Showing posts with label caffi antur stiniog. Show all posts
Showing posts with label caffi antur stiniog. Show all posts

4.5.26

‘Gefaist di ddigon?’

Blodeuwedd oedd yn gofyn, ar ôl bwydo Gronw Pebr; ond fel y gwyddwn roedd o eisiau mwy! A gellid dweud hynny hefyd am gynulleidfa noson olaf Cyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog, ddiwedd mis Mawrth. 

Arwel Gruffydd, yr actor, canwr, a chyfarwyddwr theatr o Danygrisiau oedd yno i’n diddanu, ac roedd pawb, heb os, eisiau mwy wrth i’r noson ddirwyn i ben! Wrth ei gyflwyno, dywedodd Delyth nad ydi Arwel wir angen cyflwyniad yn lleol gan ein bod i gyd yn falch iawn o’i lwyddiannau, a llawer wedi dilyn ei yrfa, o eisteddfodau lleol, i ymddangos ar y sgrîn tra oedd dal yn y brifysgol, yn y ddrama Deryn efo John Ogwen, a thrwy ei gyfnod yn gyfarwyddwr theatr, ac yn ôl i ddisgleirio fel actor erbyn hyn.


Roedd yn braf croesawu Ffion Dafis eto, ar ôl ei chyfraniad cofiadwy hi i'r gyfres flwyddyn union yn ôl, er iddi chwerthin bod llai yno bryd hynny nag oedd wedi troi allan i weld Arwel! Hi oedd yn holi y tro hwn, yn ei ffordd gelfydd ei hun, yn gwybod yn union sut i osod cwestiwn er mwyn cael y gorau o’r atebion.

Dechreuodd Arwel trwy ganu’r gân draddodiadol hyfryd ‘Trafaeliais y byd’ yn ddi-gyfeiliant, a chael y gwrandawiad astud sy’n nodweddiadol o gynulleidfa Cyfres Caban. Roedd wedi clywed hon gynta’ meddai, gan Merêd, un arall o Danygrisiau.

Roedd cysylltiad lleol arall yn yr ail gân, sef ‘Adra’ gan Gwyneth Glyn, ac wrth gyflwyno, dywedodd Arwel mae un o ddramau Gwyneth -Maes Terfyn- oedd y gyntaf iddo ei chyfarwyddo. Ymunodd Gai Toms ar y gitâr i gyfeilio’r glasur yma, a’r gynulleidfa’n ymuno yn y gytgan.

Holodd Ffion sut beth oedd dychwelyd i berffomio yn ei filltir sgwâr? Ateb Arwel oedd ei fod ‘ychydig bach yn ddychrynllyd, ond yn fraint mewn gwirionedd’. Roedd yn ddiolchgar am y gwahoddiad, gan fod hynny wedi tanio brwdfrydedd ynddo i ail-afael yn y canu. Roedd yn gwbl normal, pan oedd Arwel yn blentyn, fod pawb yn canu neu’n adrodd, ac roedd ei fagwraeth gariadus a chefnogol yn sbardun iddo berfformio. 

Bryd hynny, meddai, roedd cyfoeth o dalent yn lleol, a phobl eithriadol yn hyfforddi ym meysydd canu, llefaru, a cherdd dant. Roedd yn ddiolchgar hefyd meddai, am angerdd a chefnogaeth athrawon Adran Gymraeg Ysgol y Moelwyn.

Mi gawsom fonolog deimladwy iawn gan Arwel yn ystod hanner gynta’r noson: darn o ddrama Saunders Lewis, Blodeuwedd: yr olygfa rhwng Blodeuwedd a Gronw Pebr ar ôl rhannu eu pryd bwyd cyntaf. Mi awgrymodd Ffion ar ddiwedd y darn y gallech fod wedi clywed y gwynt yn gyfeiliant! Yr hyn oeddwn i’n glywed yn fy mhen oedd cerddoriaeth Wagner, fel oedd gan y gynulleidfa yn eu clustffonau yn ystod y cynhyrchiad gwych o Blodeuwedd ddaeth Arwel i Domen y Mur yn haf 2013 pan yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.

Cawsom fwy o holi a sgwrsio difyr yn ail hanner y noson, a chloi efo dwy gân a blesiodd y gynulleidfa, sef Anfonaf Angel er cof am ei dad, ac Eryr Pengwern yn ysgogi’r dorf i godi ar eu traed i gymeradwyo.
Hefin dalodd y diolchiadau, yn falch fod y noson wedi codi ei galon ar ôl siom pêl-droed Cymru y noson gynt, ac awgrymu yr hoffai weld mwy o gydweithio cerddorol rhwng Arwel a Gai! 

Mae Ffion erbyn hyn yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws, ac efo’i chynhyrchiad cynta’ mae hi’n dod a’r cwmni yn ôl i Stiniog ar ôl bwlch hir. Gwyliwch am fanylion ‘Ar Geinioga’ yn Cell ar y 4ydd Mehefin. 

Gawsoch chi ddigon? Os hoffech weld parhad i’r gyfres o adloniant, diwylliant, chwyldro- Gweler isod. Ymlaen! 
PW

- - - - - - 

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2026

 

DIWEDDARIAD: 

Ar ôl pedwar gaeaf o drefnu nosweithiau, mae gweithgor YesCymru Bro Ffestiniog wedi penderfynu cymryd hoe, felly fydd yna ddim Cyfres Caban dros aeaf 2026-27.

Gwyliwch am ddyddiad Cyfarfod Blynyddol cangen Bro Ffestiniog YesCymru, yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. Efallai fel rhan o ddigwyddiad fyddwn yn gynnal ar benwythnos Gŵyl y Glaw. Mi fyddwn yn trafod dyfodol hir-dymor Cyfres Caban, ymysg pethau eraill. 

Bu 18 noson hyd yma, efo cyfraniadau arbennig gan Dafydd Iwan, Bethan Gwanas, Tecwyn Ifan, Angharad Tomos, Gwilym Bowen Rhys, Myrddin ap Dafydd, a llawer mwy! 

Dolen i erthyglau CYFRES CABAN 


6.4.26

Gwneud y Pethau Bychain

Wrth ddweud ei bod yn braf cael ymuno yng Nghyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog, soniodd y canwr Arfon Wyn am ei obaith i efelychu’r gyfres a chynnal digwyddiadau tebyg ym Môn hefyd. Mae mor bwysig ‘gwneud y pethau bychain’ meddai, a hithau’n benwythnos Gŵyl Ddewi, i ddod at ein gilydd i ganu a thrafod. Dathlu ein treftadaeth a’n traddodiadau, a chadw’r ymgyrch am annibyniaeth i Gymru yn amlwg ym meddyliau pobl.

