Y mae ein bro yn llawn rhyfeddodau daearegol, o’r Migneint, y Manod Mawr a’r Bach draw i’r Moelwynion. Yn y dyddiau a fu byddai amryw o’r hen chwarelwyr â chryn wybodaeth am y gwahanol fathau o Lygadau a Gwythiennau a geid yn haenau’r llechgreigiau.
Tybed faint o’r to presennol sydd wedi clywed am y termau chwarelyddol canlynol-
Llygad Newydd, Llygad Coch, Llygad Cefn, Llygad Thomas Edwards, Hen Lygad.
Enwau ar haenau o lechfaen yw ‘Llygad’ yn y cyswllt hwn. Dyma rai o’r gwythiennau yn yr Hen Lygad-
Ithfaen Glas, Y Wythïen Wen a’r Teulu, Gwythïen y Crych Du, y Wythïen Gam, Y Wythïen Fawr.
A cheir y canlynol yn y Llygad Coch-
Ithfaen Uchaf, Tew y Tair Wythïen, Wythïen Derfyn, Y Ddifyr, Y Tolc Dwbl, Y Las Isaf, ayyb.
Eto yn y Llygad Cefn-
Y Wythïen Fflat, Hollt Goeden, Wythïen Llyffant, Wythïen Asgwrn, Wythïen Glapiog, ayyb.
Bu amryw o ddaearegwyr amatur yn ein hardal pan oedd y chwareli yn eu hanterth, ond magwyd tri ohonynt a ddaeth yn bur amlwg yn eu dydd, sef Griffith John Williams, awdur Hanes Plwyf Ffestiniog (1882), William Vaughan, ac Owen Rowland Jones.
Penodwyd y tri ohonynt yn Arolygwyr y Mwynfeydd. Yn ddiau, G.J Williams oedd yr enwocaf ohonynt. Bu’n gweithio yn chwarel Holland ac Oakeley am ysbaid, ond gwelodd rhai ei allu a chafodd gyfle i astudio yn y Coleg Normal. Yn dilyn ei gyfnod yno cafodd swydd athro yn Ysgol Glanypwll a thrachefn fel Prifathro yr Ysgol Uwchraddol. Aeth i astudio daeareg yn Llundain wedyn a derbyniwyd ef fel Fellow of the Geological Society yn 1884, ac yna yn 1895 penodwyd i swydd fel Arolygydd y Mwynfeydd gyda Dr Le Neve Foster. Cyhoeddodd bapur ar ddaeareg yr ardal, sef Manod and the Moelwyns yn 1891.
![]() |
| GJ Williams a graptolit Dubach y Bont |
Rhai blynyddoedd yn ôl bellach, bum ar amryw o deithiau daearegol efo’r diweddar gyfaill Merfyn Williams, Croesor (cyn bennaeth Plas Tan-y-bwlch) a dysgais gryn dipyn am ddaeareg yr ardal yn ei gwmni ef gan ei fod yn gallu gwneud y pwnc yn ddiddorol. Mae gennyf gof ohono yn dangos y creigiau pyroclastig ger Llyn Bywydd a’r bomiau folcanig ger Llynnoedd Cerrig y Myllt yng nghesail y Cnicht i ni.
Bum yn chwilio am ffosiliau yn ein bro a thu hwnt ar ôl bod yn Bwlch y Batel, ger Croesor, a chanfod rhai tebyg i gregyn cocos. Cefais hyd i ambell graptolit ger Llyn Dubach y Bont ar y Migneint, hefyd.
![]() |
| Llyn Conglog a'r 'bom folcanig' |
Credaf bod yr enghreifftiau gorau o fomiau folcanig y wlad yn ein bro. Ceir un enfawr yn mesur tua 6 troedfedd o hyd, ac yn pwyso rhyw 3 tunnell go dda ger Llyn Conglog. Tynnwyd fy sylw ati hi ar ôl i Gwilym Arthur Roberts, y naturiaethwr o Rydysarn ddod ar ei thraws beth amser yn ôl. Diolch Gwil am y lluniau.
- - - - - - - -
Pennod o gyfres Steffan ab Owain. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026


No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon