Showing posts with label dysgu Cymraeg. Show all posts
Showing posts with label dysgu Cymraeg. Show all posts

5.3.26

Cerddi yn y Caban

Ar Nos Wener olaf Ionawr, a hithau’n noson oer a llwyd, daeth cynulleidfa dda eto i Dŷ Coffi Antur Stiniog ar gyfer noson ddiweddaraf Cyfres Caban YesCymru Bro Ffestiniog. Cyfres o nosweithiau hwyliog o sgwrs a chân, i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch annibyniaeth i Gymru, dan faner Adloniant; Diwylliant; Chwyldro!

Wrth gyflwyno dymunodd Delyth wellhad buan i Gwenan Gibbard, oedd i fod efo ni, ond yn diolch ar yr un pryd i’r canwr talentog lleol Garry Hughes am sefyll yn y bwlch ar fyr rybudd, trwy gytuno i ganu ddau fis yn gynt na’r trefniant gwreiddiol! 

Mae Garry wedi cyrraedd rownd derfynnol Cân i Gymru ddwywaith, ac wedi bod yn ganwr i ddau grŵp lleol- Yr Oria a Jambyls, yn ogystal a bod yn ganwr-gyfansoddwr ar ei liwt ei hun. Mi ddewisodd ddetholiad o’i ganeuon yn y noson Caban sy’n adlewyrchu ei daith gerddorol hyd yma, a’i gefndir; y balchder sydd ganddo o’i filltir sgwâr, a sylwebaeth ar gyflwr y byd.


Dechreuodd ei sét gyntaf efo’i sengl Golau Stryd -cân am deulu bach, meddai... yn wynebu heriau o ddydd i ddydd fel pob teulu arall. Cân hyfryd, sy’n haeddu mwy o sylw ar y radio, a sain arbennig yn dod o’r gitâr yr oedd wedi dewis ar gyfer y noson. Braf oedd clywed ychydig o hanes a chefndir ei ganeuon ganddo, a’i hiwmor yn denu chwerthin a chydymdeimlad gan y gynulleidfa. Rhannodd ei fod ‘wedi mwynhau’r profiad ar Gân i Gymru, ond ei fod yn ddychrynllyd!’ gan ychwanegu fod canu’r gân -Gwydr Hanner Llawn- yn haws o lawer oddi wrth y camerâu!

Siaradwr y noson oedd yr awdur -a llysgennad Stiniog yn Lloegr- Simon Chandler. Mae darllenwyr Llafar Bro yn gyfarwydd iawn efo barddoniaeth Simon, a’i erthyglau yn cyflwyno ei ddwy nofel arbennig. Mae’r ddwy, Llygad Dieithryn (2023), a Hiraeth Neifion (2025) yn cynnwys golygfeydd a chymeriadau o Stiniog a chariad yr awdur at y Blaenau yn amlwg iawn. 

Wrth gael ei holi gan Delyth, disgrifiodd Simon ei hun yn blwmp ac yn blaen fel ‘Sais anwybodus’. Ond ychwanegodd mai ‘cyflwr dros dro ydi anwybodaeth’ ac yn ei ffordd ddi-hafal ei hun, aeth yn ei flaen i brofi hynny trwy swyno’r gynulleidfa efo’i iaith gyfoethog, yn llawn idiomau ffraeth, a’i angerdd dros bopeth Cymraeg yn gwbl amlwg i bawb oedd yno.

Er iddo ddod i’r Blaenau gyntaf dros ugain mlynedd yn ôl ac i’w chwifrydedd am ein hiaith gydio ynddo, darbwyllwyd o gan ryw lembo nad oedd modd i oedolyn ddysgu Cymraeg! Ond roedd 2016 yn flwyddyn allweddol meddai, efo thri pheth yn cyfuno i’w roi yn ôl ar y llwybr cywir i’w dynged fel Cymro! Cwrdd â Chymraes mewn grŵp cymdeithasol Almaenig oedd un -ac mi oedd hi yn gadarhaol ei barn fod oedolyn yn medru dysgu’r Gymraeg! Doedd Simon ddim wir yn teimlo fel Sais, ond mi oedd yn teimlo’n Ewropeaidd, felly roedd Brexit yn drychineb wnaeth ddwyn ei hunaniaeth oddi arno dros nos bron. A’r trydydd peth oedd ymgyrch wefreiddiol tîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros!

Gorffenodd Simon efo cyfres o englynion yr oedd wedi eu llunio ar ôl derbyn gwahoddiad y gangen i siarad: cerdd sydd meddai yn ceisio ‘dangos dwyster y cariad rwyf yn ei deimlo tuag Fro Ffestiniog a’i phobl arbennig’. Roedd yn garedig iawn hefyd wrth ddiolch am gael cyfrannu at ‘un o nosweithiau chwedlonol Cyfres Caban’. Diolch o galon Simon am bob dim. Tyrd yn ôl yn fuan!