Hon oedd ail-noson-ar-bymtheg y gyfres, yn awyrgylch hyfryd Tŷ Coffi Antur Stiniog, ac yn ôl yr arfer, mi gawsom sét fer o ganeuon gan y cyfansoddwr-ganwr i ddechrau, ac un arall i gloi’r noson. “Rhywbeth hwyliog i gychwyn” meddai, “er mwyn cael c’nesu efo chydig o gyd-ganu”, a bwrw iddi efo Ar Lan y Môr. Bu chwerthin yn y gynulleidfa wrth iddo egluro ei fod wedi ychwanegu pennill am ysgariad -difôrs- i adlewyrchu’r byd modern!

Mi gawsom lawer o’i glasuron -rhai wedi bod yn llwyddianus yng nghystadleuaeth Cân i Gymru dros y blynyddoedd, fel Cae o Ŷd (2000) a geiriau’r gytgan dal yn berthnasol heddiw efo’r hil-laddiad erchyll ym Mhalesteina: ‘Mae sŵn y gynnau’n tanio/Dal i’w clywed yn y nos...’ 

Harbwr Diogel (2002) yn un arall adnabyddus; ond cafwyd ambell un llai cyfarwydd hefyd, fel Ni Welaf yr Haf, a ddaeth i’r brig ym 1979 pan oedd yn aelod o’r grŵp Pererin. Difyr oedd clywed ei brofiadau yn y byd cerddorol, a hanesion difyr a digri, wrth gyflwyno’r caneuon.

Yn dilyn egwyl fer, mi gawsom sgwrs ddifyr tu hwnt gan y bardd a’r awdur Haf Llewelyn. Un a fagwyd ar fferm Graig Isaf ym mhen uchaf Cwm Nantcol, dafliad carreg o Fwlch Drws Ardudwy a dalgylch Llafar Bro. 

Mae gen’ i feddwl y byd o Stiniog” meddai, o’r dyddiau pan oedd yn dod i weld ‘y dyn llygaid’ yma. Soniodd Haf am gefndir hirhoedlog ei theulu yng Nhwm Nantcol, a’r newid enfawr sydd wedi dod i Ardudwy ers ei phlentyndod. Mae’n cofio’r plentyn di-Gymraeg cyntaf yn cyrraedd Ysgol Llanbedr, sy’n anodd credu erbyn heddiw tydi, ac yn gwaredu na chafodd unrhyw air o hanes Owain Glyndŵr, tra oedd yn Ysgol Ardudwy. Ysgol sydd yng nghysgod Castell Harlech fu’n gartref a phencadlys yr arwr a’i deulu am gyfnod yn ystod ei wrthryfel. 

Erbyn hyn mae hanes a threftadaeth yn agos iawn at ei chalon a’i hangerdd yn pefrio trwy ei gwaith- mae’n awdur nifer fawr o lyfrau plant, a nofelau i oedolion.

 

Mi enillodd ei nofel hanesyddol am Hedd Wyn -Diffodd y Sêr- wobr Tir Na N-og yn 2014. Darllenodd ambell gerdd deimladwy iawn o’i chyfrol o farddoniaeth, fel Llwybr y Pererin (ger Gellfechan, Ardudwy), sy’n dechrau fel hyn: 

Unwaith ar y llwybr hwn bu’r brodyr, ac eithin melyn Mai 
yn cydio ym mhlygiadau eu brethyn llwyd; a thybiais imi eu gweld
yn datod rywfodd rubanau’r niwl dros y Sarn, gan adael
Enlli’n gryndod yn y gwres – a’r môr cyn lased medden nhw,
A mantell sidan Branwen gynt.

Noson arbennig arall o adloniant, diwylliant, chwyldro! Dim ond un arall sydd i ddod yn y gyfres yma, a hynny ar nos Wener olaf mis Mawrth (27ain). Mae hanes yr actor/canwr/cyfarwyddwr theatr Arwel Gruffydd yn ein diddanu efo ambell gân a darlleniad, ac yn cael ei holi gan Ffion Dafis yn rhifyn Ebrill. 

PW
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026 
 

5.3.26

Cerddi yn y Caban

Ar Nos Wener olaf Ionawr, a hithau’n noson oer a llwyd, daeth cynulleidfa dda eto i Dŷ Coffi Antur Stiniog ar gyfer noson ddiweddaraf Cyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog. Cyfres o nosweithiau hwyliog o sgwrs a chân, i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch annibyniaeth i Gymru, dan faner Adloniant; Diwylliant; Chwyldro!

Wrth gyflwyno dymunodd Delyth wellhad buan i Gwenan Gibbard, oedd i fod efo ni, ond yn diolch ar yr un pryd i’r canwr talentog lleol Garry Hughes am sefyll yn y bwlch ar fyr rybudd, trwy gytuno i ganu ddau fis yn gynt na’r trefniant gwreiddiol! 

Mae Garry wedi cyrraedd rownd derfynnol Cân i Gymru ddwywaith, ac wedi bod yn ganwr i ddau grŵp lleol- Yr Oria a Jambyls, yn ogystal a bod yn ganwr-gyfansoddwr ar ei liwt ei hun. Mi ddewisodd ddetholiad o’i ganeuon yn y noson Caban sy’n adlewyrchu ei daith gerddorol hyd yma, a’i gefndir; y balchder sydd ganddo o’i filltir sgwâr, a sylwebaeth ar gyflwr y byd.


Dechreuodd ei sét gyntaf efo’i sengl Golau Stryd -cân am deulu bach, meddai... yn wynebu heriau o ddydd i ddydd fel pob teulu arall. Cân hyfryd, sy’n haeddu mwy o sylw ar y radio, a sain arbennig yn dod o’r gitâr yr oedd wedi dewis ar gyfer y noson. Braf oedd clywed ychydig o hanes a chefndir ei ganeuon ganddo, a’i hiwmor yn denu chwerthin a chydymdeimlad gan y gynulleidfa. Rhannodd ei fod ‘wedi mwynhau’r profiad ar Gân i Gymru, ond ei fod yn ddychrynllyd!’ gan ychwanegu fod canu’r gân -Gwydr Hanner Llawn- yn haws o lawer oddi wrth y camerâu!

Siaradwr y noson oedd yr awdur -a llysgennad Stiniog yn Lloegr- Simon Chandler. Mae darllenwyr Llafar Bro yn gyfarwydd iawn efo barddoniaeth Simon, a’i erthyglau yn cyflwyno ei ddwy nofel arbennig. Mae’r ddwy, Llygad Dieithryn (2023), a Hiraeth Neifion (2025) yn cynnwys golygfeydd a chymeriadau o Stiniog a chariad yr awdur at y Blaenau yn amlwg iawn. 

Wrth gael ei holi gan Delyth, disgrifiodd Simon ei hun yn blwmp ac yn blaen fel ‘Sais anwybodus’. Ond ychwanegodd mai ‘cyflwr dros dro ydi anwybodaeth’ ac yn ei ffordd ddi-hafal ei hun, aeth yn ei flaen i brofi hynny trwy swyno’r gynulleidfa efo’i iaith gyfoethog, yn llawn idiomau ffraeth, a’i angerdd dros bopeth Cymraeg yn gwbl amlwg i bawb oedd yno.

Er iddo ddod i’r Blaenau gyntaf dros ugain mlynedd yn ôl ac i’w chwifrydedd am ein hiaith gydio ynddo, darbwyllwyd o gan ryw lembo nad oedd modd i oedolyn ddysgu Cymraeg! Ond roedd 2016 yn flwyddyn allweddol meddai, efo thri pheth yn cyfuno i’w roi yn ôl ar y llwybr cywir i’w dynged fel Cymro! Cwrdd â Chymraes mewn grŵp cymdeithasol Almaenig oedd un -ac mi oedd hi yn gadarhaol ei barn fod oedolyn yn medru dysgu’r Gymraeg! Doedd Simon ddim wir yn teimlo fel Sais, ond mi oedd yn teimlo’n Ewropeaidd, felly roedd Brexit yn drychineb wnaeth ddwyn ei hunaniaeth oddi arno dros nos bron. A’r trydydd peth oedd ymgyrch wefreiddiol tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros!

Gorffenodd Simon efo cyfres o englynion yr oedd wedi eu llunio ar ôl derbyn gwahoddiad y gangen i siarad: cerdd sydd meddai yn ceisio ‘dangos dwyster y cariad rwyf yn ei deimlo tuag Fro Ffestiniog a’i phobl arbennig’. Roedd yn garedig iawn hefyd wrth ddiolch am gael cyfrannu at ‘un o nosweithiau chwedlonol Cyfres Caban’. Diolch o galon Simon am bob dim. Tyrd yn ôl yn fuan!

Ymddangosodd yr englynion yng ngholofn Rhod y Rhigymwr yn yr un rhifyn, ond roedd yn drawiadol ar y noson, i nodi fod Simon, fel Garry yn y gân ‘Bŵm Town’ (dyna o le daw pennawd yr erthygl yma) yn cyfeirio at gyfraniad Caban y chwarel i adloniant, diwylliant, a thrafodaeth wleidyddol ein bro. Dyna bwrpas Cyfres Caban heddiw hefyd! 

   Y Blaenau, fy Nghariad ...

   Ar wobr ar ochr y wybren y trawais,
     llecyn triw, gardd Eden,
   hud heb ergyd na bargen,
   glaw a niwl ond ffagl y nen.

   Hen swyn, cŷn yn atseinio yn y wlad
     anweledig, tanio’r
   ffrwydrad heb frad yn y fro,
   y gair oedd am flaguro.

   Daeth mewn saib rhwng caib a’r caban, o’i griw
     gerddi’r graig, du sidan
   fu’r llif, y dref fu’r llwyfan,
   ildio’i chaer i ledu’i chân.

   Naid i lwyth o’th genedlaethau, Gai Toms,
     mwg y tân a’i chwedlau,
   enw cylch fydd byth yn cau,
   hen diroedd dy nendyrau.


(Bydd hanes noson Caban Chwefror yn rhifyn Mawrth, ac mae un noson eto i ddod yn y gyfres, ar nos Wener olaf Mawrth, pryd bydd Ffion Dafis yn holi Arwel Gruffydd)

PW

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2026 

 

14.1.26

‘Tyrd a’r haul yn ôl efo chdi’

Roedd y diweddaraf o nosweithiau Cyfres Caban gan YesCymru Bro Stiniog yn wledd arall, ac fel dyweddodd Delyth, ein compère dawnus, wrth gloi’r noson, roedd yn enghraifft berffaith o’n harwyddair Adloniant; Diwylliant; Chwyldro!

Roedd hon yn noson dairieithog: Cymraeg, Norwyeg, a Saesneg. Ond ar ben hynny, roedd yn noson aml-gyfrwng hefyd, efo pytiau o ffilm, cwis, sgwrs a chân a barddoniaeth... ond hefyd, ein profiad cyntaf yn y gyfres, o ddawns greadigol!

Un o feibion y Manod, yr actor Gwyn Vaughan Jones a’i bartnar Siri Wigdel, oedd y siaradwyr gwadd ar y noson, ond cafwyd llawer mwy na hynny ganddyn nhw. Un o Norwy ydi Siri, ond mae wedi bod yng Nghymru ers dros 30 mlynedd, yn rhugl ei Chymraeg ac yn cyfrannu at ein diwylliant ers blynyddoedd. Roedd y cwis fer ar y dechrau am Llychlyn -neu Sgandinafia- a’r gwledydd Nordig, yn agoriad llygad, a Gwyn yn ei gweld yn ddifyr iawn cymharu efo sefyllfa Cymru yn cael ei rheoli gan wlad arall. Cawsom ein hatgoffa gan yr ystadegau NAD ydi Cymru’n rhy fach, NAC yn rhy dlawd ein hadnoddau, i fod yn annibynol! Sweden ydi’r fwyaf o’r gwledydd efo poblogaeth dros 10 miliwn; rhwng 5 a 6 miliwn sydd yn Norwy, Denmarc a’r Ffindir. Mae dros dair miliwn o bobl yng Nghymru wrth gwrs, ond ystyriwch Wlad yr Iâ a’i 380 mil o bobl! Ia, poblogaeth debyg i Gaerdydd, ond eto mae Gwlad yr Iâ ymysg gwledydd gorau’r byd o ran iechyd, addysg a chyfoeth GDP. Ac Ynysoedd y Ffaro wedyn, sy’n wlad annibynol efo llai na 60,000 o boblogaeth. Maen nhw’n cydweithio ag eraill o ran amddiffyn a materion tramor, ond yn hunanlywodraethol fel arall. Mae Cymru’n hen ddigon tebol hefyd!

 

Mae Gwyn yn amlwg wedi gwirioni efo Norwy. Yn debyg i Eryri o ran tirwedd er yn fwy creigiog; gwladwriaeth les anhygoel yno, ac yn cael ei hadnabod fel un o wledydd hapusaf y byd! Gwlad fodern iawn ond sy’n parchu ei thraddodiadau a’i diwylliant. Mwy felly nag ydym ni yma yng Nghymru.

Gwlad hir iawn ydi Norwy, dros fil o filltiroedd o’r de i’r gogledd, a’r gogledd yn teimlo fod ei hadnoddau’n cael eu hecsbloetio a’r de yn elwa ar eu traul. Roedd diffyg parch at y bobl Sámi, diwylliant cynhenid yr ardal Arctig, yn y gorffennol. Daeth Siri i sylweddoli ei bod yn rhannol o dras Sámi, ac mae hi’n gweithio ar sioe ar sail hynny. Gwelsom ffilm fer ohoni yn dehongli barddoniaeth trwy ddawns, mewn tirlun llawn eira -lleoliad efo dim ond 2-3 awr o olau dydd yr adeg yma o’r flwyddyn.

Yn ail hanner y noson, mi gawsom wledd gan Gai Toms, a’r cyfansoddwr-ganwr lleol ar ei orau o flaen cynulleidfa oedd yn gwrando’n astud a gwerthfawrogi pob gair a chân. Dechreuodd trwy ddiolch i Siri am ‘agor ei ddychymyg’ am y celfyddydau creadigol, a bod yn ddylanwad mawr ar ei yrfa (bu’n ddarlithydd iddo yng Ngholeg Meirion Dwyfor -darllenwch lyfr Gai, Llechan yn y Gwaed, am fwy o fanylion). Rhoddodd Gai deyrnged i’w fam hefyd, yn son am fynd i weld y wawr o ben y Manod Mawr, ond y lle yn niwl dopyn a dim byd i’w weld! Yn ystod y cyfnod clo aeth ati i addasu cân Galway Bay i sôn am y gorwel pell na welodd ei fam bryd hynny. “Os gewch chi gyfle, ewch i ben y Manod, ar noson braf o haf, does nunlla gwell”. Mae’n gobeithio gwelith y gân olau dydd ar albwm Y Filltir Gron sydd ar y gweill ganddo.

Roedd Gai yn chwerthin bod pobl Tanygrisiau byth yn gweld y machlud ‘chwaith, gan fod y Moelwyn yn y ffordd! ‘Tra bod pobl Manod a Llan yn llygad yr haul, mae’r gwybaid bach allan yn poenydio pobl Tangrish!’

Albym ddiweddara’ Gai ydi ‘Baiaia!’ ac mi gawsom ddatganiad arbennig o’r gân hyfryd Agorydd, lle mae’n galw: Tyrd â’r haul yn ôl efo chdi, agorydd sy’n dywyll ac oer hebddat ti. 

Yn ystod ei set, bu Gai’n cyfeilio i ddarlleniad angerddol o Under Milk Wood gan Gwyn, tra oedd Siri’n dehongli trwy ddawns ymysg y gynulleidfa! Cyflwynodd y gân Fiskesteinen (o albwm Mim Twm llai, Yr Eira Mawr) trwy egluro ei fod -tra ar ymweliad â Norwy, wedi clywed rhywun yn canu cân werin yno ar yr alaw hyfryd ddaeth yn adnabyddus yng Nghymru fel Llongau Caernarfon! Efo Siri’n adrodd a chanu Norwyaidd, cyfeiliodd Gai efo addasiad o’r alaw. Ewch i dudalen facebook YesCymru Bro Ffestiniog i gael blas. Diolch Gai am ofalu am y sain ar nosweithiau Cyfres Caban, ond diolch arbennig am ddiddanu efo casgliad syfrdanol hardd o ganeuon y tro hwn, a chrefft arbennig ar y gitâr. Braf oedd cael rhagolwg o gân newydd Nadoligaidd sydd ar y gweill, ac er iddo’i chyflwyno fel “cân anorffenedig” roedd yn werth ei chlywed yng nghysgod coeden nadolig fawr caffi Antur!

Cafwyd Tafarn yn Nolrhedyn i gloi, a phawb wedi eu plesio! ‘Melys Gybolfa’ go iawn o noson; adloniant rhagorol ar noson dywyll, aeafol. Diolch am gefnogaeth wych ein cynulleidfa, ac roedd yn braf gweld wynebau newydd y tro hwn hefyd. Cofiwch nad oes raid i chi fod yn aelod o YesCymru i fynychu’r gyfres, ac mae pob noson am ddim!

Nos Wener olaf Ionawr fydd y nesa’ efo’r awdur Simon Chandler- cyfaill Llafar Bro a llysgenad Stiniog ym Manceinion! Y delynores a’r gantores werin amryddawn Gwenan Gibbard, aelod o’r grŵp hynod boblogaidd Pedair, fydd yn canu ar y noson. Edrychwn ymlaen i’ch gweld eto. PW

- - - - - -

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2025

Hanes noson Dafydd Iwan 

 

12.12.25

Mwy o Adloniant; Diwylliant; Chwyldro

Mae Cyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog yn ôl i godi’n calonnau, am y pedwerydd gaeaf. Ac am noson gafwyd ar nos Wener olaf mis Hydref!

Roedd Tŷ Coffi Antur Stiniog yn llawn dop eto, a phobol wedi dod o bell ac agos i fwynhau sgwrs a chân gan Dafydd Iwan, yn ogystal â chyflwyniad gan gadeirydd cenedlaethol YesCymru, bwyd da Burrito Blasus Blaenau, a diod a chroeso cynnes Helen yn y caffi. 


Phyl Griffiths agorodd y noson, efo cyflwyniad i’r argraffiad diweddaraf o’r llyfryn hanfodol ‘Annibyniaeth yn dy Boced’. Bwriad y llyfryn ydi ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am annibyniaeth i Gymru – mewn ffordd gyfeillgar, ffeithiol ac hawdd ei ddeall. 

Un ddadl gyffredin yn erbyn annibyniaeth ydy bod Cymru, â’i phoblogaeth o 3.16 miliwn yn “rhy fach” i fod yn annibynnol. Ond mae 18 o genhedloedd annibynnol yn Ewrop yn unig sydd â llai o boblogaeth. Ymhlith yr enghreifftiau, mae: Lithwania – 2.7 miliwn; Slofenia – 2.1m; Cyprus – 1.26m; Lwcsembwrg – 672,000; Gwlad yr Iâ – 375,000 -Beth sydd gan y cenhedloedd hyn yn gyffredin? Nid eu maint, na gallu a doniau eu pobl, ond y ffaith eu bod yn genhedloedd sofran sydd â rheolaeth lawn dros eu heconomïau.

Mae ar gael yn Siop Lyfrau’r Hen Bost am £5, neu gallwch ei lawr-lwytho am ddim o wefan cy.yes.cymru

Gyda Delyth yn arwain y noson efo’i gofal a’i gallu arferol, mi glywsom rywfaint o hanes Dafydd Iwan: ei fagwraeth; ei ddeffroad gwleidyddol; troeon trwstan, ac wrth gwrs ei yrfa gerddorol hirhoedlog a llwyddianus. Ac mi ddewisodd gasgliad o ganeuon arbennig i gyd-fynd efo’i hanesion. Wrth gwrs, Yma o Hyd oedd yn cloi’r noson a bu’r gynulleidfa’n cyd-ganu efo fo ac yn cyd-ddyheu am ddyfodol gwell i Gymru. Diolch i bawb gyfranodd at noson gofiadwy arall.

Ar benwythnos prysur o weithredu gan ganghennau’r mudiad trwy Gymru, bu nifer o gefnogwyr Bro Stiniog yn chwifio baneri dros annibyniaeth ar Bont Maentwrog mewn haul braf fore Sul, yr ail o Dachwedd, a chael cefnogaeth arbennig gan y gyrrwyr a’r teithwyr. Heb os, mae’r gefnogaeth yn cynyddu a hynny’n codi calon y criw hwyliog!

Dim ond rhai o griw YC Bro Stiniog yn dangos eu lliwiau ym Maentwrog

Mae hanes noson Caban Tachwedd, efo Gwyn Vaughan Jones, Siri Wigdel, a Gai Toms ar gael yn rhifyn Rhagfyr rwan. Yn y cyfamser, cofiwch ddilyn YesCymru Bro Ffestiniog ar y cyfryngau cymdeithasol!   PW

- - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2025

Dolen at hanes nosweithiau eraill y gyfres

 

 

21.9.24

Antur Stiniog- Mwy na dim ond beics!

Beicio
Ddiwedd Mehefin roedd cystadleuaeth rasio beics lawr allt ar lethrau’r Cribau: y drydedd mewn cyfres o 5 ras yng Nghymru a’r Alban. Penwythnos llwyddiannus iawn eto eleni ar gyfer y National Downhill Series, efo digon agos i 300 yn cymryd rhan. 

Roedd cyffro o gael y goreuon yma, gan gynnwys cyn-bencampwr y byd, Steve Peat, a bwrlwm arbennig ar y safle, efo Antur Stiniog yn cael ei gynrychioli gan hogia’ ifanc lleol, Osian Morris - 

Pencampwr Ieuenctid Lawr-allt 2023 o Lanrug mewn amser o 2:31.5 ac Aran Cynfal o Fro Ffestiniog mewn amser o 2:34.0. Hefyd Robin Rowlands o’r Bala yn cymryd rhan mewn ras yma am y tro cyntaf yn 12oed.

Gobeithio gafoch cyfle i fynd draw i weld y reidwyr. Diolch i bawb a ddaeth allan i wneud y digwyddiad yn un arbennig. Llongyfarchiadau i’r enillwyr Stacey Fisher ac Adam Brayton, bydd y ras nesaf yn Glencoe mis yma. 

Os dymunwch ddod i reidio ein traciau yn Antur Stiniog yr haf yma brysiwch i bwcio eich slot gan ein bod yn llenwi yn sydyn iawn, ‘da ni ddim isio i chi fethu allan ar gyfle i reidio.
(Lluniau: Man Down Media)

 

Eiddo
Mae’r gwaith dal i ddatblygu ar adeilad Yr Aelwyd, mae’r plastar ar du allan i’r adeilad wedi cael ei dynnu ac wrth ddadorchuddio'r adeilad daethom o hyd i ddau enw digon diddorol (gweler erthygl Dewi Prysor). 

Os oes gan un o ddarlledwyr Llafar Bro unrhyw hanes o’r adeilad yma, yr enwau yma neu hen luniau, hanesion i rannu gyda ni, plîs cysylltwch gyda Calvin ar 01766 831111 neu e-bostio  eiddo@anturstiniog.com
Mae tendrau am waith adeiladu a datblygu siop Ephraim a chaffi Bolton yn mynd allan yn fuan os oes diddordeb cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Tŷ Coffi
Mae Helen, rheolwraig y caffi a’r siop, yn y broses o benodi mwy o staff i’r Tŷ Coffi, a gobeithiwn fedru agor am oriau hirach, efo ambell i ddigwyddiad gyda’r nos gyda lwc. Mae’r cydweithio efo busnes newydd Y Cwt Blodau yn parhau i ffynnu, ac erbyn hyn mae Leisa yn gwerthu planhigion i’r ardd yn ‘Y Cwtsh’ awyr agored yn nghefn y caffi. Galwch heibio am sbec!

Siop Eifion Stores
Cofiwch fod ein siop-bob-dim yn agored ar ddydd Sul, ar gyfer eich holl angenion DIY yn y tŷ a’r ardd, a gwasanaeth torri goriadau ar gael.

Cyfarfod Blynyddol
Cynhaliwyd AGM cwmni Antur Stiniog ar yr 21ain o Fai, ac ail-etholwyd Hefin Hamer yn gadeirydd, ac Alan Edwards yn ysgrifennydd i’r bwrdd cyfarwyddwyr. Wrth edrych ymlaen i’r dyfodol, diolchodd Hefin i’r holl staff am eu gwaith dros y flwyddyn er mwyn gwneud y cwmni yn llwyddiannus, yn ogystal ag i’r cyfarwyddwyr am eu gwaith a’u hamser gwirfoddol.

Mae’r cwmni angen aelodau ychwanegol ar y bwrdd, felly os hoffech gyfrannu at ddatblygiadau cymunedol cyffrous Antur Stiniog, cysylltwch!
- - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024

 

23.5.24

Degawd o lwyddiant

Addasiad o dair erthygl a gyhoeddwyd yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill 2024

Mae’n bleser gallu nodi degawd o lwyddiant ac o dwf cymunedol y mae buddsoddiad Antur Stiniog wedi dod i galon Blaenau Ffestiniog.

Yn 2007, fe gychwynwyd y fenter gymunedol newydd yma’n ardal Stiniog, a'r gobaith ar y cychwyn oedd gallu cyflwyno anturiaethau yn yr awyr agored i’r gymuned leol ac ymhen amser, fe agorwyd y Ganolfan Lawr Allt a’i llwybrau beicio – bellach, mae hwn yn fusnes hunan gynhaliol ac wedi llwyfannu nifer o ddigwyddiadau mawr ym myd y beics mynydd.

Cafodd cwmni Antur Stiniog forgais 10 mlynedd yn ôl i brynu unedau ar y Stryd Fawr yn y Blaenau er mwyn sicrhau’r adeilad i’r gymuned leol. Ar hyd y blynyddoedd, mae’r unedau wedi bod yn gartref i lawer o fusnesau, a hefyd lleoliad eu swyddfeydd. Bellach mae siop pysgod-a-sglodion llwyddiannus ac hefyd Tŷ Coffi Antur a siop flodau yno.

Dyma sydd gan Helen, rheolwraig Tŷ Coffi i'w ddweud:

“Rwyf wedi bod yn gweithio i Antur Stiniog ers 2013 ag yn yr unedau ers i ni agor yn 2014. Mae wedi bod yn bleser datblygu’r unedau dros y blynyddoedd i Dŷ Coffi prysur ag hefyd lleoliad lle mae grwpiau fel Yes Cymru yn cynnal nosweithiau cerddoriaeth. Braf yw hi hefyd cael gweld busnesau pop up fel Burritos Blasus a'r Cwt Blodau yn cychwyn yma". 

Bellach, mae degawd wedi pasio ers i’r pryniant yna ddigwydd, ac fe fuodd Aled Hughes a’i raglen foreuol ar Radio Cymru ar ymweliad â’r caffi, sydd rŵan yn dwyn yr enw Tŷ Coffi Antur Stiniog. Un o’r prif bethau y mae rhaglen Aled Hughes yn hoffi taflu goleuni atynt yw storïau o’r “gymuned yn helpu’r gymuned” ac mae’n deg i ddweud fod yr “ysbryd gymunedol yn dal yn fyw yma’n y Blaenau”.


Hanner ffordd drwy’r ddegawd, fe ddaeth yr argyfwng COVID i’n plith, a gyda hi y rheol ddwy fetr rhwng pob bwrdd – felly, er mwyn gallu cadw’r caffi i redeg, roedd yn rhaid ehangu ar draws y ddwy uned, gan gymryd drosodd gan y siop mewn gwirionedd ac felly y mae pethau wedi aros ers hynny, wrth i’r staff deimlo bod naws y caffi ar ei wedd bresennol yn gweithio’n well fel darpariaeth o Hwb Gymunedol.

Dros y blynyddoedd, y mae’r adeilad wedi llwyfannu digwyddiadau gyda’r nos a sawl busnes wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r gofod fel lleoliad pop-up – megis Burritos Blasus Blaenau oedd yn gweithredu o’r caffi yn ystod nosweithiau’r haf; mae’r chef oedd yn gyfrifol am y pop-up bellach wedi cymryd y les ar gaffi’r Ganolfan Lawr Allt yn Llechwedd, sy’n profi pa mor werthfawr y mae’r buddsoddiad yn yr unedau wedi bod yn nyfodol a ffyniant sawl gyrfa o fewn yr ardal. Mae ethos y fenter wastad wedi bod ar “greu swyddi a chreu arian i’r economi leol, fydd yn aros yn yr economi leol” ac mae hynny’n parhau i fod yn wir wrth i’r Tŷ Coffi greu 6 o swyddi ac 20 mewn cyfanswm ar hyd gwmni Antur Stiniog.

Dywedodd Helen wrth Aled ei bod hi:

“wrth ei bodd mod i’n gallu gweithio dau funud i ffwrdd o’n nhŷ, does na ddim angen i mi deithio ffwrdd i weithio a ma hynny’n braf hefyd gan fod fy merch yn yr ysgol sydd rhyw funud neu ddau lawr y ffordd. Ma hi’n brofiad lyfli gallu siarad efo bobl leol drwy dydd a dwi’n gobeithio fod hyn yn gallu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy ddangos iddynt ei bod hi’n bosib aros yn yr ardal i wneud bywoliaeth.”

Mae hi’n deg dweud y byddai’r ardal dipyn tlotach heb Antur Stiniog ac mae dathlu degawd o’r Tŷ Coffi yn esiampl clir o ba mor bwysig ydynt i’r gymuned leol!

Mae llawer mwy wedi’i gynllunio ar gyfer 2024 a thu hwnt.

- - - -

Datblygiad cyffrous i Antur Stiniog yw bod y gwaith adeiladu yn dechrau ar hen adeilad Aelwyd yr Urdd. Caeodd yr adeilad a’r holl adnoddau ar ôl i’r Urdd golli cyllid i redeg y safle. Mae Antur Stiniog wedi gallu prynu’r aelwyd ac ennill grantiau i atgyweirio’r adeilad i gyd. (Gweler Yr Aelwyd am fwy o wybodaeth). Mae’r cais cynllunio ar gyfer adnewyddu Siop Ephraim a Caffi Bolton wedi ei gymeradwyo a’r cam nesaf fydd mynd allan i dendr.

Os hoffwch gadw llygaid ar ddatblygiadau eiddo cymunedol Antur Stiniog cewch ei’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol wrth chwilio am @EiddoAnturStiniog.  Byddwn hefyd yn ‘sgwennu darnau i Lafar Bro gyda’r holl ddiweddariadau.

Oes modd adeiladu math newydd a gwahanol o dwristiaeth? Cafodd gweithdy ei gynnal ar y 18fed o Ebrill yn CellB.

Gall twristiaeth chwarae rôl ganolog yn nyfodol ein cymunedau trwy ogledd Cymru. Bu'n gyfle i gwrdd â’n tîm o ymchwilwyr cymunedol a chael gwybod am eu gwaith a’u chanfyddiadau, gan fynd i galon twristiaeth a beth mae o’n golygu i’n cymunedau, ac ydi pethau angen bod yn wahanol?

Mae Tŷ Coffi Antur Stiniog wedi cael cyfnod prysur ers gwyliau’r Pasg, a’r trên bach yn cyrraedd y Blaenau’n amlach erbyn hyn. 

Braf iawn oedd cael croesawu busnes newydd yn ein gofod i fyny’r grisiau. Mae’r Cwt Blodau yn creu blodau at bob achlysur yn ogystal a gwerthu planhigion tŷ ac anrhegion. Dewch draw am sbec!


 Bydd ein siop-bob-dim Eifion Stores yn stocio hadau a chompost aballu wrth inni gamu i’r gwanwyn, yn ogystal â phopeth sydd ei angen ar gyfer DIY yn y tŷ a’r ardd! 

Wrth i’r cloc droi a’r tywydd yn gwella mae’r parc beicio lawr-allt yn agored ar ddydd Iau a Dydd Llun rwan yn ogystal a Gwener-Sadwrn-Sul a gobeithiwn gael gwanwyn a haf sych i’ch croesawu ar lwybrau’r Cribau!

Penodwyd dwy aelod newydd o staff -Sioned ac Antonia- yn rhan amser i arwain ar faterion marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol i Antur Stiniog. Cofiwch ein dilyn ar eich hoff wefan, boed yn facebook, instagram neu X.
- - - - - - - - - 

Cafwyd dathliad yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog ar Ddydd Gŵyl Dewi, efo Meinir Gwilym, Catrin O'Neill yn canu a Danielle Clarke yn diddanu ar y delyn.

Lluniau Paul W


19.1.24

Cwpan Nazareth Nadolig 1897

Ychydig wythnosau yn ôl, roeddwn yn digwydd bod yng Nghaffi Antur Stiniog yn cael paned, pan alwodd un o’r staff arnaf. Roedd gŵr o’r enw Brian Jones a’i wraig wedi teithio i’r Blaenau o Fryste er mwyn olrhain hanes ei dad, oedd yn byw yma ganol y ganrif ddiwethaf. Mi gawsom ni sgwrs ddiddorol iawn, a dywedodd mae William Haydn Jones oedd enw ei dad; roedd yn byw yn un o’r strydoedd oddi ar stryd fawr y dref.

Dywedodd hefyd fod ganddo gwpan yn ei feddiant ers degawdau, ac ar ôl deall am fodolaeth Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, a’r arddangosfa yn y caffi, dywedodd y byddai wrth ei fodd yn dychwelyd y gwpan i’r dref.

Cytunais i edrych am ychydig o hanes ei dad a gyrru’r canlyniadau ato. Felly dyma gysylltu â dau arbenigwr ar hanes lleol, sef Steffan ab Owain a Vivian Parry Williams.

Yn y cyfamser, ar ôl derbyn y gwpan, mi fum wrthi am ddwyawr a hanner yn ei glanhau! Wrth wneud, daeth y geiriau Nazareth Nadolig 1897 i’r golwg, ac hefyd fanylion y gwneuthurwyr oddi tani, sef Triple Deposit Mappin & Webb’s Princes Plate London & Sheffield (Roedd stamp siâp twll clo a’r rhif 9½ hefyd ar yr ymyl).

 

Ar ôl dipyn o ymchwil daeth Steffan i’r canlyniad bod Côr y Moelwyn wedi ennill cwpan mewn eisteddfod yng nghapel Nasareth, Penrhyndeudraeth yn 1897. Roedd Brian Jones wedi son fod ei dad wedi ei eni ar yr 2il o Hydref 1910, ac aeth Vivian i edrych yn fanwl ar gyfrifiad 1911 ar gyfer y Blaenau a chanfod fod William Jones yn faban 8 mis oed bryd hynny yn rhif 21 Lord Stryd.

Mi yrrais ganlyniadau ein hymchwil at Brian a daeth llythyr yn ôl ganddo’n fuan iawn yn diolch yn fawr am waith arbennig fy ffrindiau. Ychwanegodd bod ei daid yn chwarelwr yn Chwarel y Manod, ond hefyd -yn allweddol i’r stori hon- yn arweinydd Côr y Moelwyn yn y flwyddyn 1897. 

Mae’n edrych yn debyg felly mae’r gwpan a enillodd y côr yn Eisteddfod Nazareth Nadolig ydi’r un oedd ym meddiant Brian. Diddorol dros ben yn’de! Mi fydd y gwpan rwan yn cael ei harddangos yn un o gypyrddau gwydr y Gymdeithas Hanes, yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog.

E. Dafydd Roberts
- - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2023



18.12.19

Newyddion Antur!

Mae’n sâff dweud fod y misoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn i Antur! Ond, heb os na oni bai, mae’n rhaid dweud mai’r uchafbwynt i ni fel cwmni oedd agoriad swyddogol Parc Beicio Antur Stiniog! 

Alan, aelod o Fwrdd Antur Stiniog, Steve, a Medwyn, rheolwr y ganolfan. Llun- Alwyn Jones
Un o enwogion y byd beicio lawr mynydd (ac yn arwr i Buds!) Steve Pete, oedd yn arwain y miri i agor y traciau newydd - a dros ddau gant o reidwyr yn ei ddilyn! Felly, ynghanol y sbri agorwyd pedwar trac beicio mynydd newydd yn swyddogol ar ein safle ar ddiwrnod bendigedig o braf yng nghanol mis Medi. 

Roedd y digwyddiad ei hun yn hollol ddoniol - roedd y reidwyr wedi gadael eu beics ar ben y mynydd, cyn cael lifft nôl lawr gan fysus mini Antur i waelod y traciau- a'r bwriad oedd i’r beicwyr redeg i fyny’r trac, cael hyd i’w beics a rasio’n ôl i lawr-  ond heb iddyn nhw wybod os oedd y beiciau wedi cael eu symud a’u cuddio - roedd hyd yn oed gêrs rhai o’r beiciau wedi cael eu newid, ac roedd hi’n bedlam llwyr ar ben y mynydd - ond yn y modd mwyaf hwyliog bosib! Sâff dweud fod pawb wedi cyrraedd y gwaelod yn ddiogel ac yn hapus!

Mae’n rhaid dweud fod y diwrnod yn ei gyfanrwydd wedi bod yn wych, a’r awyrgylch fel parti go iawn - hapus a hwyliog. Roedd digon o adloniant yno gyda cherddoriaeth byw gan Pasta Hull a set acwstig gan Anweledig, gweithgareddau paentio i blant, y criw Baa Baa Bar hyfryd yno yn cynnig diodydd, stondinau gwerthu nwyddau beicio a digon o fwyd ar y barbaciw. Braf oedd gweld cymysgedd o bobl leol, plant o bob oedran, a reidwyr o bob cornel o Brydain yn mwynhau'r diwrnod.
Un o lwybrau newydd y Cribau. Llun- Paul W
Mae’r pedwar trac newydd yn ein galluogi i ni fel menter gymdeithasol i adeiladu ar ein llwyddiant fel un o’r canolfannau beicio gorau yn Ewrop! Am y tro cyntaf mae ganddom drac ‘gwyrdd’ - sydd yn addas ar gyfer teuluoedd - felly, mae  rhywbeth ar gyfer pob aelod o’r teulu a phob math o feiciwr yma! 

Os hoffwch fwy o fanylion am yr holl draciau sydd ar ein safle, gallwch gysylltu â ni naill ai trwy ein tudalen Facebook, e-bost:  post@anturstiniog.com  neu ffonio Parc Beicio Antur ar 01766 238 007. Croeso cynnes i bawb bob amser!

Mae'r siop yn y Stryd Fawr bellach wedi ffarwelio â chadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898. Roedd hi’n bleser ac yn fraint eu cael yn Siop a Thŷ Coffi Antur dros yr haf. Galwodd llawer iawn o bobl heibio i’w gweld, a llawer iawn ohonynt o bob cornel o’r wlad! Hoffwn ddiolch i Gyngor Tref Ffestiniog ar ran pawb am gael eu benthyg - ond mwy na dim, mae’n hynod o bwysig i ni ddiolch yn fawr iawn i’r criw hynod wybodus ac annwyl - y Gymdeithas Hanes - am fod mor weithgar yn yr arddangosfa hanes (ac am helpu ein staff yn y caffi i roi gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr i’r dref! Be fysa ni’n neud hebddoch chi ar adegau prysur?!).

A sôn am arddangosfa, braf oedd rhoi cartref i Ŵyl Gelf Calon Gwynedd dros yr haf hefyd, ac arddangosfa Gwilym Livingstone Evans - mae yna gyfoeth o dalent yma’n lleol a chymaint o hanes i’w arddangos a’i rannu.

Mae hyn yn codi’r cwestiwn eto - fel da ni’n neud dro ar ôl tro - oes 'na fodd i ni gael Canolfan Treftadaeth bwrpasol yma yn y Blaenau? Gobeithio’n wir…

Wel, dyna ni am rwan, ond peidiwch ag oedi i gysylltu â ni os hoffwch – neu'n well fyth, dowch i fyny am frecwas gwych gan Val a Siân yng nghaffi Parc Beicio Antur (dydd Iau-dydd Llun) a dowch i mewn i weld yr hyfryd Tanwen a Ronwen am banad a chacan yn ystod yr wythnos yn Siop a Thŷ Coffi Antur ar y Stryd Fawr- croeso cynnes bob amser i bawb.
 -----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2019



22.7.19

Arddangosfa'r Gymdeithas Hanes

Galwch draw i Siop Antur Stiniog yn Stryd Fawr y Blaenau!

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi fod yr Arddangosfa Hanes sydd wedi symud i Siop a Thŷ Coffi Antur Stiniog ers mis go-lew bellach yn andros o lwyddiannus, ac mae’n fraint i ni fel cwmni cymunedol ei chynnal.

Criw o wirfoddolwyr gweithgar a gwybodus iawn o Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog sy'n gyfrifol am ddatblygu'r arddangosfa wych yma. Mae’n dangos trawstoriad eang a diddorol iawn o hanes ardal ‘Stiniog sy’n dyddio mor bell yn ôl a diwedd y 1800au!

Mae’r arddangosfa yn cynnwys Car Gwyllt go iawn o chwarel y Graig Ddu (cyflwynwyd gan y Gymdeithas Hanes er cof am Emrys Evans), hanes Clybiau Pêl Droed ‘Stiniog dros y degawdau, a llawer mwy – cofiwch alw i mewn i weld drosoch eich hun! Mae’n bosib iawn y byddwch chi’n nabod nifer o wynebau!

(Llun -Alwyn Jones)


Yn fwy diweddar rydym yn falch iawn o weld Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog yn 1898, yn cael ei hychwanegu at y Goron o'r eisteddfod honno, oedd yno eisoes.


Diolch i gymwynas Cyngor Tref Ffestiniog, mae'n wych gweld y ddwy eitem werthfawr iawn yma efo'u gilydd eto!


Tybed oes tref arall yng Nghymru lle mae'r gadair a'r goron wreiddiol yn eu holau efo'u gilydd, ac ar gael i'r cyhoedd eu gweld o ddydd i ddydd?


Bu tri o aelodau'r Gymdeithas yn siarad am y ddeuawd ar raglen Heno ar S4C ganol mis Gorffennaf.


 el aelodau staff Siop Antur Stiniog, rydym yn lwcus iawn o fod yn dystion i gymaint o sgyrsiau difyr sydd i’w clywed gan fynychwyr yr arddangosfa - yn enwedig pan mae pobl leol yn trafod yr hyn sydd i’w weld yno ac yn rhannu’u hatgofion, straeon - ffeithiau am ein cymuned yn cynnwys disgrifiadau o sut mae’r dref wedi newid dros y degawdau diwethaf - ac wrth gwrs, clywed am gymeriadau unigryw sydd wedi byw yn yr ardal dros y blynyddoedd!

Fel caffi, siop a man gwybodaeth yn y dref, rydym yn cael croesawu nifer fawr o ymwelwyr, ac mae’n bleser mawr gweld cymaint ohonyn nhw’n cymryd  diddordeb yn ein hetifeddiaeth a’n hanes. Mae hefyd yn syndod darganfod faint o pobl sydd â chysylltiadau â’r ardal.

Pobl leol ydi’r gwirfoddolwyr sydd yn rhedeg yr Arddangosfa Hanes, ac wrth drafod, mae’r cwestiwn yn codi’n aml, pam nad oes ‘na ganolfan dreftadaeth yn yr dref? Adeilad pwrpasol i arddangos ac addysgu pobl am ein hanes a’n treftadaeth - fel sydd yna yn Llanberis. Ydi hyn yn rhywbeth gallwn feddwl am ddatblygu fel cymuned? Beth yw eich teimladau chi?

Mae’r Arddangosfa Hanes Lleol ar agor dydd Llun- ddydd Gwener 9.00-14.30, ac ar ddydd Sadwrn o 10.00-15.00, yn Siop a Tŷ Coffi Antur Stiniog-

Mae yno groeso cynnes i bawb!
------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mehefin 2019.


8.8.14

Dathlu penblwydd Antur Stiniog

Darn o erthygl ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2014:

Ers sefydlu Antur Stiniog fel Menter Cymdeithasol yn 2007, dim ond ers 2 flynedd, Gorffennaf 2012, mae'r cwmni wedi bod yn masnachu, ac erbyn hyn yn cyflogi 19 o drigolion lleol trwy ei amryw weithgareddau.


Yn ôl adroddiad diweddar gan Gyngor Gwynedd mae'r Cwmni bellach yn cyfrannu yn agos i £900,000  i'r economi leol yn flynyddol, ac mae gwariant y pen defnyddwyr y llwybrau beic yn lleol oddeutu £17. Yn dilyn adroddiad yn 2007 dim ond 25c y pen oedd ymwelwyr yn gwario yn 'Stiniog. Yn amlwg mae hyn yn newyddion calonogol ond rydym fel gweithwyr a bwrdd o gyfarwyddwyr yn gwbl ymwybodol bod llawer iawn o waith i’w wneud i sicrhau bod y dref a'i thrigolion yn cael budd o'n gweithgareddau.

Llun- PW

Mae'r cwmni bellach yn rhedeg Canolfan Feicio lawr-allt Llechwedd, gan gynnwys y caffi yno; hefyd Y Siop ynghanol y dref; ac ers Mehefin yr 2il wedi ennill cytundeb  i redeg a datblygu cyfleusterau yn yr hen glwb Cymdeithasol ar lan Llyn Trawsfynydd.

Rhaid cofio mai Menter Cymdeithasol nid-er-elw ydi'r cwmni ac er yn cyflogi 19 o bobl, criw gweithgar ac ymroddgar o wirfoddolwyr lleol sydd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoi'r weledigaeth;
Y cam nesaf ydi cynnal ein gweithgareddau a'r swyddi sydd wedi eu creu. Rydym wedi rhoi cais i fewn i Gyngor Chwaraeon Cymru i ddatblygu Llwybr Llyn Tanygrisiau a cawn ateb ym mis Awst os ydym wedi bod yn llwyddiannus. Rydym hefyd mewn trafodaethau efo Network Rail a'r NDA am ddyfodol y lein rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd. Mae'n rhaid cael atebolrwydd am ddyfodol y lein yma sydd yn wastraff adnodd llwyr ar hyn o bryd.




Megis dechrau mae taith Antur Stiniog ac mae angen inni gyd gydweithio fel unigolion, asiantaethau a busnesau i sicrhau bod yr ardal a’r gymuned leol yn wirioneddol elwa o'n gweithgareddau.
Mae hi'n mynd i gymryd llawer mwy 'na llwybrau beics i adfywio'r ardal anhygoel 'ma. Da' ni'n gwbl grediniol mai dim ond drwy gweithio mewn partneriaeth byddwn yn llwyddo.



 Os oes gennych unrhyw syniad neu eisiau gwybod mwy am ein gweithgareddau, neu eisiau cyfrannu yna dewch draw am banad i'r Siop yng nghanol y Stryd Fawr, neu ffoniwch 01766 832 214 neu Ceri.c@anturstiniog.com.  Antur Stiniog, Uned 1 a 2, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES