Showing posts with label gweinidog iechyd. Show all posts
Showing posts with label gweinidog iechyd. Show all posts

12.10.19

Y Gair Olaf o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog

Mewn cyfarfod ar Orffennaf 22 eleni, daethpwyd i’r penderfyniad i ddod ag ymgyrch Pwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa i ben, a hynny bedair blynedd ar ddeg a mwy ar ôl y cyfarfod cyntaf yn 2005. Yr hyn a arweiniodd at ffurfio’r Pwyllgor yn y lle cyntaf oedd penderfyniad Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd i gau y Clinig Ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn ac yna, ymhen amser, i’w ail leoli yn ward y dynion yn yr Ysbyty Coffa, a thrwy hynny greu esgus dros wneud i ffwrdd â’r gwlâu cleifion oedd yn fanno.


Ond dŵr o dan y bont ydi pob dim felly bellach ac mi fyddwch chi, bobol y cylch, yn cofio helyntion y blynyddoedd i ddilyn – y rali brotest fawr (uchod) pan fu mil a mwy ohonoch yn gorymdeithio drwy strydoedd y dref; llond bws wedyn yn teithio i lawr i’r Bae yng Nghaerdydd i ymuno yn y brotest genedlaethol yn erbyn y bwriad i gau nifer o ysbytai yng Nghymru, a Brian Gibbons, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, yn gwrthod dod allan i’n hwynebu ni.


Trefnwyd sawl deiseb gennym hefyd dros y blynyddoedd ac roedd eich cefnogaeth i bob un o’r rheini hefyd yn anhygoel. Ac yna’r cyfarfod cyhoeddus (uchod) yn Ionawr 2015 i drefnu refferendwm a fyddai’n galw ar y Betsi a’r Llywodraeth yng Nghaerdydd i ail agor yr Ysbyty a gwarchod gwasanaethau pwysig eraill yn yr ardal.

A phan gynhaliwyd y refferendwm ar Chwefror 15fed, roedd 99.9% ohonoch o blaid y cynnig, efo dim ond 6 pleidlais o’r ardal gyfan yn cefnogi cynlluniau’r Bwrdd Iechyd!

Ond eto i gyd, fe gafodd y canlyniad ei anwybyddu YN LLWYR, nid yn unig gan y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd ond hefyd gan y Bwrdd Iechyd, gan ein haelod ni yn y Cynulliad a gan Gyngor Sir Plaid Cymru Gwynedd. Hynny yw, fe wrthododd y ddwy blaid fwyaf ar y pryd ddangos unrhyw gefnogaeth i’n hachos. Do, fe gawsom addewidion o sawl cyfeiriad arall ond addewidion gwag oedd rheini hefyd. Cynlluniau’r Betsi oedd yn bwysig yn eu golwg nhw i gyd, er gwaetha’r llanast roedd rheini yn mynnu ei wneud ... ac yn dal i’w wneud hyd heddiw, wrth gwrs, neu pam arall eu bod nhw’n cael eu cadw o dan ‘special measures’ ers pedair blynedd a mwy?

Roedd cau yr Ysbyty Coffa ym mis Mawrth 2013 yn ddigwyddiad du iawn yn hanes yr ardal hon, ac mae cleifion a’u teuluoedd, o orfod teithio milltiroedd lawer yn ddyddiol, i Alltwen neu Fangor, yn sylweddoli hynny yn fwy na neb erbyn heddiw.

Un wers chwerw a ddysgwyd dros y blynyddoedd oedd hon – Fedrwch chi ddim rhesymu efo pobol

di-reswm. Er enghraifft,  PEDWAR Gweinidog Iechyd gwahanol, i gyd yn gwrthod cyfarfod â ni, nac yma nac yng Nghaerdydd, gan ddadlau nad eu cyfrifoldeb nhw oedd ein problemau ni, yma yn y gogledd! A CHWECH Prif Weithredwr gwahanol y Betsi, dim un ohonyn nhw’n Gymro nac yn deall Cymraeg, a rhai ohonyn nhw heb hyd yn oed y syniad lleiaf lle i chwilio am Blaenau Ffestiniog ar y map!
Buom yn cyfarfod ag amryw o wleidyddion eraill hefyd, rhai mewn swyddi allweddol yng Nghaerdydd, a derbyn ganddynt bob math o addewidion i’n helpu. Ond pobol ffuantus efo cof byr iawn oedd rheini. Yr eithriadau oedd y ddau aelod seneddol, Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru),  Guto Bebb (Ceidwadwyr), a’r aelod cynulliad Neil Hamilton.