Ymddangosodd yr englynion yng ngholofn Rhod y Rhigymwr yn yr un rhifyn, ond roedd yn drawiadol ar y noson, i nodi fod Simon, fel Garry yn y gân ‘Bŵm Town’ (dyna o le daw pennawd yr erthygl yma) yn cyfeirio at gyfraniad Caban y chwarel i adloniant, diwylliant, a thrafodaeth wleidyddol ein bro. Dyna bwrpas Cyfres Caban heddiw hefyd! 

   Y Blaenau, fy Nghariad ...

   Ar wobr ar ochr y wybren y trawais,
     llecyn triw, gardd Eden,
   hud heb ergyd na bargen,
   glaw a niwl ond ffagl y nen.

   Hen swyn, cŷn yn atseinio yn y wlad
     anweledig, tanio’r
   ffrwydrad heb frad yn y fro,
   y gair oedd am flaguro.

   Daeth mewn saib rhwng caib a’r caban, o’i griw
     gerddi’r graig, du sidan
   fu’r llif, y dref fu’r llwyfan,
   ildio’i chaer i ledu’i chân.

   Naid i lwyth o’th genedlaethau, Gai Toms,
     mwg y tân a’i chwedlau,
   enw cylch fydd byth yn cau,
   hen diroedd dy nendyrau.


(Bydd hanes noson Caban Chwefror yn rhifyn Mawrth, ac mae un noson eto i ddod yn y gyfres, ar nos Wener olaf Mawrth, pryd bydd Ffion Dafis yn holi Arwel Gruffydd)

PW

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2026 

 

27.9.25

Tirwedd yr Iaith

Mis Medi 2001 a diwrnod a ddangosodd ei liwiau hydrefol mewn ffordd gyfeillgar. Ro’n i’n hen arfer efo gemau swydd Amwythig am fod gan fy rhieni garafán ar gyrion yr Ystog bryd hynny. Roedd yn bleser tawel i dreulio amser ar lonydd cul wedi’u rhannu gan lain o wair a redodd i lawr eu canol. Llwydlo, Clun, Long Mynd, Church Stretton, Castell yr Esgob. Lleoedd a oedd yn ddihangfa-ddydd-Sadwrn i ddyn o swydd Derby ar gefn ei feic modur. 

Ym mis Medi 2001 penderfynais deithio’n bellach y tro hwn i’r Trallwng. Wrth gael paned yn y dref hon, nes i bori trwy’r map a ches i gymhelliad i deithio ar hyd yr A458 i le o’r enw Mallwyd. Yno, baswn i’n troi yn ôl; basai hynny’n ddigon am un diwrnod. Mewn gwirionedd, nes i gario ymlaen i Ddolgellau trwy Fwlch Oerddrws, i Drawsfynydd (beth ydy’r mynyddoedd hyn ar y chwith?! Y Rhinogydd, nes i ddarganfod wedyn) ac yn y diwedd: Blaenau Ffestiniog. 

Ro’n i’n rhyfeddu’r holl ffordd o’r Trallwng. Mae’r dirwedd hon wedi cael gafael arna i ac ro’n i’n methu amsugno a phrosesu’r hyn o’n i’n ei weld. Yn bendant, byddai rhaid i mi ddod eto. Fel y digwyddodd, baswn i’n dod yma droeon. 

Blaenau Ffestiniog. Roedd y tomeni llechi’n warchodwyr dros y rhesi o dai llwyd oedd yn swatio yn eu cysgodion. Wnaeth y Moelwynion ymestyn o gwmpas y dref fatha rhiant amddifynnol. Llyn Stwlan. Y chwareli. Am beth i’w weld. Am deimlad i’w brofi pan oeddet ti’n sylweddoli y basai rhywbeth yn cnoi yn dy fol a’th wthio i rywle anghyfarwydd a hudolus dro ar ôl tro am y degawd nesa. 

Yr iaith. Iaith yr arwyddion ffordd. Iaith y siopau. Iaith y dirwedd. Llais y Moelwynion. Dyna sut dw i’n meddwl am yr iaith heddiw. Iaith sy wedi codi’r mynyddoedd ynghyd â’r gerrig. Iaith sy’n llais Afon Goedol a rhu Afon Cynfal. Yn sicr, roedd rhywbeth pwerus wedi cael ei danio yndda i. Rhwng 2005-2010 ro’n i’n dringo pob mynydd Cymru. Cam arall tuag ati. 

Cyn y Nadolig, 2010, ces i gyfle i fynychu cwrs llwybrau cyhoeddus am wythnos ym Mhlas Tan y Bwlch pan ro’n i’n gweithio fel arolygydd llwybrau cyhoeddus i Gyngor Swydd Derby. Cam olaf tuag at y peth anochel ‘na. Dw i’n methu mynegi’n iawn y dröedigaeth a brofais yno. Roedd yr awygylch mor hudolus. Teimlais fatha plentyn. Emosiynau pur. Roedd yr iaith Gymraeg o nghwmpas trwy’r wythnos. Daeth 10 mlynedd o aros a phetruso fel ffynnon. Yn ystod taith o gwmpas Llyn Mair, penderfynais y baswn i’n dysgu’r iaith a oedd wedi bod yn fy meddyliau bob dydd ers i mi ymweld â Blaenau Ffestiniog, er gwaetha’r ffaith nad oedd gen i brofiad o ddysgu ieithoedd o gwbl. 

Yn y gwanwyn 2011, es i ati i ddysgu.

Mae hi wedi bod yn daith a hanner a rhywbeth sy wedi newid fy mywyd am byth. Mae drysau wedi cael eu hagor at lenyddiaeth, radio, teledu, pobl arbennig, ffrindiau, gwyliau, dysgu, gwybodaeth, hanes, chwerthin a chrio. Pan nes i siarad Cymraeg yng Nghymru am y tro cyntaf, pedwar mis ar ôl i mi ddechrau dysgu, lle gwell na Siop Lyfrau’r Hen bost ym Mlaenau Ffestiniog?! Dw i wedi profi pethau nad o’n i wedi’u hystyried. Mae’r iaith wedi fy ysbrydoli i sgwennu storïau byrion a chystadlu mewn eisteddfodau. Mae’n amhosib dweud wrthoch yr hyn mae’r Gymraeg wedi’i wneud. 

Hoffwn ddweud un peth: diolch yn fawr, Flaenau Ffestiniog. Wn i ddim yn union yr hyn i ti ei wneud i mi. Wedi fy swyno. Wedi fy rhoi ar lwybrau gwahanol. Wedi siarad â fi o bell. Pwy a ŵyr, ond mae gen ti ran fawr o’m calon. 
Cofion cynnes. Martin Coleman, Chesterfield, swydd Derby.

Diolch o galon i Martin am yrru’r erthygl hyfryd uchod i mewn; llythyr cariad teimladwy iawn i Stiniog. Diolch i ti am dy angerdd at ein bro! Diolch hefyd i Iwan Morgan am ei annog i’w gyrru i mewn tra yn lansiad llyfr Simon Chandler. 

Mae llun Martin yn werth ei weld hefyd. Meddai: “Sefais tu allan i fwthyn lle o’n i’n aros ym Mhant Llwyd, Llan, i dynnu’r llun hwn o’r niwl yn codi o’r Moelwynion”.
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025

  

18.9.23

Llygad Dieithryn

Erthygl gan Simon Chandler

Mae dechrau fy mherthynas â Blaenau Ffestiniog yn dyddio’n ôl i flwyddyn gyntaf y ganrif hon. Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 28ain Mai 2001, a ninnau ar wyliau teuluol yn ardal Porthmadog, roedd hi’n tywallt y glaw. Er mwyn diddanu’n mab ni, a oedd yn 8 oed ar y pryd, fe benderfynodd fy ngwraig i mai ymweld â cheudyllau Llechwedd am y prynhawn fyddai orau i ni. Wel, am benderfyniad tyngedfennol! 

Ni fyddaf byth yn anghofio cael fy nghyfareddu gan y recordiadau sain a gafodd eu chwarae yn yr hen weithfeydd er budd y twristiaid: recordiadau oedd yn llawn straeon am y chwarelwyr, eu bywydau, eu diwylliant a’u hiaith. 

Gwyddwn yn syth fy mod i wedi dod o hyd i fy mhobl i.  Sais amharod oeddwn i erioed. 

Yn wir, cefais fy ysbrydoli’n syth i ysgrifennu nofel (yn Saesneg) am hynt a helynt chwarelwr ifanc o’r dref a deithiodd i Berlin yn y 1920au hwyr. Ar ôl i ni ddychwelyd i Fanceinion, rhois alwad ffôn i Lyfrgell Blaenau Ffestiniog a gofyn i ddynes glên am lyfrau ynghylch hanes y dref y gallwn eu darllen er mwyn fy addysgu fy hun, ond dywedodd hi fod y fath lyfrau i gyd yn Gymraeg. Roedd hynny’n siom aruthrol i mi oherwydd, yn anffodus, roeddwn i newydd gwrdd â dyn ar y ffordd adref o’n gwyliau ni, sef mewn gorsaf betrol ar yr A55, a oedd wedi 'egluro' wrthaf na fyddai gen i obaith mul o ddysgu’r iaith yn oedolyn. “If you haven’t learnt it as a child, you’ve got no chance, mate,” meddai. 

Er mawr gywilydd i mi, er i mi fod yn siaradwr Almaeneg ers peth amser erbyn hynny, ac er y dylwn fod wedi gwybod yn well, roeddwn i mor ffôl â chymryd y dyn hwnnw at ei air. Felly, doedd dysgu Cymraeg ddim yn opsiwn. Ar y llaw arall, roedd gan y llyfrgellydd syniad gwych: awgrymodd hi i mi gysylltu â’r hanesydd lleol, Steffan ab Owain (y mae ei golofn ddifyr, Stolpia, yn ffefryn i mi bellach). Gyda chryn dipyn o amynedd, Steffan a wnaeth fy nghyflwyno i hanes Blaenau Ffestiniog yn 2001, a Steffan sydd (22 o flynyddoedd yn ddiweddarach) wedi darparu llun o Bont y Queens (wedi’i dynnu ym 1933) ar gyfer clawr fy nofel Gymraeg gyntaf, sef “Llygad Dieithryn”, sydd wedi’i chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ar 7fed Gorffennaf. 

Ond beth ddigwyddodd yn y cyfamser? Wel, ar ôl i mi wastraffu pymtheng mlynedd, diolch i un sylw esgeulus, fe ddywedodd Cymraes Gymraeg o Ben Llŷn wrthaf yn 2016 (ym Manceinion) y byddai modd i mi ddysgu’r iaith wedi’r cwbl, hyd yn oed yn 52 oed. Ar ôl y sgwrs hollbwysig honno, es i ati i ddysgu’n eithaf buan, ac roeddwn i mor lwcus â dod o hyd i diwtor Cymraeg heb ei hail, sef Llinos Griffin o Lanfrothen. Cyn bo hir, a minnau’n benderfynol o wneud iawn am yr holl amser coll, trodd fy meddwl at ysgrifennu’r nofel roeddwn i wedi bod yn awyddus i’w hysgrifennu yn y lle cyntaf, ond yn Gymraeg. 

Trwy Grŵp Facebook Blaenau Ffestiniog, des i i adnabod hanesydd lleol ardderchog arall, sef Vivian Parry Williams, a gytunodd i werthu copi o’i lyfr campus, “Stiniog a’r Rhyfel Mawr”, i mi.  Roedd honno’n foment dyngedfennol arall am ddau reswm. Yn gyntaf, fe ddaeth Vivian a minnau’n gyfeillion da wedyn, ac (yn ei dro) fe wnaeth Vivian fy nghyflwyno i Iwan Morgan, sydd hefyd yn gyfaill da i mi bellach, ac sydd wedi bod mor garedig â chyhoeddi sawl cerdd gaeth o’m heiddo yn ei golofn arbennig, “Rhod y Rhigymwr”. Ac yn ail, darganfyddais fod llyfr Vivian yn cynnwys (ymysg llawer o bethau cyfareddol eraill) wybodaeth amhrisiadwy ac ysbrydoledig ynglŷn â hen waith wisgi Y Frongoch (ger y Bala) a gafodd ei addasu’n wersyll-garchar ar gyfer swyddogion o Fyddin yr Almaen ym 1915. Dyna oedd y wreichionen a gynnodd dân y nofel newydd, a oedd yn lled wahanol i’r un roeddwn i wedi bod yn bwriadu’i hysgrifennu yn 2001.

A bod yn fanwl gywir, mae yna ddau 'ddieithryn' yn y nofel: sef Friedrich, swyddog ym Myddin yr Almaen, a oedd wrthi’n nychu yng ngwersyll-garchar y Frongoch ym 1915, a’i or-orwyres, Katja, sy’n athrawes ieithoedd yn Mannheim (yr Almaen) yn 2019. Wrth iddi hi fynd trwy bapurau ei mam, mae Katja’n taro ar draws llythyr hynod (yn Gymraeg) a anfonwyd at ei hen, hen daid (sef Friedrich) gan ddyn o Flaenau Ffestiniog (o’r enw Alun). Mewn ymgais i ddatrys y pos, mae Katja’n dod i aros yn y dref adeg Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Wedyn, gan ddwyn hen gyfrinachau’r ddau deulu i’r golwg, mae hi’n mynd i berygl tynnu nyth cacwn am ei phen…

Simon a Vivian yn Rali Annibyniaeth Wrecsam, Gorffennaf 2022
Yn y bôn, mae’r nofel yn cyfuno hanes a diwylliant y ddwy wlad, sef Cymru a’r Almaen, fel yr adlewyrchir ar y clawr gyda’i luniau o Gofgolofn y Fuddugoliaeth yn Berlin ac (fel y nodwyd uchod) o Bont y Queens ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’n nofel ddirgelwch, ond mae hi hefyd yn llythyr cariad at y Gymraeg, at yr Eisteddfod Genedlaethol ac at Flaenau Ffestiniog ei hun. Gobeithio y bydd y nofel yn eich galluogi chi i weld eich iaith a’ch diwylliant trwy lygad dieithryn sy’n eu caru.

Fawr o syndod mai ym Mlaenau Ffestiniog ei hun y lansiwyd Llygad Dieithryn felly, a’r dref yn un o brif gymeriadau’r nofel: sef yn Siop Lyfrau’r Hen Bost ar nos Lun, 17eg Gorffennaf .

O ran diddordeb, mae llyfr llafar yn cael ei gyhoeddi hefyd (i gyd-fynd â’r nofel), wedi’i leisio gan neb llai na’r Prifardd, y Prif Lenor a’r darpar Archdderwydd, Mererid Hopwood! Mae’n anodd credu.  
Blaenau Ffestiniog yw fy nghartref ysbrydol i bellach, er fy mod i’n dal i fyw ym Manceinion (gwaetha’r modd), a’r dref sydd wedi rhoi croeso dihafal i mi, yn union fel y mae hi wedi croesawu sawl dieithryn arall a oedd yn fodlon gwneud yr ymdrech i ddysgu Cymraeg ac i gofleidio ysbryd cymunedol ei phobl arbennig.  

Ydy, mae’n dueddol o lawio ym Mlaenau Ffestiniog, ond byddaf yn ddiolchgar i’r glaw am byth.
Simon Chandler
- - - - - - - - - - 

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2023


23.4.23

Rhod y Rhigymwr- trawiad gwych!

Pennod arall o gyfres Iwan Morgan

Mae derbyn negeseuon cyson ynghyd â gweithiau cynganeddol gan Simon Chandler yn bleser bob amser. Yn y dyddiau pan rydyn ni’n clywed fod niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng, mae’n chwa o awyr iach cael mabwysiadu rhai fel Simon. Un peth ydy dysgu’r iaith a’i siarad yn rhugl. Peth arall ydy llwyddo i’w hysgrifennu’n gywir a llenydda ynddi. Mae’n fwy o gamp fyth gallu cyfansoddi barddoniaeth gaeth ynddi! 

Yn ôl ei neges ddiweddaraf ataf, nid Simon ydy’r unig Lundeiniwr a lwyddodd i wneud hynny. Mae’n fraint cael rhannu efo chi’r darllenwyr ran o’i neges ddiweddaraf ataf:

“Hoffwn ddweud wrthot ti am fy nghyfeillion o Lundain sy’n barddoni ac yn cynganeddu (a’r ddau, fel fi, yn eu pumdegau).  Mae’n rhyfedd oherwydd, er nad oeddem yn adnabod ein gilydd cyn i ni gwrdd yn y byd Cymraeg (a ninnau’n wrandawyr ffyddlon ‘Podlediad Clera’), rydym yn dod o’r un ardal o ogledd Llundain.  Mae Jo Heyde  yn dod o Stanmore, sy’n ugain munud yn y car i ffwrdd o Golders Green (maestref fy mebyd i), ac (yn rhyfeddach fyth) mae Alan Iwi yn dod o’r un un faestref!  

Mae Alan wedi ennill sawl cystadleuaeth mewn sawl eisteddfod leol dros gyfnod o ddwy flynedd, megis yr englyn, yr englyn ysgafn a’r limrig, ac mae Jo (sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dim ond ychydig dros bedair blynedd) wedi ennill tair cadair ac un goron o fewn y deng mis diwethaf.  Yn ogystal, mae Jo yn rhedeg clwb barddoniaeth ar-lein (sef dros Zoom) sy’n boblogaidd ymysg beirdd.  Nos Iau, fe drafodon ni gyfrol gan y bardd ifanc, Osian Wyn Owen, o’r enw ‘Y Lôn Hir Iawn’... Fel y gweli di, dyna fwy o dystiolaeth bod gan y Gymraeg ffordd hudol o ymorol am draedfilwyr i frwydro dros ei hachos hi!”

Jo, Simon, ac Alan
Mae clywed am frwdfrydedd heintus Simon, Alan a Jo yn codi cywilydd arnaf. Fe fu adeg pan fyddwn innau’n cefnogi cystadleuthau barddoniaeth yr eisteddfodau bach, ond rhaid i mi gyfaddef fod sawl blwyddyn wedi mynd heibio er pan wnes i hynny ddwytha. Ai diogi neu henaint sy’n gyfrifol ... y ddau o bosib!  

Dan feirniadaeth y Prifardd Rhys Iorwerth yn Eisteddfod Chwilog, cafodd Simon gryn ganmoliaeth am ei englyn ... ‘Croesffordd'. Cyfeiria ato fel ‘englyn un frawddeg crefftus dros ben a chadarn ei gynghanedd.’ Y ‘dydd byrraf’ ydy’r groesffordd i’r bardd, a hwnnw’n dynodi ‘troad y rhod’:

Addawa bore’r dydd byrraf olau,
côr galwad Gorffennaf
neu Awst gana siant i’n haf
o gywair canol gaeaf.

Penrhyn’ oedd y testun a osodwyd yng nghystadleuaeth cylchgrawn Barddas. Ymysg y 24 englyn a anfonwyd at y beirniad, y Prifardd Alan Llwyd, cafwyd y canlynol i Benrhyn y Crimea, a hawliwyd oddi ar Wcráin yn 2014, a lleoliad llawer o’r ymladd presennol. Dan y ffug-enw ‘Ras Putin,’ dyma ymgais Simon:

I Fedlam aeth y ddrama, i esgyrn
o lond basged fara.
Dyn ei blwyf a daena bla
unllaw ym maw’r Crimea.

Mae’r sefyllfa’n y Crimea ‘bellach yn Fedlam, yn anhrefn a llanast llwyr, gan ystyried hefyd fod pob math o ryfel yn wallgofrwydd,’ meddai Alan Llwyd yn ei feirniadaeth. Yna, mae’n cyfeirio at gyrch ac ail linell yr englyn ...  ‘esgyrn / o lond basged fara’ fel ‘trawiad gwych ... trawiad gorau’r holl gystadleuaeth.’ O dderbyn y fath ganmoliaeth gan arbenigwr fel Alan, gall Simon deimlo fod ei gwpan yn llawn.

Ym Mhrifwyl y Rhyl a’r Cyffiniau ym 1985, gwelwyd Robat Powell yn sefyll ar ei draed yn seremoni’r cadeirio. Ei awdl ‘Cynefin’ oedd yr orau o’r deuddeg cyfansoddiad ddaeth i law yn ôl dau o’r tri beirniad. Fel Simon, Alan a Jo, athrylith a feistrolodd ein hiaith ac agweddau o’n diwylliant ydy Robat Powell. Tybed a welwn ni un o’r tri Llundeiniwr yn efelychu ei gamp ... os nad ym Moduan eleni, yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesa’ hwyrach?
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2023, fel rhan o erthygl hirach



30.5.16

Siop Siarad


Dysgu Cymraeg ym Mro Ffestiniog

Erbyn hyn mae Siop Siarad Blaenau Ffestiniog wedi hen sefydlu ei hun ac ar hyn o bryd mae dan arweiniad cydwybodol Jane Battye, yn wreiddiol o Gaerlŷr (Leicester) ond ar ôl byw yn Stiniog am bron i ddeng mlynedd, mae wedi dysgu siarad Cymraeg ac yn mwynhau!

Mae hi’n gyfarwydd i’r nifer fydd yn mynd i’r Ganolfan bob dydd Mercher gan ei bod yn gwirfoddoli yno.

Bwriad y Siop ydy rhoi cyfle i ymarfer yr hyn mae’r dysgwyr wedi ei ddysgu a hynny dros baned ac weithiau gacan! Daw rhai siaradwyr Cymraeg cynhenid i’r Siop yn ogystal i helpu a sgwrsio am hyn a’r llall.


Yn y llun gwelir cyfarfod diweddar o’r Siop yng Nghaffi’r Bont yn y Blaenau. Bydd cyfarfod bob mis, y Sadwrn olaf fel arfer am 11 y bore a phara am awr neu fwy, yn dibynnu faint fydd wedi ymgasglu.

Piciwch i mewn chwi ddarllenwyr Llafar Bro i roi hwb i’r dysgwyr Cymraeg yn yr ardal…y cwbl sydd angen ei wneud ydy siarad Cymraeg!

TVJ
------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2016.


13.10.15

OPRA Cymru -Carmenâd a Chyfeillion

Erthygl gan Alwena Morgan, a ymddangosodd yn rhifyn Medi 2015.

Carmenâd
Mae pawb a fu yn 'Steddfod Meifod, neu a fu’n gwrando neu’n gwylio adref, yn cytuno ei bod wedi bod yn ‘Steddfod dda. Yn sicr, cafodd OPRA Cymru wythnos brysur a llwyddiannus.

Roedd yn destun rhyfeddod i sawl un a alwodd heibio’r stondin yn y Neuadd Arddangos mai Llan Ffestiniog yw cartref OPRA Cymru. Roedd angen darbwyllo ambell un, wrth gwrs, nad Opera Cenedlaethol Cymru yw OPRA Cymru ond yn hytrach gwmni lleol sy’n cynnig cyfleoedd i gantorion ifanc berfformio opera drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny mewn lleoliadau tipyn mwy gwledig na’n cwmni cenedlaethol.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bu’r Cwmni’n perfformio detholiad o opera Carmen (Bizet) yn y Gymraeg yn ardal bicnic y maes, a hynny ar ffurf promenâd – gan roi’r teitl ‘Carmenâd’ i’r cynhyrchiad. Perfformiadau awyr agored oeddynt a bu cryn groesi bysedd am dywydd ffafriol. Cafwyd haul braf ar gyfer dau berfformiad ond daeth y glaw i herio’r perfformwyr ar y dydd Mawrth.

Er y gawod drom, ni threchwyd y cantorion a chafodd y gynulleidfa wledd. Yn perfformio oedd – Sioned Gwen Davies fel Carmen, Robyn Lyn fel Don José, Sara Lian Owen fel Micaëla ac Adam Gilbert fel Escamillo gyda’r corws – Alys Roberts, Eirlys Myfanwy Davies, Rhodri Jones a Steffan Lloyd Owen yn gwefreiddio’r gynulleidfa.

Llongyfarchiadau mawr i’r criw i gyd heb anghofio Patrick Young, y Cyfarwyddwr Artistig, Anthony Negus, y Cyfarwyddwr Cerdd a’r cyfeilyddion Helen Davies a Sian Davies.


Cyfeillion
Lansiwyd Cyfeillion OPRA Cymru ar gyfer yr Eisteddfod a chroesawyd nifer o ‘gyfeillion’ newydd yn ystod yr wythnos. 

Beth yw manteision bod yn gyfaill?, medde chi.  Wel, cewch ddau gylchlythyr y flwyddyn fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am gynyrchiadau’r cwmni. Ond yn bwysicach na dim, cewch fathodyn arian ‘Troad y Rhod’ o wneuthuriad Gemwaith Rhiannon ac wrth wisgo’r bathodyn cewch fanteisio ar gynigion arbennig fel rhaglen am ddim neu ostyngiad ym mhris eich tocyn.

Nid oes tâl blynyddol nac archeb banc, dim ond UN taliad o £30.
 
Ffoniwch Swyddfa’r Cwmni ar 07800 907 404 am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â Gwenda Lloyd Jones, (trysorydd), ar 01766 762 429 neu Alwena Morgan, (ysgrifennydd aelodaeth) ar 01766 762 687.

Gellir hefyd adael neges ar wefan y Cwmni:
 www.opra.cymru

Ynghanol yr holl brysurdeb, roedd Patrick hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn a rhaid ei longyfarch yn gynnes iawn. Rhwng popeth, fe sicrhaodd Patrick a’r cwmni bod opera wedi taro nodyn cadarn ymhlith y dyrfa ar y maes ac ar yr un pryd wedi rhoi enw’r cwmni opera lleol (a Llan Ffestiniog!) ar y map cenedlaethol.


25.9.14

Deall lleisiau'r nentydd

Peth braf iawn i olygydd ydi derbyn erthyglau heb orfod holi a swnian. Daeth y darn yma i mewn ar gyfer rhifyn Medi, gan un sy'n dysgu Cymraeg, ac wedi dotio ar fynyddoedd Bro Ffestiniog. Diolch iddo am gefnogi'r papur bro. Biti na fydda rhai o'r newydd-ddyfodiaid sy'n byw yn ein mysg mor frwdfrydig a fo. Dyma rannau o'i ysgrif. Gallwch ddarllen y cyfan y papur.

LLE ARBENNIG

‘Pam fod ti’n dysgu Cymraeg?’ Dw i’n siwr bod pawb sy’n dysgu’r hen iaith wedi clywed y cwestiwn hwn droeon.

Efallai bod yr ateb yn ddigon syml os dych chi’n byw yng Nghymru: ‘Wel, dw i’n byw yng Nghymru’, ydy’r ateb! Er hynny, onibai bod gynnoch chi deulu neu gysylltiadau eraill â Chymru, efallai y bydd yr ateb yn wahanol os dych chi’n byw tu hwnt i Glawdd Offa. Mi ges i fy ngeni yn Derby ac yn byw ar gyrion Chesterfield.

Mi ddechreuais i ddysgu Cymraeg yn 2011, ond mi ddatblygodd fy niddordeb yn yr iaith cyn hynny. Yn 2005, mi benderfynais i ddechrau dringo holl fynyddoedd Cymru. Y mynyddoedd swyddogol. Mi ddechreuais i’r antur ym mis Awst pan ddringais i Foel Hebog, Moel yr Ogof, Moel Lefn, Mynydd Mawr a’r Aran mewn wythnos.

Llun gan PW. Y Moelwyn Bach, Craig Ysgafn, Moelwyn Mawr, Moel yr Hydd, Craig Nyth y Gigfran.

