dyna'r unig dro imi gerdded ar hyd Lefel yr 'A' i'r pympiau a  gwell oedd gennyf fynd yno y ffordd yr oeddwn wedi arfer a gwneud.

LLUN- Ponc yr Offis ac Injian Isaf Chwarel Llechwedd yn yr 1950au, o gasgliad yr awdur.

------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2021



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon