27.2.22

Cynefin yr Alltud

Llyfr Newydd – a dau adolygiad
Cynefin yr Alltud. Cylch Congl-y-Wal, Manod a 'Stiniog. Les Darbyshire.


Ceir rhwng cloriau’r gyfrol hynod ddifyr hon nifer o gyfeiriadau at leoliadau a chymeriadau oedd yn golygu cymaint i ’Stinogwyr  y dyddiau cynt, ac yn sicr, i’r awdur ei hun. Beth sy’n well nac arwain y darllenwyr hyd lwybrau ddoe, ac i gwrdd â phreswylwyr annwyl cymdogaeth sy’n adnabyddus am  ei chyfeillgarwch? 

Yn y bennod Atgofion bore oes: Tyddyn Gwyn, Manod, atgoffir ni gan Les iddo gael ei fagu yno ‘dros naw deg mlynedd yn ôl ac mae atgofion y cylch yn dal yn fyw yn fy nghof...’ Aiff â ni ar daith drwy’r rhanbarth hyfryd hwn gan ddisgrifio’r cymeriadau oedd yn trigo yno’r dyddiau gynt, ac am hanes sawl annedd ac adeilad a safai fel rhan o’r olygfa. Rhoddir darlun o’r math o fywyd a brofwyd gan drigolion sawl rhan o’r pegwn hwn, o’r Manod a Chongl y Wal hefyd. Cawn weld drwy’r disgrifiadau safonau byw cyntefig y dyddiau fu, gyda chanhwyllau neu lamp oel yn goleuo’r cartrefi, a grât hen ffasiwn yn cynhesu a choginio ar gyfer y preswylwyr. Adroddir hanes rhai o deuluoedd y fro, ac am ffawd ambell un mewn cyfnod digon tlawd ac anodd i lawer. Mae’r tudalennau’n llawn o hanesion pobl a phethau yn rhan o gynefin diwydiannol a gasglwyd gan yr awdur yn ystod ei oes. 

Cynhwysir nifer o luniau diddorol sy’n crynhoi stori bro sydd wedi newid mor anghredadwy dros yr un cyfnod. Ceir hefyd ambell i gerdd sydd mor berthnasol i’r gymuned a’r cyfnod y bu’r awdur yn rhan ohonynt. Yn ychwanegol, gwelwn restrau o enwau meddygon ‘Stiniog a swyddogion y Cyngor Tref, ynghyd â digwyddiadau diddorol fu’n rhan o fywyd yr ardal. Atgofion un fu’n rhan annatod o gymdogaeth y bu mor falch ohoni yw’r gyfrol hon. 

Yn sicr, bydd yn gyfrwng i ddarllenwyr fwynhau ymuno yn y daith hynod ddiddorol yma. Bydd hefyd yn agoriad llygaid i nifer i gyfnod sydd wedi hen ddiflannu. Diolch yn fawr am ein hatgoffa o’r dyddiau pell yn ôl rheiny Les. Bydd galw mawr am y gyfrol, yn sicr.

Vivian Parry Williams


************

Dyma’r drydedd gyfrol gan yr awdur, sy’n enedigol o Dyddyn Gwyn, yn y Manod. Cyhoeddwyd Barmouth Sea Heroes yn 2001 ac Our Backyard War ganddo yn 2015, ac fel y gŵyr y mwyafrif ohonoch, bu ganddo erthyglau difyr ar hanes ei ardal yn Llafar Bro beth amser yn ôl.

Yn y gyfrol hon y mae Les yn ein dwyn yn ôl i ardaloedd Congl y Wal, y Manod, yn ogystal â rhannau o dref y Blaenau, ac i gyfnod ei blentyndod yn yr 1930au. Yn ddiau, y mae angen mwy o atgofion tebyg i’r rhain am ardaloedd eraill ein bro gan eu bod yn cyfleu darluniau mor fyw o’r cyfnod. Dyma beth ddywed Eigra yn Y Rhagair iddo – ‘Roedd yr awdur yn rhan o’r gymdeithas honno a’i wreiddiau ynghlwm ym mhridd y Manod’ - Ac os caf innau ychwanegu ato - y mae ei gof am fro ei febyd yn hynod o dda a chofio bod sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers iddo drigiannu yno. Gwelwn yn rhan gyntaf y gyfrol gynllun o’r ardal, a rhestr o’r cartrefi, capeli, siopau a busnesau a fyddai yno er mwyn i’r darllenydd allu adnabod cynefin yr awdur yn ystod y blynyddoedd a fu. Syniad gwych, yn wir.

Yn y bennod Atgofion Bore Oes: Tyddyn Gwyn, Manod cawn ei hynt a’i helynt yn cynorthwyo ar fferm Tyddyn Gwyn o dro i dro, ac yn godro un o’r gwartheg allan yn y cae a’r helbul a fu wedyn. Dywed iddo ddal y dwymyn goch (scarlet fever) yn 1936 pan yr oedd Eisteddfod yr Urdd i fyny ar gae uwchlaw fferm Tyddyn Gwyn, sef man presennol Ysgol y Manod. Cael ei gaethiwo yn ei wely am dair wythnos oedd ei hanes. Difyr oedd darllen am hanes y plismon yn cuddio mewn cwt glo er mwyn dal y lleidr a fu’n dwyn glo yn y cylch a’r atgof am un o’i gyfeillion yn gwneud parashwt o darpolin a neidio oddi ar glogwyn Tŷ Coch.

Yn ogystal â’r hanesion am ei blentyndod a’r gwahanol chwaraeon a fyddai ganddynt yn y Manod, y storïau am drigolion ei fro, ceir toreth o ffeithiau hanesyddol hefyd yn yr wyth pennod sy’n dilyn, megis cofnodion am ddamweiniau i weithwyr Chwarel y Graig Ddu, manylion am rai yn cael eu diarddel o’r capeli, enwau rhai a ymfudodd i’r Unol Daleithiau, a llawer mwy. Y mae’n cynnwys amryw o hen luniau diddorol, cerddi am ardal Cae Clyd, y cae pêl-droed a Chapel Gwylfa (MC). Os ydych yn hoff o ddarllen am hanes ein bro, nid oes dwywaith amdani, cewch fwynhad o’r mwyaf yn darllen y gyfrol hon gan Les.

Steffan ab Owain

Gwasg y Lolfa. £9.99

Yn fuan ar ôl i'r uchod ymddangos yn rhifyn Ionawr 2022, daeth y newyddion trist am farwolaeth yr awdur. Roedd Les yn benderfynol o weld ei hanesion difyr o’i hen gynefin yn cael eu cyhoeddi, a gwireddwyd hynny, diolch i wasg y Lolfa.
Trueni na fyddai wedi cael byw i brofi y derbyniad gwych sydd i’r llyfr yma yn nalgylch Llafar Bro.
Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Les yn eu colled.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon