27.4.18

Stolpia -Mawnogydd

Pennod arall o gyfres boblogaidd Steffan ab Owain, yn parhau ei drafodaeth ar flodau'r grug.

Faint a wyddoch chi am y planhigyn grug a mawnogydd?    
Ar ôl imi ysgrifennu fy mhwt diwethaf* cofiais am un neu ddau o bethau eraill a fyddai'r hen bobl yn ei wneud gyda grug y mynydd yn y blynyddoedd a fu. Fel y gwyddoch, y mae'r planhigyn hwn yn tueddu i fod yn wydn iawn yn y gwyllt ac mae ei frigau cryfaf yn wrthneidiol dros ben, h.y. efo sbring go dda ynddynt.

Beth bynnag, rywdro cyn cof, dechreuodd dyn osod grug a phlanhigion tebyg fel gwely i gynnal defnydd trymach er mwyn iddo gael tramwyo tros wlybtiroedd, corsydd a mawnogydd yn ddiogel.

Migwyn: mwsoglau'r gors. Llun- Paul W
Yn wir, dywedir y bu'n rhaid cludo cannoedd o fwndeli o rug a'u gosod fel carpedi ar hen gors Glan y Pwll lle saif yr hen orsaf, y clwb rygbi, yr orsaf dân a safle'r gwerthwyr glo heddiw, cyn y tipiwyd tunelli lawer o rwbel ein chwareli ar eu pennau a chreu sylfaen gadarn i'r adeiladau a chreu iard Stesion London.

Ceir cyfeiriad at Thomas Telford hefyd yn gorfod taclo mawnog ddofn pan oedd yn gwneud darn o ffordd fawr yr A5 ger Cerrig y Drudion. Dyma ychydig o'r hanes rwan o ysgrif 'Ffyrdd Cymru 1816-1826 gan Asiedydd o Walia yn Cymro (O.M.E.)' am y flwyddyn 1914:

Dywed yr awdur y bu'n rhaid .... croesi corsydd sigledig Pant Dedwydd gyda'r ffordd a gorchwyl anodd odiaeth oedd, gan fod yno lathenni lawer o fawndir a hwnnw'n hollol wastad. Nid oedd o un diben cario cerrig nag unrhyw fetel caled iddo oherwydd fe'u llyncid, a'r dull gymerodd of oedd cario poethwal - cidys o boeth wiail (h.y. ffagodau o eithin wedi eu llosgi) o'r mynydd a'u rhwymo'n dynn, a'u gosod ar draws y gors yn ôl fel oedd gwely'r ffordd i fod a chan godi chwe modfedd at y canol, a gostwng at yr ochrau, yna eu cuddio â cherrig fflat tenau, ac ar y rheiny, palmant o gerrig cryfion a phridd chwe modfedd o drwch a'u gosod a chlo y wal, ac yna, plyg o raean ar y cwbl, ac fe drodd y cynllun yn llwyddiant mawr.

Teisi Grug
Yn y gorffennol soniais ychydig am hel grug a'i ddefnyddio ar gyfer cynnau tân, on'd o? Wel, dyma bwt bach diddorol yn sôn am yr un math o beth allan o un o ysgrifau bardd o sir Ddinbych a ymsefydlodd yn Stiniog ma, sef Evan Williams -Glyn Myfyr, Sgwâr y Parc.

Yn ei atgofion 'Y bwthyn lle teuliais fy mebyd' yn Cymru 1918 adrodda'r canlynol am ei hen gartref, Penisa'r Pentref ym mhlwyf Llanfihangel Glyn Myfyr: "Dywed ei furiau anghelfydd, ei do o frwyn a gwellt a manrug y mynydd, symlrwydd ei ffurf, ei fod yn gynnyrch awen yr hen Gymry oesau'n ôl..."

Grug. Llun- Paul W
Mewn rhan arall ceir y cyfeiriad hwn ganddo: "Yng nghongl yr ardd, ar fin y ffordd, yn ôl arfer ddarbodus yr hen bobl, byddai tas o rug y mynydd wedi ei chludo cyn yr hydref i fod yn gyfleus i fy mam gynnau tân a modd i fy nhad brofi llymaid cynnes cyn cychwyn allan at ddyletswyddau cyffredin bywyd; ac yn ychwanegol at fod yn ddefnyddiol i'r pwrpas hwnnw byddai hon yn torri min gwyntoedd y gaeaf cyn rhuthro ohonynt ar furiau yr hen gastell ddiaddurn."

 Rwyf am gloi rwan gyda hen ddoethineb amaethyddol sy'n werth ei gofio, sef yr un am dyfiant ac ansawdd y tir o'n hamgylch, .... ond gyda nodyn ychwanegol .... cofier, y mae defnydd i bob planhigyn a chreadur byw:

Aur o dan y rhedyn
Arian o dan yr eithin
Newyn o dan y grug.
-------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2003.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(Rhaid i chi ddewis 'web view' i weld y rhain os yn darllen ar ffôn) 

Lluniau- Paul W

*Rhan gyntaf trafodaeth Steffan -Grug



23.4.18

Pwy enillodd gwpan Sioe Geffylau 1898?

Erthygl gan Dewi Prysor.

Yn y lluniau isod mae cwpan arian hardd a roddwyd fel gwobr i’r ‘Best Tradesman’s Turn Out’ (y masnachwr oedd wedi gwneud yr ymdrech orau i addurno ei geffyl a throl, mae’n debyg) yn Sioe Geffylau Blaenau Ffestiniog 1898.

Mi welwch o’r orgraff sydd arni ei bod wedi ei chyflwyno gan William Parry, Ocsiwnîar o Flaenau Ffestiniog. Tydi hi ddim yn glir os mai cyflwyno’r gwpan i’r enillydd, fel noddwr a gŵr amlwg o’r ardal, wnaeth Mr Parry, neu os mai fo a gomisiynodd y gwpan, talu amdani, yn ogystal â’i chyflwyno fel gwobr.

Mae’r gwpan yn tua troedfedd o daldra, a ffrind i fy nhad o Wyddelwern ydi ei pherchennog erbyn hyn, wedi iddo’i phrynu hi mewn siop antiques yn Wrecsam yn ddiweddar. Mae o’n awyddus i wybod mwy am hanes y gwpan, y sioe geffylau, William Parry ac, yn bwysicach, ac os yn bosib, pwy oedd yr ennillydd? O ran hynny, mae’r perchennog yn awyddus i ddod o hyd i deulu’r ennillydd yn y gobaith y byddai ganddyn nhw ddiddordeb ynddi.


Dwi’n falch o dderbyn cais fy nhad i helpu’r ymchwiliad trwy rannu’r lluniau â darllenwyr Llafar Bro. Yn ogystal â bod o gymorth i’r perchennog aduno’r gwpan â disgynyddion ei hennillydd, mi fydd y darn bach o hanes yma yn siwr o ennyn diddordeb llawer o drigolion a haneswyr y fro.

Felly, os oes rhywun sy’n darllen y geiriau hyn yn cofio eu taid neu hen daid yn ennill, neu yn sôn am ‘ei dad’ neu ‘ei daid’ (neu berthynas arall) yn ennill y gwpan hardd yma, cysylltwch efo fi, neu efo golygyddion/gohebyddion Llafar Bro.

Da hefyd fyddai cael ymateb gan haneswyr y fro ynghylch y bonwr William Parry a Sioe Geffylau Blaenau Ffestiniog.

Dwn im os oes cofnodion i’w cael gan rywun. Mae’n bosib iawn bod rhai i’w cael yn hen bapurau newydd yr ardal, ac mae’n debyg mai yr Archifdy fydd y stop nesa i gael gafael arnyn nhw, oni bai fod gan rywun y wybodaeth wrth law.

Ond i ddechrau, dyma wthio’r cwch i’r dŵr trwy drosglwyddo’r hanesyn i ddarllenwyr ffyddlon Llafar Bro. Mi ddechreuith o drafodaeth, o leiaf. Felly, gan ddiolch i fy nhad, Ned Hendra, a’i ffrind o Wyddelwern am y lluniau, edrychaf ymlaen am ymateb ar dudalennau papur bro gorau Cymru.

Dewi Prysor
----------------------------------

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.



19.4.18

Ffermydd Bro Ffestiniog -2

Ail ran cyfres Les Derbyshire.

Ar ôl gorffen yn Nhanygrisiau y tro diwetha', awn wedyn i lawr y ffordd i Dolwen, Tan y Bryn a Ty’n Cefn - cofiaf Jack Wmff yn ffermio yno gyda'i wraig. 'Roedd Jack hefyd yn gweithio yn Chwarel Wrysgan.  Adeg y rhyfel fe fyddai ei wraig yn dod i fyny i Manod i werthu menyn yn ddistaw (menyn ar rations yr adeg hynny) a chael pris da amdano.  ̕Roedd ganddynt dair i bedair o wartheg ac ychydig o dir addas.    

Ymlaen i Cymerau Uchaf ac Isaf, ac wedyn Bryn Melyn, Rhydsarn, a Dolmoch,  tyddynnod mewn gwirionedd,  arwahan i Ddolymoch sydd yn fwy o faint. Wedyn mynd yn ôl at Dolwen ac i fyny at Llennyrch y Moch, sy'n adfeilion bellach, cofio teulu Mr a Mrs Williams yno a'r hogia Robert Alwyn, Hywel Idris a Cledwyn. 

Ymlaen ar y ffordd drol i Dŷ Coch, eto yn adfeilion, mae hanes difyr i Tŷ Coch. Mae Nesta wedi cyfeirio ato fel cartref ei hen Daid a Nain.  Mae G. J. Williams yn Hanes Plwyf Ffestiniog yn cyfeirio ato fel  hyn-
“...ymunodd y Methodistiad a'r Annibynwyr i gynnal ysgol yn ... Tanymanod, ond methasant a chyd weithio. Ymneillduodd y Methodistiaid a phenderfynasant sefydlu ysgol eu hunain. Cawsant ddrws agored yn Tŷ Coch. Yn 1819, dechreuwyd pregethu yn Neuadd Ddu am 10 y bore a chynhelid yr ysgol yn Tŷ Coch yn y prynhawn. Sefydlwyd Cyfarfod Eglwysig yno hefyd... Symudwyd yr ysgol i Neuadd Ddu yn 1821 oherwydd ymadawiad Griffith Ellis o’r Ty Coch ac o hynny hyd Medi 17eg 1826, pan agorwyd Capel Bethesda, cynhelid pob moddion yn y Neuadd Ddu.”
Mae Neuadd Ddu rhyw chwarter milltir o Dŷ Coch -  llwybr troed a ffordd drol oedd yn cysylltu'r ddwy fferm. Cofiaf deulu Penny yn ffarmio yno. ̕Roedd dau o'r hogiau yn gweithio yn y chwarel, a Bob a'i chwaer gartref. Yn rhyfedd doedd yr hogiau ddim yn rhannu gwaith gyda ffermydd eraill. Yr oedd y beudy a'r tŷ gwair wrth ymyl y bont lein, a cadwant rhyw hanner dwsin o wartheg godro a merlan. Byddant yr adeg hynny yn gwerthu ‘Skimmed Milk’ ac o gôf, ceiniog y peint oedd y pris.                                                                                                                        

Ffarm gyfagos oedd Tyddyn Gwyn, yn ymyl Eglwys St. Martha, Manod. Ffarm ddefaid wrth reddf, ond yn cadw gwartheg a cheffyl hefyd. Mae tŷ'r ffarm yn un adeilad hir, yn cynnwys hen stabal a oedd yn y pen,  wedyn y tŷ a'r bwthyn, ni welais unrhyw hanes o oedran y tŷ, ond credaf ei fod yn dyddio a gweddill hen ffermydd y cylch.  Rhwng y tŷ a'r eglwys yr oedd adeiladau eraill - y stabal, lle i ddau o geffylau a chwt offer cyfagos; y beudy yn dal chwech i wyth o fuchod ac ynghlwm iddo y tŷ gwair, roedd digon o le o gwmpas yr adeiladau. 

John Thomas, ei wraig Jane a'i  mab Bob oedd yn byw ar y ffarm.  ̕Roedd John wedi bod yn was ar ffarm Cefn Peraidd, Llan, ac wedi priodi merch y fferm. Wedyn aethant i fyw yn y pentre cyn cymeryd fferm Tyddyn Gwyn. Cymeriad diddorol oedd John, yn ganwr gwych ac o ran golwg yn ŵr tebyg i'r llun yna o John Bull pan oedd yn mynd ar ferlan a throl llaeth o gwmpas yn urddasol.  Bu hefyd yn gweithio yn un o'r chwareli, ac yr oedd ganddo chwarel ei hun ar odre’r Manod Mawr ac fe'i gelwid yn Chwarel John Tom. Cawn fwy o hanes John eto. Tyddyn Gwyn gymerodd gaeau a ffridd ac adeiladau Tŷ Coch ymhen amser. 

Roedd gan Mrs Elin Hughes, Ffordd Manod, dri cae rhwng tir Tyddyn Gwyn a Tŷ Coch gyda beudy a thŷ gwair, gyda mynediad iddynt drwy adwy ger y bont lein ar y ffordd newydd. Hefyd roedd ganddi gae bach tu cefn i'r tŷ lle cadwai ieir.  Bu iddi gadw tua tair o fuchod a magu lloi, ond ar ôl ei marwolaeth, daethant yn rhan o ffarm Tyddyn Gwyn.  
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol fel rhan o erthygl hirach yn rhifyn Mawrth 2018. Bydd ail hanner y bennod yn dilyn yn fuan.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen 'Ffermydd Bro Ffestiniog'.

Llun -Paul W


15.4.18

Seren leol yn y ras i gael ei henwi'n ‘MISS CYMRU’

Erthygl gan Rhydian Morgan.

MISS CYMRU – beth yw’r darlun cyntaf sydd yn dod i’r meddwl wrth sôn am y gystadleuaeth adnabyddus yma? Merched ifanc, hardd yn cerdded o gwmpas yn urddasol ar lwyfan mewn ffrogiau crand efallai y byddai un ffordd o’i ddisgrifio. Dwi erioed di cymryd llawer o sylw o fyd y pasiantau cyn eleni, ond bellach dwi wedi cael agoriad llygaid i’r hyn sy’n digwydd mewn paratoad ar gyfer cystadleuaeth o’r fath. Y rheswm am hyn yw fy mod yn fy swydd bob dydd yn gweithio gyda un o’r merched sydd yn brwydro am y teitl yma yn 2018.

Llun- Stiwdios Penrhyn
Shonie Williams, merch 19 mlwydd oed o Danygrisiau sy’n gobeithio dod a’r teitl a’r anrhydedd yn
ôl i Stiniog ddiwedd mis Ebrill a mae’n rhaid dweud fy mod dwi wedi dysgu dipyn go lew ynglŷn â’r holl ffactorau eraill sydd yn ymwneud â’r gystadleuaeth hynod yma cyn i chi hyd yn oed ddod yn agos at wisgo’r ffrog grand a chamu ar y llwyfan o flaen y beirniaid. Mae gan y gystadleuaeth hon ei elusen arbennig gyda’r rhai sy’n cystadlu yn y rownd derfynol yn casglu symiau anferthol o arian ar gyfer yr achos teilwng yma. Ers 2004, mae Miss Cymru wedi codi HANNER MILIWN ar gyfer yr elusen!

Cefais sgwrs efo Shonie yn ddiweddar i drafod yr hyn y mae hi yn ei wneud fel rhan o’i hymgyrch i godi gymaint o arian a sy’n bosib, dechreuais drwy ofyn iddi sôn am yr elusen yn y lle cyntaf cyn symud ymlaen at y digwyddiadau:
“Beauty with a Purpose ydi enw’r elusen da ni gyd yn codi arian ar ei gyfer yn ystod ymgyrch Miss Cymru. Mae nhw yn elusen ryngwladol sydd wedi bod wrth wraidd cystadleuaeth Miss World a’i holl rowndiau gwladol ers iddo gael ei sefydlu yn 1972 gan Julia Morley. Prif nod yr elusen arbennig yma yw helpu plant o dan fantais ar draws Cymru a’r byd.” 
Ddiwedd mis Mawrth, roedd y ferch ifanc ddi-ofn a’i chwaer, Alex yn cyrraedd yr uchelfannau wrth iddynt ymgymryd a sialens er budd yr elusen yma, mi esboniodd Shonie fwy wrthai am yr her sydd o’i blaenau:
“Mi fydda' i ac Alex yn neidio allan o awyren rhyw 13 mil o droedfeddi uwchben Yr Amwythig ac yn plymio ar gyflymder o 120 o filltiroedd yr awr! Mae hyn i gyd yn y gobaith o godi swm sylweddol o arian tuag at yr elusen. Byddai’r ddwy ohonom yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau tuag at y sialens yma yn fawr iawn! Dwi wedi cyffroi mwy na theimlo’n nerfus wrth feddwl am neidio allan o awyren, bydd hi’n brofiad bythgofiadwy ac mae’n deimlad arbennig i allu neud hyn efo fy chwaer”
Mae Shonie hefyd wedi bod yn brysur yn cynnal hyfforddiant pasiant ac yn gwisgo fyny fel tywysoges ar gyfer partïon plant yr ardal. Dwi’n gorfod bod yn ofalus be dwi’n ddeud yma, achos mae’r chwaer yn Ddirprwy Reolwr arnai! Ond, wedi dod i nabod y ddwy dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi’n cael y teimlad nad ydi Alex yn edrych ymlaen i’r skydive gymaint? Fedrai ddim dychmygu fod hyn wedi bod yn uchel ymysg y pethau y byddai hi’n hoffi gyflawni yn ei bywyd, a dwi ddim yn beio hi! Mae cyfuno’r gair “skydive” efo plymio o’r fath uchder ar y fath gyflymder yn neud fi’n swp sâl!
Os ydych chi’n teimlo yr un fath, yna mae modd rhoi cyfraniad i’r achos ar y wefan yma - https://uk.virginmoneygiving.com/ShonieLeahWilliams - neu dwi’n siwr y bydd Gwesty Seren yn fodlon derbyn unrhyw roddion a’i pasio nhw ymlaen i Shonie.

Os ydych yn darllen hwn ar y wefan cyn Ebrill 27, 2018 gallwch bleidleisio dros Shonie drwy yrru neges testun gyda’r geiriau WELSH SHONIE i’r rhif 64343. Nid yw’r bleidlais hon yn gwarantu buddugoliaeth iddi wrth gwrs, ond mae pob pleidlais yn mynd i fod yn help mawr iddi tuag at yr uchelgais o guro’r brif wobr ac ennill trip i Ynysoedd y Philipinau i gystadlu yn Miss World. (Rwan dyma’r darn technegol tebyg i’r hyn welwch chi mewn unrhyw gystadleuaeth ar raglenni teledu fel Heno....Mae hi yn ddyletswydd arnai,  yn unol â rheolau Miss Cymru i ddatgan fod y bleidlais yn CAU am 1 O’R GLOCH ar BNAWN GWENER, EBRILL 27. Peidiwch a cheisio bwrw pleidlais wedi’r amser hwn, ni fydd yn cael ei gyfrif ac efallai y gall gostio i chi. Bydd pob pleidlais yn costio £1 + cost eich darparwr ffôn ac mae’n rhaid i bob person sy’n bwrw pleidlais fod dros 18 oed ac wedi cael caniatad gan y person sy’n talu’r bil.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.


11.4.18

Darn arall o hanes lleol

Erthygl gan Vivian Parry Williams

Daeth crair hynod i’m meddiant y dydd o’r blaen. Ei gael yn anrheg gan gyfeilles imi, sy’n arfer cerdded yr un llwybrau â minnau ar ambell daith Cymdeithas Edward Llwyd. Roedd Elinor yn gwybod fy mod yn ymwneud â’r Gymdeithas Hanes yma yn y Blaenau, ac yn meddwl y byddai gennyf ddiddordeb ynddo.

Roedd yn hollol gywir, a’r crair yn drysor arall o hanes y dref. Tysteb ydi’ o, a gyflwynwyd i ŵr a gwraig fu’n berchenogion ar westy’r North Western, neu’r ‘Ring Newydd’ ar lafar, ar eu hymadawiad â’r Blaenau. Mae’r dysteb wedi ei wneud o ledr caled iawn, a’r cas wedi ei addurno yn hardd, gyda phatrwm wedi eu hargraffnodi mewn aur o’i amgylch. Cawn y geiriau Saesneg, Presented to Mr & Mrs Westworth, hefyd mewn argraff  hardd aur yn y canol.

Oddi mewn gwelir, wedi ei osod mewn llawysgrifen liwgar, gain iawn y dysteb i’r ddau uchod. Yn y Saesneg eto, canmolir hwy i’r entrychion am eu hymddygiad, eu cyfeillgarwch a’u gwasanaeth wrth gadw’r gwesty safonol hwnnw yn y Blaenau am gyfnod o bum mlynedd. Ar y dudalen gyferbyn, cynhwysir hefyd gerdd ganmoliaethus, Saesneg, gan Bryfdir, ynghyd â chwpled bychan gwallus ei Gymraeg,
"Llwyddiant yn mhob dull iddoch, 
Lle bynnag, bynnag y bo’ch." 
Ar yr ochr chwith i’r ddogfen gosodwyd llun o’r gŵr, a llun o’r wraig ar yr ochr dde. Rhaid cynnwys y canlynol yn yr iaith yr ysgrifennwyd ef: Signed on behalf a circle of your well-wishers and admirers. Blaenau Ffestiniog, December 14 1899, gan gynnwys enwau’r sawl a drefnodd y dysteb - David Richards; Rob O.Jones; Lewis Thomas; W.E.Ffestin Williams; W.Vaughan Roberts a Richard Jones. 

Yr hyn sy’n fy nharo i yw i’r fath dysteb gael ei gyflwyno i bâr nad oeddynt ond wedi treulio pum mlynedd ymysg trigolion ‘Stiniog, a hynny trwy gadw busnes, digon llewyrchus y cyfnod, yma. Byddai’r dysteb wedi costio’n ddrud i’r rhai a’i dyfeisiodd, a’i chyflwyno i’r Westworths.

Pam tybed fod y ddau hyn yn haeddu clod o’r fath? Yn debygol, roedd y rhai sydd â’u henwau wedi’i arwyddo ar y dysteb yn gwsmeriaid cyson yn y Ring Newydd. Er chwilota tudalennau o bapurau newyddion y cyfnod, ni welais gyfeiriad o gwbl o enwau’r Westworths dros eu pum mlynedd yn y Blaenau. Yn rhyfeddach, ni cheir gair am hanes y cyflwyniad o’r dysteb urddasol, hardd i’r cwpl ar eu hymadawiad o’r dref. Beth bynnag y rheswm dros y cyflwyniad, bydd y dysteb yn cael lle haeddiannol yn arddangosfa’r Gymdeithas Hanes bob haf o hyn ymlaen. A diolchwn yn fawr iawn i Elinor am sicrhau bod darn bach arall o hanes ein tref ar gael ar gyfer dinasyddion heddiw a’r dyfodol.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2018

7.4.18

Rhod y Rhigymwr -Cwm yr Allt Lwyd


Ysgrifau Cledwyn Fychan yn ‘Y Faner Newydd’ a Dewi Prysor mewn rhifyn diweddar o ‘Barddas’ a symbylodd fy sylwadau y tro yma. Mae’r ddau’n cyfeirio eu camre i Gwm yr Allt Lwyd ac Abergeirw - yng nghornel ddwyreiniol plwy’ Trawsfynydd. Yn ei ysgrif ‘Rhwng Gwaungriafolen a Bedd y Coedwr ... ar grwydr ym Mlaen Mawddach’ mae Cledwyn Fychan yn ailfyw y daith gyntaf a gafodd yn crwydro trwy fynydd-dir blaen Afon Mawddach hanner canrif yn ôl.

Abergeirw (Cwm yr Allt Lwyd i'r chwith) o ben Dinas Teleri. Llun- Paul W

Mae Dewi Prysor yntau’n ei ddull dihafal ei hun yn ei golofn ‘Awyr Iach’ ... ‘Rhagor Na Rhigwm’ yn cael ei ysbrydoli i gyplysu ‘campau diweddaraf Donald Trump’ â chartŵn ‘Tom a Jerry’ ac â’r hen rigwm y bu i ni ei ddysgu pan oedden ni’n blant:

Pwsi Meri Mew
Lle gollaist ti dy flew?
Wrth gario tân i dŷ Modryb Siân
Drwy’r eira mawr a’r rhew.’

Mae’r ddau awdur yn llwyddo i roi inni ddisgrifiadau godidog o Gwm yr Allt Lwyd - un o’r ‘cymoedd mwyaf pellennig yng Nghymru’. Yng ngeiriau Prysor:

Mae’r heddwch yn ei ben uchaf yn ddigon llethol i rywun feddwi arno. Gall rhywun feddwi hefyd ar y cyfoeth o enwau sydd ar fryniau, nentydd a gelltydd yr ardal, a chael ei synnu faint ohonynt sydd  i’w cael mewn mawnog eang, anghysbell ...

Pan oeddwn i’n brifathro’n ysgol fach y Ganllwyd yn nechrau’r 1980au, roedd Cwm Hermon ac Abergeirw’n rhan o’i thalgylch. Cofiaf fel yr arferwn encilio i fyny i Gwm yr Allt Lwyd efo’m genwair ‘sgota wedi lli a dal brithyll wrth y dwsinau ym mhyllau blaen Mawddach.


Mae Cledwyn a Prysor yn cyfeirio at enwau rhai o’r hen anedd-dai ... Cwmhesgian, Rhiwfelen, Dolcynafon, Yr Alltlwyd a Thŵr Maen.

Symudais i Ysgol Bro Cynfal, Llan yn bennaeth ym 1985, ac i fyw fel teulu bach i Dy’n Ffridd yn Ionawr 1987. Ymhen dwy flynedd, ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â’r lle y bydd yn dychwelyd iddo’n 2019, sef i Lanrwst, Dyffryn Conwy. Dan ddylanwad fy nghyd-athrawes ym Mro Cynfal, Gwenda Lloyd Jones, bu’n rhaid sefydlu Parti Meibion Cerdd Dant i gystadlu’n Llanrwst ym 1989 ... MEIBION CYNFAL – a gynhwysai aelodau o Gorau Meibion y Brythoniaid, y Moelwyn a Meibion Prysor. Un o’r ddau ddarn gosod ar gyfer y partïon y flwyddyn honno oedd un o gerddi’r diweddar Barchedig Trebor E. Roberts, a fu’n weinidog yng Nghapel Coffa Emrys, Eglwys yr Annibynwyr, Porthmadog o 1946 hyd ei ymddeoliad – ‘Gwenno Tir Mawn’.

Un o’r Parc, Y Bala oedd Trebor Roberts, ac mae’n debyg yr hoffai yntau gilio i unigeddau’r Alltlwyd efo’i enwair. Clywais hefyd mai un a drigai’n y fro hudolus, heddychlon honno oedd ‘Gwenno’ – ‘Tir Mawn’:

Ymhell ar y mynydd ynghanol y brwyn,
Cynefin bugeiliad a hafod yr ŵyn
Mae llannerch ddiarffordd yn heddwch y twyn,
Ac yno, mewn bwthyn hen ffasiwn, to cawn*
Mae aelwyd gysurus gan Gwenno Tir Mawn.
Nid oes yno lawnder na brasder y byd,
Ac anodd cael deupen y llinyn ynghyd
Â’i ffedog liw’r galchen, yn daclus ei phryd,
Rhyw drotian o gwmpas o fore hyd nawn,
Yn ysgafn ei chalon wna Gwenno Tir Mawn.

Os prin ydyw’r moethau, a’r dodrefn yn blaen,
Mae’r ford yn y gegin heb arni ystaen,
A’r hen gwpwrdd deuddarn yn batrwm o raen;
Pe chwiliech bob cornel, ‘rwy’n gwybod yn iawn
Fod popeth cyn laned â’r aur yn Nhir Mawn.

Mae’n wir fod arwyddion o’r hwyrnos yn cau;
Ei llais yn grynedig, a’i chlyw yn trymhau,
A’r droed fu mor heini yn araf lesgáu;
Ond pe galwn i heibio, ‘rwy’n sicr y cawn
Lond aelwyd o groeso gan Gwenno Tir Mawn.

----------------------------------

Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2018.

Llun -Paul W.

[* Dolen i erthygl gan Steffan ab Owain sydd hefyd yn cyfeirio at do brwyn -gol.]

3.4.18

Briwsion

Cyfres newydd gan Nia Williams

Siop Chips Glanypwll

Fel plentyn y '40au mi roedd yna siop chips ardderchog yng Nglanypwll. Y perchnogion oedd Mr a Mrs Glyn Griffiths.  Mi roedd yna ddwy ferch - Gladys a Freda. Mae’n debyg bod Gladys wedi  bod yn mynd a fi am dro yn y pram ac o hynny ymlaen, y hi oedd yn fy ngwarchod yn ei chartref.  Dim ond rhyw wyth oed oedd hi.

Mi roedd Nain Gladys yn byw hefo nhw. Dynes yn gwisgo cap dyn, a barclod bras (sach) drwy’r amser, ac yn yfed te allan o soser.  Pan ddaeth yn amser imi fynd i’r ysgol - Gladys aeth a fi. Aeth i’r County, a chofiaf ei gweld yn gwisgo cap pig gyda chylchoedd melyn ar gefndir glas tywyll.

Aeth Gladys yn ei blaen i Goleg y Santes Fair ym Mangor, ac ymlaen wedyn fel athrawes. Cadwodd mewn cysylltiad â’r Blaenau tros y blynyddoedd trwy Mrs Anni Powell, Bryn Golau. Bu farw yn Swydd Gaer  y llynedd.  Credaf fod Freda yn Ficer ger Llwydlo.

Eglwyswyr oeddynt fel teulu. Mi oedd llun o’r tad yn llifrau côr yr eglwys. Roedd hyn yn rhyfedd i mi fel plentyn - dyn mewn coban wen. Mi oedd o hefyd yn aelod o’r  Frigâd Dân ac roeddem wrth ein boddau pan ddeuent i ymarfer ger y domen lwch lli.

Yn aml ar nos Wener caem bryd o “fish a chips” a byddwn wrth fy modd yn gwrando ar y sgwrsio a’r tynnu coes.  Cai'r tatws eu malu gyda pheiriant llaw a gorau po hiraf oedd rhaid disgwyl am y bwyd er mwyn cael gwrando ar y sgwrs!  Ymhen amser cafodd Glyn fan a byddai yn crwydro’r dref yn gwerthu pysgod.

Pan oedd Freda  tua wyth oed symudodd y teulu i fyw i Wigan ac yno y buont.
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2018.

Llun -Paul W