20.6.26

Stolpia- Allt Talywaenydd

Yn ddiau, y mae y rhan fwyaf ohonoch wedi teithio mewn cerbyd, neu ar gefn beic, cerdded neu redeg, efallai, ar hyd Allt Talywaenydd ar ryw adeg o’ch hanes. Y mae gennyf lawer o atgofion amdani a hynny yn ymestyn yn ôl flynyddoedd lawer.Y cof cyntaf  sydd gennyf am yr hen allt yw dod i lawr ar gefn caseg wedd pan oeddwn tua saith oed, ac os cofiaf yn iawn, eisteddai David Clack o’m mlaen i arni hi. Caseg Ned Owen Lodge Plas Weunydd oedd hi, ac ef oedd yn ei harwain i lawr i gae Dôl Awel. Y pryd hynny tyfid gwair yn y cae ar gyfer bwydo’r gwartheg yn y gaeaf.

Bu hogiau’r Rhiw a Thalywaenydd yn sledio arni hi sawl tro ar aeafau o eira a rhew yn yr 1950au, a phan roedd ychydig iawn o draffig. Os byddai Bwlch Gorddinan (y Crimea) wedi cau dan eira, dim ond fan lefrith, lori lo, efallai, a lori’r Cyngor a fyddai’n mentro arni hi. Pan ai’r rhiw yn llithrig taenid cerrig mân (chippings) ar y ffordd gan weithwyr y cyngor, ac o ganlyniad, rhoi atalfa ar ein hwyl. Pa fodd bynnag, ar rai adegau byddai’r  hogiau yn taenu eira o ochrau’r ffordd a’i roi yn ôl ar y man lle byddid yn sledjio. Hogiau drwg, ynte ?

Y mae hi’n amlwg nad y ni’r hogiau a oedd y rhai cyntaf i wneud hyn. Y mae’n debyg i’r arferiad ymestyn yn ôl flynyddoedd lawer fel y tystia’r adroddiad hwn yn y Cambrian News,  16 Ionawr, 1903. Nodir ynddo bod eira trwchus yn y Blaenau, a’r chwiw bresennol yw sglefrio a sledio ar yr heolydd, ac y mae rhiw Talywaenydd yn un sydd mewn defnydd ar gyfer hyn. 

Dyma ychydig hanesion eraill amdani o’r  papurau newydd. 

Lle Enbydus -Tra yn dyfod i lawr allt Talwaenydd ddydd Iau, canfu Mr W. Owen, Plasweunydd, belen deinameit ar lawr. Yr oedd Mr Williams, Caegwyn Stores, newydd fynd trosti. Trwv ryw drugaredd ni ffrwydrodd neu gallasai y canlyniadau fod yn arswydus. Herald Cymraeg, 29 Tachwedd 1904.

Damweiniau drwg - Gallai yr allt fod yn lle peryglus ar y gorau yn y dyddiau a fu. Bu  amryw o ddamweiniau drwg ar allt Talywaenydd tros y blynyddoedd. Dyma  fel yr adroddwyd am un yn Y Genedl Gymreig, 17 Gorffennaf, 1889: 

Dydd Gwener, cyfarfu Mrs Roberts, Plas Waenydd, A damwain a allasai fod yn bur ddifrifol. Deallwn ei bod gyda y gwas yn y cerbyd yn dod i lawr o'r Plas i gyfeiriad Pantyrafon, pryd y syrthiodd y ceffyl trwy ryw anffawd, a dymchwelwyd Mrs Roberts a'r gwas o'r cerbyd. Wedi cyrchu y meddygon, caed nad oedd niweidiau y foneddiges mor ddifrifol ag yr ofnid ar y cyntaf, lie y mae yn dod ymlaen dan ofal Dr Roberts a Dr Jones, Isallt. 

Dyma gofnodion eraill -Daeth beiciwr i lawr rhiw Pant yr Afon ddydd Sul a gwrthdaro, neu mynd yn ‘batj’, chwedl pobl Blaenau, i Mrs Edwards, Llwyn y Gell a’i merch. Anafwyd y beiciwr a’r ddwy fenyw, yn enwedig Miss Edwards a ddioddefodd o doriad pont yr ysgwydd. Cambrian News 15 Gorffennaf 1904. 

Ym mis Ionawr 1906 tra roedd Motor CC 135 yn dod i lawr rhiw Talywaenydd collwyd rheolaeth o’r car gan y gyrrwr ac aeth yn wyrgam a tharo’r wal. Taflwyd y teithwyr, sef Mrs Lloyd, Gorddinan a’i merch allan o’r car a bu’n rhaid iddynt gael triniaeth feddygol gan y Doctoriaid Jones a Roberts, Plas Weunydd. Drylliwyd y car fel y bu’n rhaid ei gario ar lori i’r Blaenau.

Yn ôl adroddiad yn Herald Cymraeg, 11 Awst 1908 – Lle peryglus yw Gallt Talwaenydd i gerbydwyr a deurodwyr (h.y. beicwyr), os na chymerir llawer iawn o ofal a phwyll, Bu i un ferch ieuanc o Gapel Curig gael ei thaflu oddi ar ei deurod (beic) a'i niweidio —"a'r Sabath oedd y diwrnod hwnw."!

Dyma griw o deithwyr yn jolihoetio i lawr Allt Talywaenydd yn yr 1920au, mi gredaf. Gobeithio eu bod nhw wedi cyrraedd diwedd eu siwrnai yn ddidrafferth, ynte?   
    
Tybed pwy all ddweud mwy am y cerbyd hwn wrthym?

- - - - - - -

Pennod o gyfres Streffan ab Owain, a ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026

 

Y Gymdeithas Hanes- Dan Ein Traed

Yng nghyfarfod y Gymdeithas, Ebrill 19eg cawson sgwrs ddifyr iawn gan Elfyn Vaughan Jones, Llan Ffestiniog ar y testun ‘O dan ein traed - darganfyddiadau wrth gloddio’. 

Mae Elfyn yn adnabyddus i’r helyw o’r gynulleidfa ddaeth i wrando arno ar y noson. Roedd testun ei sgwrs wedi ei ffocysu yn bennaf ar sut i ddefnyddio peiriant canfod metel neu synhwyrydd metel (metal detector) ac ar rai o’r gwrthrychau yr oedd wedi eu darganfod wrth ddefnyddio'r peiriant hwn. 

Mae’r arfer hwn o ddefnyddio dyfais electronig llaw i leoli gwrthrychau metel wedi'u claddu o dan y ddaear neu wedi'u cuddio mewn tywod, dŵr, neu ddeunyddiau eraill yn weddol gyffredin. Mae'r synhwyrydd yn creu maes magnetig sy'n ymateb pan fydd yn pasio dros fetel, gan rybuddio'r defnyddiwr gyda thôn sain neu arddangosfa weledol ar sgrin fach.

Mae pobl yn defnyddio synwyryddion metel i ddod o hyd i ddarnau arian, gemwaith, arteffactau hanesyddol, talpiau aur, a phob math o wrthrychau a gladdwyd, neu yn wir a gollwyd gan unigolion amser maith yn ôl -  o greiriau'r Rhyfel Cartref i fodrwyau priodas coll. Mae'n hobi hamdden sy'n cael ei fwynhau gan filiynau ac yn offeryn ymarferol a ddefnyddir mewn archaeoleg, sgrinio diogelwch, a chwilio. Ond roedd  diddordeb y darlithydd mewn hanes a sut y medrai'r synhwyrydd metel ein cysylltu â’n hynafiaid mewn gwahanol ffyrdd. 

Datblygodd diddordeb Elfyn mewn hanes yn gynnar iawn, diddordeb a arweiniodd yn y pen draw at ennill gradd mewn hanes a chymhwyso fel athro hanes. Talodd deyrnged i un o’i athrawon yn Ysgol Gynradd Bro Cynfal sef Elfed Roberts, Penrhyndeudraeth am ei drwytho yn hanes Cymru ond prinhau oedd y sôn am hanes Cymru fel y cyfryw wrth iddo symud ymlaen gyda’i addysg. Mae’r ardal hon yn hynod am ei safleoedd a’i chysylltiadau  hanesyddol – ond dim sôn am y rhain ac yn wir faint ohonom, a gawsom ein magu yn ysgolion yr ardal, a gafodd wersi ar hanes a phwysigrwydd y diwydiant llechi yn y dref … heb y diwydiant hwnnw ni fyddai tref yma o gwbl?!

Mae nifer o archeolegwyr bellach yn defnyddio'r synhwyrydd metel ac mae’r bobl sy’n arbenigo yn y defnydd o’r peiriannau hyn yn aml yn troi ei gallu i estyn cymorth i archeolegwyr. Darganfuwyd Celc Melsonby (Melsonby Hoard) sef celc o eitemau o'r Oes Haearn a  ddarganfuwyd wedi'u claddu mewn cae ger pentref Melsonby yng ngogledd Swydd Efrog, gan synhwyrydd metel amatur, ym mis Rhagfyr 2021. Hwn oedd un o’r darganfyddiadau pwysicaf o’r cyfnod hwn. Rhaid i'r rhai sy’n defnyddio’r synhwyrydd fod yn gyfarwydd â’r dulliau, rheolau, cyfraith gwlad a’r ffynonellau hanesyddol wrth gwrs. Soniodd Elfyn hefyd am berchennog caffi 34 oed, oedd ar fin rhoi’r gorau iddi un diwrnod, ac yn yntau yn ddigon rhwystredig ar ôl oriau o chwilio gyda’i synhwyrydd, a'r ddaear heb ildio dim ond darnau o fatri car a haearn sgrap wrth ymyl pwll ar dir fferm yn Swydd Warwick, yn 2021. 

"Roeddwn wedi cael digon ar gloddio, i fod yn onest," meddai. "Ond roedd gen i ychydig mwy o siglenni i'w gwneud ac roedd y sŵn mor uchel, roeddwn i'n gwybod ei fod yn mynd i fod yn rhywbeth gwerth ei godi o’r ddaear. Yna gwelais ei fod yn aur, neclis aur ...' Roedd rhaid  mynd a'r neclis i'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain gan mai yno y ceir y casgliad mwyaf o wrthrychau mewn metel gwerthfawr o'r cyfnod Tuduraidd cynnar. Yn ôl yr arbenigwyr yno nid oedd yr un gwrthrych yno o'r cyfnod yn debyg nac mor werthfawr â’r neclis hon! 

Dangosodd Elfyn luniau o rai o’r gwrthrychau y cafodd hyd iddynt a’r ymchwil a wnaeth wedyn i ddarganfod beth oeddynt yn union a sut y defnyddiwyd hwy … talebau (yn aml defnyddiwyd y rhain fel arian yn yr oesoedd canol), byclau belt, hen lestri piwter a chlai, broits, peli metel a ddefnyddid i saethu gynnau musket, darnau arian ac yn y blaen. Mae gwrthrych fel hyn er mor gyffredin y eu hamser, yn gwneud i rywun feddwl am yr unigolion oedd berchen arnynt. A oedd y gwrthrychau hyn wedi eu colli, wedi eu dwyn neu wedi eu lluchio o’r neilltu fel sbwriel o’r cyfnod ond, yn aml, mae gwrthrychau fel hyn yn dangos bwriad, uchelgais ac yn aml ffaeleddau pobl gyffredin yn eu bywyd bob dydd.

Darlith wahanol a difyr iawn ac mae’r gwaith yn parhau a phwy a ŵyr be ddaw i’r fei yn y dyfodol o ystyried Celc Melsonby a neclis Duduraidd swydd Warwick! 

