Ar 22 Ebrill 1916, gwelid mwy o luniau o filwyr o'r ardal oedd yn gwasnaethu gyda'r fyddin ar dudalennau'r Rhedegydd. Yr oedd nifer ohonynt wedi eu dyrchafu yn Is-gorporal/Corporal/ Sarjant. Daeth gwybodaeth hefyd bod Abraham Jones, Tanygrisiau a William Humphreys, Manod, dau o griw'r 'Meinars', adref am gyfnod o seibiant o'r ffosydd.
Ymysg y llythyrau a gyhoeddwyd ar y tudalennau oedd un gan filwr o Lan Ffestiniog, Ned Evans, Clogwyn Brith, oedd gyda'r Gatrawd Gymreig yn Ffrainc. Roedd ei eiriau athronyddol yn cychwyn megis
'Yr wyf am geisio ysgrifennu yma atat yn Gymraeg, yn unol a dy gais...Yr ydym yn nghanol rhuadrau y magnelau. Yr un haul sydd yn tywynnu arnom ni ag sydd yn tywynnu ar ardal dawel Ffestiniog...Carwn i ti weled y fath ddyfeisiadau erchyll a chreulawn sydd ganddynt tuag at ddinystrio bywydau dynol...'Diddorol oedd darllen canlyniadau Eisteddfod Capel Seion a gynhaliwyd yn ystod mis Ebrill 1916, a darganfod mai Hedd Wyn ddaeth yn gyntaf ac yn ail ar y gystadleuaeth cyfansoddi englyn coffa i Lefftenant Deio Evans, Plas Meddyg. Diddorol hefyd oedd gweld yr englyn buddugol mewn print, a sylweddoli nad hwn yw’r englyn adnabyddus sydd ar gofeb i Deio, sydd wedi ei lleoli ar ben Carreg Defaid, ger yr Ysbyty Coffa. Dyma'r englyn buddugol yn Seion, a ddaeth â'r wobr gyntaf i 'Pro Patna' - ffugenw'r bardd buddugol, Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn:
O'i wlad aeth i warchodfa lom - Ewrop,
Lle mae'r byd yn storom,
A'i waed gwin yn y drin drom
Ni waharddai hwn erddom.
Yn ogystal â'r testun uchod, roedd cystadleuaeth am gasgliad o benillion er cof am Deio wedi ei gosod gerbron beirdd y fro yn yr un eisteddfod. Bryfdir, y bardd toreithiog o'r Blaenau ddaeth yn fuddugol gyda cherdd hirfaith, ddeuddeg pennill.
Dair wythnos yn ddiweddarach, ar 13 Mai, cyhoeddodd Y Rhedegydd, yn y Golofn Farddoniaeth, englyn arall gan Hedd Wyn i goffáu Deio Evans.
Y tro hwn, gwelodd yr englyn sydd ar gofeb Deio ar Garreg Defaid olau dydd ar dudalennau'r wasg Gymreig am y tro cyntaf.
Tybir i'r bardd o Drawsfynydd benderfynu nad oedd yr englyn buddugol yn Seion i fyny i'w safonau arferol, ac iddo gyfansoddi un newydd, sydd mor adnabyddus inni i gyd.
Er i ambell un awgrymu mai englyn coffa ar gyfer milwr arall oedd hwn gan Hedd Wyn yn wreiddiol, mae'r hyn a ddaeth i'r wyneb ar dudalennau papur wythnosol cylch 'Stiniog ar y dyddiad hwn yn brawf pendant mai er cof am Deio y cyfansoddwyd yr englyn.
Mae ychydig wahaniaeth yn yr englyn sydd ar y gofeb a'r un a welir yn y papur, a’r cyfan yn sillafiadau’r cyfnod.
Ei aberth nid el heibio, a'i wyneb
Anwyl nid a'n ango,
Er i'r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o.
Cofeb Carreg Defaid. Lluniau: Paul W, 31 Mai 2016 |
I'r Diweddar Lieut. D.O.Evans, Llys Meddyg.
Ni ddaearwyd ei ddewrach, ail iddo
Ni laddwyd, na'i harddach;
Llem bicell i 'mron bellach
Ydyw byw heb Deio bach.
Yn gynnar ar ddechrau'r rhyfel derbyniwyd noddedigion o Wlad Belg mewn sawl cymuned ym Mhrydain, gan gynnwys ardal 'Stiniog. Ffoaduriaid rhag y brwydro ffyrnig oedd y rhain, wedi i filwyr yr Almaen ymosod ar y wlad fechan. Cafwyd adroddiad yn y papur lleol ar 22 o Ebrill 1916 am ddau deulu Belgiaid yn ymadael o Danygrisiau, ac wedi cael lloches ers rhai misoedd yno.
Roeddynt yn cychwyn o'r Blaenau gyda'r trên wyth y bore am Lundain. Fel y gellid disgwyl mewn bro mor gymdeithasol â hon, roedd canmoliaeth fawr i'r croeso a gafwyd gan y noddedigion hynny, fel y dywed y gohebydd:
Y maent wedi derbyn caredigrwydd nid bychan oddi ar law boneddigesau a boneddigion yr ardal, ac Eglwys Carmel, er y dydd cyntaf y daethant yma, ac y mae yn glod i'r rhai cyd wedi cyfrannu yn haelionus tuag at eu cynnal, ynghyda dodrefnu y tŷ yn dwt a destlus iddynt, ac nis gallent byth eu anghofio.---------------------------------------------------
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon