27.2.22

Cynefin yr Alltud

Llyfr Newydd – a dau adolygiad
Cynefin yr Alltud. Cylch Congl-y-Wal, Manod a 'Stiniog. Les Darbyshire.


Ceir rhwng cloriau’r gyfrol hynod ddifyr hon nifer o gyfeiriadau at leoliadau a chymeriadau oedd yn golygu cymaint i ’Stinogwyr  y dyddiau cynt, ac yn sicr, i’r awdur ei hun. Beth sy’n well nac arwain y darllenwyr hyd lwybrau ddoe, ac i gwrdd â phreswylwyr annwyl cymdogaeth sy’n adnabyddus am  ei chyfeillgarwch? 

Yn y bennod Atgofion bore oes: Tyddyn Gwyn, Manod, atgoffir ni gan Les iddo gael ei fagu yno ‘dros naw deg mlynedd yn ôl ac mae atgofion y cylch yn dal yn fyw yn fy nghof...’ Aiff â ni ar daith drwy’r rhanbarth hyfryd hwn gan ddisgrifio’r cymeriadau oedd yn trigo yno’r dyddiau gynt, ac am hanes sawl annedd ac adeilad a safai fel rhan o’r olygfa. Rhoddir darlun o’r math o fywyd a brofwyd gan drigolion sawl rhan o’r pegwn hwn, o’r Manod a Chongl y Wal hefyd. Cawn weld drwy’r disgrifiadau safonau byw cyntefig y dyddiau fu, gyda chanhwyllau neu lamp oel yn goleuo’r cartrefi, a grât hen ffasiwn yn cynhesu a choginio ar gyfer y preswylwyr. Adroddir hanes rhai o deuluoedd y fro, ac am ffawd ambell un mewn cyfnod digon tlawd ac anodd i lawer. Mae’r tudalennau’n llawn o hanesion pobl a phethau yn rhan o gynefin diwydiannol a gasglwyd gan yr awdur yn ystod ei oes. 

Cynhwysir nifer o luniau diddorol sy’n crynhoi stori bro sydd wedi newid mor anghredadwy dros yr un cyfnod. Ceir hefyd ambell i gerdd sydd mor berthnasol i’r gymuned a’r cyfnod y bu’r awdur yn rhan ohonynt. Yn ychwanegol, gwelwn restrau o enwau meddygon ‘Stiniog a swyddogion y Cyngor Tref, ynghyd â digwyddiadau diddorol fu’n rhan o fywyd yr ardal. Atgofion un fu’n rhan annatod o gymdogaeth y bu mor falch ohoni yw’r gyfrol hon. 

Yn sicr, bydd yn gyfrwng i ddarllenwyr fwynhau ymuno yn y daith hynod ddiddorol yma. Bydd hefyd yn agoriad llygaid i nifer i gyfnod sydd wedi hen ddiflannu. Diolch yn fawr am ein hatgoffa o’r dyddiau pell yn ôl rheiny Les. Bydd galw mawr am y gyfrol, yn sicr.

Vivian Parry Williams


************

Dyma’r drydedd gyfrol gan yr awdur, sy’n enedigol o Dyddyn Gwyn, yn y Manod. Cyhoeddwyd Barmouth Sea Heroes yn 2001 ac Our Backyard War ganddo yn 2015, ac fel y gŵyr y mwyafrif ohonoch, bu ganddo erthyglau difyr ar hanes ei ardal yn Llafar Bro beth amser yn ôl.

Yn y gyfrol hon y mae Les yn ein dwyn yn ôl i ardaloedd Congl y Wal, y Manod, yn ogystal â rhannau o dref y Blaenau, ac i gyfnod ei blentyndod yn yr 1930au. Yn ddiau, y mae angen mwy o atgofion tebyg i’r rhain am ardaloedd eraill ein bro gan eu bod yn cyfleu darluniau mor fyw o’r cyfnod. Dyma beth ddywed Eigra yn Y Rhagair iddo – ‘Roedd yr awdur yn rhan o’r gymdeithas honno a’i wreiddiau ynghlwm ym mhridd y Manod’ - Ac os caf innau ychwanegu ato - y mae ei gof am fro ei febyd yn hynod o dda a chofio bod sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers iddo drigiannu yno. Gwelwn yn rhan gyntaf y gyfrol gynllun o’r ardal, a rhestr o’r cartrefi, capeli, siopau a busnesau a fyddai yno er mwyn i’r darllenydd allu adnabod cynefin yr awdur yn ystod y blynyddoedd a fu. Syniad gwych, yn wir.

Yn y bennod Atgofion Bore Oes: Tyddyn Gwyn, Manod cawn ei hynt a’i helynt yn cynorthwyo ar fferm Tyddyn Gwyn o dro i dro, ac yn godro un o’r gwartheg allan yn y cae a’r helbul a fu wedyn. Dywed iddo ddal y dwymyn goch (scarlet fever) yn 1936 pan yr oedd Eisteddfod yr Urdd i fyny ar gae uwchlaw fferm Tyddyn Gwyn, sef man presennol Ysgol y Manod. Cael ei gaethiwo yn ei wely am dair wythnos oedd ei hanes. Difyr oedd darllen am hanes y plismon yn cuddio mewn cwt glo er mwyn dal y lleidr a fu’n dwyn glo yn y cylch a’r atgof am un o’i gyfeillion yn gwneud parashwt o darpolin a neidio oddi ar glogwyn Tŷ Coch.

Yn ogystal â’r hanesion am ei blentyndod a’r gwahanol chwaraeon a fyddai ganddynt yn y Manod, y storïau am drigolion ei fro, ceir toreth o ffeithiau hanesyddol hefyd yn yr wyth pennod sy’n dilyn, megis cofnodion am ddamweiniau i weithwyr Chwarel y Graig Ddu, manylion am rai yn cael eu diarddel o’r capeli, enwau rhai a ymfudodd i’r Unol Daleithiau, a llawer mwy. Y mae’n cynnwys amryw o hen luniau diddorol, cerddi am ardal Cae Clyd, y cae pêl-droed a Chapel Gwylfa (MC). Os ydych yn hoff o ddarllen am hanes ein bro, nid oes dwywaith amdani, cewch fwynhad o’r mwyaf yn darllen y gyfrol hon gan Les.

Steffan ab Owain

Gwasg y Lolfa. £9.99

Yn fuan ar ôl i'r uchod ymddangos yn rhifyn Ionawr 2022, daeth y newyddion trist am farwolaeth yr awdur. Roedd Les yn benderfynol o weld ei hanesion difyr o’i hen gynefin yn cael eu cyhoeddi, a gwireddwyd hynny, diolch i wasg y Lolfa.
Trueni na fyddai wedi cael byw i brofi y derbyniad gwych sydd i’r llyfr yma yn nalgylch Llafar Bro.
Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Les yn eu colled.


23.2.22

‘Stiniog o’r Wasg Erstalwm- tollbyrth a rheilffyrdd

Cyfres achlysurol gan Vivian Parry Williams yn edrych yn ôl trwy hen hanesion lleol yn y wasg.

Hysbysebion a ymddangosent yn rheolaidd oedd rhai oedd yn sôn am ocsiwns i osod tollbyrth ar ffyrdd tyrpeg yr ardal. Un o’r rhai cynharaf yn y wasg sy’n cyfeirio at yr ardal hon yw’r un yn y North Wales Chronicle (NWC) ar 3 Chwefror 1835, yn dweud bod ocsiwn i’w gynnal ar bedair tollborth o fewn, neu’n agos at y cyffiniau hyn. Roedd hynny’n digwydd yn y Maentwrog Inn ar y 4 Mawrth 1835, rhwng dau a phump o’r gloch y p’nawn. 

Enwir pedair tollborth: 

Maentwrog, a gasglodd swm o £431 o dollau y flwyddyn cynt; 

Ffestiniog, (£80); 

Carreg pen gyflin (£36); 

a Thalsarnau (£32). 

