Wrth drafod ‘Awr Fawr Galan’ yn rhifyn Mawrth, roedd Tecwyn V. Jones yn dwyn sylw at ddweud yr amser wrth ‘y gloch’ yng Nghymru a’r ‘clock’ yn Saesneg. Ni fu i mi erioed feddwl am darddiad y gofyn “faint ydi hi o’r gloch” sydd o’i gyfieithu yn gofyn “how much is it from the bell” nes i mi bori yn y llyfr ‘Gweithiau Gethin' (1884) gan Owen Gethin Jones, wrth chwilio a chwalu am hanes y clochyddion cyn iddynt fynd yn angof llwyr. (Gweler ‘Hen Glochyddion Cymru’ Gwasg Y Lolfa 2011).
"I liaws o eglwysi hynaf [Cymru], roedd rhaff y gloch ar yr ochr allan i’r Clochdy a byddai llwybr gwastad llyfn oddi wrth y rhaff at y Deial. Ar yr hon yr oedd rhif nodau, yn dangos yr amser drwy dywyniad yr haul dros y llethr fys, yr hwn oedd a’i gyfeiriad o’r de i’r gogledd, yr un ffordd a thalcen yr eglwys lle safai y gloch”.Ai Owen Gethin Jones ymlaen i egluro y byddai’n rhaid i’r clochydd ‘druan ŵr’ wylio’r deial yn ofalus o dywyniad haul a rhoi tonc ar y gloch ar yr awr.
Cloc haul. Manylion isod* |
Gwyddwn am yr ‘hourglass’ wrth gwrs, ond erioed wedi meddwl pam ein bod yn dweud ‘mae yn chwarter i neu chwarter wedi’, hynny ydi yr ‘I’ nes y canai’r gloch yr awr nesaf, a'r ‘wedi’ i ddynodi ei bod wedi canu, a hynny i fyny i’r hanner awr cyn dod yn ôl i’r “I”..
Yng Nghadeirlan Tŷ Ddewi mae cloch efo arysgrif “A’R GLOCH YN RHIFO ORIAU’R DYDD I BEN” ac mae hyn yn ein hatgoffa am ‘GRAYS ELEGY’ – “The curfew (h.y. yr hwyrgloch) tolls the knell of parting day” a’r cyfieithiad “Dacw ddolef y ddyhuddgloch yn oer ganu cnul y dydd”.
Mae cylch o wyth cloch yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau, ac ar y bedwaredd mae’r arysgrif MYFI YW’R NAW GLOCH (John C. Eisel).
[*Llun gan Michael Trolove, wedi'i drwyddedu dan Creative Commons Wicipedia.]
-------------------------------------------------
Dilynwch erthyglau CLYCHAU Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon