Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Ebrill 2016.
Fel y gŵyr fy nghydnabod, mae barddoniaeth a cherddoriaeth wedi bod yn agos at fy nghalon erioed, a chwestiwn nifer o rai y bum yn siarad â nhw’n ystod y mis dwytha – y rhai ddarllenodd ‘Rod y Rhigymwr’ Mawrth a’r rhai a welais ym mherfformiadau Opra Cymru oedd - tybed a allai rhai o’m hynafiaid fod wedi ymddiddori’n yr un pethau?
Gwyddwn ers tro byd fod y bardd a’r emynydd Henry Lloyd – ‘Ap Hefin’ (1870-1946) yn perthyn o ochr fy mam. Roedd ei daid, Robert Owen (1806-50) yn frawd i’m hen, hen daid, William Owen (1792-1869). Ef, wrth gwrs oedd awdur yr emyn dirwestol a ganwyd dros y blynyddoedd mewn tafarnau a meysydd rygbi, yn ogystal â mewn cymanfaoedd canu – ‘I bob un sy’n ffyddlon dan ei faner Ef’ – ac yn cael ei forio ar dôn enwog Caradog Roberts, ‘Rachie’. Credaf mai ymhyfrydu mewn barddoniaeth ac nid cerddoriaeth a wnaeth Ap Hefin.
Clywais fy nhad yn sôn wrthyf rywdro bod John Owen – ‘Ap Glaslyn’ (1857-1934) yn berthynas bell i’w fam, oedd yn hannu o Nantmor a Beddgelert. Yn ôl y diweddar Huw Williams yn ‘Y Casglwr’, ystyrid ‘yr Ap’, fel y cyfeiria ato, yn ‘un oedd yn adnabyddus yn ei ddydd fel prydydd, llenor, datganwr, areithiwr, cyfansoddwr, efengylwr, dirwestwr a dramodydd, gan ddisgleirio ym mhob maes y bu’n llafurio ynddo.’
Roedd o’n dipyn o foi yn ôl y disgrifiad hwnnw! Ymddengys ei fod, o ochr ei dad, hefyd yn gefnder i’r bardd o’r Blaenau -‘Bryfdir’ (1867-1947).
Lluniodd ‘yr Ap’ sawl cân – yn cynnwys y geiriau a’r gerddoriaeth. Roedd y rhain yn bur enwog yn eu dydd – caneuon fel ‘Tros ein Gwlad’, ‘Fechgyn Cymru’ ac ‘A welwch chi fi’. Yr un sy’n fwya cyfarwydd ohonyn nhw i gyd, mae’n debyg, ydy ‘I Godi’r Hen Wlad yn ei Hôl.’
Pan oeddwn i’n fyfyriwr yn y Drindod, Caerfyrddin, ddeugain a phump o flynyddoedd yn ôl, tasg oedd yn rhaid i mi ei chyflawni oedd, ‘traethawd ymchwil’ ar un o’r beirdd y cynhwysid eu gwaith yng nghyfrol yr Athro Bedwyr Lewis Jones – ‘Blodeugerdd o’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’.
Yno deuthum ar draws ‘Bugeiles yr Wyddfa’ gan John Jones – ‘Eos Bradwen’ (1831-99). Gwyddwn i hwnnw gael ei eni’n fy mro innau – yn ardal Corris, plwy’ Talyllyn. Doedd dim amdani felly ond ymchwilio i’w fywyd a’i waith.
Roeddwn wedi clywed fod ‘yr Eos’ yn gerddor yn ogystal â bardd. Roedd ‘Aled a Reg’ wedi recordio cân o’i eiddo – ‘Chwifio’r Cadach Gwyn’ ar ddisg feinyl ‘45’ tua diwedd y 60au. Gan mod i’n canu dipyn i gyfeiliant fy gitâr yr adeg honno, euthum ati i lunio alaw ar eiriau ‘Bugeiles yr Wyddfa’, er i mi glywed bod llawer o ganu ar un y cyfansoddwr ei hun wedi bod yn ystod dyddiau a fu. Ymhen rhai blynyddoedd, fe’i haddasais ar gyfer Parti Meibion Dyfi i ddechrau, ac yna Feibion Prysor. Mae i’w chlywed ar dâp sain a recordiwyd gennym yn nechrau’r 1990au – gyda llun o ferch ifanc ddel o Gwm Prysor (Manon yr Hendre) ar y clawr:
Mi gwrddais i gynt â morwynig
Wrth odre yr Wyddfa wen,
Un ysgafn ei throed fel yr ewig
A’i gwallt fel y nos am ei phen;
Ei grudd oedd fel y rhosyn,
Un hardd a gwên ei gwawr
Yn canu cân, a’i defaid mân
O’r Wyddfa’n dod i lawr:
“Eryri fynyddig i mi,
Bro dawel y delyn yw,
Lle mae’r defaid a’r ŵyn
Yn y mwsog a’r brwyn,
A’m cân innau’n esgyn i fyny,
A’r garreg yn ateb i fyny
O’r lle mae’r eryrod yn byw.”
Flynyddoedd wedi cyflwyno’r traethawd ymchwil i’m tiwtor, y diweddar annwyl Carwyn James, bu i mi sylweddoli mai i dyddyn fy hen, hen, hen daid, Evan Williams, Cwmeiddaw (1789-1851) yr aethai’r ‘Eos’ yn llaw ei dad i’r ‘Ysgol Sabothol’.
Wrth bori ar lein drwy swp o hen bapurau Cymreig y diwrnod o’r blaen, cefais fodd i fyw. Gwyddwn mai William ac Elizabeth Jones oedd enwau tad a mam ‘yr Eos’, ond nodwyd mai ei daid – tad ei fam, oedd gŵr o’r enw ‘Richard Evan, Maesybwlch’. O ddeall hynny, gwyddwn mai gwraig hwnnw oedd Ann Thomas – merch Thomas Robert (1734-95) a Sarah Prys (1736-1818), Llwyn Dôl Ithel, Talyllyn. Roedd Ann, nain ‘yr Eos’ felly’n chwaer i’m hen, hen, hen nain, Lowri Dafydd, Dolydd Cae, Talyllyn (1761-1844). Roeddwn o’r un llinach â’r ‘Eos’ felly, oedd yn gyfyrder i ‘Nain Dre’ Ap Hefin ac i Richard Owen, Bronygog, Corris (1842-1909) – fy hen daid innau!
Aeth yr Eos ymlaen i wneud enw iddo’i hun fel bardd a cherddor. Bu’n gorfeistr Cadeirlan Llanelwy o 1863 hyd 1878, ac enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl tro am gyfansoddi ‘cantawdau’ – gan lunio’r libreto a’r gerddoriaeth. Ym Mhrifwyl Llandudno (1864) yr enillodd am ei gantawd ‘Y Mab Afradlon’, ac mae’n debyg i’w gantawd ‘Owain Glyn Dŵr’ ddod yn un tra enwog yn ei dydd:
Wele seren y Brython yn fflamio,
Wele faner y nefoedd, yn awr,
Dros gyfiawnder a rhyddid yn chwifio,
Drwy dywyllwch y nos, wele wawr!
Wele faner y Ddraig yn cyhwfan
Fel yn arwydd i gedyrn y gad
Fod y gelyn ar faes y gyflafan
Yn cyhoeddi dialedd a brad.
Tybed a oes copi o’r gantawd hon ar gael i Gwmni Opra Cymru ei hystyried rhyw dro!
----------------------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon