Showing posts with label Opra Cymru. Show all posts
Showing posts with label Opra Cymru. Show all posts

13.4.26

Blaenau ar y Sgrîn Fawr

Bydd ffilm hir yn yr iaith Gymraeg, gan S4C o’r enw Effi o Blaenau yn cael ei ryddhau mewn sinemâu ledled Cymru yr haf hwn.

Wedi ei gyd-ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy law Cymru Greadigol, bu premiere byd y ffilm ar ddechrau mis Mawrth yng Ngŵyl Ffilm Glasgow, a bydd premiere Croeso’n Ôl yn caei ei gynnal ym Mlaenau ychydig cyn rhyddhau’r ffilm.

Bydd Effi o Blaenau yn cael ei ryddhau mewn sinemâu ledled Cymru ar Fehefin 19, cyn cael ei ddarlledu ar S4C, Clic ac iPlayer cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r ffilm yn addasiad o gynhyrchiad llwyfan hynod lwyddiannus Gary Owen, Iphigenia in Splott – ond, wedi ei adleoli i dirwedd mynyddog, agored Parc Cenedlaethol Eryri. Caiff ei gyfarwyddo gan Marc Evans (Mr Burton) a’i gynhyrchu gan Branwen Cennard (Tarian) yn ei ffilm hir gyntaf. 

 

Dilyna'r ffilm Effi, gyda pherfformiad caboledig yn y rôl deitl gan Leisa Gwenllian yr actores ifanc, sy’n prysur gwneud enw i hi ei hun. Yn brwydro yn erbyn y diweithdra wythnosol, clybio a’r pen mawr, mae'n cyfarfod milwr wedi ei anafu o’r enw Lee mewn clwb nos yn Llandudno ac mae o’n cilagor drws i rywbeth gwell. Am foment, caiff Effi gipolwg ar fywyd y gwnaeth hi erioed ddychmygu, ond mae’r realiti yn llawer anoddach.

Yn niwrnod rhagolwg Canolfan Ffilm Cymru, cafodd y ffilm adolygiadau positif, gydag aelodau o’r gynulleidfa yn ei ddisgrifio fel ‘atmosfferig’, ‘ffantastig’ ac ‘wedi ei seilio yn ei gymuned’ – fe wnaeth rhywun arall ganmol ei ‘stori rymus a chymeriadau realistig’

Dywedodd Pennaeth Ffilm a Drama S4C, Gwenllian Gravelle: “Mae S4C yn falch o gefnogi Effi o Blaenau ac yn werthfawrogol i’r tîm cynhyrchu ac i Cymru Greadigol am helpu ddod a’r ffilm i’r sgrin fawr yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r ffilm yn brofiad sinematig sy’n hanu o fan penodol, ond yn atseinio’n emosiynol ymhobman. Wedi ei siapio gan dirlun cryf a manylion bywyd bob dydd, mae’r ffilm yma’n trawsffurfio y cyfarwydd i rywbeth dirdynnol ac epig”

Fe ychwanegodd MetFilm Distribution: “Rydym yn ymfalchïo i fod ar flaen y gad wrth gynorthwyo i ryddhau Effi o Blaenau ar draws Prydain. Mae’r tîm wedi creu addasiad hynod sinematig a ffyddlon i’r cynhyrchiad llwyfan gwreiddiol o waith Gary Owen, wedi ei angori gan berfformiad electrig gan Leisa Gwenllian. Gallwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd ymhobman gwrdd ac Effi!”

- -

Wedi ei ffilmio yn gyfan gwbl yng Nghymru, yn bennaf yn Llangollen, Bethesda a Blaenau Ffestiniog, mae Tanau’r Lloer o waith y cwmni lleol, Opra Cymru yn creu hanes, wrth iddo dorri tir newydd gan fod y cynhyrchiad cyntaf i fod yn ‘simulcast’ (sef y term technolegol am raglen sy’n cael ei ddarlledu ar ddwy sianel yr un pryd) rhwng S4C a Channel 4. Wedi ei ysbrydoli’n fras gan un o’r nofelau sy’n aml yn cael ei weld fel un o oreuon yr iaith Gymraeg, Un Nos Ola Leuad o waith Caradog Pritchard, cyfunir sgôr Gareth Glyn, wedi ei berfformio gan Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a libreto Patrick Young ac Iwan Teifion Davies.

Golygfa yng Nghwmorthin

Mewn un erthygl, fe ysgrifennodd James Ellis, sy’n arbenigo mewn ysgrifennu ar gerddoriaeth glasurol, opera a chynyrchiadau theatr, “mae opera ar ffilm yn beth prin. Bu’r oes aur yn y 1980au, gyda La Traviata, Parsifal a Carmen yn cael fersiynau sinema wedi eu creu". Aeth ymlaen i ofyn os oedd yn parhau i weithio o’i gymharu a’i 400 mlynedd ar lwyfan ac oedd ffilm opera drwy gyfrwng y Gymraeg mewn du a gwyn yn anodd i’w werthu?

Yn dilyn y premiere byd yng Ngŵyl Ffilm Caeredin, a dangosiadau mewn sawl sinema ar draws Cymru llynedd, cafodd ei ddarlledu ar S4C a Channel 4 ar Ddydd Gŵyl Dewi ac mae’n deg dweud fod yna ateb wedi ei gael i’r cwestiwn a ofynnwyd yn yr erthygl a soniwyd am uchod, sef Ydi – mae’n gweithio ar ffilm o’i gymharu ac ar lwyfan a Na – bu hi ddim yn anodd i’w gwerthu. Mae’r ffilm yn wreiddiol ac yn ffres.

Roedd hi’n hynod braf i weld Tanau’r Lloer yn derbyn sylw yn rhai o bapurau newydd mwyaf Prydain ar benwythnos Gŵyl Ddewi, gyda’r Observer yn canmol faint o ffiniau sy’n cael eu gwthio gyda’r ffilm yma sy’n troedio sawl genre, y Telegraph yn ei alw’n ‘gloriously odd & wonderfully cinematic’ a’r Sunday Times yn sôn am y dynfa freuddwydiol a dirdynnol sy’n cael ei brofi o’r funud gyntaf.

I fynd nôl at erthygl James Ellis, mi soniodd o am neges y ffilm, sef un o obaith; mai efallai nid creadigrwydd artistig ac hunanfynegiant fydd yr ateb i bopeth, ond y gall ei ddefnyddio fel modd i gymedroli dioddefaint. Dywedodd ei fod yn aml wedi annog a chyflwyno pobl i opera, ac y gallai gweld Tanau’r Lloer ar y sgrin fawr arwain at ddod a mwy o bobl i mewn i fyd yr opera, drwy lygad nofel eiconig. 


Fel rhywun sydd wedi gweithio a theithio gyda Opra Cymru yn y gorffennol, hawdd fyddai hi i mi drio gwerthu’r ffilm hon i chi. Felly, dwi am adael i eiriau’r arbenigwr yn ei faes, sef awdur yr erthygl uchod wneud y gwaith yn ei le: ‘Take the plunge & go savour Tanau’r Lloer’ 

Bydd y ffilm ar gael i chi wylio ar iPlayer a Clic tan ddiwedd yr Haf ac mae’n werth gwylio!

Rhydian

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 


> Cwmorthin yn Hollywood?

 

18.12.25

Bwci Be?!

Gwaith diweddaraf OPRA Cymru (sydd wedi ei leoli yn Llan Ffestiniog) a’u perfformiad olaf yn Ysgol y Moelwyn

Llun OPRA Cymru

Roedd yn teimlo reit gyffyrddus eistedd yn neuadd Ysgol y Moelwyn i weld opera ddiweddaraf OPRA Cymru: Bwci Be?! Roedd yn Nos Galan Gaeaf a dyma wledd berthnasol iawn i noson fel hon. Tu allan roedd heidiau o blant yn hel a thu mewn roedd ysbrydion a drychiolaethau yn perfformio i gynulleidfa oedd yn wir werthfawrogi. 

Mae’r OPRA yn sôn am ferch ifanc, Hedydd sy’n cael ei herwgipio wrth gerdded mewn mynwent, i Annwfn ac yna ei brwydr i gael dod adref. Ceir perfformiadau gwych gan y cantorion a oeddynt hefyd yn ddawnswyr reit wych. 

Roedd y set yn lliwgar iawn a chafwyd cerddoriaeth odidog a pherthnasol i opera ar y fath thema.

Roedd lot o synau oedd yn dychryn a chreu ansicrwydd. Roedd yr iaith yn ffitio i’r gerddoriaeth fel maneg ac roedd popeth wedi ei blethu efo’i gilydd ar y llawr perfformio ... yr ysbrydion, gweision brenin Annwfn sef Gwyn ap Nudd, yr ysbrydion a’r meidrolion ... roedd yr opera yn gampwaith. 

Roeddwn yn falch iawn fy mod wedi cael bod yno ac roedd gofyn i bawb, ar y ffordd i mewn ddarlunio rhywbeth dychrynllyd ar fathodyn mawr, a'i wisgo trwy gydol y perfformiad! Diolch i Patrick Young eto am noson lwyddiannus ac am ei waith yn paratoi yr operau hyn sy’n teithio ar hyd a lled Cymru. Diolch hefyd i Claire Victoria Roberts am gyfansoddi'r gerddoriaeth ac i Gwyneth Glyn am roi geiriau priodol iawn i’r opera hon. Noson Dda ac os nad oes rhywun heb weld perfformiadau OPRA Cymru gwneuch yn siŵr o fynd i’w gweld pan ddaw’r opera yma nesa. Bydd manylion yn Llafar Bro siŵr o fod.   

TVJ

Gwenda, Linda ac Anwen gyda’u ticedi yn barod i fynd i mewn ... Llun TVJ
 

- - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

 

 

14.10.25

Cwmorthin yn Hollywood?

Wel, ddim yn union! Ond dwi mor falch fod y ffilm opera newydd gan OPRA Cymru wedi cael cyfle i ymddangos fel rhan o Ŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin ganol Awst. Efo pedwar o ddangosiadau dros dri diwrnod, roedd ‘na ddigon o sylw iddi hi, a digon o bobl wedi ei mwynhau’n fawr iawn. 

Ie wir, opera newydd sbon, wedi ei chreu gan Gareth Glyn o Sir Fôn, ac wedi ei hysbrydoli gan olygfeydd o’r nofel enwog Caradog Prichard, ‘Un Nos Ola Leuad’. 


Golygfa o'r ffilm yng Nghwmorthin

Roedd OPRA Cymru wedi cael cefnogaeth ariannol gan Gyngor y Celfyddydau Cymru i fynd ar daith efo’r opera, ond oherwydd Cofid-19, roedd yn rhaid i ni roi’r gorau i berfformio’n fyw, a cheisio gwneud ffilm yn ei lle. Efo cefnogaeth cwmni cynhyrchu Afanti Media, comisiynwyd y prosiect gan Channel 4 ac S4C, a’r cam cyntaf oedd sesiynau recordio yng Nghaerdydd efo cast anhygoel o dda a cherddorfa WNO (Opera Cenedlaethol Cymru) yn ystod haf 2021. Ond o fewn blwyddyn, roedd y camerâu’n rholio yn Dragon Studios tu allan i Gaerdydd.

Erbyn cychwyn mis Hydref 2022, roedden ni wedi cwblhau rhyw 90% o’r ffilmio, ond, am resymau technegol, roedd rhaid i ni gael bach o seibiant. Dyna pam wnaethon ni ail-gychwyn y llynedd yng Nghaerdydd i saethu’r golygfeydd dramatig iawn wrth yml ‘Llyn Du’: llyn sydd wedi cael ei greu’n arbennig mewn stiwdio… ond sy’n edrych yn anhygoel o realistig ar y sgrîn. 

Ond beth am Gwmorthin? Wel, roedden ni’n chwilio am le tebyg iawn i amgylchoedd Bethesda, ond hefyd rhywle fyddai’n gallu awgrymu lleoliad o ffantasi’r awdur gwreiddiol: math o leoliad mae o’n ddisgrifio yn wythfed bennod y nofel. Dyma lle mae ’na weledigaeth Beiblaidd o’r Person Hardd – yr awdur ei hun? – sy’n cael ei ysbrydoli i ysgrifennu’i nofel gan Frenhines yr Wyddfa. Ac yn ein dehongliad ni, dyma grud ei greadigrwydd; rhywle yn agos iawn ‘at ddrws y nefoedd’. Pa mor hyderus ro’n teimlo, felly, pan wnaethon nhw ddewis Cwmorthin fel lleoliad mwyaf addas i ffilmio hynny! Y lle sydd yn cynnwys holl hanes y chwareli, ond hefyd yn rhoi blas i’n dychymyg ni… o nefoedd eu hunain.

Mae’r ffilm yn cynnwys cymaint o elfennau sydd fel arfer ddim yn gysylltiedig ag opera o gwbl: y peth cyntaf, yn amlwg, ydy’r ffaith ei bod yn bodoli mewn du a gwyn, sydd yn adlewyrchu ffilmau’r 50au; ac oherwydd tirwedd sain mor realistig, mae’r cantorion yn ymddangos fel pobl go iawn; hefyd, mae’r actio’n anhygoel o gynnil, ac felly ‘dach chi’n anghofio ar ôl dipyn eu bod nhw’n canu, achos bod popeth mor naturiol. 

Rywsut, mae’r ffilm yn newid y ffordd dan ni’n meddwl am opera: ac mae cwmni OPRA Cymru’n falch iawn ein bod ni wedi chwarae rôl yn hynny. 

Roedd hi’n fraint a phleser troi fyny yng Nghaeredin ar gyfer premiere y byd efo cymaint o gast a chriw, ‘roedden nhw mor falch o’u rôl yn y prosiect: cantorion fel Leah-Marian Jones, Shân Cothi, Elin Pritchard, Huw Ynyr, Sion Goronwy, a Robyn Lyn; a’r cyfarwyddwr Chris Forster, y cynhyrchydd Kirsten Stoddart; cyfarwyddwr ffotograffiaeth Ben Chads, a dylunydd Stephen Graham.  

Bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn sinemau yng Nghymru yng nghanol mis Tachwedd efo lansiad cydamserol ym Mangor a Chaerdydd… ac yn sicr yn CellB! 
Fydd Cwmorthin yn mynd i Hollywood, felly..? Wel, pwy a wyr?!
Patrick Young

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025


5.8.23

Ysgol Ddrud yw Ysgol Gariad

Mae taith lwyddiannus arall Cwmni Opra Cymru -sydd â’i wreiddiau’n ein hardal ni- newydd ddod i ben. Trosiad cyfarwyddwr cerddorol y Cwmni, Iwan Teifion Davies o opera Mozart -‘Cosi Fan Tutte’ a gyflwynwyd y tro hwn. Rhoddodd Iwan Teifion y teitl Cymraeg ‘Ysgol Ddrud yw Ysgol Gariad’ iddi. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am gyfieithu’r gwaith, ef hefyd oedd arweinydd y gerddorfa.

Canolbwyntiwyd ar leoli’r perfformiadau mewn theatrau ar draws Cymru, gan agor yn Pontio, Bangor ar 12 Mai. Dilynwyd hynny mewn saith canolfan arall - Taliesin, Abertawe, Y Lyric, Caerfyrddin, Hafren, Y Drenewydd, Brycheiniog, Aberhonddu, Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Y Stiwt, Rhollannerchrugog, gan orffen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 

Hwyrach nad ydy cerddoriaeth yr opera yn cyrraedd y tir uchel sydd i’w glywed yn arias cofiadwy operau Verdi a Donizetti yn fy marn fach i, ond llwyddodd Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Patrick Young, i ddenu cast tu hwnt o ddawnus i gyflwyno’r gwaith. Y tenor o Rydymain, Huw Ynyr chwaraeodd ran Ferrando, a’r bariton ifanc, John Ieuan Jones ganodd ran Gugliemino. Dwy ‘Erin’ swynol dros ben ganodd rannau’r ddwy chwaer a chariadon y gwŷr ifanc, Fiodiligi a Dorabella, sef Erin Gwyn Rossington o gyffiniau Llanfair Talhaearn ac Erin Fflur, sy’n wreiddiol o’r Felinheli. Cafwyd canu cyfoethog gan Rhys Jenkins yn rhan Don Alfonso a chanu ac actio gwych gan Leah-Marian Jones fel y forwyn, Despina. 

Yn sicr, roedd y cynhyrchiad yn un bywiog ac yn llawn dychymyg a hiwmor. Roedd y gerddorfa ifanc o tua phymtheg o aelodau hefyd yn cyfeilio’n grefftus, a hynny, heb dynnu sylw’r gynulleidfa oddi ar y libretto. Rhaid dweud ei bod hi’n braf clywed geirio croyw. Cymry Cymraeg iaith gyntaf oedd y cast cyfan, ar wahân i Robert Jenkins. Mae’n amlwg fod eu profiadau eisteddfodol a’r llwyddiant a gawson nhw’n y maes hwnnw wedi profi’n fuddiol. Fel cerdd-dantiwr, gallwch ddychmygu pa mor bwysig ydy cyflwyno geiriau’n glir i mi.

Yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin y cefais y fraint o wrando ar y perfformiad, a chael mwynhau diwrnod neu ddau’r un pryd yn nhre’r ‘hen dderwen’, lle treuliais dair blynedd hapus dros hanner canrif yn ôl. 

Dymunaf longyfarch fy nghymydog, Patrick Young a’i dîm ar gyrraedd uchafbwynt unwaith eto yn hanes Opra Cymru. Mawr fydd yr edrych ymlaen rwan at y prosiectau eraill sydd ar y gweill.

IM
- - - - - - - - 


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023


7.12.22

Cyfrinach y Brenin -Yr Orau Eto!

Gydol mis Medi, bu Cwmni Opra Cymru yn teithio’r wlad gyda’i cynhyrchiad diweddara’ ... opera newydd i blant a theuluoedd gan y gyfansoddwraig a’r delynores dalentog o Ddyffryn Conwy, Mared Emlyn. Er bod Mared wedi arfer â chyfansoddi ar gyfer offerynnau unawdol, ensemblau, cerddorfa a chôr, dyma’r tro cyntaf iddi roi cynnig ar ysgrifennu opera. 

Ar sail yr hyn glywyd, hyderwn yn fawr mai nid dyma’r tro olaf. Lluniwyd y libretto gan Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig Opra Cymru a’r Cyfarwyddwr Cerdd, Iwan Teifion Davies. 

Seiliwyd Cyfrinach y Brenin ar yr hen chwedl Clustiau’r Brenin March. Fel rhan o’r comisiwn, ymwelodd y cwmni â nifer o ysgolion cynradd ar draws gogledd Cymru, gan gyflwyno byd ysbrydoledig opera i’r disgyblion.

Cyflwynwyd pymtheg perfformiad rhwng y 7fed a’r 25ain o Fedi mewn mannau’n y gogledd, y canolbarth a’r de. Daeth y cyfan i ben ar nos Sadwrn ola’r mis yn Ysgol y Moelwyn.

Cast ac offerynwyr Cyfrinach y Brenin: Daire Roberts, Rhys Meilyr, Mary Hofman, Erin Gwyn Rossington, Beca Davies, Elen Lloyd Roberts, Steffan Lloyd Owen, Mared Emlyn [cyfansoddwraig], Fiona Bassett, Nikki Pearce a Lleucu Parri.

Roedd y cast gymrodd ran yn lleisiau ifanc Cymreig. Serennodd y bariton o Bentre Berw, Ynys Môn, Steffan Lloyd Owen fel Y Brenin. Mae Steffan yn llais adnabyddus ar lwyfan y Brifwyl ... yn gyn-enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts. Mae’r soprano o Lŷn, Elen Lloyd Roberts, wedi ymddangos yng nghynyrchiadau Opra Cymru o’r blaen ac yn llais hynod boblogaidd. Hi gymrodd ran Y Ffŵl. Soprano addawol arall, Erin Gwyn Rossington o gyffiniau Llanrwst chwaraeodd ran Y Doctor. Cystadleuydd cyson arall ar lwyfannau cenedlaethol ydy’r tenor o Langefni, Rhys Meilyr, sy’n astudio cwrs meistr yng Ngholeg Brenhinol yr Academi, Llundain ar hyn o bryd. Ef chwaraeodd ran Y Barbwr. Chwaraewyd rhan Meistres y Gegin gan y mezzo-soprano o orllewin Cymru, Beca Davies. Swynwyd y cynulleidfaoedd gan ei llais cyfoethog a’i hactio bywiog hithau. 

Cafwyd cyfeilio arbennig iawn gan bumawd o gerddorion ifanc ... Mary Hofman [ffidil], Daire Roberts [fiola], Nikki Pearce [cello], Lleucu Parri [ffliwt] a Fiona Bassett [corn]. Roedd y set a’r gwisgoedd yn werth i’w gweld ... diolch i Hannah Carey. Y fam a’r ferch, Bridget a Beatrice Wallbank oedd y rheolwyr technegol a llwyfan.

Ym marn llawer a welodd y perfformiadau, doedd ond canmoliaeth uchel i’r cyfan. Mewn operâu’n aml, mae dilyn y libretto’n gallu bod yn anodd ym mha iaith bynnag y cyflwynir hi. Sylw pawb o’r Cymry Cymraeg oedd eu bod wedi deall pob gair gan bob aelod o’r cast. Mae hyn yn rhywbeth hynod galonogol.

Os na fu i chi fanteisio ar y cyfle i weld perfformiad, gallwch ystyried hynny’n golled enfawr.
Edrychwn ymlaen rwan am gynhyrchiad nesa Cwmni Opra Cymru!

TVJ

- - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2023

Gwefan Opra Cymru


30.9.17

Wythnos – Yr Opera!

Rhydian Morgan yn disgrifio paratoadau diweddar cwmni Opra Cymru

Yn 1957, fe wnaeth Plaid Cymru gyhoeddi y nofel ffuglen wyddonol gyntaf yn yr iaith Gymraeg, sef Wythnos yng Nghmru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis.  60 mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynir opera newydd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood yn seiliedig ar y nofel eicionig yma gyda OPRA Cymru yn ei chynhyrchu.

Mi geshi’r fraint o gael gwahoddiad i’r ymarferion cyntaf yng Nghapel Bethel, Llan Ffestiniog a Theatr Ardudwy. Cafodd yr ymarfer yn y theatr ei recordio gan gwmni Teledu Rondo ac roedd criw Tinopolis yn recordio eitem a gafodd ei ddarlledu ar raglen Heno ddiwedd mis Mehefin. Bydd yr opera newydd sbon yma yn teithio ledled Cymru yn yr hydref gyda’r cast hynod profiadol – Sion Goronwy, Sian Meinir, Robyn Lyn, Gwawr Edwards ac Euros Campbell o dan arweinyddiaeth Iwan Teifion Davies yn dod a’r nofel eiconig yma yn fyw ar lwyfan.


Mewn toriad o wylio’r opera hwyliog ond hynod heriol yma yn dod yn ei flaen, mi fachais ar y cyfle i gael gair efo’r cyfansoddwr, Gareth Glyn i esbonio ei rôl o yn ystod yr wythnos ddwys yma o ymarfer:
“Mi ydw i yma yn yr ymarferion cyntaf fel mater o weld y cantorion a’r arweinydd nad oeddwn i yn ei nabod tan yr wythnos yma yn trio ymgymryd â’r gwaith. Dwi ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y cantorion neu’r arweinydd am y sgôr yn ogystal a gwneud unrhyw newidiadau fel bo’r angen. Mae’r gwaith bellach wedi cael ei drosglwyddo i’w dwylo nhw er mwyn iddynt gael cymeriadu’r hyn sydd wedi ei bodoli yn fy meddwl i tra’n cyfansoddi’r gwaith hwn.” 
Gofynnais iddo hefyd sut yr oedd yn teimlo wrth weld y delweddau yma sydd wedi bodoli yn unig yn ei ddychymyg o tra’n cyfansoddi yn dod yn fyw drwy leisiau’r cantorion yma :
“Bellach, mae’r cymeriadau yma yn perthyn iddyn nhw ac mae hi yn ddiddorol iawn gweld be mae nhw yn ei wneud gyda nhw, mae dehongliad canwr ac arweinydd anghyfarwydd i mi yn gallu rhoi bywyd newydd i’r cymeriadau hyn. Dwi’n gwybod sut y dylai swnio, ond dwi’n cael y profiad o weld sut y mae syniadau’r arweinydd a’r cantorion yn cael ei gyflwyno o’i gymharu a’r hyn wnes i ddychmygu tra’n cyfansoddi.”
Fore Gwener, y 23ain o Fehefin, mi gynhaliwyd ymarfer yn Harlech, gyda chynrychiolaeth o’r gwahanol bartneriaid yn ogystal ac ambell aelod lwcus o’r cyhoedd sydd yn ymwneud â’r opera yma –Pontio, Ensemble Cymru, Cefin Roberts o Ysgol Glanaethwy, cwmniau teledu Rondo a Tinopolis, Cyfeillion OPRA Cymru a chyn-gyfranwyr y cwmni a chwmni Galactica, y cwmni o Gaernarfon sydd wedi datblygu yr app Sibrwd ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. Pwrpas yr ymarfer yma oedd i gael gweithio mewn cyd-destun theatr a rhoi syniad i’r partneriaid o’r hyn a fydd yn cael ei gyflwyno yn yr hydref.

‘Profiad aruthrol o ddiddorol ac agoriad llygaid’ oedd y geiriau a ddefnyddwyd gan Cefin Roberts ar raglen Heno am yr hyn a welodd o, ac mae hi yn anodd iawn anghytuno gyda dyn sydd mor brofiadol yn myd y theatr!  Er i mi gael y profiad o glywed darnau bychain o’r sgôr ym Methel ryw ddeuddydd ynghynt, roedd gweld y trawsnewdiad llawn o’r llyfr i’r llwyfan wir yn agoriad llygaid ac yn profi y gall unrhywbeth gael ei gyflawni yn yr iaith Gymraeg.

Rhywun arall oedd yn amlwg wedi ei phlesio gyda’r hyn a welwyd oedd Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert:
“Mae Pontio’n falch iawn o fod yn bartner yn y fenter gyffrous hon.  Gyda dawn dweud Mererid Hopwood, talent gerddorol Gareth Glyn ac OPRA Cymru, ynghyd â themâu pwerus a pherthnasol iawn i’r Gymru gyfoes, mae’n addo bod yn gynhyrchiad arbennig ac arwyddocaol”.
RhLlM
--------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017.
Gallwch ddilyn hanes cwmni Opra Cymru efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


17.3.17

Bro Ffestiniog ar Flaen y Gad

Rhan o erthygl Ceri Cunnington, a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2017.

Mae’r ardal hon wedi gweld nifer o welliannau pwysig yn y cyfnod diweddar, megis datblygiad canol tref Blaenau a thwf gweithgaredd nifer o fentrau cymunedol. Yn gynyddol mae ardaloedd eraill yn edrych gyda chryn edmygedd ar yr hyn sy’n digwydd yma.

Llun -Paul W

Ym Mro Ffestiniog, bellach, mae sawl menter gymunedol lwyddiannus, yn cynnwys Antur Stiniog, Trawsnewid, Seren, Pengwern Cymunedol, CellB/Gwallgofiaid, GISDA, Dref Werdd,  Canolfan Hamdden Ysgol y Moelwyn, OPRA Cymru, Deudraeth Cyf, Caban Bach Barnardos ac yn y blaen. Erbyn hyn mae’r mentrau yma wedi dod at ei gilydd er mwyn cydweithio er lles yr ardal gyfan, dan ymbarel (neu barasôl!) Cwmni Bro Ffestiniog.

Gwnaeth Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw (CG) gyfraniad allweddol at sefydlu a chynnal sawl menter, corff , mudiad, cwmni, prosiect a gweithgaredd cymunedol. Rhoddodd y cynnydd mewn mentrau cymunedol wedd newydd i’r hen draddodiad cyfoethog o weithgaredd cymdeithasol ym Mro Ffestiniog. Mae’r datblygiadau cyfoes yn rhan o broses o drawsnewid diwylliannol yn yr ardal; o ail gynnau’r meddylfryd o wneud pethau trosom ein hunain ac o fentergarwch cymunedol newydd.

Gan edrych i’r dyfodol mae sawl gwers yn codi o brofiad CG. Un o’r pwysicaf, o safbwynt y gymuned, yw’r angen i gryfhau cyfathrebu gydag, ac ymysg aelodau’r gymuned, cynyddu cyfranogiad y gymuned a chydlynu a chydgordio’n well y gwaith y mae gwahanol asiantaethau a mentrau gwirfoddol a chymunedol yn ei wneud.

Mae enghreifftiau lu o asiantaethau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol yn gweithredu ar wahân, yn ôl eu hagenda eu hunain heb gyfathrebu na chydweithio yn ddigon effeithiol gydag eraill na chyda’r gymuned. O safbwynt datblygu’r gymuned mae angen strategaeth integredig i daclo materion megis tlodi plant, ffyniant economaidd, gwella iechyd, datblygiad diwylliannol ac addysgol, gwarchod yr amgylchedd ac yn y blaen.

I fod yn fwy effeithiol rydym angen cydweithio effeithlon rhwng asiantaethau, rhwng mentrau cymunedol, gyda’r gymuned ac o fewn y gymuned. Dyna pam y sefydlwyd Cwmni Bro Ffestiniog fel modd i gychwyn ateb yr angen hwn yn ogystal â sbarduno a chynnal mentergarwch cymunedol pellach.

GWELEDIGAETH CWMNI BRO FFESTINIOG
Mae’r Cwmni Bro wedi dechrau gweithredu fel rhwydwaith cymunedol sy’n cysylltu’r gwahanol fentrau cymunedol. Nôd y Cwmni yw gwella cyfathrebu, hybu cydweithio rhwng mentrau ac asiantaethau, cydgordio gweithgareddau, gwneud gwell defnydd o adnoddau, cynyddu cyfranogiad cymunedol yn ogystal â hybu gweithgarwch a mentergarwch cymunedol a gwirfoddol. Hyn i gyd yn cynnal ac adeiladu ar y broses o adfywiad cymunedol a thrawsnewid diwylliannol sydd eisoes ar waith yn yr ardal.

Gellir adeiladu ar brofiad blaenorol Partneriaeth CG o sbarduno menter gymunedol. Er bod prif ffocws CG wedi bod ar ardal ddaearyddol benodol wrth edrych i’r dyfodol, mae’n eglur bod angen strategaeth integredig ar gyfer yr ardal gyfan. Mae gofyn bod yn hyblyg wrth geisio pennu ffiniau’r ardal. Rhagwelir mai’r uned ‘naturiol’, yn fras, yw dalgylch Ysgol y Moelwyn a bod hon yn ardal ddaearyddol synhwyrol o ran maint ac o ran ymwybyddiaeth a thraddodiad cymunedol. 

Bydd  angen staff a gwirfoddolwyr profiadol i hwyluso proses gyfranogol o gynllunio strategol ar gyfer yr ardal. Maes o law, pan fydd y rhwydwaith a’r cwmni wedi’u sefydlu’n gadarn, a chynllun strategol yn ei le, y nôd yw y bydd y cwmni yn datblygu i fod yn gorff hunan-gynhaliol a fydd yn cynnal ei staff proffesiynol ei hun.

SWYDDOGAETH CWMNI BRO FFESTINIOG
Mater i’r gymuned fydd penderfynu ar union gyfeiriad a swyddogaeth y Cwmni Bro ond mae nifer o gamau y gellir eu rhagweld. Fe’u rhestrir isod:-

(1)    Cyfathrebu, trafod a chenhadu yn lleol gydag asiantaethau a’r gymuned ynglŷn ag union bwrpas, ffurf a swyddogaeth y Cwmni. Bydd angen trafod yn ofalus natur perchnogaeth a rheolaeth gymunedol y cwmni yn ogystal â pherthynas effeithiol rhwng mentrau cymunedol yr ardal.
(2)    Hwyluso trafodaeth a phenderfyniadau ar gyfansoddiad a swyddogaeth y cwmni.
(3)    Sefydlu trefn effeithiol ar gyfer cyfathrebu a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, mentrau a’r gymuned. Gosod yn ei le ddulliau ymgynghori a threfn ar gyfer cyfranogiad y gymuned. Bydd datblygu dulliau digidol effeithiol o gyfathrebu yn allweddol yn hyn o beth.
(4)    Hwyluso ennyn llais y gymuned ynglyn â’r diffygion a’r cyfleoedd o ran datblygiad yr ardal.
(5)    Llunio, mewn modd cyfranogol, gynllun cymunedol integredig a hyblyg ar gyfer yr ardal.
(6)    Ymchwilio a datblygu dulliau o hybu a hyrwyddo menter gymdeithsol a datblygu cymunedol.
(7)    Datblygu a marchnata Cwmni Bro fel cwmni cydweithredol elusennol a democrataidd yn gyfrifol am hyrwyddo datblygiad cymunedol yr ardal.
(8)    Chwilio am ffynonellau cefnogi a chyllido’r Cwmni Bro, y mentrau sy’n aelodau o’r Cwmni yn ogystal â mentrau newydd yn yr ardal.

Mae llwyddiant Cymunedau’n Gyntaf yn yr ardal ynghŷd â’r gweithgaredd cymunedol newydd yn y fro yn golygu bod nifer o frodorion wedi ennill profiad a hyder fel gweithwyr datblygu cymunedol ac eraill fel gwirfoddolwyr. Mae hyn yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer y dyfodol.

Ond yr adnodd pwysicaf yw pobol y fro a’n diwylliant cymunedol. I raddau helaeth mae’r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni. Mae cyfle yn yr ardal hon i ni greu dyfodol amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol yn codi o’r gorau yn ein traddodiad diwylliannol. Medrwn arloesi a chreu esiampl y gall cymunedau eraill ei efelychu.

Dyma’r her i ni bobol Bro Ffestiniog!

Croeso i chi anfon sylwadau ar y datblygiadau yma.   Cyswllt:  <cericunnington@yahoo.co.uk>

5.6.16

Rhod y Rhigymwr -Wele Seren!

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Ebrill 2016.

Fel y gŵyr fy nghydnabod, mae barddoniaeth a cherddoriaeth wedi bod yn agos at fy nghalon erioed, a chwestiwn nifer o rai y bum yn siarad â nhw’n ystod y mis dwytha – y rhai  ddarllenodd ‘Rod y Rhigymwr’ Mawrth a’r rhai a welais ym mherfformiadau Opra Cymru oedd - tybed a allai rhai o’m hynafiaid fod wedi ymddiddori’n yr un pethau?

Gwyddwn ers tro byd fod y bardd a’r emynydd Henry Lloyd – ‘Ap Hefin’ (1870-1946) yn perthyn o ochr fy mam. Roedd ei daid, Robert Owen (1806-50) yn frawd i’m hen, hen daid, William Owen (1792-1869). Ef, wrth gwrs oedd awdur yr emyn dirwestol a ganwyd dros y blynyddoedd mewn tafarnau a meysydd rygbi, yn ogystal â mewn cymanfaoedd canu – ‘I bob un sy’n ffyddlon dan ei faner Ef’ – ac yn cael ei forio ar dôn enwog Caradog Roberts, ‘Rachie’. Credaf mai ymhyfrydu mewn barddoniaeth ac nid cerddoriaeth a wnaeth Ap Hefin.

Clywais fy nhad yn sôn wrthyf rywdro bod John Owen – ‘Ap Glaslyn’ (1857-1934) yn berthynas bell i’w fam, oedd yn hannu o Nantmor a Beddgelert. Yn ôl y diweddar Huw Williams yn ‘Y Casglwr’, ystyrid ‘yr Ap’, fel y cyfeiria ato, yn ‘un oedd yn adnabyddus yn ei ddydd fel prydydd, llenor, datganwr, areithiwr, cyfansoddwr, efengylwr, dirwestwr a dramodydd, gan ddisgleirio ym mhob maes y bu’n llafurio ynddo.’

Roedd o’n dipyn o foi yn ôl y disgrifiad hwnnw! Ymddengys ei fod, o ochr ei dad, hefyd yn gefnder i’r bardd o’r Blaenau  -‘Bryfdir’ (1867-1947).

Lluniodd ‘yr Ap’ sawl cân – yn cynnwys y geiriau a’r gerddoriaeth. Roedd y rhain yn bur enwog yn eu dydd – caneuon fel ‘Tros ein Gwlad’, ‘Fechgyn Cymru’ ac ‘A welwch chi fi’. Yr un sy’n fwya cyfarwydd ohonyn nhw i gyd, mae’n debyg, ydy ‘I Godi’r Hen Wlad yn ei Hôl.’

Pan oeddwn i’n fyfyriwr yn y Drindod, Caerfyrddin, ddeugain a phump o flynyddoedd yn ôl, tasg oedd yn rhaid i mi ei chyflawni oedd, ‘traethawd ymchwil’ ar un o’r beirdd y cynhwysid eu gwaith yng nghyfrol yr Athro Bedwyr Lewis Jones – ‘Blodeugerdd o’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’.

Yno deuthum ar draws ‘Bugeiles yr Wyddfa’ gan John Jones – ‘Eos Bradwen’ (1831-99). Gwyddwn i hwnnw gael ei eni’n fy mro innau – yn ardal Corris, plwy’ Talyllyn. Doedd dim amdani felly ond ymchwilio i’w fywyd a’i waith.

Roeddwn wedi clywed fod ‘yr Eos’ yn gerddor yn ogystal â bardd. Roedd ‘Aled a Reg’ wedi recordio cân o’i eiddo – ‘Chwifio’r Cadach Gwyn’ ar ddisg feinyl ‘45’ tua diwedd y 60au. Gan mod i’n canu dipyn i gyfeiliant fy gitâr yr adeg honno, euthum ati i lunio alaw ar eiriau ‘Bugeiles yr Wyddfa’, er i mi glywed bod llawer o ganu ar un y cyfansoddwr ei hun wedi bod yn ystod dyddiau a fu. Ymhen rhai blynyddoedd, fe’i haddasais ar gyfer Parti Meibion Dyfi i ddechrau, ac yna Feibion Prysor. Mae i’w chlywed ar dâp sain a recordiwyd gennym yn nechrau’r 1990au – gyda llun o ferch ifanc ddel o Gwm Prysor (Manon yr Hendre) ar y clawr:

Mi gwrddais i gynt â morwynig
Wrth odre yr Wyddfa wen,
Un ysgafn ei throed fel yr ewig
A’i gwallt fel y nos am ei phen;
Ei grudd oedd fel y rhosyn,
Un hardd a gwên ei gwawr
Yn canu cân, a’i defaid mân
O’r Wyddfa’n dod i lawr:

“Eryri fynyddig i mi,
Bro dawel y delyn yw,
Lle mae’r defaid a’r ŵyn
Yn y mwsog a’r brwyn,
A’m cân innau’n esgyn i fyny,
A’r garreg yn ateb i fyny
O’r lle mae’r eryrod yn byw.”

Flynyddoedd wedi cyflwyno’r traethawd ymchwil i’m tiwtor, y diweddar annwyl Carwyn James, bu i mi sylweddoli mai i dyddyn fy hen, hen, hen daid, Evan Williams, Cwmeiddaw (1789-1851) yr aethai’r ‘Eos’ yn llaw ei dad i’r ‘Ysgol Sabothol’.


Wrth bori ar lein drwy swp o hen bapurau Cymreig y diwrnod o’r blaen, cefais fodd i fyw. Gwyddwn mai William ac Elizabeth Jones oedd enwau tad a mam ‘yr Eos’, ond nodwyd mai ei daid – tad ei fam, oedd gŵr o’r enw ‘Richard Evan, Maesybwlch’. O ddeall hynny, gwyddwn mai gwraig hwnnw oedd Ann Thomas – merch Thomas Robert (1734-95) a Sarah Prys (1736-1818), Llwyn Dôl Ithel, Talyllyn. Roedd Ann, nain ‘yr Eos’ felly’n chwaer i’m hen, hen, hen nain, Lowri Dafydd, Dolydd Cae, Talyllyn (1761-1844). Roeddwn o’r un llinach â’r ‘Eos’ felly, oedd yn gyfyrder i ‘Nain Dre’ Ap Hefin ac i Richard Owen, Bronygog, Corris (1842-1909) – fy hen daid innau!


Aeth yr Eos ymlaen i wneud enw iddo’i hun fel bardd a cherddor. Bu’n gorfeistr Cadeirlan Llanelwy o 1863 hyd 1878, ac enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl tro am gyfansoddi ‘cantawdau’ – gan lunio’r libreto a’r gerddoriaeth. Ym Mhrifwyl Llandudno (1864) yr enillodd am ei gantawd ‘Y Mab Afradlon’, ac mae’n debyg i’w gantawd ‘Owain Glyn Dŵr’ ddod yn un tra enwog yn ei dydd:

Wele seren y Brython yn fflamio,
Wele faner y nefoedd, yn awr,
Dros gyfiawnder a rhyddid yn chwifio,
Drwy dywyllwch y nos, wele wawr!
Wele faner y Ddraig yn cyhwfan
Fel yn arwydd i gedyrn y gad
Fod y gelyn ar faes y gyflafan
Yn cyhoeddi dialedd a brad.

Tybed a oes copi o’r gantawd hon ar gael i Gwmni Opra Cymru ei hystyried rhyw dro!
----------------------------------------

Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

18.5.16

Y Deigryn Dirgel yn Denu'r Dorf


Daeth cynulliad teilwng a hynod werthfawrogol i wrando ar Gwmni OPRA Cymru yn cloi’r daith ‘Deigryn yn y Dirgel’ (Donizetti) yn Neuadd Ysgol y Moelwyn ym mis Mawrth. Roedd cyfarwyddwr artistig y Cwmni, Patrick Young wrth ei fodd gyda’r ymateb a gafwyd.

Cafwyd perfformiadau hynod gofiadwy gan y cast.


Llwyddodd y tenor ifanc 23 mlwydd oed o Lanfyllin, Rhodri Prys Jones, i greu argraff fel Nemorino. Mae’n wyneb cyfarwydd iawn yma yng Nghymru ac yn enillydd cyson yn ein Prifwyliau.

Felly hefyd y bâs-bariton ifanc o Langefni, Meilir Jones. Ef oedd enillydd ‘Gwobr Goffa Osborne Roberts’ ym Mhrifwyl Wrecsam yn 2011. Roedd ei bortread o’r ‘rhingyll’ Belcore yn cyrraedd tir uchel.

Un sydd wedi bod yn gysylltiedig â byd yr opera ers nifer o flynyddoedd ydy’r baswr Gareth Rhys-Davies, sy’n hannu o Faenan, Llanrwst. Oherwydd anhwylder, collodd ddau berfformiad ar ddechrau’r daith, ond llwyddodd ei bortread o’r ‘cwac-feddyg’ Dulcamara i serennu’n y Moelwyn.

Y soprano o Wyddeles Aoife O’Connell a bortreadodd Adina.
Mae hi’n meddu ar lais arbennig iawn a rhaid yw ei chanmol am ei hymdrech gaboledig i geisio meistroli’r geiriau Gymraeg yn ei chyflwyniad.

Merch â chysylltiadau lleol a chwaraeodd ran Giannetta, sef Heulen Cynfal, bellach o’r Parc, Bala.

Mae Heulen yn wyres i John Gwyn a Rhian, Y Gopa, Trawsfynydd ac yn ferch i Chris, Liverpool House, Llan. Gwnaeth hithau argraff deilwng iawn a dymunwn yn dda iddi yn ei gyrfa’n yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.

Yn ogystal â chorws bychan o chwe chantor, cafwyd deg o offerynwyr talentog yn ffurfio’r gerddorfa, a hynny dan arweiniad meistrolgar un a fu’n hyfforddwr ac arweinydd dros nifer o flynyddoedd i Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Cerdd cydnabyddedig – Anthony Negus.