Cyfeirir hefyd at ddwy dollborth ar y ffordd breifat (yr adeg hynny) o Dan-y-bwlch i Dremadog, sef Caefali a Chaegwyn oedd yn cael eu gosod ar ocsiwn am y pris uchaf. Byddai'r hysbysebion hyn yn ymddangos yn flynyddol, ac am wythnosau ar y tro, ym mhapurau newyddion y 19eg ganrif.

-------------------------------------------------------------

Achlysur pwysig iawn yn hanes 'Stiniog oedd agoriad swyddogol y Lein Fach, gan oruchwiliwr y cynllun, James Spooner, ar yr 20fed o Ebrill 1836, a chafwyd adroddiad llawn o'r achlysur yn y NWC ar 26 Ebrill 1836. Yn ôl pob golwg, roedd yn ddiwrnod cyffrous iawn, wrth i wagenni o lechi chwarel Holland gael eu llwytho, a'u hanfon bob cam i'r cei ym Mhorthmadog. 

Yn gwmni i'r llechi roedd sawl coets yn cario pwysigion y dydd, gyda chanans yn cael eu tanio ar hyd y siwrnai i'r Port. Wedi cyrraedd pen y daith, yr oedd cwmni'r rheilffordd wedi trefnu gwledd a 'chwrw da' ar gyfer y gwesteion a'r gweithwyr ar lawnt Morfa Lodge, cartref Spooner. Roedd seindorf o Gaernarfon wedi ei hurio i gyflenwi adloniant i'r dyrfa a oedd wedi dod yno i fwynhau'r achlysur hanesyddol hwnnw. 

---------------------------------------------------------------------

Gan ein bod yn trafod y lein fach, diddorol oedd darllen hanes achos cyfreithiol yn erbyn cwmni Rheilffordd Ffestiniog yn y Manchester Times and Gazette 19 Mawrth 1837, llai na blwyddyn wedi'r agoriad swyddogol uchod. Achos a ddygwyd gan wraig un John Smith, a benodwyd ar y dechrau i osod rhai o gledrau'r lein fach o'r Blaenau i Borthmadog. 

Wedi gwneud peth o'r gwaith, bu anghytundeb rhwng y contractiwr a'r cwmni, ac fe ddiswyddwyd Smith, a phenodi James Spooner i gwblhau'r gwaith. Canlyniad yr achos yn erbyn Rheilffordd Ffestiniog oedd i'r cwmni orfod talu iawndal o £5000 i weddw Smith, swm anferthol y cyfnod hwnnw. Diddorol hefyd oedd darllen rhan o'r adroddiad, sy'n cyfleu naws iaith y cyfnod yn glir.

-------------------------------------------------------------------------

Ym mhapur newyddion wythnosol Baner ac Amserau Cymru, neu'r Faner, yn ôl ei enw llafar, yng ngholofn newyddion Porthmadog ar yr 11 o Fai, 1874, cyhoeddwyd y canlynol, sydd yn rhoi amcan inni o faint o lechi ‘Stiniog a allforiwyd ar y pryd.

"Masnach y Llechi. -- mae cyflawnder o archebion (orders) yn llaw y gwahanol gwmniau. Dengys y daflen ganlynol y nifer o dunelli, a anfonwyd allan diweddaf.

- - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2022

MWY

19.2.22

Rhod y Rhigymwr- Gwilym Ystradau a Gwilym Ychain

Cyfres lenyddol Iwan Morgan

Rydw i wedi cadw pob ysgrif a luniais ar gyfer ‘Rhod y Rhigymwr’ o’r dechreuad, ac yn ddiweddar, cefais amser i edrych yn ôl ar yr hyn a gyflwynais. Yn 2015*, un o’r hen feirdd lleol a gafodd sylw oedd Rowland Walter, neu, a rhoi iddo’i enw barddol, ‘Ionoron Glan Dwyryd’ [1818-94] ... gŵr a anwyd yng Nghefn-faes, Congl-y-wal, ac a gladdwyd ym Mynwent Cedar Grove, Vermont, Unol Daleithau’r America. Yn ysgrif Ebrill 2015, cyfeiriais at awdl a gyfansoddodd ... ‘Crwydriaid Awen’ - sy’n disgrifio’i hiraeth am ei henfro yma’n ‘Stiniog. Wrth ddyfynnu un englyn o’r awdl, nodais ei fod yn cyfeirio at ‘Gwilym Ystradau’ o Danygrisiau:

Tynnu gwres mae Tanygrisiau - o’r haul
     I fron ei llechweddau;
Llu yn hon sy’n llawenháu,
Ystrŷd ‘Gwilym Ystradau.’
Er holi, chefais i ddim gwybodaeth am bwy oedd ‘Gwilym Ystradau.’ Ond wrth chwilota am un ‘Gwilym’ arall arferai fyw yn Nhanygrisiau, ac a briododd berthynas i’m nain, mam fy nhad, dyma ganfod y wybodaeth ganlynol...

Ganwyd William Williams yn Llwyn Gell, Rhiwbryfdir, tua 1813. Cafodd ei fagu gan ei ewyrth, William Jones, yn y Tŷ Newydd, Tanygrisiau. Prin iawn oedd manteision addysg yn ystod dyddiau ei ieuenctid, ac fel sawl un o’i gyfoedion, bu’n rhaid troi am y chwarel i geisio gwaith. Gwnaeth ddefnydd da o’i oriau hamdden i gasglu gwybodaeth a diwyllio’i hun. 

Fel ei gyfaill, Rowland Walter, dysgodd y cynganeddion, ac ystyrid ef yn fardd pur fedrus yn y gymdogaeth. Bu’n byw mewn sawl man yn Nhanygrisiau, ond am gyfnod byr, aeth i fyw i Glan yr Afon Ddu, gerllaw Chwarel Moelwyn. Dyma fel y disgrifia unigrwydd y lle hwnnw:

Mudais, nid wyf yn gymydog - yn awr
     I neb ond y llwynog;
I ryw fan ger y fawnog
Lle ni chân tylluan na chog.
Wedi priodi â gwraig o’r enw Mary, bu’n byw yn rhesdai Wrysgan Fawr, Tanygrisiau. Dyma’r tai y cyfeiria Ionoron Glan Dwyryd atyn nhw fel ‘Ystrŷd Gwilym Ystradau.’ 

Bu Gwilym yn cyfeillachu â llawer o feirdd eraill ei ddydd, rhai megis Moelwyn Fardd a Gwilym Peris. Enillodd sawl gwobr mewn eisteddfodau lleol. Cerddi ar destunau nodweddiadol yr oes oedd y mwyafrif o’r rhai y derbyniodd wobrau amdanynt ... ‘Cywydd i’r Argraff-wasg', Awdl - ‘Bywyd ac Angau y Gwaredwr’, Awdl Goffa ‘I Robert Lloyd, Plas Meini, Ffestiniog’ ac Awdl - ‘Gwaredigaeth Israel o’r Aifft, dan law Moses'.

Ymhlith yr hyn a ddarllenais o’i waith, mae yna englyn Saesneg - un byrfyfyr, a ysgrifenwyd ar ran goruchwyliwr un o Chwareli ‘Stiniog. Yn ôl yr hanes, daeth Gwilym ar ei draws yn y Grapes, Maentwrog. Roedd y goruchwyliwr yn awyddus i gael gwydraid o frandi, a chan mai Saesnes oedd y forwyn a weinyddai yno, dyma ofyn i Gwilym weithio englyn sydyn i ofyn iddi am y ddiod, a hynny’n yr iaith a ddeallai:

Fair waiter, if you are witty, - now come
     And make haste, my lady;
Now, fair maid, do run for me
Yonder, for a glass of brandy.
Bu Gwilym Ystradau farw’n 48 oed, a chafodd ei gladdu ym Mynwent Llan Ffestiniog ar 2il Tachwedd 1861. 

Fel rhan o’m hymchwil i hanes fy nheulu ... ‘Edrych tua’r gorffennol’, deuthum ar draws ‘Gwilym’ arall oedd yn dipyn o fardd gwlad. Ganwyd William Owen Evans ym 1828, yn fab i Ifan Ifan y Gof, Trefeinion, a’i briod, Siân William. Ar 25 Tachwedd 1853, priododd Gwen Morris, merch William Morris, Tanygrisiau a’i briod, Catherine Griffith Evan [a anwyd yn Tanrhiw, Beddgelert]. Roedd Gwen [1831-1906] yn gyfyrdres i’m hen nain, Elen William Parry [1841-89], Beudy Coed, Nantmor. 

O chwilota’n rhai o bapurau newydd y cyfnod, ceir fod William O. Evans, neu, a rhoi iddo ei enw barddol ... ‘Gwilym Ychain,’ yn ennill gwobrau yn yr eisteddfodau neu’r ‘cyfarfodydd diwylliannol’ a drefnwyd gan chwareli’r ardal yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Yn Awst 1872, fe’i cawn yn fuddugol am weithio englyn i’r ‘Water Ballast’ a chywydd i  ‘Afon Iorddonen’ yng Nghystadleuaeth Lenyddol y Meistri Holland. Yn Eisteddfod Ffestiniog, a gynhaliwyd yn Assembly Rooms y Blaenau ar y Llungwyn 1874, daeth yn fuddugol am gyfansoddi pryddest - ‘Cymylau’, dan feirniadaeth Hwfa Môn. Derbyniodd bunt a chweugain o wobr. Gwasanaethodd fel beirniad adrodd o bryd i’w gilydd hefyd.

Fel ei dad o’i flaen, gof oedd Gwilym Ychain. Bu farw ar 3ydd Awst 1882, a’i gladdu ym Mynwent Llan. Ar ei garreg, mae englyn o’i waith ei hunan:

‘William Owen Evans [Gwilym Ychain], Bodychain, Tanygrisiau’ ... fu farw yn 53 oed ...

‘Drwy guro caf drugaredd - a’i ras Ef
     Yn drysor diddiwedd;
Da gennyf fod digonedd
I ddyn crin ar fin ei fedd.’
Bu Gwen Evans, ei briod, farw ar 1af Ebrill 1906, yn 75 oed. 

- - - - - - 

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2022

Ionoron Glan Dwyryd (colofn Iwan o 2015)


14.2.22

Pwy Oedd y Rhain?

Ydach chi wedi clywed am John Black o Dŷ’n y Maes?  Neu John Thomas Owen, Bryn Tirion?  Neu beth am Oscar Phillips, Llwyn?

Wel, mae eu henwau wedi eu hysgrifennu ar y Gofgolofn yn Ffestiniog, ymhlith y tri deg naw o hogiau’r ardal gollodd eu bywyd yn y Rhyfel Mawr, 1914 i 1918.

Cofgolofn y Llan. Llun gan Paul W

Yn eu plith hefyd mae Arthur Price ac yr oedd nith iddo, Susan Salter o Norwich, yn awyddus i wybod rhagor amdano.  Aeth i weld man ei fedd yn Proven, Gwlad Belg, fwy nag unwaith a gwnaeth ymchwil i hanes Arthur ac i hanes y bechgyn eraill sydd a’u henwau ar y Gofgolofn.  Ysgrifennodd Susan lyfr Saesneg, ‘Ffestiniog Remembers’ i gynnwys peth o’u hanes a’i gyflwyno mewn arddangosfa yn Neuadd Ffestiniog ar ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Mawr yn 2018.  Nid oedd raid iddi fy mherswadio innau, fel nith arall i Arthur Price, i’w helpu ac i gyfieithu ei llyfr i Gymraeg.

Gwyddom o’i ddarllen i ddau ddeg tri ymuno â’r Royal Welsh Fusiliers gyda dau yn ymuno â Chorfflu Feddygol y Fyddin.  Gyrrwyd rhai i Salonica yng ngwlad Groeg, eraill i Gallipoli yn Twrci.  Roedd afiechydon yn frith yno a buont farw o’u clwyfau neu o falaria neu dwymyn farwol, un bachgen yn marw o fewn dyddiau wedi cyrraedd.

Ond i Ffrainc neu wlad Belg yr aeth y mwyafrif ac yno yng Nghoed Mametz, yn y Somme, Passchendaele, Ypres neu faes brwydr arall yno y cawsant eu lladd.  Gwyddom fan beddrod rhai o’r hogiau ond does gan eraill ddim bedd i ddangos yn union lle claddwyd hwy.  Ym mynwent y pentref y claddwyd un neu ddau ac ar gopa Pen Ffridd ar dir Bryn Llewelyn y claddwyd un arall, sef y Barwn Newborough, ef o afiechyd a gafodd yn Ffrainc.

Os am wybod mwy am gefndir yr hogiau, ewch i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr yn y Blaenau.  Cewch edrych ar gopi o lyfr Susan Salter a gweld llun pob un o’r tri deg naw milwr ac un arall fu farw o’i glwyfau yn 1923.

Neu beth am ddarllen profiadau’r rhyfel gan Tom Price, brawd Arthur Price?  Mae copi o’i lyfr, ‘Rhywle yn Ffrainc’, hwnnw hefyd yn yr Amgueddfa.
Lonna Bradley
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol (heb y llun) yn rhifyn Rhagfyr 2021.   

Cofiwch am gyfres fanwl Vivian Parry Williams: Stiniog a'r Rhyfel Mawr

10.2.22

Yr Abbey a Phont Fawr y Rhiw

Agorodd erthygl Geraint Vaughan Jones (yn Rhamant Bro 2021) bennod yn hanes teulu ni –y Williams’. Mae cyswllt teulu fy nhad, Idris Williams, Glanpwll Villa ag ardal y Blaenau yn dyddio yn ȏl i ddechrau’r 1800au hyd ei farw yn 1971. I Lan Ffestiniog y daethant gyntaf, yn denantiaid i’r Old Abbey Arms- tybed ai nhw oedd y tenantiad cyntaf?

Thomas Williams (TW) a’i wraig Mary oedd tenantiaid yr Abbey. Credaf i TW gael ei eni yn 1831 yn y Sportsman Llandwrog a’i wraig Mary (g.1816) yn Llanllyfni. Hwyrach eu bod yn denantiaid i'r Arglwydd Newborough cyn dod i Llan? Credaf bod TW yn gweithio yn un o’r chwareli fel peiriannydd. 

Dyfeisiodd gynllun fel bod ceffyl yn gwthio rhywbeth fel bod bwyd yn disgyn i’r preseb a'r ceffyl yn  bwydo ei hun fel nad oedd angen i TW godi mor fore i’w fwydo.

Ganwyd 5 o blant i TW a Mary: Thomas 1842 (fy hen Daid), Anne 1844, (byw yn Adwy Goch wedi priodi), Jane 1847 (bu farw yn 20 oed 1875), Mary 1851, a William Pritchard 1853. Bu Mary gwraig TW farw Chwefror 1858 yn 36 oed.

Cododd TW garreg fedd enfawr i Mary, ar y dde i ddrws Eglwys Llan- mae’n dal i sefyll- llechfaen ddu. Bu farw TW yn 1895. Ail wraig iddo oedd  Lucy (1825-86).  Cadwyd tenantiaeth yr Abbey yn y teulu gan Mary, merch ieuengaf TW hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Sefydlodd Thomas, mab hynaf TW yn y Blaenau. Un cyfeiriad iddo ydi 42 High St – ger swyddfa Cyfreithwyr Evans Jones. Dyma fy hen Daid, a fo gynlluniodd y gwaith coed ar Bont Fawr wreiddiol yr Oakeley (Welsh Slate Co ar y pryd). Er mwyn cael lle i’r piler canol, newidiwyd cwrs afon Barlwyd.  Codwyd y bont fawr yn y cyfnod 1872-75. Agorwyd y rheilffordd i’r Blaenau yn 1879. Darllenais bod  cynllun y bont yn seiliedig ar waith Isambard Kingdom Brunel. Evans oedd cyfenw'r saer maen oedd yn gyfrifol am y pileri cerrig, ac sydd yno o hyd. 

Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Pont y Rhiw, 1875"
 

Bu Thomas farw yn ŵr ifanc deugain oed yn 1882. Ar y pryd roedd ei unig fab yn ddisgybl yn y  Mechanics Insitute yn Lerpwl. Da gweld bod Thomas yn awyddus i’w fab Thomas John Williams gael pob cyfle addysgol. Yn anffodus, gorfu iddo adael yr Institute ohwerydd marwolaeth ei dad-  a daeth adref i gynnal ei fam a’i dair chwaer. Un o gampweithiau TJW oedd cryfhau'r bont fawr gan ei gwneud yn bont haearn a daeth y darnau haearn o’r America. Addaswyd y bont ymhellach gan fab TJW sef Idris Williams fy Nhad.

Nia Williams
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2021


6.2.22

Tra môr... Lea yn hiraethu

Y Stiniogwyr rhyngwladol! Pennod arall o gyfres Gai Toms yn nodi hynt a helynt rhai o blant ardal Llafar Bro sydd bellach yn byw dramor.

Lea Anthony, Sydney, Awstralia


Awstralia, sut a pham?

Roeddwn isio newid ychydig ar fy mywyd, isio gweld y byd ac yn bendant angen mwy o haul! Ges i visa yn 2012 a mynd yn 2013, heibio yr USA. Byswn i wedi mynd yn 2012 ond cefais gyfle "unwaith mewn oes" i ganu'r anthem yng ngêm Cymru v Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm. Am ddiwrnod oedd hynny!

Gwaith a theulu?
Gweithio efo cwmni Double Unicorn yn Sydney yn cynllunio meddalwedd. Mae gen i deulu bach rwan a dwi'n siarad Cymraeg efo'r mab. Mae o wrth ei fodd hefo Gwibdaith Hen Fran!

Wyt ti’n teimlo hiraeth am Stiniog neu Gymru?

Ydw,  dwi’n teimlo hiraeth yn aml, enwedig pan dwi'n dilyn rhaglenni fel Un Bore Mercher a Craith. Dwi'n methu cymuned Stiniog, a'r Kurdish pasties!

Disgrifia'r ardal ti'n byw ynddo.

Dwi'n byw yng ngogledd Sydney, yn y suburbs. Er y suburbs, mae 'na ddigon o goed palmwydd o gwmpas, mae'n eitha gwyrdd yma. Mae 'na hefyd llwyth o cockatoos yn yr ardal!

Wyt ti’n dathlu’r Dolig?

Ydw. Mae Dolig yng nghanol yr haf, felly mae'n 30 gradd a mwy. Ar ddiwrnod Dolig fydda ni mynd lawr i lan y môr. Mae'n llawer rhy boeth i fwyta twrci, felly pysgod a salad fel arfer. Mae'n brofiad hollol wahanol i Dolig yng Nghymru, a tydi caneuon am eira dim yn gwneud sens o gwbwl!

Sion Corn yn defnyddio kangaroos yn lle ceirw acw?!
Aye, fysa ceirw methu handlo'r gwres!

Wyt ti wedi bod i’r gwyllt yn Awstralia?
Naddo, ond fyswn i wrth fy modd mynd. Just paid a gwylio Wolf Creek cyn mynd!!!

Ma nhw’n deud mai Cymro oedd y Jolly Swagman yn y gân Waltzing Matilda, Joseph Jenkins. Heblaw am Kylie Minogue… alli di feddwl am gysylltiad arall efo Oz a Cymru?
Mae na bobl enwog wrth gwrs: Naomi Watts, Julia Gillard, Iwan 'Oz' Jones! Mae na pub yn Sydney o'r enw The Oaks, sydd wedi bod ar agor ers 135 blwyddyn. Ers 1975, Cymro sydd wedi ei redeg, ac mae'n chwifio baner Cymru o'r to. Mae'n anhygoel gweld Draig Goch anfarth yn Sydney! 

Diolch Lea, wyt ti isio dweud rywbeth wrth rhywun yma?
Cymryd bob cyfle mae bywyd yn ei roi i chi! Peint yn y Meirion pan fyddai adra. Diolch am y cyfle i sgwrsio, a phob hwyl 'Stiniog!

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2021