Ein gweithred arwyddocaol olaf ni fel pwyllgor oedd herio hawl y Bwrdd Iechyd i werthu’r Clinig Coffa ar Ffordd Tywyn gan ddadlau mai arian lleol a’i cododd o fel cofeb i’r 54 o fechgyn yr ardal a laddwyd yn yr ail ryfel byd, a hynny cyn i’r NHS ddod i fodolaeth erioed. O ganlyniad i’r llythyr hwnnw, a llythyr tebyg wedyn oddi wrth Gyngor Tref Ffestiniog, fe gytunodd y Betsi i oedi’r gwerthiant am gyfnod o dri mis, er mwyn rhoi cyfle i’r ardal allu cyflwyno cynllun o’r hyn y bwriedir ei wneud efo’r adeilad. Erbyn heddiw, mae’r Cyngor Tref yn arwain y frwydr i sefydlu hospis yno, rhywbeth sydd wir ei angen yn yr ardal, a dymunwn bob llwyddiant i’w hymgyrch.
*    *    *    *    *

Er gwybodaeth: Mae rhan helaeth o’r ohebiaeth a fu efo hwn ac arall dros y blynyddoedd, yn ogystal â’r holl erthyglau i Llafar Bro, wedi cael ei throsglwyddo, bellach, i Adran Archif y Sir yn Nolgellau. Pwy ŵyr na fydd ryw stiwdant neu’i gilydd, yn y blynyddoedd eto i ddod, yn chwilio am destun ymchwil ar gyfer gradd uwch ac yn gweld Hanes Ysbyty Coffa Ffestiniog 1919 - 2013 fel pwnc o ddiddordeb. Pe digwydd hynny, yna bydd mwy na digon o ddeunydd ar gael iddo ef neu hi allu pori trwyddo!    GVJ
*    *    *    *    *

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2019.
Cofiwch bod llawer o erthyglau'r pwyllgor amddiffyn ar y wefan yma. Cliciwch ar y ddolen Pwyllgor Amddiffyn. (Os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'View web version' i weld y dolenni)


12.1.18

O'r Pwyllgor Amddiffyn

Rhan o erthygl Geraint Vaughan Jones, o Bwyllgor Amddiffyn yr Ysbyty Coffa, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2017.

Bnawn dydd Iau, Tachwedd 30ain, caed gweld agor y Ganolfan Iechyd o’r diwedd, a hynny bron bum mlynedd union ers i’r Bwrdd Iechyd, yn Ionawr 2013, bleidleisio i gau yr Ysbyty Coffa. Daeth y Gweinidog Iechyd Vaughn Gething i fyny’n unswydd o Gaerdydd i gynnal y seremoni ac roedd yr Aelod Cynulliad, Dafydd Elis Thomas, hefyd felly’n bresennol wrth gwrs, yn ogystal â Gary Doherty a Dr Peter Higson, Prif Weithredwr a Chadeirydd y Betsi.


Ar fyr rybudd, roedd criw o tua deugain wedi ymgasglu tu allan i’r adeilad, mewn protest dawel i bwysleisio unwaith eto, ar y rhai sydd mewn grym, bod ardal Stiniog yn haeddu’r un ystyriaeth a’r un gwasanaethau ag sy’n cael eu cynnig mewn lleoedd eraill ym Meirionnydd, megis Dolgellau a Thywyn, sef trefi sydd â phoblogaeth lawer llai na Stiniog.

Tra bod prif swyddogion y Betsi wedi treulio munudau lawer yn sgwrsio efo’r protestwyr, rhyw sleifio i mewn efo’r wal, gan wenu’n wamal, a wnaeth y Gweinidog a’n haelod ni yn y Cynulliad. Doedd ganddyn nhw, yn amlwg, ddim diddordeb yn ein pryderon ni fel ardal.

Ys dywed y Sais, ‘So what’s new?
................................