Tecwyn Vaughan Jones
- - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026

Rhod y Rhigymwr- Gwlad môr a gwlad mynydd

Ardal hanesyddol yng Ngwynedd ydy Ardudwy. Fe fu’n un o hen gantrefi’r deyrnas honno. Fel cantref canoloesol, daeth Ardudwy ac Eifionydd yn ddau gwmwd cantref Dunoding. Mae’n ymestyn o’r Traeth Mawr yn y gogledd i lawr hyd Afon Mawddach yn y de. 

Rhannwyd Ardudwy wedyn yn ddau gwmwd gan Afon Artro, a cheir plwyfi Ardudwy Uwch Artro i’r gogledd ohoni, a rhai Is Artro i’r de. Manylir ar leoliad a hanes y plwyfi yma yn ‘Atlas Meirionnydd’ -cyfrol a olygwyd gan Geraint Bowen ac a gyhoeddwyd cyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974.

Ymysg y plwyfi a berthyn i Ardudwy [Uwch Artro] gallwn gynnwys plwyfi Ffestiniog, Maentwrog a Thrawsfynydd. 

Tir gwyllt a mynyddig ydy Ardudwy, gyda mynyddoedd y Rhinogydd yn asgwrn cefn iddo. Roedd hen ffordd yn cysylltu Tomen y Mur a’r arfordir gan redeg trwy fwlch Drws Ardudwy. Yn ôl ym 1979, ysbrydolwyd fi i gyfansoddi cerdd i’r ‘Drws’ arbennig yma. Fe’i gwelais ym mhedwar tymor y flwyddyn.

Dyma ddetholiad ohoni:

Unwaith, bu dewr Frythoniaid,
druenus lu’n llyfu’r llaid
ym mrodir ei gorsdir gwyllt
wedi ymladdfa nwydwyllt;
Y brwyn am eu hesgyrn brau
ar fron ei oerion erwau.

Daw tincian eu tarianau - yn eco
dros Grawcwellt y beddau;
a niwl y dydd diolau fel ysgrîn,
yn oer ei fîn hyd y dieithr fannau.

Pan ddaw’r gwanwyn addfwynaf
heibio’r rhos, a’i ddyddiau braf
i roi einioes i riniog
y Drws, â’i aradr a’i og;
Yn wylaidd cofiaf helynt
y gwâr bererinion gynt.

 siwt haf yn glasu tir
rhydiog y dawel frodir,
Hen Gyrnol Maesygarnedd
yno ’r âi am awr o hedd,
a bu yn llamu drwy’r llaid
wŷr enwog o Bengryniaid.

Gwelodd y gwartheg olion
hydrefau’r rhwd ar ei fron
wrth esgyn ar derfyn dydd
dros fawnog i Drawsfynydd;
a gwaedd yr hen borthmyn gynt
yn eu gyrru’n ddu gorwynt.

Hen Ddrws caregog is y Rhinogau,
ei annedd anial a’m denodd innau;
Y mae i ŵr hyd ei noethlwm erwau
le i hir gilio’n ei gêl rigolau;
Hen hanes sy’n ei haenau, fe’i gwelir
yn hud a miri’r rhyfedd dymhorau.

Er mai yn ne Meirionnydd, ar y ffin â’r hen Sir Drefaldwyn y treuliais fy mhlentyndod a’m llencyndod, gallaf ddweud mai Ardudwy roddodd gartref i mi ers sawl blwyddyn bellach. Yma, i fro Ardudwy y llwyddais i olrhain un cyff o’m teulu i ddiwedd yr 17eg ganrif. Ychydig a feddyliais, pan ddechreuais ar fy ngyrfa fel athro ifanc yn Nyffryn Ardudwy ym Medi 1972 fod gen i wreiddiau yno. Pan gyfansoddais gerddi i fannau arbennig o’i mewn hanner canrif a mwy yn ôl, canu’n ddychmygol wnes. Bellach, gallaf uniaethu â’r cyfan. 

Un o’r cyfansoddiadau hynny oedd ‘cân ysgafn’ i Ferched y Wawr Cangen Nantcol ar gyfer Eisteddfod Meirionnydd y Mudiad:

O bob gwlad a grwydrais, ni wn a oes un
mor annwyl i’w charu â’m henfro fy hun;
Gwlad môr a gwlad mynydd, cans dyna yw hi,
Ymroi i’w hanwylo am byth a wnaf i.

Cytgan:
Ardudwy fy henfro, fy nghartref wyt ti,
Bob erw ohonot sy’n eiddo i mi;
Ni chaiff yr un estron dy sarnu dan draed,
Rwyt ti yn fy enaid, rwyt ti yn fy ngwaed.

Ei chadarn gromlechi a erys o hyd,
A’i chainc Mabinogi sy’n enwog drwy’r byd;
Mae gwarchae ei llannau yn her uwch y don,
Fe fagwyd enwogion di-rif ar ei bron.

Ei fflamau diwylliant a  bery ynghyn,
Acenion cerdd dafod a’u clec ar bob bryn;
Daw nodau cerdd dannau o eigion ei lli,
A cheisio eu cadw am byth a wnawn ni.    
 

- - - - - - -

Pennod o gyfres Iwan Morgan a ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026

 

'Stesion Soldiwrs' Traws

ATGOFION AGNES… yn mynd â ni’n ôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd

Wrth weld yr ofn a’r dychryn sydd yn wynebu’r bobl yn Gaza a’r cyffiniau ar y teledu, daeth atgofion o’m plentyndod yn ôl i’r cof.

Roedd Rhyfel 1939-45 yn ehangu ac roedd sôn am i’r bechgyn orfod mynd i ymladd y gelyn. Ond bu raid i’r rhai oedd ychydig dros yr oed fynd i ffatrïoedd gwneud ffrwydron yn barod i’r rhyfel. Bu raid i’m tad fynd i Loegr i weithio mewn ffatri ffrwydron. Golygai hynny y byddai Mam yn mynd â’i thair merch ar y trên i Traws i aros am gyfnod efo’i theulu. Roedd yn gyfleus ar y trên o’r Blaenau yr adeg honno. Roedd Stesion Traws wrth ymyl cartref y teulu. Roedd chwaer mam yn gweini ar ddau ewythr iddi. Wrth fynd â ni i aros yno, roedd Mam yn ceisio lleihau ein hiraeth am nhad.

Yn Traws rhyw ddiwrnod y gwelsom fod prysurdeb mawr yn ymyl y Stesion. Roedd gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu er mwyn hwyluso’r ffordd i filwyr ddod yno. Fe’i galwyd hi’n ‘Stesion Soldiwrs’.

Pan gyrhaeddodd trên arbennig y Stesion newydd – er mawr syndod i ni – be ddaeth allan ohono ond ceffylau mawr hardd.  Sôn am weryru a strancio! Roedden nhw mewn ofn mae’n siŵr.  

Mewn hir a hwyr deallwyd mai ceffylau’r cafalri yn Llundain oeddynt.

Ar ôl eu setlo i lawr a’u dyfrio ac yn y blaen, rhoddwyd rhyw bethau du tu ôl iddyn nhw.
‘Gun Carriages’ oeddynt. Maent yn dal i dynnu rheiny ar achlysuron pwysig yn Llundain heddiw.

 Pan oedd yn pasio tŷ’r teulu, rhybuddiwyd pawb i beidio dod allan ar y ffordd. Roedd rhywun wedi gwneud llwybr arbennig ar draws y caeau yn lle bod rhaid iddynt fynd drwy’r pentref. 

 

I ffwrdd â nhw ar draws y caeau yn un rheng gan dynnu’r gynnau o’u holau. Osgoi’r pentref wnaethant rhag tynnu sylw mae’n siŵr. Roeddynt yn mynd i’r ‘Camp Soldiwrs’ oedd ychydig filltiroedd i ffwrdd. Roedd rhai yn arwain y ceffylau ac eraill yn eistedd arnynt. Ar ôl gosod cyfrwyon arnynt a gosod y gynnau yn sownd fe aethant ymlaen i’r camp.

Ychydig amser wedi hynny, daeth awyren a gollwng bom ychydig bellter o’r Stesion. Glaniodd y ffrwydrad ar y graig, a diolch i’r drefn, wnaed fawr o niwed i’r bobl. Er hynny, cafodd rhai o’r adeiladau ddifrod. Maluriwyd ffenestri tai, a daeth y nenfwd i lawr mewn tŷ arall ac ysgytiwyd tai eraill.

Y noson wedyn, yn ôl ei arfer, clywyd Lord Haw Haw yn canmol yr ymgyrch ond bod yr awyren wedi colli ei ffordd wedi iddi ddilyn yr afon yn hytrach na Llyn Traws. Ychydig cyn hyn roedd si ar droed fod ysbïwyr o gwmpas. Pwy a ŵyr?

Mwy o bytiau i ddod!

Agnes Edwards
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026


16.6.26

Cais i Ddod yn Dref Ddiwylliant

Mae tref Blaenau Ffestiniog wedi cyflwyno cais i gael ei dynodi'n Dref Ddiwylliant gyntaf Gwledydd Prydain. O dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Lisa Nandy, bydd y dref fuddugol yn cael £3m a’r ddwy dref sy'n dod yn ail yn cael £250,000, i'w ddefnyddio i hyrwyddo diwylliant lleol. 

Cyflwynwyd y cais gan Gyngor Tref Ffestiniog ac fe'i lluniwyd ar y cyd efo’r rhwydwaith menter gymunedol - Cwmni Bro Ffestiniog. Bydd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Opra Cymru, Ysgol y Moelwyn a Chymdeithas Hanes y Blaenau. 

Gweledigaeth – ‘Llechi Byw’ yw dathlu adfywiad drwy greadigrwydd. Bydd yn anrhydeddu hanes diwydiannol y dref wrth arddangos ei harloeswyr cyfoes – ffilmwyr fel Dyl Goch, artistiaid fel David Nash, Howard Bowcott, Gareth Parry a Lleucu Gwenllian, cerddorion fel Gai Toms a Chôr Meibion y Brythoniaid, ynghyd â beirdd sydd wedi’u gwreiddio yn yr hunaniaeth Gymreig. Mae hon yn gymuned sy’n ‘dawnsio yn y glaw’, yn canu ei hanes ac yn awyddus i ysgrifennu ei dyfodol ei hun - yn Gymraeg ac yn ieithoedd y byd! 

Bydd panel arbenigol dan arweiniad y cynhyrchydd teledu Phil Redmond yn gwerthuso'r cyfan ac yn dewis rhestr fer o drefi a fydd yn derbyn £60,000 yr un i'w cefnogi i ddatblygu cais llawn. 

Mae’r cerddor Gai Toms yn dweud: 

“Mae Blaenau Ffestiniog yn dref wedi’i hadeiladu ar lechi, calon a chân. Unwaith roedd yn cael ei gweld fel prifddinas y diwydiant llechi – y dref ‘a roddodd do ar y byd’. Mae bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Tirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Heddiw, mae ei thirwedd ddramatig a’i chymuned Gymraeg agos yn tanio egni creadigol unigryw sy’n cael ei gydnabod ledled Cymru”.

Mae Rory Francis, Cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog, yn egluro: 

“Bwriad y cynllun yw rhoi cyfle i bawb rannu eu balchder o’r fan lle maen nhw’n byw, ac mae gan Flaenau Ffestiniog stori anhygoel i’w hadrodd. Dim ond y cam cyntaf ydy hwn, ond os byddwn yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio y gall hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol - i dre’r Blaenau ac i Fro Ffestiniog gyfan”. 

Am ragor o wybodaeth am hyn cysylltwch â Rory Francis ar 07539 322678 neu Cynghoryddroryfrancis@cyngortrefffestiniog.cymru
 - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2026

  

Camu i’r Adwy dros Natur!

Fel rhan o ymgyrch Ddiwrnod y Ddaear, aeth disgyblion Blwyddyn 3 Ysgol Maenofferen ati’n frwd i wneud gwahaniaeth, gan gasglu 17 bag o sbwriel mewn dim ond awr. Eu cenhadaeth oedd glanhau y Parc, man sy’n adnabyddus am sbwriel, ond roedd y plant yn barod iawn am yr her. Mewn gwirionedd, roedden nhw’n mwynhau gymaint nes ei bod hi bron yn amhosib eu cael yn ôl i’r ysgol! Da iawn, Blwyddyn 3, roeddech chi’n wych!


Ond doedd y hwyl ddim yn stopio fan hyn. Roedd wythnos olaf mis Ebrill yn Wythnos Genedlaethol Garddio, ac unwaith eto dangosodd y disgyblion faint maen nhw’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored ac yn gweithio gyda natur.

Daeth disgyblion Blwyddyn 6 yn arbenigwyr coed go iawn wrth gymryd rhan yn ein prosiect adfywio coed aethnen, gan weithio gyda Dr Jenny Wong o Brifysgol Bangor. Yn ôl ym mis Mawrth, fe wnaethom ni gymryd toriadau gwreiddiau o ddwy goeden ar dir yr ysgol. Ar ôl ychydig wythnosau o dyfu’n ofalus, roedd y toriadau’n barod, ac aeth y disgyblion ati i’w plannu mewn potiau. Buon nhw’n gweithio’n wych fel tîm a byddan nhw’n parhau i ofalu am y coed ifanc tan gwyliau’r haf. Wedyn, bydd y coed yn symud i feithrinfa goed cymunedol Y Dref Werdd cyn cael eu plannu ym mis Hydref. Coedwigwyr y dyfodol!

Yn y cyfamser, mae disgyblion Blwyddyn 3 hefyd wedi bod yn dysgu am fwyd - o ble mae’n dod a pha mor bell mae’n teithio. A’r rhan orau? Maen nhw wedi bod yn tyfu eu salad eu hunain! Bydd eu cynnyrch cartref yn barod mewn pryd ar gyfer picnic arbennig yng Ngardd Bywyd Gwyllt Tanygrisiau yn fuan. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu gweld yn mwynhau ffrwyth (a llysiau!) eu llafur.

Bob gwanwyn, mae Mai Di Dor yn ymddangos eto - gwahoddiad i gadw’r peiriant torri gwair yn y sied, a gadael i’r glaswellt dyfu. Mae’n syniad syml, ac yn un da. Gall glaswellt hirach ddarparu bwyd cynnar i beillwyr, lloches i bryfed, ac ychydig o “anhrefn” i dorri ar drefn ein gerddi taclus. Ond beth sy’n digwydd pan ddaw mis Mehefin?

Os daw’r peiriant torri gwair allan eto ar unwaith a thorri popeth i lawr mewn un tro, efallai ein bod yn dadwneud llawer o’r daioni. Mae’r holl dyfiant newydd - a’r bywyd sy’n dibynnu arno - yn diflannu cyn gynted ag y daeth.

Fel y rhan fwyaf o bethau ym myd natur, nid yw mor syml â dweud ie neu na. Ni fydd pob lawnt yn troi’n ddôl flodau gwyllt, ac ni fydd gadael i’r glaswellt dyfu am fis yn datrys popeth. Ond efallai y bydd yn ein helpu i sylwi mwy; beth sy’n tyfu, beth sy’n ymweld, a pha rannau o’r ardd sy’n teimlo fwyaf byw.

Efallai nad Mai Di Dor yw’r stori gyfan, ond yr hyn sy’n digwydd wedyn. Yn lle dychwelyd yn syth at yr un drefn, gallwn feddwl am dorri’r glaswellt yn fwy bwriadol. Gadael rhai rhannau’n hirach, torri eraill yn fyrrach, a chreu cymysgedd o gynefinoedd. Glaswellt hir a blodau i bryfed, a mannau agored i adar fel mwyalchen a bronfraith chwilota.

Yn ein Gardd Bywyd Gwyllt gymunedol leol, er enghraifft, fe wnaethom dorri’r ardal gyfan yn dda ddiwedd mis Mawrth, ac yn ddiweddar rydym wedi torri llwybrau bwriadol drwy’r ddôl a’r berllan. Byddwn yn cadw’r llwybrau hyn yn fyr drwy’r haf, gan adael y gweddill i dyfu. Beth am alw heibio i’w mwynhau a gweld pa fywyd gwyllt allwch chi ei weld?

Mae lawntiau mor gyfarwydd fel nad ydym yn aml yn eu cwestiynu, ond nid oes rhaid iddynt fod yn bopeth. Gall hyd yn oed newidiadau bach - cornel yn cael ei gadael i dyfu, rhai planhigion brodorol, torri’n llai aml - wneud gwahaniaeth.

Felly, p’un a ydych yn torri’r gwair neu beidio, efallai mai’r peth pwysig yw gweld eich gardd mewn ffordd wahanol. Nid dim ond am fis, ond dros yr haf cyfan.

Meg Thorman
Rheolwr Prosiect Amgylcheddol Y Dref Werdd
- - - - - - - 


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2026

 
 

'Rybish’ o Dwrnament

Dw i wrth fy modd efo'r gwanwyn, credaf mae'r tymor yma ydi fy hoff amser o'r flwyddyn. Mae'r wyrth o natur yn deor a dod i fywyd yn ddibynadwy ac i weld yn glir, hyd yn oed ym mhob cornel o'n trefi a'n pentrefi wedi'u palmantu. Pob gardd, pob ymyl ffordd, pob lle tyfu a phob fferm.

Ond mae rhywbeth arall yn tynnu sylw o’r cennin pedr a blodau gwyllt yr adeg yma o'r flwyddyn hefyd. Sbwriel. Dros flynyddoedd mae poteli wedi'u taflu tu allan i'r dafarn, diodydd chwaraeon ger ein caeau, sbwriel cartref wedi'i chwythu ar y strydoedd. 

Pryd dwi’n ymweld â’r ysgolion i siarad am weithredu hinsawdd lleol, mae’n syndod bob tro pa mor aml y mae pobl ifanc yn siarad am sbwriel llygredd plastig. Sy'n dangos bod gobeithion a gweledigaeth pobl ifanc i’w dyfodol da yn cynnwys mannau gwyrddach, di-sbwriel, yn llawn anifeiliaid gwyllt.

Beth sydd yn taro fi ydi pa mor lwcus ydan ni i gael mannau gwyrdd a natur a bioamrywiaeth yma yn y fro a bod angen ei achub ar gyfer ein amgylchfyd. 

Felly gyda hynny dan sylw penderfynwyd cynnal y twrnament mwyaf rybish... h.y cystadleuaeth i gasglu y mwyaf o sbwriel fel diweddglo i weithgareddau GwanwynGwyrddni yma ym Mro Ffestiniog. 

Gwahoddwyd timau chwaraeon a mentrau a chymdeithasau lleol i gystadlu i gasglu'r nifer fwyaf o fagiau o sbwriel posibl, o unrhyw le yn y dref, gyda dyddiad ac amser cau o ddydd Sul 19eg Ebrill. A chyda’r cyfle i ennill £100 a roddwyd i’r digwyddiad gan Antur Stiniog, roedden ni’n barod am dwrnamaint ffab. 

Medd Paul, un o gyfarwyddwyr gwirfoddol Antur Stiniog: 

"Mae'n bleser gan Antur Stiniog gyfrannu at yr ymgyrch werthfawr yma i gasglu sbwriel yn lleol. Mae amgylchedd ein cymuned yn bwysig iawn i'r cwmni ac mae pawb sy'n bwcio diwrnod o feicio ar lethrau Cribau a Llechwedd yn medru rhoi punt neu ddwy arall os hoffent, at waith amgylcheddol yn ein bro. Mae hyn wedi cynnwys plannu coed a noddi blychau nythu gwenoliaid duon er enghraifft, ond mae'n hyfryd cael cyfrannu at y gystadleuaeth hwyliog yma i gasglu sbwriel hefyd."

Y clwb rygbi oedd yr enillwyr a nhw dderbyniodd £100 gan Antur Stiniog a gyfrannodd y wobr yn garedig.

 

Gyda’n gilydd casglwyd dros 100 o fagiau gyda’r tîm buddigol yn casglu 34 o fagiau! Mae'r cannoedd o bobl a gymrodd ran wedi rhoi rhywbeth anhygoel yn ôl i'r dref hon o’u hamser a’u hymdrech. Ac mae hefyd yn ein hatgoffa, o'r holl weithredoedd bach y daw a newid mawr. O fan hyn, gallwn ofyn am fwy o finiau wedi'u gosod yn strategol, gwneud ychydig o gasglu yn fwy rheolaidd, lansio ymgyrch i leihau baw cŵn a ... chynnal y twrnamaint eto gyda mwy o dimau, mwy o lefydd a mwy o fagiau.

Gallwn ni i gyd gael ychydig mwy o obaith, a gwybod bod gennym ni’r pŵer i wneud gwahaniaeth, gan ddechrau yma wrth ein traed. Os ydych chi eisau bod yn rhan o fwy o weithredoedd newid hinsawdd gymunedol cysylltwch â Nina GwyrddNi ar FaceBook, neu anfonwch  neges at 07950 414 401. 

NB 

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2026

 

5.6.26

Arddangosfa Benblwydd

Diolch o galon i bawb fu yn Oriel Llyfrgell y Blaenau dros y gaeaf i weld yr arddangosfa hanes a greuwyd er mwyn dathlu hanner can mlynedd o gyhoeddi Llafar Bro. Roedd yr arddangosfa yn ddathliad hefyd o weithgaredd gwirfoddol yn ein cymuned, a’r cyd-weithio agos sydd rhwng nifer o gymdeithasau ein bro.

Diolch yn benodol i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog a Chymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog am fod mor barod i rannu’r gofod yn yr oriel a gosod llawer o’u creiriau a phaneli gwybodaeth yno, i wneud arddangosfa ddifyr tu hwnt ar hanes ein hardal.

Mary a Bill o’r Gymdeithas Archeoleg, Vivian a Dafydd o’r Gymdeithas Hanes, a Paul ar ran Llafar Bro, yn croesawu Liz Saville Roberts, Mabon ap Gwynfor, a'r Cynghorydd Rory Francis ar ddiwrnod ola’r arddangosfa.

Daeth y gweithgor trefnu at ei gilydd ganol Ebrill, er mwyn datgymalu’r casgliad, a chael un cyfle olaf i groesawu pobl i’r arddangosfa. Ymysg y rhai alwodd i mewn oedd ein haelod seneddol Liz Saville Roberts, a Mabon ap Gwynfor, aelod o Senedd Cymru, ac roedd y ddau yn hael eu canmoliaeth o waith y cymdeithasau ac o’r hyn oedd i’w weld yn yr arddangosfa. Mi fedrwch fentro ein bod wedi codi ambell bwnc trafodaeth efo nhw, gan gynnwys y ffaith fod Bro Stiniog yn haeddu canolfan dreftadaeth barhaol!

Diolch i genod y llyfrgell, ac i bawb alwodd i mewn rhwng Hydref ac Ebrill. Roedd geiriau nifer ohonoch yn y llyfr sylwadau yn codi calon ac yn gwneud yr ymdrech yn werth chweil, er enghraifft: “Gwych a gwerth ei weld; Hanes Blaenau ar ei orau; Wedi dysgu llawer, fel dysgwr sydd wedi symud i Blaenau yn ddiweddar; Diddorol dros ben- llawer o atgofion yn ôl; Ardderchog a hiraethus am yn ail”; a llawer mwy!