Doedd gen i ddim hyder i ddechrau dysgu Cymraeg, er gwaetha fy niddordeb cynyddol ynddi hi, ond mi fynychais i gwrs ym Mhlas Tan y Bwlch ym Maentwrog ym mis Rhagfyr, 2010. Dw i’n gweithio i Gyngor swydd Derby fel arolygydd hawliau tramwy cyhoeddus  ac mi gafodd y cwrs ei gysylltu â fy ngwaith. Mi wnaeth yr wythnos honno newid popeth i mi. Mi ddigwyddodd rhywbeth ac yn ystod yr wythnos gwyddwn y baswn i’n dechrau dysgu Cymraeg. Tirwedd a mynyddoedd Cymru oedd yr ysbrydoliaeth. Pan feddylia i am yr iaith, mi fydda i’n meddwl am y mynyddoedd.

Mi ges i fy nghyfweld yn fyw dros y ffôn ar raglen Shân Cothi ym mis Awst y llynedd. Cyfweliad cyntaf ar y radio i mi oedd hwn ac ro’n i ar bigau’r drain . Er hynny, ddylwn i ddim fod wedi pryderu achos i Shân mor hyfryd. Yn y cyfweliad, mi ofynnodd Shân i mi: ‘beth ydy’ch hoff fynydd chi yng Nghymru?’ Wel, tipyn o sioc oedd hyn achos nad oeddwn i wedi meddwl am fy hoff fynyddoedd.

Mi ddwedais mai’r mynyddoedd o gwmpas Blaenau Ffestiniog oedd fy hoff rai.

Allt Fawr, Moel Druman, Moelwyn Mawr, Moelwyn Bach, Manod Mawr, Moel Penamnen. Maen nhw’n agos at fy nghalon. Efallai y bydda i’n deall lleisiau eu nentydd gan fy mod i’n dysgu eu hiaith bellach. Lle arbennig.

-Martin

11.5.12

Y Rhandir


Rhan o erthygl gan Jane Battye, yn rhifyn Mai.
Rwyf yn byw ym Mlaenau Ffestiniog ers dros bedair blynedd.  Mi symudais yno efo fy ngŵr, Chris.  Mae o wedi ymddeol.  Rwyf yn dysgu Cymraeg ers bron i bedair blynedd.
Rwy’n hoff iawn o arddio.   Rwyf wedi trio tyfu llysiau mewn potiau yn yr ardd cyn i ni chwilio am randir.
 Ym mis Medi 2010 roedden ni’n cymryd rhan o gae i wneud rhandir. Mae o yng Nghwm Teigl, o dan y Manod Mawr.

Pan oedden ni’n palu gwely llysiau, mi gawsom ni sioc.  Roedd y pridd yn garegog.  Hefyd, roedd 'na gerrig anferth.  Bu rhaid i ni ddefnyddio caib a nerth bôn braich.  Mi wnaeth Chris y rhan fwyaf o’r gwaith.  Mi wnes i symud y cerrig i’r llwybrau.  Roedd 'na ddigon ohonyn nhw i lenwi’r llwybrau i gyd.  Mi wnaethon i roi'r cerrig mwyaf wrth ymyl y cynllun.
Llun P.W.
Roedd y rhan ffrwythau’n waeth, felly, mi benderfynom blannu ar gynllun ‘raised beds.’  Mi wnaethon ni eu gwneud nhw o goed paletau.

Roedd y drydedd ran yn gymysg  garegog a chorsiog.  Mi ddefnyddion ni lechi concrit i wneud lle i ffrâm oer, ac mi wnaethon ni roi bocsys compost yno.  Mi godon ni ‘raised beds’ i’r riwbob a’r merllys - tua dwy droedfedd o uchel.  Hefyd, mi wnaethon ni welyau i’r mafon haf a hydref.

Roedd y bedwaredd rhan yn gorsiog.  Mi wnaethon ni balu allan dri gwely ym mis Mai llynedd.  Erbyn mis Gorffennaf, roedden nhw wedi llenwi efo dŵr ac roedd llyffantod wedi symud i mewn.

Y mis diwethaf, mi ddarganfyddom ni rifft llyffant yno.  Da ni wedi palu allan i uno’r tri gwely ac wedi gwneud pwll dŵr mawr efo ochrau troellog.  Mae 'na lethr i mewn i’r pwll ar gyfer llyffantod. Da ni’n bwriadu plannu planhigion cors o gwmpas y pwll fel gardd wyllt.  Mi fydda i’n edrych ar wyddoniadur planhigion yn fuan iawn.

Llongyfarchiadau i Jane - nid yn unig am ei llwyddiant yn y rhandir, ond hefyd am feistrioli’r Gymraeg i’r lefel hon mewn cyn lleied o amser.   -I.M.
Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yn rhifyn Mai Llafar Bro.