Bu’r Pwyllgor Deisebau yng Nghaerdydd, sydd â chynrychiolydd o bob un o’r bedair blaid wleidyddol yn y Senedd, unwaith eto’n trafod pleidlais yr ardal hon i gael ward i gleifion, uned mân anafiadau a.y.y.b. yn ôl yma eto.

Mae’r bleidlais honno, a arwyddwyd gennych chi bobol yr ardal, wedi bod yn cael ei chadw’n agored gan y pwyllgor hwnnw ers dwy flynedd a hanner bellach, a hynny oherwydd nad ydyn nhw byth yn fodlon efo atebion y Bwrdd Iechyd i gwestiynau ac i bryderon y Pwyllgor Amddiffyn. Yn wahanol i bob un o’u cyfarfodydd eraill, doedd y cyfarfod diwethaf ddim yn agored i’r cyhoedd ond cawn le i gredu eu bod nhw, bellach, yn gefnogol i gael arolwg annibynnol i’r broses amheus a thwyllodrus o gau ein hysbyty yn ôl yn 2013.
..................................

Fel y soniwyd eisoes yn y golofn hon, bu’r Pwyllgor Amddiffyn yn galw hefyd ar Gyngor Gwynedd i gynnal arolwg annibynnol, ac mae’r Pwyllgor Craffu Gofal yng Nghaernarfon bellach yn pwyso ar Gabinet Plaid Cymru (sef y blaid sydd mewn grym yn y sir) i gytuno i wneud hynny. Hyd yma, fodd bynnag, digon anfoddog a negyddol fu’r ymateb o’r cyfeiriad hwnnw, er gwaetha’r cyfrifoldeb sydd ar eu hysgwyddau o dan Ddeddfau Llesiant (Well-being Acts) 2014 a 2015.

Fel Cyngor,’ meddan nhw, ‘ac fel partner pwysig i’r Bwrdd Iechyd, rhaid ymddiried bod y gwaith asesu gwreiddiol wedi cael ei wneud mewn modd cytbwys, trwyadl a theg.

Golchi ei ddwylo wnaeth Peilat hefyd, gyfeillion, ond mae ei warth wedi goroesi’r canrifoedd serch hynny.
....................................

Yn ôl ei arfer, roedd y Pencerdd Price wedi bod yn brysur yn paratoi at y brotest trwy lunio cerdd i’w chanu ar alaw ein hanthem genedlaethol. Gwaetha’r modd, roedd y gwahoddedigion i gyd yn glustfyddar i’n hymdrech gerddorol ni. Rhy brysur, mae’n siŵr, yn gloddesta ac yn mwynhau lletygarwch y Betsi, pwy bynnag oedd yn talu am beth felly!

Felly, be am i chi, ddarllenwyr hynod gerddorol Llafar Bro, fynd-ati i’w chanu hi gydag arddeliad cyn mynd i glwydo heno? Neu, gwell fyth, be am i’r teulu cyfan ffurfio côr? (Awgrym tafod-mewn-boch, mae’n wir, ond pwy ŵyr na fydd rhai ohonoch chi am dderbyn y sialens!) -

Mae’r hen ’Sbyty Goffa yn annwyl i ni,
Trwy aberth ein dewrion y cawsom ni hi;
Ei gofal, ei gallu, ei chariad oedd fawr –
Pam, Betsi, ein gadael i lawr?
 
Gwlâu, gwlâu,
Ein hangen ni yw gwlâu.
I’r claf gael parch, i’w glwyfau brau
O bydded i’n hymgyrch barhau.
....................................

Boed i 2018 fod yn Flwyddyn Llawn Iechyd i bob un ohonoch.
GVJ
--------------------------------
Erthygl o bron union dair blynedd yn ôl, pobl Stiniog yn gyrru neges glir i'r Bwrdd Iechyd: Taro'r Post i'r Parad Gl'wad

Gallwch weld hanes yr ymgyrch efo'r dolenni* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(*Ddim i'w gweld ar fersiwn ffôn -dewiswch 'View Web Version' ar y gwaelod)


1.8.16

O'r Pwyllgor Amddiffyn -ymladd anghyfiawnder

Y frwydr yn parhau...

Cyfarfod gyda’r Cynghorau Iechyd Cymunedol
Ganol Mehefin, aeth dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn i gyfarfod aelodau Cyngor Iechyd Cymunedol Gwynedd yn Nhremadog a hynny am y pedwerydd tro o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Drannoeth, ac am yr eildro o fewn ychydig fisoedd, roedden ni hefyd yn cyfarfod ag aelodau Cyngor Cymunedol Conwy yn Abergele.

Y bwriad, wrth gwrs, oedd tynnu sylw’r ddau CIC at y sefyllfa gwbwl annerbyniol sy’n bodoli, bellach, yn yr ardal hon cyn belled ag y mae gofal iechyd yn y cwestiwn, a hynny o’i gymharu â’r hyn a gaiff ei gynnig mewn ardaloedd eraill, hyd yn oed o fewn Sir Feirionnydd ei hun. Roedden ni yno i ofyn iddynt barhau i gefnogi ein safiad a rhoi pwysau ar y Pwyllgor Deisebau newydd yng Nghaerdydd i gadw’n deiseb yn agored yn fan’no, fel bod y pwysau’n cynyddu ar y Gweinidog Iechyd newydd.

Roedd y ddau bwyllgor yn gefnogol iawn i’n cais a chaed addewid pendant y byddent yn cynorthwyo mewn ffordd ymarferol.
 
Ffurflenni cŵyn
Yn ystod Mehefin a Gorffennaf, bu cyfle i rai ohonoch nodi eich cwynion, ar ffurflenni pwrpasol am safon y gofal iechyd yn lleol. Erbyn hyn, daeth pentwr o’r ffurflenni yn ôl inni, wedi eu cwblhau, a bydd y Pwyllgor Amddiffyn rŵan yn mynd ati i ddefnyddio’r wybodaeth sydd arnynt i brofi, eto fyth, i’r Betsi, mai gwasanaeth eilradd sy’n cael ei gynnig ganddynt yn yr ardal hon, ers cau yr Ysbyty Coffa.

Diolch eto am barhau i’n cefnogi, er bod ambell eithriad yn eich mysg, yn ôl pob sôn, sy’n deud "Does gen i, beth bynnag, ddim byd ond canmoliaeth i’r gwasanaeth", cystal â beirniadu’r Pwyllgor Amddiffyn am neud ffýs. Ond dadl gwbl hunanol ydi honno, wrth gwrs, ac un sy’n adleisio geiriau’r Sais ‘I’m alright Jack!

Mae’r gymuned hon wedi bod yn un glôs iawn ar hyd y blynyddoedd ac wedi arfer ymladd yn erbyn anghyfiawnder o bob math. Mae’n bwysig ein bod ni’n dal ati i wneud hynny, ac efo un llais, os yn bosib.
 
Gweinidog Iechyd
Anfonwyd llythyr at y Gweinidog Iechyd newydd, Vaughan Gething, yn ei groesawu i’w swydd ac yn gofyn iddo gyfarfod dirprwyaeth o’r Pwyllgor Amddiffyn yn ei swyddfa yng Nghaerdydd ond, fel ei ragflaenydd, gwrthod wnaeth o, a hynny am yr un rheswm, eto fyth –
Wna i ddim ymyrryd efo rhywbeth sydd wedi cael ei benderfynu’n lleol’!

Ond pwy ddaru benderfynu’n lleol? Yn sicr, nid 99% ohonoch chi, bobol y cylch! Na phobol Dolwyddelan yn sir Conwy chwaith! Nonsens llwyr ydi hawlio unrhyw fath o drefn ddemocrataidd yng Nghymru bellach.

Cofio
Ar y cyntaf o Orffennaf roedd ein prif weinidog Carwyn Jones yn mynychu gwasanaeth yng nghadeirlan Llandaf i gofio aberth y milwyr Cymreig a laddwyd ym mrwydyr y Somme, ganrif yn ôl. ‘Ni ddylen ni fyth anghofio’r rhai a frwydrodd mor ddewr dros ein dyfodol ni
medda fo, tra ar yr pryd yn dewis anghofio ei fod o a’i lywodraeth wedi rhoi sêl bendith ar ddymchwel yr Ysbyty Coffa yma yn Stiniog; adeilad oedd yn gofadail i 407 o ddewrion y cylch a syrthiodd mewn dau ryfel byd. Rhagrith, ta be?
-----------------------------------------


Addasiad o erthygl Geraint Vaughan Jones, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2016.
Dilynwch hanes y frwydr efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.