28.10.19

Fy Manod

Mae dylanwad y filltir sgwâr yn allweddol yn aml iawn wrth i rywun ddatblygu diddordebau, a’r rheiny’n aml yn arwain at yrfa greadigol. Mae Gwyn Vaughan Jones yn adnabyddus heddiw fel actor ar gyfres boblogaidd Rownd a Rownd. Yma cawn gipolwg ar ei daith o’r Manod i fyd gwaith.
Er mod i wedi gadael fy nghartref yn Manod ers dros 40 o flynyddoedd, pan fydd pobol yn gofyn o ble dwi’n dod? Blaenau Ffestiniog ydi’r ateb, ond fydda’i wastad yn pwysleisio “o Manod, Blaenau Ffestiniog”. Yno yn 6 Tyddyn Gwyn (drws nesaf i Anti Ifans, hen gariad Hedd Wyn) ges i’n magu. Yno mae fy ngwreiddiau; ac yno roddodd sylfaen i bob dim a ddigwyddodd ar ôl hynny.

Mae Manod yn linyn hir o stryd, sy’n dechrau -i mi beth bynnag- ger tŷ Dr Evans fel y dowch chi o Llan Ffestiniog, ac yn ymestyn yr holl ffordd heibio Gwaith Sets tua Tanymanod, ac mae’r hen gytiau sinc wrth Garej Cambrian yn nodi bod rhywun wedi croesi Checkpoint Charlie ac wedi dod i ‘downtown’ Blaenau! Roedd pobol Manod wastad yn ‘mynd i fyny i Blaenau’ i neud negas ac maen nhw dal i neud siwr o fod. Nid sybyrb mo Manod -o naci- ond pentref o fewn y dre! Pentref cystal a Llan neu Tanygrisiau bob tamad!

Sy’n dod a fi yn daclus at y trwbador o Danygrisiau, Gai Toms. Mae Gai wedi llwyddo yn feistrolgar i godi Tanygrisiau i statws eiconig trwy ei ganeuon a’i eiriau coeth, wel dwi am ymladd cornel Manod am eiliad rwan a deud fod y ddau le yn ddrych o’u gilydd a rwbath sydd gan Tangrish, wel, mae gan Manod hefyd..! Dau hen bentref sydd wrth droed eu mynyddoedd – y Manod Mawr a’r Bach a’r Moelwyn Mawr a’r Bach. Mae gan Danygrisiau ysgol, llyn, rhaeadr, hen felin wlan, hen bost, cae chwarae, chwareli, ac wrth gwrs mae gan Manod rheini i gyd hefyd. Poblogaeth tebyg, tirlun a chymeriadau tebyg. SNAP!

Wrth feddwl yn ôl i´r 60’au a’r 70’au pan ges i fy magu yn Manod, roedd y lle yn frith o gantorion a cherddorion. Fy nhad, Meirion Jones, arweinydd a sefydlydd Côr y Brythoniaid, wrth gwrs oedd y dylanwad mwyaf arna i. Roedd yn godwr canu yng nghapel Hyfrydfa ac yno roedd hadyn y Brythoniaid wedi’i hau yn ei feddwl. Yn Hyfrydfa hefyd oedd John Tyddyn Gwyn yn aelod: John Llewelyn Thomas i roi ei lawn enw, un o faritoniaid gorau Cymru yn ei ddydd, a fu farw yn ddiweddar iawn a mawr fydd ei golled. Dwi’n cofio mynd lawr efo John a nhad i Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964 yn mini-fan John: dad yn y sêt passenger a mam, ‘y mrawd bach Gareth a fi, ar lawr yng nghefn y fan ar glustogau! Roedd Dad a John yn cystadlu ar yr unawd bariton ac mi gafodd y ddau lwyfan. Yn anffodus iddyn nhw, y canwr arall a gafodd lwyfan oedd Gwynne Howell - a oedd yn Llundain yn astudio canu ac a ddaeth yn seren opera enwog yn y blynyddoedd ar ôl hynny. Y fo wrth gwrs gafodd gyntaf, John yn ail, a dad yn drydydd! Fe wnaeth Manod yn reit dda y diwrnod hwnnw!

Erbyn oeddwn i’n ddeg oed, roedd dylanwad cerddorol fy nhad yn fawr arnai. Gofynodd dad i Bob Morgan, arweinydd Band yr Oakeley, a fedra fo roi gwersi corn i mi. Bob wrth gwrs yn byw yn Manod hefyd -yn Penygwndwn- ac yn ddyn arall a gafodd ddylanwad aruthrol arna i, a mawr yw fy nyled iddo fo. O fewn y flwyddyn roeddwn yn aelod o’r band ac yn chwarae 3rd cornet. Roedd Bob, fel dad ac eraill, wedi rhoi eu bywydau i gerddoriaeth ac i’r gymdeithas yn y Blaenau, ac wedi rhoi cyfle i nifer fawr o blant a phobol yr ardal i ddysgu am fiwsig a chael cyfla i ehangu eu gorwelion. 


Agorodd y cornet a’r trwmped ddrysau i gyfleoedd di-ri yn fy arddegau. Bûm yn aelod o fandiau, cerddorfeydd a chorau drwy’r 70’au. Ond nid miwsig oedd pob dim chwaith! Roeddwn i wrth fy modd efo ffwtbol, ac yn chwarae efo Ieuenctid Blaenau, ac mi oedd ganddo ni dîm da hefyd. Gyrhaeddon ni ffeinal Cwpan Ieuenctid Gogledd Cymru yn 1974 yn erbyn Llandudno Swifts efo Neville Southall yn gôl iddyn nhw. Mi wnes i sgorio foli yn erbyn Southall ond mi gollon ni 2-1! Dwi wedi gwledda ar y gôl honno am flynyddoedd! Hyd heddiw pan fydda’i yn mynd am dro heibio cae ffwtbol Cae Clyd, dwi’n dal i gael wiff o linament, a chael fy atgoffa o fynd i weld tîm Blaenau, pan oedd Glyn Owen yn chwarae yn ganol cae, a daw lluniau o Glyn a’i comb-over fel Bobby Charlton a’i goesau bach cam i’m cof. Roedd o yn athro mathemateg yn Ysgol y Moelwyn am flynyddoedd i’r rhai sy’n ei gofio.

Yn 2020 bydda’ i’n dathlu 40 mlynedd o fod yn actor proffesiynol. Dwi wedi bod yn chwarae rhan Arthur Thomas yn Rownd a Rownd ers dros 10 mlynedd rwan ac wrth agosau at y dathliad mae’n braf medru edrych yn ôl a sylweddoli dylanwad bro fy mebyd ar fy mywyd. Mae arogl Capel Hyfrydfa dal yn fy ffroenau.  Bydda’i dal yn mynd i Manod yn amal -er mod i wedi emigratio i Benrhyndeudraeth- i weld mam sydd dal yn byw yn y bynglo ar safle hen stesion Manod. A bydd rhyw gynhesrwydd cyfarwydd yn dod drwyddai pan fyddai yn dreifio o Ryd Sarn a gweld yr arwydd MANOD 2, “cyn troi am y Ceunant Sych unwaith eto” fel dywedodd rhyw bwt o fardd o Traws un tro wrth iddo ddyheu o bell am gariad wrth droed y Manod.
--------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.

24.10.19

Sut mae arbed ein cymunedau gwledig?

Myfyrwraig ym Mhrifysgol Sciences Po yn Poitiers, Ffrainc ydi Elin Roberts. Fel rhan o’i chwrs Gradd Gwyddorau Gwleidyddol, mae’n astudio gwleidyddiaeth, economeg, y gyfraith, hanes, ac athroniaeth, yn ogystal â Ffrangeg a Sbaeneg. Mae’n bryderus am sefyllfa waith y Fro Gymraeg.

Mae Cymru yn heneiddio ac wrth i hynny ddigwydd, rydym yn colli ein pobl ifanc. Yn y degawd diwethaf mae dros 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 mlwydd oed wedi gadael Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, tra bod 2,750 o bobl rhwng 45-64 mlwydd oed yn symud i mewn i Gymru bob blwyddyn. Mae’n bryd i ni ddechrau edrych yn ofalus iawn ar yr ystadegau hyn a gofyn paham bod hyn yn digwydd? Pam bod ein pobl ifanc ni yn gadael ein cymunedau?

Oes raid gadael y Fro Gymraeg i gael gwaith? Llun- Paul W

Tra bod mwy o bobl hŷn yn symud i mewn i’r ardaloedd hyn, gwelwn bod llawer iawn o heriau yn wynebu ein pobl ifanc. Rhaid dechrau trwy edrych ar ba fath o gyfleoedd sydd ar gael i’n pobl ifanc ni. Heddiw, ychydig iawn yw’r cyfleoedd sydd ar gael. Eglurwn hyn drwy’r toriadau ariannol y gwelwyd yn y blynyddoedd diwethaf. Nid yn unig y gwelwn doriadau i wasanaethau’r ifanc, gwelwn doriadau i wasanaethau addysg.

Mae’r diffyg cyfleoedd yn arwain at ddiffyg swyddi, sy’n gadael llawer o’n pobl ifanc ni mewn swyddi o sgiliau isel gyda chyflogau isel. O ganlyniad, ni allent wireddu’r freuddwyd o brynu tŷ.

Mae bod yn berchen tŷ yn ffantasi llwyr i lawer, a’r tai yn anfforddiadwy.
Yr unig obaith o ddyfodol gwell i nifer yw gadael yr ardal. Ond, wrth i hyn ddigwydd bydd yn cael effaith eithriadol o negyddol ar ein cymunedau a’n hiaith, yn peri i ni ofyn a oes dyfodol i’n cymunedau gwledig?

Mae’n amser i ni ddechrau meddwl am y math o ddyfodol yr hoffem ei weld. Yn amser i ddechrau buddsoddi yn ôl yn ein pobl ifanc. Ein pobl ifanc ni yw’r dyfodol. Maent angen buddsoddiad er mwyn tyfu i gyrraedd eu llawn cyrhaeddiad, fel y mae hadyn angen digon o ddŵr a goleuni i dyfu.

Mae angen i ni ddechrau meddwl sut y gallwn gynorthwyo ein pobl ifanc. Beth y gallwn ei gynnig iddynt er mwyn lleddfu effaith y toriadau ariannol? Mae’n bryd i ni ddechrau meddwl sut y gallwn fuddsoddi yn ein hifanc. Rhaid gofyn beth mae ein pobl ifanc eisiau ar gyfer y dyfodol. Sut fath o gymuned hoffwn ei weld yma yn y Blaenau mewn 10 mlynedd neu hyd yn oed mewn 20 mlynedd? 

Wrth ystyried yr uchod, mae gennym ni lawer iawn o gyfrifoldebau: i ddechrau mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad cyfartal i wybodaeth. Gorau po fwya’r wybodaeth sydd gan yr unigolyn. Teimlaf ein bod fel cymdeithas yn categoreiddio ein pobl ifanc yn llawer rhy fuan ac felly y dylem drin pob unigolyn yn yr un modd drwy sicrhau bod pawb yn cael mynediad teg i’r un wybodaeth.  O ganlyniad, rhaid sicrhau bod yr ifanc yn cael y cyfle i brofi cymaint o sectorau ag sy’n bosib boed hynny o fewn amaeth, y cyfryngau, gwleidyddiaeth neu hyd yn oed yn y byd chwaraeon.

Fel dyletswydd arall, dylem annog ein pobl ifanc i fagu rhagor o sgiliau a fyddai’n eu galluogi i ddod yn weithwyr medrus. Byddai hyn yn y pendraw yn cynyddu eu siawns o gael cyflog uchel a fyddai yn eu caniatau i brynu tŷ. Law yn llaw ag annog datblygiad o sgiliau dylem edrych ar y sgiliau mwyaf defnyddiol o fewn y byd gwaith heddiw megis yn y maes technoleg a chyfrifiadureg. Mae swyddi o fewn y meysydd hyn yn cynnig cyflogau uchel iawn ond hefyd yn cynnig y posibilrwydd o allu gweithio o adref. Felly’n uno’r freuddwyd o brynu tŷ tra’n aros yn ein cymunedau Cymreig.

Wrth edrych ar sut i arbed cymunedau heddiw, mae’n rhaid i ni fod yn arloesol a sicrhau bod ein pobl ifanc ni y cael y mynediad gorau i wybodaeth ac wrth gwrs, i gyfleoedd. O edrych ar fod yn arloesol, mae’n raid i ni ystyried y sectorau mwyaf cynyddol o fewn y byd gwaith a sicrhau bod gan ein pobl ifanc ni fynediad i’r fath sector. Ond yn fwy na dim, amser a buddsoddiad sydd ei angen ar ein pobl ifanc. Er mwyn iddynt gyraedd eu llawn cyrhaeddiad, maent angen arweiniad. Felly, meddyliwch sut fath o gymuned yr hoffech ei weld yn y dyfodol oherwydd pobl ifanc heddiw fydd yn adeiladu cymuned y dyfodol. Yr ifanc yw’r dyfodol ac os na fyddwn ni yn buddsoddi ynddynt, sut olwg y bydd ar gymunedau yfory a beth ddaw o’r Gymraeg?
------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.

20.10.19

Byd gwaith

Wrth deithio yn ôl ar y trên o Ŵyl y Cyrion yng Nghaeredin, ar ôl mwynhau sgiliau cantorion, actorion, comedïwyr, dawnswyr a gymnastwyr o bedwar ban y byd, bu Dewi Lake, Pennaeth Ysgol y Moelwyn yn pendroni ar y cwestiwn hwnnw y dylai pawb sy`n ymwneud ag addysg a hyfforddiant y dyddiau yma ei ystyried, sef pa sgiliau y mae pobol ifainc eu hangen heddiw er mwyn eu paratoi ar gyfer byd gwaith?

Wrth ystyried yr oriau di-ri yr oedd perfformwyr yr Ŵyl wedi eu treulio i gyrraedd perffeithwydd eu cyflwyniadau, dyma ystyried ble ddechreuwn ni? Mae’n hiaith yn llawn diarhebion sy`n ymwneud â’r union faes –
deuparth gwaith ei ddechrau; 
deuparth llwyddiant, diwydrwydd; 
egni a lwydd; 
dyfal donc

Yma, yn y Blaenau, mae uwchdechnoleg wedi agor drysau lu i fyw`n lleol a gweithio ym mhedwar ban byd. Diflannodd dewisiadau gyrfaol cyfyngedig yr ardal a bellach  mae holl gyfleoedd y byd o fewn ein cyrraedd – os yw’r sgiliau priodol gennym wrth gwrs.

Er mwyn llwyddo, rhaid ymateb i fyd gwaith sy`n galw am sgiliau sy`n gynyddol newid. Rydym wedi  hen adael y cyfnod pan y penodid  gweithlu i un swydd, un yrfa a`r un set o sgiliau ar gyfer y swydd honno yn gymharol ddigyfnewid dros gyfnod maith. Felly tybed beth ydy`r sgiliau craidd sy`n rhoi sylfaen i rywun ddisgleirio ym myd gwaith heddiw?


Byddai rhai yn dadlau yn frwd mai cymwysterau sydd bwysicaf. Byddai eraill yn cytuno fod  cymwysterau`n bwysig ond yn teimlo mai`r daith a`r sgiliau i gyflawni`r gorau, boed gymwysterau neu sgil, y gall unigolyn eu cyflawni, ydy llwybr llwyddiant. Mae unigolion dymunol, egwyddorol, dibynadwy, sy`n barod i wneud diwrnod gonest o waith, yn frwd, yn annibynnol, yn gallu cyfathrebu’n rhwydd, yn hyderus ond hefyd yn ddiymhongar, law yn llaw â’r parodrwydd i newid, a meistroli sgiliau newydd trwy gydol gyrfa, a phenderfyniad diwyro i lwyddo, yn sicr yn berchen ar  sylfaen gadarn i lwyddiant. Yn yr un modd, mae sgiliau craidd megis cyfathrebu, dyfalbarhad, cydweithio a gweithio`n annibynnol a datrys problemau yn hollol greiddiol.


Mae rhywun weithiau`n teimlo fod llwyddiant yn rhywbeth bellach y mae unigolion yn disgwyl ei gael yn hawdd a diymdrech…

Dyma godi cap felly i`r rhieni hynny sydd wedi ei gweld hi, sy`n sicrhau fod eu plant neu bobl ifainc yn brydlon yn yr ysgol, yn bresennol yn yr ysgol ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb cynnar, yn unol â`u hoedran, am eu hymddygiad, ymdrech a`u haeddfedrwydd eu hunain. Yn sicr, mae pobol ifainc sy`n cael y cyfuniad hwn o gefnogaeth, disgwyliadau uchel, meddylfryd o agor drysau a disgwyl pendant i ysgwyddo cyfrifoldeb amdanynt eu hunain yn cael paratoad gwerth chweil at fyd gwaith a bywyd.

