Cofiaf unwaith i mi fod eisiau mynd o Efrog Newydd i Galiffornia, ond gan nad oedd gennyf lawer o arian ar y pryd, yr oeddwn yn awyddus i gael fy nghludo heb dalu. Yr unig ffordd i wneud hynny, wrth gwrs, oedd gweithio am fy nghludiad.
Cefais fod llong yn hwylio drwy’r Panama Canal, a chwiliais am waith ar y llong honno ar unwaith. Yr oedd llawer yn chwilio am waith ar yr un pryd, ac yr oedd fy ymdrech gyntaf yn fethiant, ond yr ail ddiwrnod bum yn ffodus. Gofynwyd i mi oeddwn yn gwybod rhywbeth am waith ‘mess boy’, a chan fod gennyf brofiad helaeth o bluff, argyhoeddais y ‘mate’ fy mod yn feistr ar y gwaith. Doler y dydd oedd y tâl am ddau ddiwrnod ar bymtheg.
Fy ngwaith oedd gofalu am fwrdd bwyta yr is-swyddogion, sef y trydanydd, y pensaer a nifer eraill. Yr oeddwn, hefyd, yn gofalu am eu ystafelloedd cysgu, a newid y dillad gwlau ac yn y blaen. Ymddengys hyn yn waith hawdd, ond sylweddolais yn fuan nad oedd mor hawdd. Yr oedd y brodyr yma wedi arfer cael pawb i redeg ar unwaith i ymestyn iddynt, ac yn amal byddai mwy nag un yn gwaeddi am sylw ar unwaith. Er cymaint fy mhrofiad, ni honais erioed fy mod yn gallu bod yn holl bresennol, ac felly rhaid oedd gwrando ar eiriau mor hallt a’r môr, ac erbyn hyn dealla’r darllenydd nad wyf yn un o’r rhai hynny all ddioddef peth felly heb roddi ateb yn ôl.
Camlas Panamá, Awst 1914. Manylion isod* |
Yr oeddynt yn yfed yn afresymol ac yn feddw y rhan fwyaf o’r amser. Pan mae dyn yn feddw, yr amser honno daw ei wir gymeriad i’r olwg meddai’r hen air.
Un noson yr oedd rhai ohonynt yn chware cardiau am arian, a minnau yn ôl ac ymlaen yn cario’r diodydd. Yr oedd yr enillwyr mewn tymer dda, ond y rhai oedd yn colli eu harian mewn tymer ddrwg. Yr oedd y chwarae’n brysur fynd yn chwerw, ac unwaith cyhuddodd un y fi, fy mod wedi dwyn ei arian. Califfornia neu beidio, nid oeddwn am ddioddef hynny, a bron cyn iddo orffen y cyhuddiad, dyna fi yn neidio ato, ac yn gafael yn ei gôt a’i ysgwyd nes yr hanner sobrodd. Mynodd ei gyfeillion iddo ymddiheuro i mi, a bum innau’n ddigon doeth i’w dderbyn. Y ffyliaid gwirion yn lluchio eu harian yn ymgolli, yn chwilio am rhywun neu rhywbeth i roddi y bai arno.
Oddeutu hanner nos yr oedd un ohonynt wedi colli llawer o arian, ac wedi yfed yn drwm. Yr oeddwn wedi sylwi ers meityn ei fod yn brysur golli pob rheolaeth arno’i hun. Yr oeddwn yn dod a ‘rownd’ at y bwrdd, a chlywn daeru mawr. Dyna’r colledwr mawr yn neidio ar ei draed ac yn cyhuddo un o’r lleill o dwyllo. Chlywais i erioed y fath iaith, ac yr wyf wedi clywed fwy na’r helyw o blant dynion.
Y peth nesaf welais oedd y colledwr yn cerdded yn ôl oddi wrth y bwrdd, ac yn sydyn yn taro ei law yn ei lodrau ac yn tynnu cyllell fain allan, a’i thaflu at yr un oedd yn taeru ag ef. Planodd y gyllell rhyw fodfedd neu ddwy oddi wrth ei galon. Neidiodd pawb ato gan ei fwrw i’r llawr, a rhedodd rhywun am y capten. Daeth hwnnw i mewn a gwelodd y sefyllfa ar ei union. Aed a’r troseddwr i ffwrdd, a welais i mohono am y gweddill o’r fordaith. Deallais ei fod mewn cell, heb ddim i’w fwyta ond bara a dwfr.
Yr oedd hwylio drwy Gamlas Panama yn brofiad eithriadol. Golygfa fendigedig o bob tu, ond yr haul yn boeth ddychrynllyd, minnau a phawb arall yn chwysu galwyni.
Cyrhaeddasom San Diego ac ymhen ychydig ddyddiau yr oeddym yn San Francisco. Cefais yr ychydig gyflog oedd yn ddyledus i mi, a dwedais wrth y ‘mate’ nad oeddwn yn dychwel i Efrog Newydd. Galwodd fi bob enw dan haul, a gelwais innau yntau bob enw yn ôl. Fel yr oeddwn yn cynhesu i’r gwaith bwriais allan ambell reg Gymreig, ac yr oedd yn amlwg bod rheini yn cael effaith arno. Er nad ydwyf yn cyfreithloni rhegi, byddaf yn meddwl fod rhywbeth trymach mewn rheg Gymreig na’r un iaith arall. Felly oedd hi y diwrnod hwnnw, beth bynnag.
---------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1999. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
*Llun: o Lyfrgell Cyngres yr Unol Daleithiau, cyfeirnod ID cph.3b17471. Yn y parth cyhoeddus am iddo gael ei gyhoeddi cyn 1923. Mwy o wybodaeth ar Wikipedia
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon