Showing posts with label cwpan. Show all posts
Showing posts with label cwpan. Show all posts

19.1.24

Cwpan Nazareth Nadolig 1897

Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn yn digwydd bod yng Nghaffi Antur Stiniog yn cael paned, pan alwodd un o’r staff arnaf. Roedd gŵr o’r enw Brian Jones a’i wraig wedi teithio i’r Blaenau o Fryste er mwyn olrhain hanes ei dad, oedd yn byw yma ganol y ganrif ddiwethaf. Mi gawsom ni sgwrs ddiddorol iawn, a dywedodd mae William Haydn Jones oedd enw ei dad; roedd yn byw yn un o’r strydoedd oddi ar stryd fawr y dref.

Dywedodd hefyd fod ganddo gwpan yn ei feddiant ers degawdau, ac ar ôl deall am fodolaeth Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, a’r arddangosfa yn y caffi, dywedodd y byddai wrth ei fodd yn dychwelyd y gwpan i’r dref.

Cytunais i edrych am ychydig o hanes ei dad a gyrru’r canlyniadau ato. Felly dyma gysylltu â dau arbenigwr ar hanes lleol, sef Steffan ab Owain a Vivian Parry Williams.

Yn y cyfamser, ar ôl derbyn y gwpan, mi fum wrthi am ddwyawr a hanner yn ei glanhau! Wrth wneud, daeth y geiriau Nazareth Nadolig 1897 i’r golwg, ac hefyd fanylion y gwneuthurwyr oddi tani, sef Triple Deposit Mappin & Webb’s Princes Plate London & Sheffield (Roedd stamp siâp twll clo a’r rhif 9½ hefyd ar yr ymyl).

 

Ar ôl dipyn o ymchwil daeth Steffan i’r canlyniad bod Côr y Moelwyn wedi ennill cwpan mewn eisteddfod yng nghapel Nasareth, Penrhyndeudraeth yn 1897. Roedd Brian Jones wedi son fod ei dad wedi ei eni ar yr 2il o Hydref 1910, ac aeth Vivian i edrych yn fanwl ar gyfrifiad 1911 ar gyfer y Blaenau a chanfod fod William Jones yn faban 8 mis oed bryd hynny yn rhif 21 Lord Stryd.

Mi yrrais ganlyniadau ein hymchwil at Brian a daeth llythyr yn ôl ganddo’n fuan iawn yn diolch yn fawr am waith arbennig fy ffrindiau. Ychwanegodd bod ei daid yn chwarelwr yn Chwarel y Manod, ond hefyd -yn allweddol i’r stori hon- yn arweinydd Côr y Moelwyn yn y flwyddyn 1897. 

Mae’n edrych yn debyg felly mae’r gwpan a enillodd y côr yn Eisteddfod Nazareth Nadolig ydi’r un oedd ym meddiant Brian. Diddorol dros ben yn’de! Mi fydd y gwpan rwan yn cael ei harddangos yn un o gypyrddau gwydr y Gymdeithas Hanes, yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog.

E. Dafydd Roberts
- - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2023



12.7.23

Cwpan Arall

Yn rhifyn Mai mi gawsom hanes cwpan y gystadleuaeth ddrilio (Trysor Siop Elusen).

Y mis yma, daeth cwpan unigryw arall i’r golwg, diolch i Bet Roberts, Ffordd Wynne.

 

Ar y gwpan, ceir y geiriau:

The Championship
North Wales 3 Mile Cycle Race
Blaenau Ffestiniog
Athletic Sports
Oct.5th, 1901
Presented by M. Rowland Jones, Maenofferen Hotel

Diolch i Steffan ab Owain unwaith eto am dyrchio’n archifau “The Cambrian News & Merioneth Standard”, 20 Medi, 1901. 

Yn y golofn chwaraeon, gwelir fod rasus beicio amrywiol wedi eu cynnal yma’n y Blaenau. 

 

Dyma’r buddugwyr: 

Râs filltir i ddechreuwyr: Iaf - William Davies, Lord Street, 2il - Robert Ellis, Glasfryn.
Râs ymlid ar feic: 1af - William Davies, Lord Street. 2il - Hugh Jones, Devon Terrace.
Yna y râs 3 milltir am y gwpan: 1af - Hugh Jones, Devon Terrace. 2il - William Davies, Lord Street. 

Dafydd Roberts
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023


23.4.18

Pwy enillodd gwpan Sioe Geffylau 1898?

Erthygl gan Dewi Prysor.

Yn y lluniau isod mae cwpan arian hardd a roddwyd fel gwobr i’r ‘Best Tradesman’s Turn Out’ (y masnachwr oedd wedi gwneud yr ymdrech orau i addurno ei geffyl a throl, mae’n debyg) yn Sioe Geffylau Blaenau Ffestiniog 1898.

Mi welwch o’r orgraff sydd arni ei bod wedi ei chyflwyno gan William Parry, Ocsiwnîar o Flaenau Ffestiniog. Tydi hi ddim yn glir os mai cyflwyno’r gwpan i’r enillydd, fel noddwr a gŵr amlwg o’r ardal, wnaeth Mr Parry, neu os mai fo a gomisiynodd y gwpan, talu amdani, yn ogystal â’i chyflwyno fel gwobr.

Mae’r gwpan yn tua troedfedd o daldra, a ffrind i fy nhad o Wyddelwern ydi ei pherchennog erbyn hyn, wedi iddo’i phrynu hi mewn siop antiques yn Wrecsam yn ddiweddar. Mae o’n awyddus i wybod mwy am hanes y gwpan, y sioe geffylau, William Parry ac, yn bwysicach, ac os yn bosib, pwy oedd yr ennillydd? O ran hynny, mae’r perchennog yn awyddus i ddod o hyd i deulu’r ennillydd yn y gobaith y byddai ganddyn nhw ddiddordeb ynddi.


Dwi’n falch o dderbyn cais fy nhad i helpu’r ymchwiliad trwy rannu’r lluniau â darllenwyr Llafar Bro. Yn ogystal â bod o gymorth i’r perchennog aduno’r gwpan â disgynyddion ei hennillydd, mi fydd y darn bach o hanes yma yn siwr o ennyn diddordeb llawer o drigolion a haneswyr y fro.

Felly, os oes rhywun sy’n darllen y geiriau hyn yn cofio eu taid neu hen daid yn ennill, neu yn sôn am ‘ei dad’ neu ‘ei daid’ (neu berthynas arall) yn ennill y gwpan hardd yma, cysylltwch efo fi, neu efo golygyddion/gohebyddion Llafar Bro.

Da hefyd fyddai cael ymateb gan haneswyr y fro ynghylch y bonwr William Parry a Sioe Geffylau Blaenau Ffestiniog.

Dwn im os oes cofnodion i’w cael gan rywun. Mae’n bosib iawn bod rhai i’w cael yn hen bapurau newydd yr ardal, ac mae’n debyg mai yr Archifdy fydd y stop nesa i gael gafael arnyn nhw, oni bai fod gan rywun y wybodaeth wrth law.

Ond i ddechrau, dyma wthio’r cwch i’r dŵr trwy drosglwyddo’r hanesyn i ddarllenwyr ffyddlon Llafar Bro. Mi ddechreuith o drafodaeth, o leiaf. Felly, gan ddiolch i fy nhad, Ned Hendra, a’i ffrind o Wyddelwern am y lluniau, edrychaf ymlaen am ymateb ar dudalennau papur bro gorau Cymru.

Dewi Prysor
----------------------------------

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2018.