Coffa da am Dafydd Price, Dolau Las ers talwm – meddai ar sgiliau cyfathrebwr hynaws, yn sgwrsiwr rhwydd, parodrwydd i wneud diwrnod da o waith, cadarn ei farn a pheiriannydd dyfeisgar creadigol, oedd yn gallu creu offer neu dŵls i fynd i’r afael â phroblem yn y fan a`r lle heb gymorth o fath yn y byd. Adlewyrchiad o etifeddiaeth peirianwyr creadigol chwarelyddol ardal y Blaenau ar ei orau. Yn sicr, unigolion tebyg i Dafydd sy`n disgleirio ym maes cwmnïau arloesol technoleg arbrofol a blaengar ein byd heddiw.

Bach hedyn pob mawredd…cyfoeth bob crefft…
-------------------------------------

Un o gyfres o erthyglau gwadd ar thema 'GWAITH', a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.


16.10.19

A bu goleuni

CYFRES 'GWAITH'
Mae dod i ddiwedd tair mlynedd mewn prifysgol yn uchafbwynt pwysig i gyfnod hir  o ddysgu ac astudio, ac  yn drothwy allweddol i gyfnod newydd ym mywyd rhywun, wrth symud ymlaen i fyd gwaith. Bu Llafar Bro yn holi Llio Davies o Drawsfynydd, sydd wedi graddio eleni, am ei hastudiaethau, ei chynlluniau a’i dyheadau.

Rwyf bellach wedi graddio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd lle fues i’n astudio cwrs Artist Dylunwr: Gwneuthurwr. Roedd y cwrs yn eang iawn, a modd defnyddio unrhyw broses neu ddeunydd o ddiddordeb.


Dwi’n benodol yn defnyddio clai Porcelain, deunydd sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio i wneud llestri. Dewisais borslen gan fod golau yn treiddio drwyddo, ac rwy’n gallu cymryd mantais o’r broses yma i wneud cynnyrch goleuadau.

Dim ond trwy haen denau o borslen all oleuni dreiddio, a gall hyn wneud y deunydd yn anodd i weithio gyda gan ei fod mor fregus. Mae gan y deunydd ‘gof’ cryf hefyd, felly os yw gamgymeriad yn cael ei wneud yn ystod y broses greu, ar ôl iddo fod yn yr odyn, byddai wedi cofio'r camgymeriad yma ac wedi cychwyn symud yn ôl i’w siâp cychwynnol, felly mae’n gallu bod yn ddeunydd eithaf heriol i’w drin.

Bu’r gymuned stiwdio yn bwysig iawn i ni ar y cwrs, mae’n hanfodol i ni allu trafod a datblygu syniadau, ac fe wnaeth hyn i mi eisiau ymchwilio i beth sydd yn creu amgylchedd greadigol ac arloesol, a dyna oedd testun fy nhraethawd hir. Y prif elfennau fues i’n archwilio oedd dylanwad ein hamgylchedd ar ein hiechyd meddwl, sydd o ganlyniad yn effeithio ar ein creadigrwydd.
Dangosodd fy ymchwil bod goleuadau gwahanol yn medru cael effaith ryfeddol arnom ac ar y gweithle, a dwi wedi bod yn arbrofi efo creu lampau a goleuadau amrywiol.

Mae goleuadau isel yn gallu creu niwed i’n llygaid drwy roi straen arnynt, a gall hyn achosi cur pen sydd yn ei dro’n gallu cael effaith ar ba mor gynhyrchiol ydi rhywun y gwaith, neu arwain at golli cymhelliant. Ar y llaw arall gall olau artiffisial a dwysedd uchel roi effaith gwael hefyd, er enghraifft roi cur pen a migraine. Mae darganfod y cydbwysedd perffaith sydd yn ffitio gweithle yn bwysig iawn felly i iechyd gweithwyr. Mae tua 70% o weithwyr yn anhapus gyda’r golau yn eu swyddfa.
Y math gorau o olau yn y gweithle ydi goleuni naturiol, sy’n lleihau'r ganran o bobl sy’n cael cur-pen, ac yn lleihau stress. Mae hyn oherwydd gall golau effeithio'r corff mewn dwy ffordd: gall ein heffeithio yn uniongyrchol ym mha mor dda ‘da ni’n gweld; ac yn anuniongyrchol, sef sut mae’n effeithio ein mood ac ymddygiad.

Mae golau cynnes yn cael ei ddefnyddio mewn ystafelloedd i weithwyr cael egwyl, i wneud i ni ymlacio a llonyddu, ac mae golau naturiol yn cael ei ddefnyddio orau mewn ystafelloedd cynadledda gan ei fod dal yn groesawgar ond ddigon i’n cadw’n effro a sylwgar. Bydd golau oer yn cael ei ddefnyddio mewn ystafelloedd i feddwl am syniadau yn gyflym, i wella ein hwyliau a’n gwneud yn fwy cynhyrchiol. Mae hefyd yn lleihau melatonin sydd yn gostwng blinder.

Felly mae’r effeithiau seicolegol mae goleuni naturiol yn enwedig yn ei gael ar waith yn bositif ac yn cael ei argymell yn gryf i bawb, ond yn anffodus nid yw pob adeilad wedi cael ei ddylunio gyda hyn mewn golwg, mae llawer o ystafelloedd heb ffenestri, ac ati. Dyma sut rwyf wedi gallu dechrau cyflwyno fy ymchwil mewn i fy ngwaith dylunio, drwy wneud goleuadau allan o porcelain sydd yn dynwared golau naturiol i’r tŷ.

Mae pobl yn fwy awyddus rwan i gael ‘smart technology’ yn ein gweithle a’n cartref, sydd yn gallu casglu data ar amryw o elfennau dyddiol. Mae rhai busnesau wedi rhoi sensors yn seti gweithwyr i gasglu gwybodaeth am faint o amser maent yn treulio wrth eu desg, a faint o’r gloch maent yn cyrraedd y gwaith, er mwyn dechrau'r broses o oleuo'r gweithle yn naturiol gyn i bawb gyrraedd. Yn y cartref mae cynnyrch fel ‘Alexa’ sef dyfais cynorthwyo sydd wedi cael ei ddylunio gan Amazon yn galluogi i ni ofyn cwestiynau am y tywydd, newyddion traffig, a llawer mwy. Mae modd i’r dechnoleg yma gysylltu gyda golau tŷ i newid y cryfder neu liw i amser penodol o’r dydd sydd yn gallu helpu ein hiechyd meddwl.

Mae therapi golau yn cael ei ddefnyddio yn barod i helpu efo SAD, Seasonal Affective Disorder sef cyflwr ble mae pobl yn teimlo iselder ar rai adegau o’r flwyddyn, fel arfer yn ystod y gaeaf pan bydd llai o oriau golau dydd. Rhan o’r therapi yma yw bod mewn golau llachar o fewn awr i ddeffro, i ddynwared golau naturiol, gallai’r wybodaeth yma cael ei fwydo i dechnoleg y golau i oleuo'r tŷ.

Mae lliw sydd yn cael ei greu drwy ddefnyddio golau artiffisial yn gallu osgoi emosiynau gwahanol a chael effeithiau eraill ar y corff. Mae golau glas neu wyn llachar yn ein gwneud ni’n egnïol ac yn gallu tarfu ar ein patrwm cysgu, dyma pam bod pobl yn argymell i ni beidio defnyddio ein ffonau symudol am o leiaf awr cyn mynd i’r gwely. Mae defnyddio golau coch neu oren cyn mynd i’r gwely yn gallu gwella ein hiechyd meddwl, gan fod golau coch yn gallu cynyddu melatonin sydd yn rhoi cwsg gwell i ni.

Felly wrth ddefnyddio'r ymchwil yma mae pobl yn dechrau dylunio goleuadau sy’n dechrau ein deffro ni’n naturiol gyda golau coch tua thair awr cyn i ni godi, wedyn yn datblygu i oren a melyn yn nes at ein amser deffro, mae hyn yn gwneud i ni ddeffro mwy ysgafn. I helpu ni gysgu mae’r golau yn gallu fflachio mewn rhythm araf i ni ei ddilyn gyda’n hanadl, felly drwy ddefnyddio arweiniad y golau byddai’n ymlacio ni’n barod i fynd i gysgu.


Cyn graddio cefais gyfle anhygoel i arddangos fy ngwaith yn Llundain yn sioe ‘New Designers’ sef sioe enfawr sydd yn arddangos gwaith dros 3,000 o ddylunwyr. Roedd y profiad yn wych: cefais lawer o sgyrsiau diddorol gyda dylunwyr a gwneuthwyr eraill yn rhoi cyngor sut i ddatblygu fy ngwaith ymhellach, a sut i geisio creu bywoliaeth drwy greu. Cefais hefyd y fraint o ennill gwobr ‘One year in’ sydd yn fy ngalluogi i arddangos eto flwyddyn nesaf. Gyda’r wobr byddaf yn cael cymorth i ddatblygu busnes drwy raglen fentoriaeth i gael fy ngwaith yn barod i’w werthu.

Mae llefydd creadigol i artist a dylunwyr yn brin iawn yng Nghymru; mae llawer ohonom yn tueddu i ddefnyddio ystafell sbâr yn ein cartref i greu gwaith, ond mae pwysigrwydd enfawr mewn awyrgylch creadigol i alluogi i ni ddatblygu syniadau a chyfathrebu gydag eraill. Gan fy mod yn creu gyda serameg, mae’n hanfodol fod gen’ i odyn yn y stiwdio i greu gwaith, ac mae hyn wedi gwneud y dasg o chwilio am stiwdio llawer anoddach, hyd yn oed yn y brif ddinas. Y rheswm am hyn yw bod pris odyn fach o newydd o gwmpas £1,500 – £2,000!

Mae dwy brif stiwdio yng Nghaerdydd sydd yn arbenigo mewn serameg, a rhwng y ddwy, dim ond lle i ddeuddeg o raddedigion sydd! Rwyf yn lwcus iawn i gael lle yn y stiwdio i ddatblygu fy ngwaith gyda dylunwyr anhygoel eraill, gan gychwyn ym mis Medi, felly edrychwch allan am waith newydd ar y gweill!

Yn ystod yr haf llwyddais i gael swydd fel rheolwraig ddyletswydd yn gweithio mewn cymuned greadigol yn Nhreganna o’r enw ‘CHAPTER Arts’ sydd yn lleoliad uchelgeisiol, aml-gelf sy’n cyflwyno, cynhyrchu a hyrwyddo celf ryngwladol, perfformiadau byw a ffilm. Rwyf yn gweld gweithio mewn amgylchedd greadigol fel hyn yn gallu newid trywydd fy ngwaith, a dwi’n cwrdd ag unigolion hynod o ddiddorol bob dydd! Mae’r rhan fwyaf o unigolion eraill sydd yn gweithio yno hefyd yn artistiaid a dylunwyr eu hunain, ac mae’n lleoliad gwych i allu gweithio a datblygu gwaith ein hunain. 

I gael golwg ar fy ngwaith, edrychwch ar fy ngwefan www.lliodaviesdesignermaker.com neu rwyf ar Facebook ac Instagram.
------------------

Mae'r uchod yn fersiwn hirach o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019


12.10.19

Y Gair Olaf o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog

Mewn cyfarfod ar Orffennaf 22 eleni, daethpwyd i’r penderfyniad i ddod ag ymgyrch Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa i ben, a hynny bedair blynedd ar ddeg a mwy ar ôl y cyfarfod cyntaf yn 2005. Yr hyn a arweiniodd at ffurfio’r Pwyllgor yn y lle cyntaf oedd penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd i gau y Clinig Ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn ac yna, ymhen amser, i’w ail leoli yn ward y dynion yn yr Ysbyty Coffa, a thrwy hynny greu esgus dros wneud i ffwrdd â’r gwlâu cleifion oedd yn fanno.


Ond dŵr o dan y bont ydi pob dim felly bellach ac mi fyddwch chi, bobol y cylch, yn cofio helyntion y blynyddoedd i ddilyn – y rali brotest fawr (uchod) pan fu mil a mwy ohonoch yn gorymdeithio drwy strydoedd y dref; llond bws wedyn yn teithio i lawr i’r Bae yng Nghaerdydd i ymuno yn y brotest genedlaethol yn erbyn y bwriad i gau nifer o ysbytai yng Nghymru, a Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, yn gwrthod dod allan i’n hwynebu ni.


Trefnwyd sawl deiseb gennym hefyd dros y blynyddoedd ac roedd eich cefnogaeth i bob un o’r rheini hefyd yn anhygoel. Ac yna’r cyfarfod cyhoeddus (uchod) yn Ionawr 2015 i drefnu refferendwm a fyddai’n galw ar y Betsi a’r Llywodraeth yng Nghaerdydd i ail agor yr Ysbyty a gwarchod gwasanaethau pwysig eraill yn yr ardal.

A phan gynhaliwyd y refferendwm ar Chwefror 15fed, roedd 99.9% ohonoch o blaid y cynnig, efo dim ond 6 pleidlais o’r ardal gyfan yn cefnogi cynlluniau’r Bwrdd Iechyd!

Ond eto i gyd, fe gafodd y canlyniad ei anwybyddu YN LLWYR, nid yn unig gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd ond hefyd gan y Bwrdd Iechyd, gan ein haelod ni yn y Cynulliad a gan Gyngor Sir Plaid Cymru Gwynedd. Hynny yw, fe wrthododd y ddwy blaid fwyaf ar y pryd ddangos unrhyw gefnogaeth i’n hachos. Do, fe gawsom addewidion o sawl cyfeiriad arall ond addewidion gwag oedd rheini hefyd. Cynlluniau’r Betsi oedd yn bwysig yn eu golwg nhw i gyd, er gwaetha’r llanast roedd rheini yn mynnu ei wneud ... ac yn dal i’w wneud hyd heddiw, wrth gwrs, neu pam arall eu bod nhw’n cael eu cadw o dan ‘special measures’ ers pedair blynedd a mwy?

Roedd cau yr Ysbyty Coffa ym mis Mawrth 2013 yn ddigwyddiad du iawn yn hanes yr ardal hon, ac mae cleifion a’u teuluoedd, o orfod teithio milltiroedd lawer yn ddyddiol, i Alltwen neu Fangor, yn sylweddoli hynny yn fwy na neb erbyn heddiw.

Un wers chwerw a ddysgwyd dros y blynyddoedd oedd hon – Fedrwch chi ddim rhesymu efo pobol

di-reswm. Er enghraifft,  PEDWAR Gweinidog Iechyd gwahanol, i gyd yn gwrthod cyfarfod â ni, nac yma nac yng Nghaerdydd, gan ddadlau nad eu cyfrifoldeb nhw oedd ein problemau ni, yma yn y gogledd! A CHWECH Prif Weithredwr gwahanol y Betsi, dim un ohonyn nhw’n Gymro nac yn deall Cymraeg, a rhai ohonyn nhw heb hyd yn oed y syniad lleiaf lle i chwilio am Blaenau Ffestiniog ar y map!
Buom yn cyfarfod ag amryw o wleidyddion eraill hefyd, rhai mewn swyddi allweddol yng Nghaerdydd, a derbyn ganddynt bob math o addewidion i’n helpu. Ond pobol ffuantus efo cof byr iawn oedd rheini. Yr eithriadau oedd y ddau aelod seneddol, Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru),  Guto Bebb (Ceidwadwyr), a’r aelod cynulliad Neil Hamilton.

Ein gweithred arwyddocaol olaf ni fel pwyllgor oedd herio hawl y Bwrdd Iechyd i werthu’r Clinig Coffa ar Ffordd Tywyn gan ddadlau mai arian lleol a’i cododd o fel cofeb i’r 54 o fechgyn yr ardal a laddwyd yn yr ail ryfel byd, a hynny cyn i’r NHS ddod i fodolaeth erioed. O ganlyniad i’r llythyr hwnnw, a llythyr tebyg wedyn oddi wrth Gyngor Tref Ffestiniog, fe gytunodd y Betsi i oedi’r gwerthiant am gyfnod o dri mis, er mwyn rhoi cyfle i’r ardal allu cyflwyno cynllun o’r hyn y bwriedir ei wneud efo’r adeilad. Erbyn heddiw, mae’r Cyngor Tref yn arwain y frwydr i sefydlu hospis yno, rhywbeth sydd wir ei angen yn yr ardal, a dymunwn bob llwyddiant i’w hymgyrch.
*    *    *    *    *

Er gwybodaeth: Mae rhan helaeth o’r ohebiaeth a fu efo hwn ac arall dros y blynyddoedd, yn ogystal â’r holl erthyglau i Llafar Bro, wedi cael ei throsglwyddo, bellach, i Adran Archif y Sir yn Nolgellau. Pwy ŵyr na fydd ryw stiwdant neu’i gilydd, yn y blynyddoedd eto i ddod, yn chwilio am destun ymchwil ar gyfer gradd uwch ac yn gweld Hanes Ysbyty Coffa Ffestiniog 1919 - 2013 fel pwnc o ddiddordeb. Pe digwydd hynny, yna bydd mwy na digon o ddeunydd ar gael iddo ef neu hi allu pori trwyddo!    GVJ
*    *    *    *    *

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
Cofiwch bod llawer o erthyglau'r pwyllgor amddiffyn ar y wefan yma. Cliciwch ar y ddolen Pwyllgor Amddiffyn. (Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'View web version' i weld y dolenni)


5.10.19

Pwy fydd yma ymhen can mlynedd..?

Erbyn hyn mae Eisteddfod Genedlaethol Conwy ymhlith y pethau a fu. Faint tybed o bobl, ac yn arbennig felly bobl ‘Stiniog, sy’n gwybod ym mhle y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y flwyddyn 1898?

Ie, yma yn y Blaenau, yn hen dref y chwareli, y bu hynny; yma y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol 1898.

Codwyd y pafiliwn ar ei chyfer ar y darn tir lle mae Siop Kwiks a’i maes parcio heddiw [Ewrospar bellach]. Cafwyd trafferth hefo’r pafiliwn, neu ‘Y Babell’; fel y’i gelwid, gan iddo ddymchwel, a bu’n broblem ac yn bryder ei gael ar ei draed erbyn y 19eg o Orffennaf, sef diwrnod cyntaf yr ŵyl. Nid yn ystod yr wythnos gyntaf o Awst y cynhelid yr Eisteddfod Genedlaethol yr adeg hynny, a phum diwrnod oedd ei hyd, o ddydd Mwrth tan y dydd Sadwrn.

Mae dau beth, hyd y gwyddom, beth bynnag, yn aros o’r dyddiau hynny gan mlynedd yn ôl. Yn  Swyddfa’r Cyngor yn y Blaenau y mae cadair dderw drom, gerfiedig, i Gadeirydd y Cyngor eistedd ynddi i gadw trefn ar yr aelodau. Dyma’r Gadair a ennillodd Elfyn (R.O. Hughes) yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog, ac yntau ar y pryd yn byw yn Llan Ffestiniog. ‘Awen’ oedd testun y gadair, a dyfarnwyd Awdl Elfyn yn orau o ddeuddeg, a hynny gyda chanmoliaeth.

Y peth arall sy’n aros yw cyfrol swmpus, clawr caled, o feirniadaethau a chynhyrchion yr Eisteddfod. Mae hon yn gyfrol o 420 o dudalennau, ac o bopeth sydd ynddi, mae’n debyg mai’r peth mwyaf diddorol a difyr a gwerthfawr, yw y traethawd 186 tudalen ar ‘Llên Gwerin Meirion’: William Davies, Tal y Bont, Ceredigion, a’i hysgrifenodd ac ennill y wobr o £10.

Mae yna lawer iawn o Saesneg yn y gyfrol yma, fel er engraifft, y traethawd buddugol ar ‘The Influence of the Battle of Chester on the History of Wales and the Welsh People.’ Ynddi, hefyd, y mae y cyfieithiad buddugol Saesneg o bryddest Elfed Lewis, ‘Llyn y Morwynion’. Roedd yna rai cystadlaethau y gellid cystadlu arnynt naill yn y Gymraeg neu yn y Saesneg. Un felly oedd, ‘Handbook – The Botany of any County in Wales’, a’i feirniadaeth yn cael ei rhoi yn yr iaith fain. D.A. Jones o Harlech oedd yn fuddugol ar law-lyfr ar fotaneg sir Feirionnydd. Tybed a gyhoeddwyd hwn, fel y bwriadwyd, ac a oes copi ohono ar gael wedi can mlynedd?

Testun y bryddest oedd ‘Charles o’r Bala’, a’r Parch. R. Gwylfa Roberts, Porthdinorwig, aeth a’r Goron. Byddai’n ddiddorol gwybod a ydi’r Goron yma’n dal gan rhywun neu’i gilydd heddiw*.

Yn yr adran gwaith llaw, 'Y Cerfwaith a’r Ffurfluniaeth’, fel y’i gelwir, ceir cystadlaethau fel, gwneud ‘Mat traed o fân ddarnau o frethyn. Gwobr £1: Miss K. Jones, Tan y Grisiau; ac hefyd gwneud ‘Hosannau clos penglin’. Gwobr 15/-: Mrs A. Jones, Penrhyndeudraeth. Enillodd Jacob Jones, Ffatri, Tan y Grisiau, ddau dlws arian am frethynnau a gwlanenni Cymreig. Ym mhle a chan bwy y mae’r tlysau yma heddiw, tybed?

Cystadleuaeth a oedd yn boblogaidd iawn, fel y gellid disgwyl a’r chwareli yn yr ardal ar ei hanterth ar y pryd, oedd ‘Hollti Llechi’. Aeth y gwobrau i gyd i rai o ‘Stiniog. Erbyn ein dyddiau ni mae y gost o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol wedi mynd yn arian mawr. Yr holl gost o gynnal Eisteddfod Genedalethol Blaenau Ffestiniog yn 1898 oedd £4,127.4.11 (hen arian, wrth gwrs).

Casglwyd yn lleol a chan wahanol gwmniau ac unigolion y swm o £1,627.13.10. Gwnaeth yr Eisteddfod elw o £298.8.3 a rhannwyd yr arian yma drwy roi £149.4.1 i’r ‘National Eisteddfod Association’; rhoi £100 i gronfa adeiladu Ysgol Sir Ffestiniog; rhoi £30 i Lyfrgell Cyhoeddus Ffestiniog; rhoi £10 i Gymdeithas Nyrsio Ffestiniog; ac £9.4.2. i’r ‘Welsh Colony in Patagonia’.

Sut dywydd a gafwyd yn ystod y Eisteddfod? Dydd Mawrth roedd yn ddigon braf i Orsedd y Beirdd a ‘llu mawr o’r cyhoedd’, yn cael eu harwain gan yr Arch Dderwydd Hwfa Môn, i ddod at ei gilydd ar Fryn yr Orsedd (Carreg Defaid). Dydd Mercher, roedd ‘yn fore nodedig o braf’, meddai’r cofnodion. Dydd Iau, eto, ‘yr oedd yn foreu hyfryd’. Dydd Gwener, ‘gan fod y wybren yn welw, ni wisgodd y beirdd eu mentyll’. ‘Erbyn y cyngerdd hwyrol ymarllwysai y gwlaw’ yn ôl y cofnodion.

Ond, er gwaethaf rhyw ddiferion fel hyn, ar y Sadwrn, dydd olaf yr Eisteddfod, llawenychodd Dyfed yn orfoleddus a chyhoeddi-
‘Bu’r wyl heb umbarelo’.

E.E.
-----------------------------------

Addasiad yw'r uchod o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 1998, i nodi canrif ers cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Blaenau.

* Mae'r goron bellach yn ôl yn y Blaenau, ac efo'r gadair, wedi treulio'r haf yn arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn Siop Antur Stiniog.

Llun- Alwyn Jones

1.10.19

Amser newid?

Erthygl gan Fferyllfa Moelwyn
Mae’r byd yn newid, ac nid oes dim fel bu unwaith.  Ni chaiff ein gwastraff ei ail-gylchu’n ddigonol.  Credir fod 18 biliwn pwys o blastig yn llifo i’r cefnforoedd yn flynyddol.  Mae hyn yn cyfateb i 5 bag siopa o wastraff plastig yn gorwedd ar bob troedfedd o arfordir y byd!  Mynd yn waeth wnaiff hyn, gan nad yw o gwmpas 91% o wastraff yn cael ei ail-gylchu o hyd, gan ddal i lenwi ein tirwedd a llifo i’r moroedd.

Gwastraff plastig*

Anodd newid hen arferion, ond o beidio, difrod na ellir ei newid fydd y canlyniad.  Felly mae’n rhaid i ni wneud yr hyn a allwn er budd ein cymunedau a dyfodol ein plant.  Ar ôl darllen llawer erthygl, a gwylio aml raglen am ganlyniad hyn, credwn ei bod yn amser i ni geisio newid a chymryd camau effeithiol i wneud hynny.

Yn Fferyllfa Moelwyn rydym yn ceisio’n gorau i leihau ein ‘ôl troed plastig’ ac hefyd eich un chi.  O fis Mehefin, rydym yn rhoi cyfle i chi aelodau’r gymuned ddod a’ch cynhwysydd (poteli etc) eich hunain a’u hail lenwi gydag amrywiaeth o ddefnyddiau cartref bob dydd fel hylif golchi llestri, hylif golchi dillad, ynghyd a hylif gwella eu cyflwr, siampw, hylif gwella’r gwallt, a llawer mwy.  Credwn yn gryf, er mai siop fechan ydym, y gallwn wneud gwahaniaeth.  Pe bai pob un, ond yn gwneud un newid, byddai hynny yn creu miloedd o gamau positif tuag at greu byd gwyrddach i ni a chenedlaethau i ddod.

Mae llawer ffordd hawdd i leihau ein defnydd o blastig.  Dyma rai enghreifftiau:
> Peidio defnyddio gwelltyn diod plastig, defnyddio un papur os oes raid;
> Ail-ddefnyddio bagiau neges/ bags 4 life yn lle bag plastig;
> Lleihau y defnydd o stwff gludo.  Gwneir ef o rwber (neu blastig) synthetig;
> Ail-ddefnyddio cynhwysydd i gadw bwyd sydd dros ben.  Gwneud un siopa bwyd mawr a hynny yn llai aml;
> Defnyddio cwpanau aml-ddefnydd wrth brynu coffi yn lle’r cwpanau plastig;
> Prynu ffrwythau a llysiau rhydd yn lle rhai wedi eu pacio mewn plastig;
> Ail-lenwi poteli dŵr yn lle prynu rhai newydd.
> Newid o hylif ymolchi a golchi dwylo i sebon;
> Defnyddio cynhwysydd a ellir ei ail-lenwi yn hytrach nag un a deflir.
Byddai’r newidiadau syml rhain yn lles i’r BYD, ac os na wnawn gymryd sylw a newid ein ffordd, ni fydd gwelliant yn ein BYD.

Mae’n amser newid!
Naeem Anjan a Staff Fferyllfa Moelwyn -----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2019

* Llun trwy drwydded gan Muntaka Chasant CC BY-SA 4-0