26.6.16

Trem yn Ôl -Cynfal Fawr

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'.

Cynfal Fawr ... Beth ddaw ohono?

Mae ‘na nifer o bobl sy’n dechrau mynegi pryder ynglyn â chyflwr hen dŷ Cynfal Fawr oherwydd ei fod wedi bod yn wag cyhyd.  Dyma un o dai mwyaf arbennig yn ardal hon, cartre Huw Llwyd – ‘Milwr, bardd, meddyg, dewin!’ - a Morgan Llwyd, awdur y clasur ‘Llyfr y Tri Aderyn’. 

Mae’r cyfeiriad cynharaf a geir at y tŷ yn mynd yn ôl i 1480 pan oedd Rhys ab Ifan, hen daid Huw Llwyd, yn byw yno.  Wyrion i hwnnw oedd Owen, Rhys a Dafydd, tri bardd ‘yn canu ar eu bwyd eu hunain’ (hynny ydi, yn wahanol i’r beirdd arferol, doedden nhw ddim yn dibynnu ar noddwr i’w cynnal).  Mab Dafydd oedd y cymeriad lliwgar Huw Llwyd, ac ef, yn ôl traddodiad, a adeiladodd y rhan ddiweddaraf o’r tŷ  - ‘Tŷ cryf helaeth, muriau trwchus, ystafelloedd eang a chysurus’ yn ôl un dystiolaeth. 

Yn 1630, fe ganodd y bardd Huw Machno gywydd moliant i Gynfal, a’r tŷ hwn hefyd oedd testun cerdd Thomas Love Peacock, Headlong Hall.  Mae Huw Machno yn ei gywydd yn rhoi cipolwg inni ar ddiddordebau Huw Llwyd – y milwr, yr heliwr a’r pysgotwr, y bardd a’r meddyg:
Ei lyfrau ar silffau sydd
Deg olwg, gyda’i gilydd;
Ei flychau elïau’n lân,
A’i gêr feddyg o arian,
A’i fwcled glân ar wanas
A’i gledd pur o’r gloywddur glas;
A’i fwa yw ni fu o’i well
A’i gu saethau a’i gawell;
A’i wn hwylus yn hylaw
A’i fflasg, hawdd y’i caiff i’w law,
A’i ffon enwair ffein iawnwych
A’i ffein gorn a’i helffyn gwych,
A’i rwydau pan fai’n adeg
Sy gae tyn i bysgod teg.
Mae ‘Ei flychau elïau’ a’i ‘gêr feddyg’ yn gyfeiriad at ei allu meddygol. 

Yn un o lawysgrifau Peniarth, ceir Ellis Wyn o’r Lasynys (Y Bardd Cwsg) yn sôn am ‘Hen Physigwriaeth o Lyfr Huw Llwyd o Gynfal’.

Roedd y bobl gyffredin yn ofergoelus iawn yn y cyfnod, a chan fod cymaint o ddirgelwch ynglŷn â Huw Llwyd, a chymaint o allu yn perthyn iddo, yna rodden nhw’n credu’n sicr ei fod yn ymarfer y gelfyddyd ddu!  Dyna sydd tu ôl i’r holl storiau anhygoel amdano, yn arbennig ynglŷn â’i ‘bulpud’ yng Nghwm  Cynfal, a’i berthynas efo’r diafol a’r mân gythreuliaid. 

Pan fu Huw Llwyd farw, fe ganodd Huw ap Ieuan yr englyn yma :
Holl gampiau doniau a dynnwyd - o’n tir,
Maentwrog a ‘sbeiliwyd;
Ni chleddir ac ni chladdwyd
Fyth i’r llawr mo fath Huw Llwyd.
Roedd dylanwad Cynfal yn drwm ar Morgan Llwyd hefyd.  Fe wnaeth ef gyfraniad mawr i grefydd a dyneiddiaeth ei oes.  Yn Wrecsam y cafodd ei addysg, ac yno hefyd y bu farw, ac y claddwyd ef, ac mae Ysgol Morgan Llwyd yn dystiolaeth o hynny hyd heddiw.  Ond roedd ei galon yn ei henfro os ydym i gredu’r englyn yma o’i waith: 
O Meirion dirion i dario - ynddi
Yn dda ‘rwy’n dy gofio;
Nid hawddgar ond a’th garo
Fy annwyl breswyl a’m bro.
Samuel, mab Morgan Llwyd, a etifeddodd Cynfal ar ei ôl, a Christopher a Joseph Bushman, dau ŵyr iddo, oedd yr olaf o’r teulu i fyw yn Cynfal, er fod rhai o’r Llwydiaid yn dal yn yr ardal mor ddiweddar â throad y ganrif hon.  Disgynnydd iddynt, er enghraifft, oedd D. Llywelyn Lloyd Y.H. a adeiladodd Plas Meini.  Bu ef farw yn 1885.  Roedd un o’i ferched ar fwrdd llywodraethol Ysgol Sir Ffestiniog pan sefydlwyd honno yn 1895.  Priododd merch arall iddo, Ellen Alice ag E.R. Davies, Y Coleg Normal.  Bu hi farw yn 1920.  Os oes disgynyddion o’r teulu yma’n fyw heddiw, byddai’n ddiddorol cael peth o’u hanes.

Yn 1808, prynwyd Cynfal gan y brodyr Casson, y perchnogion chwareli, ac yna, ddiwedd y ganrif ddiwethaf, aeth yn eiddo Pierce Jones.  Arhosodd ym meddiant y teulu hwnnw am dros hanner canrif.  Teulu’r diweddar Mr a Mrs D.M. Jones oedd yr olaf i fyw yno.  Mae’r tŷ wedi bod yn wag am yn agos i bum mlynedd bellach ac yn siŵr o fod yn dirywio.

Cafwyd colled yn y cylch hwn pan dynnwyd hen blas Tanymanod i lawr.  Mi fyddai’n fwy fyth o bechod gweld lle o hanes a thraddodiad Cynfal yn mynd yng angof.”
***

Meddai Pegi Lloyd Williams wrth ail-gyflwyno'r erthygl yn rhifyn Mai 2016:
"Yn ffodus, gwyddom ers rhai blynyddoedd erbyn hyn bod Cynfal Fawr yn ddiogel yn nwylo Gwil a’i wraig hynaws, y Parch Anita Ephraim a’r plant."

---------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 1996, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Mai 2016 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl.

Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon