Showing posts with label Meifod. Show all posts
Showing posts with label Meifod. Show all posts

27.10.15

Rhod y Rhigymwr -Hafau Meifod

Iwan Morgan yn dychwelyd i Faldwyn eto'r mis yma.

Bu Awst yn fis prysur. Cafodd Alwena a minnau fordaith hynod gofiadwy o gwmpas Ynysoedd Prydain yng nghwmni’n ffrindiau, Bryn a Gwenan a Phil a Janet, ac yn syth ar ôl dychwelyd bron, daeth Eisteddfod Meifod, lle cefais y fraint unwaith eto o feirniadu’n yr adran Cerdd Dant.

Ar y Sul cyntaf, cafwyd 41 yn cystadlu ar yr unawd o 12-16 oed, pryd y gofynnwyd i’r datgeiniaid gyflwyno cerdd gan Linda Griffiths (Plethyn). Un o gyffiniau Meifod ydy Linda, wrth gwrs, a cherdd yn nhafodiaith Maldwyn a de Meirionnydd ydy ‘Lle ti’n dod o?’ Addaswyd fersiwn ar gyfer mab a merch – neu ‘cog’ a ‘lodes’ fel y nodir. Gan mai yn y dafodiaith honno y cafodd Alwena Roberts, fy nghyd-feirniad a minnau ein dwyn i fyny ynddi, hwyrach mai addas oedd fod trefnydd yr Eisteddfod wedi rhoi’r gystadleuaeth i ni’n dau i’w thafoli. 
  
Llun gan Delyth Lloyd
Roedd y safon yn uchel, a’r un a ddaeth i’r brig oedd Modlen Alun, Bryniau Defaid, Ysbyty Ifan.

Roedd dydd Gwener, y 7fed o Awst yn un lloerig o brysur i mi, ond yn un hynod bleserus a chofiadwy. Cefais fy nerbyn i’r wisg werdd yng ngorsedd y beirdd am 11 o’r gloch, ac wedi seremoni urddasol a threfnus, rhaid oedd rhuthro i lawr i’r Pagoda i ragwrandawiad y corau cerdd dant, a’r partïon – 6 ohonyn nhw – yn syth wedyn!

Fel y nodais, wrth draddodi’r feirniadaeth ar y corau o’r llwyfan oddeutu 4 o’r gloch, mae tua 150 o ferched yng nghyffiniau Llangwm a Dinbych yn freintiedig iawn yn cael eu meithrin i gyflwyno cerddi i gyfeiliant y tannau gan ddwy arbenigwraig, sef Rhian Jones a Leah Owen – dwy sydd â gwir weledigaeth a gwir ddisgyblaeth, a dwy sy’n gwneud cymaint i gyfoethogi’n diwylliant yn eu hardaloedd.

Y dasg a osodwyd i’r corau oedd cyflwyno detholiad o Awdl ‘Y Ffin’ gan y diweddar Gerallt Lloyd Owen ar y gainc ‘Seiriol’ gan Gwennant Pyrs. Detholiad Gerallt ei hun ydyw, o’r awdl a enillodd iddo gadair Eisteddfod Powys, pan gynhaliwyd hi yn Llanrhaeadr ym Mochnant yn ôl yn 60au’r ganrif ddwytha. Dydy’r awdl gyfan erioed wedi ei chyhoeddi, ond llwyddodd fy nghyd-feirniad, Owain Siôn i gael gafael arni.

Mae’r awdl yn ymwneud â’r rhan ddwyreiniol honno o Gymru sy’n ‘ffin’ rhwng Powys a Sir Amwythig – rhan o’r wlad a welodd drais a gormes yn ôl yn y seithfed ganrif pan gipiwyd ‘Pengwern’ gan Offa, brenin Mercia – digwyddiad a goffeir yn y cerddi enwog sy’n adnabyddus i ni heddiw fel ‘Canu Llywarch Hen’.

Cyfeirio at y ‘gelyn ysgeler’ ac aberth y ‘gwŷr eofn’ fu’n ‘amddiffyn’ y tiroedd hyn a wna Gerallt, ac yn gorchymyn ar i ni fel cenedl sefyll yn gadarn dros gadw tir y ffin rhag cael ei ysbeilio ymhellach.
Dyma farddoniaeth a nodweddir gan ymdeimlad cryf o Gymreictod a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry i’w hamddiffyn.

Fel y clywsom yn ddiweddar, ar achlysur cyhoeddi ‘Y Gân Olaf’, roedd Gerallt yn gyndyn o ryddhau nifer o gerddi a gyfansoddodd o’i afael, a hynny, mae’n siŵr, am ei fod yn gymaint perffeithydd. Cyn belled â bod yr awdl arbennig hon yn y cwestiwn, credaf fod rhannau ohoni’n braenaru’r tir ar gyfer y campweithiau a welwyd yn ddiweddarach, sef, ‘Cerddi’r Cywilydd’ (Cadair yr Urdd, Aberystwyth 1969) ac Awdl ‘Cilmeri’ (Cadair Prifwyl Abertawe 1982). Cynhwysaf y detholiad i ddarllenwyr y golofn gael ei fwynhau.
Ar hyd erwau di-orwel Amwythig
‘Does ond myth o awel,
A thir mwyn y llaeth a’r mêl
Yn ddi-ddigwydd o ddiogel.

Ai yma y bu’r gaea’ gynt,
A’r drin yn rhu’r dwyreinwynt?
Un bedd diddiwedd oedd hi,
Un llinach yn ei llenwi.
Bu gwrid ar wyneb ei gro,
Hil Llywarch yn ei lliwio.

Yr henwr oedd ddewr unwaith a welaf
Ar orwelion eilwaith;
Yr hen ŵr chwyrn ei araith
Heddiw’n llesg a’i ruddiau’n llaith.

“Gelyn ysgeler sydd yn ein herwau,
Lluman gwŷr eraill ym min gororau;
Am hynny, dos, mae heno dy eisiau,
Amddiffyn derfyn â min dy arfau;
Yn adwyon y deau boed dy lid
Yn gyrru gwrid drwy gerrig y rhydau!”

Ai yma y bu ha’ fy hil,
A nodd yr hedyn eiddil?
Gaeaf hir aeth i gof hon,
Eira i’w gwythi oerion.
Ai fan hyn ‘roedd eofn wŷr
I’w ffin yn amddiffynwyr?

Wedi hen warth mae breuddwyd nerthol,
Wedi hir orwedd, cerdded arwrol;
Ar fin y bwlch terfynol mae gwerin
Yn ail greu ffin ar ddelw’i gorffennol.
Diolch i Owain Siôn ac Elen Ellis, trefnydd yr Eisteddfod, cefais fod yn bresennol ar y llwyfan yn fy ngwisg orseddol i fwynhau defod y cadeirio. Dyfarnwyd cadair hardd Prifwyl Maldwyn a’r Gororau i’r Dr Hywel Griffiths, am awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y testun ‘Gwe’.

Drwy gyfres o olygfeydd, mae’r cerddi’n ‘pendilio rhwng y presennol a’r gorffennol,’ yng ngeiriau Mererid Hopwood, un o’r tri beirniad. Ceir yma daid ar ei wely angau, sy’n cofio’n ôl i gyfnod y Rhyfel Cartref yn Sbaen (1936-39). Ymysg ei themâu, clywn am ‘y cyswllt a fu rhwng y Cymry a’r Sbaenwyr, a’r cydymdeimlad brawdol a arweiniodd gymaint i ymladd yn erbyn Ffasgaeth.’ Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, ewch ati i’w darllen a’u gwerthfawrogi. Fel y noda Mererid, byddwch yng nghwmni ‘bardd y llinellau grymus a’r corddwr anesmwyth.’

Mae Hywel yn ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Cafodd Alwena a minnau’r fraint o’i gyfarfod yn Neuadd Pritchard-Jones, Prifysgol Bangor, yn gynharach eleni, gan mai ef a ddyfarnwyd yn enillydd ‘Gwobr Goffa Eilir’ gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
-----------------------------------


Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2015. Gallwch ddilyn cyfres Rhod y Rhigymwr efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


13.10.15

OPRA Cymru -Carmenâd a Chyfeillion

Erthygl gan Alwena Morgan, a ymddangosodd yn rhifyn Medi 2015.

Carmenâd
Mae pawb a fu yn 'Steddfod Meifod, neu a fu’n gwrando neu’n gwylio adref, yn cytuno ei bod wedi bod yn ‘Steddfod dda. Yn sicr, cafodd OPRA Cymru wythnos brysur a llwyddiannus.

Roedd yn destun rhyfeddod i sawl un a alwodd heibio’r stondin yn y Neuadd Arddangos mai Llan Ffestiniog yw cartref OPRA Cymru. Roedd angen darbwyllo ambell un, wrth gwrs, nad Opera Cenedlaethol Cymru yw OPRA Cymru ond yn hytrach gwmni lleol sy’n cynnig cyfleoedd i gantorion ifanc berfformio opera drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny mewn lleoliadau tipyn mwy gwledig na’n cwmni cenedlaethol.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bu’r Cwmni’n perfformio detholiad o opera Carmen (Bizet) yn y Gymraeg yn ardal bicnic y maes, a hynny ar ffurf promenâd – gan roi’r teitl ‘Carmenâd’ i’r cynhyrchiad. Perfformiadau awyr agored oeddynt a bu cryn groesi bysedd am dywydd ffafriol. Cafwyd haul braf ar gyfer dau berfformiad ond daeth y glaw i herio’r perfformwyr ar y dydd Mawrth.

Er y gawod drom, ni threchwyd y cantorion a chafodd y gynulleidfa wledd. Yn perfformio oedd – Sioned Gwen Davies fel Carmen, Robyn Lyn fel Don José, Sara Lian Owen fel Micaëla ac Adam Gilbert fel Escamillo gyda’r corws – Alys Roberts, Eirlys Myfanwy Davies, Rhodri Jones a Steffan Lloyd Owen yn gwefreiddio’r gynulleidfa.

Llongyfarchiadau mawr i’r criw i gyd heb anghofio Patrick Young, y Cyfarwyddwr Artistig, Anthony Negus, y Cyfarwyddwr Cerdd a’r cyfeilyddion Helen Davies a Sian Davies.


Cyfeillion
Lansiwyd Cyfeillion OPRA Cymru ar gyfer yr Eisteddfod a chroesawyd nifer o ‘gyfeillion’ newydd yn ystod yr wythnos. 

Beth yw manteision bod yn gyfaill?, medde chi.  Wel, cewch ddau gylchlythyr y flwyddyn fydd yn rhoi gwybodaeth i chi am gynyrchiadau’r cwmni. Ond yn bwysicach na dim, cewch fathodyn arian ‘Troad y Rhod’ o wneuthuriad Gemwaith Rhiannon ac wrth wisgo’r bathodyn cewch fanteisio ar gynigion arbennig fel rhaglen am ddim neu ostyngiad ym mhris eich tocyn.

Nid oes tâl blynyddol nac archeb banc, dim ond UN taliad o £30.
 
Ffoniwch Swyddfa’r Cwmni ar 07800 907 404 am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â Gwenda Lloyd Jones, (trysorydd), ar 01766 762 429 neu Alwena Morgan, (ysgrifennydd aelodaeth) ar 01766 762 687.

Gellir hefyd adael neges ar wefan y Cwmni:
 www.opra.cymru

Ynghanol yr holl brysurdeb, roedd Patrick hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn a rhaid ei longyfarch yn gynnes iawn. Rhwng popeth, fe sicrhaodd Patrick a’r cwmni bod opera wedi taro nodyn cadarn ymhlith y dyrfa ar y maes ac ar yr un pryd wedi rhoi enw’r cwmni opera lleol (a Llan Ffestiniog!) ar y map cenedlaethol.