Mae Cwmni OPRA Cymru yn mynd yn ei flaen o nerth i nerth. Rydym ni yma ym mro ‘Stiniog yn ymhyfrydu’n fawr yn hynny. Yma, wrth gwrs, mae ei gartref. Ni allwn ond gobeithio y pery i dderbyn cefnogaeth dros Gymru benbaladr ac y gwêl pawb sy’n caru’r Iaith a’r Diwylliant Cymreig yn dda i’w gefnogi.

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Ebrill 2016.

*  *  *  *  *  *  *  *

Dyma ddarn o golofn Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Mawrth eleni:

Ers dechrau mis Hydref diwethaf hyd ddechrau Ionawr eleni, cefais yr anrhydedd o drosi opera Donizetti – “L’Elisir D’Amore” i Gwmni Opra Cymru. Er cymaint y dasg, rhaid cyfaddef i mi gael cryn bleser yn ceisio cyflawni’r gwaith, ac mae cael clywed y cantorion proffesiynol yn cyflwyno’r cyfan dan gyfarwyddyd Patrick Young a’r cerddor, Anthony Negus yn rhoi cryn wefr imi.

Bu i mi dderbyn sgôr yr opera gyda’r geiriau Eidalaidd o dan y gerddoriaeth i ddechrau, ynghyd â chryno-ddisg a mynediad i gynhyrchiad ohoni ar You-tube. Rhaid oedd ymgyfarwyddo â’r gwaith, darllen ambell grynodeb o’r cynnwys, a chael rhydd-gyfieithiad o’r libreto’n y Saesneg. Gan fod Patrick yn gwbl hyddysg yn yr Eidaleg, aeth ati i nodi sillafau’r llinellau, yr acenion ynghyd â’r odlau, a ddigwyddai fod yn aml yn y gwaith, mewn colofn ar ochr chwith y dudalen. Ar yr ochr dde, roedd y lled-gyfieithiad Saesneg, ac roedd y golofn ganol yn wag ar gyfer gosod fy nhrosiad Cymraeg.


Fel hyn, o olygfa i olygfa, yn adroddganau, cytganau, unawdau, deuawdau, triawdau a phedwarawdau yr aeth y gwaith rhagddo. Bu Patrick yn llefaru’r geiriau’n yr Eidaleg, a minnau’n gwirio’r trosiad Cymraeg fel rhyw garreg ateb ar ei ôl.

Anodd weithiau oedd cynnal syniadau bardd y libreto wreiddiol, Felice Romani, a rhaid oedd ceisio creu delweddau oedd yn cyfleu ystyron tebyg yn y Gymraeg. Roedd canfod odlau synhwyrol hefyd yn gallu bod yn dipyn o fwrn ar brydiau. Dro arall, cafwyd manteisio ar gyfle i geisio addurno ychydig ar y llinellau drwy ddefnyddio cyflythreniad a chynghanedd. Y gobaith ydy mod i wedi llwyddo i wneud peth cyfiawnder â cherddoriaeth hudolus Donizetti.

Ynghanol yr act gyntaf, lle mae Nemorino’n ceisio’n ofer i ennill serch Adina, ceir deuawd hyfryd -

ADINA
Gofyn nawr i’r awel dyner
pam nad oeda am funudyn
ar betalau’r lili a’r rhosyn,
neu yng nghôl y ddôl neu’r nant?
“Dyma natur,” ddwed tan fwmial,
gyda thôn chwareus i’w thant;
Mae’n anwadal, mae’n anwadal,
dyna’i natur hi – fel chwarae plant.
 
NEMORINO
Wel, be wna i?
 
ADINA
Gwrthod fy ngharu! Neno’r tad, o gad mi fod!
 
NEMORINO
O Adina! ... rydwi’n methu.
 
ADINA
Dwedaf innau –
Mae’n rhaid! Mae’n rhaid! Mae’n rhaid!
 
NEMORINO
Mae’n rhaid! Mae’n rhaid!

Pam fod murmur nant yn igian
Wrth ddylifo dros greigiau geirwon
tua’r môr a’i erwau mawrion?
Yna marw a wna hi!
Dwed mai cael ei llusgo yno
wna gan nerthol rym ei lli.
 

ADINA
Be ti’n geisio?
 

NEMORINO
Marw fel afon –
tra’n dy ddilyn di yw’n nod!
 

ADINA
Câr un arall: rwyt rydd dy galon.
 

NEMORINO
Aa – does neb, does neb  i fod!
Does neb  i fod! Does neb  i fod!
 

ADINA
I’th waredu o’r fath hurtrwydd
paid â chael un cariad cyson,
dilyn di’n ffordd i yn ebrwydd,
daw i’th ran lai o helbulon.
Fel mae’r doeth yn trechu’r ynfyd –
serch yn trechu serch y sydd.
Blas gaf innau, blas ar fy mywyd;
Llon fy nghalon, a minnau’n rhydd!
 

NEMORINO
Aa! A, tydi, ond ti a welaf
Wawr a chyfnos, ti yw fy mhopeth;
ofer ceisio, na, ni allaf
gael dy wared, dyna mhenbleth!
Mae dy lun ar glawr fy meddwl,
Mynnaf i mai yno bydd!
Fel yr haul mewn nen ddigwmwl
Ni chaiff hwnnw fyth fynd yn rhydd.


Mae’n debyg mai’r aria enwocaf yn yr opera ydy honno i’r tenor – “Una furtiva lagrima.” Rhoes hon deitl i gynhyrchiad Cwmni Opra Cymru – “Deigryn yn y Dirgel”.

O ganfod fod Adina mwyach yn ei garu, fel hyn y cân Nemorino:

Daeth deigryn cêl o’i llygaid hi
A llithro i lawr ei grudd,
Fel petai’n chwerw wrth ferched llon 
fu’n tarfu ar ei dydd!
Beth mwy a geisiaf na hyn?
Beth mwy a geisiaf na hyn?
Cariad! Ei chariad
tuag ataf, tuag ataf i.

Cael profi gwefr un eiliad wiw
Yng nghuro’i chalon gun!
Cymysgu ocheneidiau
Am hynny, ein dau’n gytûn! ...
Ei chalon hi a’m calon i yn un,
Ei hocheneidiau hi a mi’n gytûn!

Nefoedd! O cymer fi!
Yr oll a geisiaf, a geisiaf i.


--------------------------------------

Lluniau gan Opra Cymru.
Defnyddiwch y ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde, er mwyn darllen mwy am Opra Cymru.


17.3.16

OPRA CYMRU

Y cwmni lleol yn torri tir newydd.

Fel y gŵyr llawer ohonoch, bellach, cwmni wedi ei sefydlu’n lleol gan Patrick Young, ydi ‘Opra Cymru’. Dyma ŵr sydd â phrofiad eang o gynhyrchu operâu ar y safon uchaf bosib, ledled y byd.

Bu’n gweithio yn Nhŷ Opera Covent Garden am saith mlynedd ac yn cynhyrchu operâu dramor mewn gwledydd fel Tseina a Sweden a’r Unol Daleithiau.

Ers iddo symud i’r ardal hon i fyw, daeth Patrick mor rhugl yn y Gymraeg, fel iddo gyrraedd rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Meifod, 2015.

Un o brosiectau Opra Cymru eleni oedd ‘Carmenâd’, sef fersiwn fer o’r opera boblogaidd ‘Carmen’ gan Bizet. Yn ystod Ionawr bu’r cwmni yn cydweithio efo disgyblion gwahanol ysgolion uwchradd Meirionnydd, gan gynnwys rhai Ysgol y Moelwyn: profiad unigryw a roddodd gyfle i bobl ifanc gydweithio efo cast o gantorion operatig profiadol a bod ynglŷn â pharatoadau cefn-llwyfan yng ngofal arbenigwyr proffesiynol.

Cyflwynwyd ‘Carmenâd’ i gynulleidfa werthfawrogol o bobl y cylch, yn neuadd Ysgol y Moelwyn ar nos Iau, 28ain Ionawr ac fe all disgyblion yr ysgol – pedwar ar ddeg ohonyn nhw i gyd - fod yn falch iawn o’u cyfraniad ar y noson.

Dyma oedd gan rai ohonyn nhw i’w ddeud wedyn:
Elan Cain - ‘Profiad ardderchog a cŵl’. Rhiannon Bond - ‘Llawer o hwyl ac anhygoel’.
Ceri Jones - ‘Profiad gwych o gael cydweithio efo pobl broffesiynol’.
Theo Bridges - ‘Mwynhau’r profiad a’r hwyl’.
Osian Horne ‘Hwyl a phrofiad da’.


Y disgyblion yng nghwmni’r cantorion a’r arbenigwyr technegol
Ymysg eraill yn y llun gellir gweld Patrick Young, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni (ar y dde yn y cefn) ac agosaf ato Robyn Lyn, y tenor oedd yn chwarae rhan Don José, yna Sioned Gwen Davies (Carmen), Sion Goronwy (Escamillo y Toreador), Meinir Wyn Roberts (Micaëla) a Wyn Bowen Harries, yr actor oedd yn chwarae sawl rhan, ac agosaf ato ef y gyfeilyddes amryddawn Helen Davies.

Meddai Patrick:
‘Y prosiect hwn yw’r cyntaf o’i fath: mae’n gyfle i bobl ifanc chwarae rhan allweddol wrth gynhyrchu perfformiad opera yn broffesiynol. Rydym yn falch iawn bod ein noddwyr wedi gweld potensial y prosiect, un a all arwain at gyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl ifanc yn ein cymunedau lleol. Mae'r prosiect yn enghraifft hefyd o ymrwymiad OPRA Cymru i ehangu mynediad i fyd opera trwy gyfrwng y Gymraeg.’

Deigryn yn y Dirgel
Ar nos Sadwrn Mawrth 19eg, Mae'r cwmni yn ymddangos eto yn Neuadd Ysgol y Moelwyn i berfformio fersiwn Gymraeg o ‘L’elisir d’amore’ gan Donizetti.




----------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2016. Bydd adroddiad pellach yn rhifyn Ebrill o Llafar Bro.

Gallwch ddilyn Opra Cymru trwy Gweplyfr/Facebook 

neu Trydar/Twitter @OPRACymru

13.10.15

OPRA Cymru -Carmenâd a Chyfeillion

Erthygl gan Alwena Morgan, a ymddangosodd yn rhifyn Medi 2015.

Carmenâd
Mae pawb a fu yn 'Steddfod Meifod, neu a fu’n gwrando neu’n gwylio adref, yn cytuno ei bod wedi bod yn ‘Steddfod dda. Yn sicr, cafodd OPRA Cymru wythnos brysur a llwyddiannus.

Roedd yn destun rhyfeddod i sawl un a alwodd heibio’r stondin yn y Neuadd Arddangos mai Llan Ffestiniog yw cartref OPRA Cymru. Roedd angen darbwyllo ambell un, wrth gwrs, nad Opera Cenedlaethol Cymru yw OPRA Cymru ond yn hytrach gwmni lleol sy’n cynnig cyfleoedd i gantorion ifanc berfformio opera drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny mewn lleoliadau tipyn mwy gwledig na’n cwmni cenedlaethol.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bu’r Cwmni’n perfformio detholiad o opera Carmen (Bizet) yn y Gymraeg yn ardal bicnic y maes, a hynny ar ffurf promenâd – gan roi’r teitl ‘Carmenâd’ i’r cynhyrchiad. Perfformiadau awyr agored oeddynt a bu cryn groesi bysedd am dywydd ffafriol. Cafwyd haul braf ar gyfer dau berfformiad ond daeth y glaw i herio’r perfformwyr ar y dydd Mawrth.

Er y gawod drom, ni threchwyd y cantorion a chafodd y gynulleidfa wledd. Yn perfformio oedd – Sioned Gwen Davies fel Carmen, Robyn Lyn fel Don José, Sara Lian Owen fel Micaëla ac Adam Gilbert fel Escamillo gyda’r corws – Alys Roberts, Eirlys Myfanwy Davies, Rhodri Jones a Steffan Lloyd Owen yn gwefreiddio’r gynulleidfa.

Llongyfarchiadau mawr i’r criw i gyd heb anghofio Patrick Young, y Cyfarwyddwr Artistig, Anthony Negus, y Cyfarwyddwr Cerdd a’r cyfeilyddion Helen Davies a Sian Davies.


Cyfeillion
Lansiwyd Cyfeillion OPRA Cymru ar gyfer yr Eisteddfod a chroesawyd nifer o ‘gyfeillion’ newydd yn ystod yr wythnos. 

Beth yw manteision bod yn gyfaill?, medde chi.  Wel, cewch ddau gylchlythyr y flwyddyn fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am gynyrchiadau’r cwmni. Ond yn bwysicach na dim, cewch fathodyn arian ‘Troad y Rhod’ o wneuthuriad Gemwaith Rhiannon ac wrth wisgo’r bathodyn cewch fanteisio ar gynigion arbennig fel rhaglen am ddim neu ostyngiad ym mhris eich tocyn.

Nid oes tâl blynyddol nac archeb banc, dim ond UN taliad o £30.
 
Ffoniwch Swyddfa’r Cwmni ar 07800 907 404 am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â Gwenda Lloyd Jones, (trysorydd), ar 01766 762 429 neu Alwena Morgan, (ysgrifennydd aelodaeth) ar 01766 762 687.

Gellir hefyd adael neges ar wefan y Cwmni:
 www.opra.cymru

Ynghanol yr holl brysurdeb, roedd Patrick hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn a rhaid ei longyfarch yn gynnes iawn. Rhwng popeth, fe sicrhaodd Patrick a’r cwmni bod opera wedi taro nodyn cadarn ymhlith y dyrfa ar y maes ac ar yr un pryd wedi rhoi enw’r cwmni opera lleol (a Llan Ffestiniog!) ar y map cenedlaethol.


14.7.14

Hysbysebion Coll

Yn anffodus, diflanodd tair hysbyseb o rifyn Gorffennaf, wrth fynd trwy'r wasg. Dyma nhw:







CYMDEITHAS GYN-DDISGYBLION A CHYFEILLION YSGOL Y MOELWYN

PRYD:     Bore Mawrth, 5ed Awst  2014

BLE:        Pabell y Cymdeithasau 1 ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli

PAM:     Cyfarfod anffurfiol pryd y datgelir enillwyr Gwobr 2014

AMSER: 11 – 12 o.g.

SIARADWYR: Dewi Lake, Sian Arwel Davies

COST:    Isafswm £2 y pen

DYMA’R TRO CYNTAF INNI GYFARFOD YN Y STEDDFOD PAN MAE YN Y DE!! 

DEWCH YN LLU

Croeso i bawb sydd â chysylltiad â’r ysgol beth bynnag eich oedran!