Hoffai bwyllgorau Llafar Bro, y Gymdeithas Archeoleg, a’r Gymdeithas Hanes hefyd ddiolch am y rhoddion ariannol a roddwyd yn y blwch gan ymwelwyr i’r oriel. Rhanwyd yr arian ar y diwrnod olaf, a bydd yn mynd at gynnal gweithgareddau gwirfoddol ein milltir sgwâr eto.

Bydd paneli penblwydd Llafar Bro yn cael eu harddangos yn Yr Ysgwrn yn ystod Mehefin eleni, felly gobeithiwn y medrwch alw yn fanno i ddangos eich cefnogaeth hefyd. Ymlaen rwan am 50 mlynedd arall!

PW
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026 


 

Dyddiau Cynnar Chwarel Maenofferen

Cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog ar y 18fed o’r mis a rhoddwyd croeso i’r siaradwr gwadd, Dylan Jones. Un a fagwyd yn y Blaenau yw Dylan ac un o hogiau Plas Canol ar y Stryd Fawr. Roedd ei dad, Geraint yn chwarelwr yn Chwarel Maenofferen a does ryfedd fod ganddo gymaint o wybodaeth ddifyr am y chwarel honno. 

Mae'n gweithio i Lywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ac yn ymddiddori mewn hanes chwareli - yn enwedig rhai Stiniog. Mae wedi bod yn weithgar a brwd iawn i arbed dirywiad melin Chwarel Maenofferen a'i diogelu ar gyfer yr oesoedd a ddêl. Mae'n aelod selog o'r Fforwm Hanes ac wedi rhoi ambell sgwrs ar Chwarel Maenofferen. Yn rhifyn 41 o Rhamant Bro cyhoeddodd yr erthygl ddifyr Ffrwydrad Boeler Ager Chwarel Maenofferen yn 1882 -pan laddwyd 4 o weithwyr y chwarel a thrychineb i’r holl fro. 

Testun Dylan oedd Dyddiau Cynnar Chwarel Maenofferen a chafwyd ganddo druth o wybodaeth am ddechrau cloddio llechi ar y tir a berthyn i Arglwydd Newborough a sut oedd cysgod o’r chwarel wedi ei sefydlu yn ddiweddar yn y 18fed ganrif. Roedd yn enwi ffynonellau a thraethodau pwysig a hefyd roedd wedi ymchwilio i fywyd rhai o’r chwarelwyr cynnar ar ddechrau’r 19eg ganrif. 


Cyflwynodd dipyn o ganlyniadau ei ymchwil personol ac i rai nad oedd yn gyfarwydd â chyfnod cynnar y chwareli llechi roedd llawer o wybodaeth ddifyr a lluniau o wahanol ffynonellau. Mae Chwarel Maenofferen yn un o’r chwareli hanesyddol pwysicaf ym Mro Ffestiniog. Ddim hyd 1861, pan brydleswyd y tir a'r chwarel bresennol gan y perchennog Arglwydd Newborough y ffurfiwyd y Maenofferen Slate Quarry Company Cyf. Tyfodd i fod yn un o chwareli mwyaf llwyddiannus yn y fro a’r pumed cynhyrchydd mwyaf yn y rhanbarth.

Mae'r chwarel wedi'i lleoli o fewn tirwedd ddramatig o fynyddoedd garw a dyffrynnoedd serth, sy'n nodweddiadol o dirwedd Eryri. Mae Maenofferen yn adnabyddus am ei lechi glas tywyll nodweddiadol, a gafodd ei werthfawrogi'n fawr am ei wydnwch a'i rinweddau esthetig, gan ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer toi ac adeiladu. Mae'r chwarel yn cynnwys pyllau agored dwfn, siambrau tanddaearol, a thomennydd sbwriel helaeth. Mae olion seilwaith diwydiannol y chwarel, fel yr hen dai weindio, melinau prosesu, a systemau tramffyrdd, yn rhoi cipolwg ar dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal. Roedd y strwythurau hyn yn hanfodol ar gyfer cludo a phrosesu llechi, ac roedd y systemau rheilffordd cul yn chwarae rhan hanfodol wrth symud y llechi i drefi a phorthladdoedd cyfagos i'w hallforio. 

Erbyn diwedd yr 20fed ganrif, daeth gweithrediadau chwareli ar raddfa fawr i ben, a gadawyd llawer o'r safle. Heddiw, mae Chwarel Maenofferen yn safle hanesyddol arwyddocaol, gyda rhai rhannau yn dal i fod yn hygyrch i ymwelwyr sydd â diddordeb mewn archwilio gweddillion diwydiant llechi Cymru, sydd wedi'i gydnabod fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. 

Mae tirwedd y chwarel, gyda'i adfeilion dramatig a'i golygfeydd, yn cynnig atgof ingol o orffennol diwydiannol yr ardal a bywydau'r gweithwyr a oedd unwaith yn llafurio yno. Diolch i Dylan am gyflwyno’r hanes cynnar i’r hyn a dyfodd, maes o law, yn chwarel fasnachol lwyddiannus iawn.

Mae’r arlunydd Falcon Hildred wedi gwneud cyfres o frasluniau dyfrliw gwych o chwarel Maenofferen i’w gweld fan hyn ar wefan yr arlunydd [nid yw Llafar Bro yn gyfrifol am wefannau allanol].
TVJ
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2026

 

Ysgolion Creadigol GwyrddNi

Fel rhan o gynlluniau Gwanwyn GwyrddNi, mae Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc ym Mlaenau Ffestiniog i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd. Wedi llwyth o waith cyffrous, mae rownd un o’r prosiect wedi dod i ben, ac mae un peth yn enwedig wedi dod o’r prosiect. Mae pobl ifanc ar draws 5 o ardaloedd GwyrddNi wedi dewis creu pethau gwahanol – ac mae LOTOBOT wedi ymddangos ym Mro Stiniog! 

Peidiwch a phoeni os nad yw’r enw LotoBot yn golygu unrhyw beth i chi, dyma Agi o Ysgol y Moelwyn i esbonio:

“LotoBot yw ein cynrychiolydd ar gyfer newid hinsawdd ym Mro Ffestiniog. Fe’i gynlluniwyd gennym ni i gynrychioli popeth yn ein hardal leol, a dyna pam mae LotoBot yn edrych fel hyn”
Mae’r broses o gymryd rhan wedi bod yn bwysig i bobl ifanc Ysgol y Moelwyn, sydd yn teimlo fel eu bod nhw ddim yn cael eu clywed ar faterion newid hinsawdd. 

Fe soniodd Gethin, disgybl yn y Moelwyn pam ei fod o’n gweld hi’n bwysig gweithredu: 

“Mae’n bwysig i weithredu ar newid hinsawdd oherwydd bod hi’n broblem enfawr a bysa pobl yn gallu gwneud rhywbeth i helpu trwy wneud y pethau bychain”

Mae’r prosiect hwn wedi ysbrydoli staff GwyrddNi ac Ysgol y Moelwyn, sydd wedi rhoi’r cyfle i adael i’r bobl ifanc redeg yn wyllt a’u syniadau. Dywedodd Ed Roberts (Athro Daearyddiaeth Ysgol y Moelwyn):

“Rydym yn hynod o ddiolchgar i GwyrddNi am gyd-weithio efo’r ysgol. Mae’r prosiect efo Buddug Roberts wedi bod yn fuddiol ofnadwy i’r plant sydd wedi cymryd rhan, gan eu bod nhw wedi creu perthnasau arbennig efo’i gilydd ac wedi cyd-weithio’n agos o dan ei harweiniad i greu ffordd greadigol o ledaenu eu neges am newid hinsawdd ac yr amgylchedd i’r gymuned leol."

Dywedodd Nina Bentley, hwylusydd cymunedol GwyrddNi hefyd 

“Mae wedi bod yn llawenydd ac yn addysg bod yn rhan o’r gwaith hwn yn datblygu! Mae LotoBot wedi dod yn ardderchog ar gyfer lleisiau plant wrth feddwl am eu hardal a’u dylanwad eu hunain. Maen nhw eisiau gweld lle gwyrddach, gyda mwy o goed, planhigion ac anifeiliaid a mwy o HWYL! Mae ganddyn nhw synnwyr craff o gyfiawnder cymdeithasol a natur a gallwn ni i gyd ddysgu a dylunio o amgylch hynny.”

Doedd y gwaith hwn ddim yn bosib heb gefnogaeth anhygoel Buddug Roberts, arbenigwr mewn ysgrifennu creadigol ac ymarfer theatr, a Mari Gwent, artist sy’n arbenigo mewn dyluniadau 3D. Wrth addlewyrchu ar weithio gyda phobl ifanc ym Mlaenau, dywedodd Buddug 

“Mae LotoBot yn greadur aml-haenog a hynny ar lefel diriaethol a haniaethol. Roedd creu LotoBot efo’r bobl ifanc yn broses arbennig o wylio’r cyfan, eu teimladau, eu pryderon a’u gobeithion yn dod at ei gilydd i lunio’r cymeriad digri a difrifol yma.”

Arddangoswyd LotoBot yng nghyntedd Llyfrgell y Blaenau, a bydd y gwaith yn parhau eleni felly cadwch olwg allan am anturiaethau nesaf LotoBot! 
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2026

 

3.6.26

Hanes Major y Ci

Pennod o gyfres Steffan ab Owain, STOLPIA, o rifyn Ebrill 2026

I’r rhai ohonoch sydd a chof o’r 1950au a chynt, yn ddiau, mi gofiwch fel y byddai llawer o gŵn yn cael rhyddid i grwydro’r mannau fel ag y mynnent– yn union fel defaid Stiniog! Cofiaf fel y byddai rhai yn ei sgrialu ar ôl rhyw gath ac eraill yn rhedeg ar ôl ambell un ar gefn beic. Chwilio am asgwrn neu damaid o gig fyddai rhai, neu sylw ac ychydig o fwythau. Roedd rhai ohonynt yn gallach na’r rhelyw, megis Toby, ci fy modryb Kit, a fyddai yn dal y bws wrth y Tap a mynd arni hi i fyny at siop y cigydd yn Stryd yr Eglwys ac ar ôl cael asgwrn ganddo, yn cerdded adref yn fodlon ei fyd. 

Un arall, a chyn fy amser i a phawb arall bellach, oedd Major, ci yr Abbey Arms yn y Llan.

Un o swyddogaethau Major oedd arwain ymwelwyr i lawr at Raeadr Cynfal ar adegau o dywydd teg. Cawn ei hanes mewn llythyr Saesneg a ymddangosodd yn Y Rhedegydd, 14 Medi 1910, ac a ysgrifennwyd gan T.M Hardie, Infirmary Office, Birmingham. Ynddo, dywed fel yr holodd Mr Jones, perchennog y dafarn am y llwybr i lawr at y rhaeadr, a dyma hwnnw yn ei gyfeirio at y llidiart ger buarth y fferm i lawr y stryd. Yna, dyma fo yn ychwanegu “mi aiff y ci a chi yno”, ac ar ôl iddo ddweud gair yn Gymraeg wrth Major, sef ci du a chot gyrliog, llygaid tlws a gwyneb deallus, dechreuodd hwnnw gyfarth fel bod pob ci yn y cylch wedi ymgynnull yno…

Beth bynnag, arweiniwyd y criw i lawr at yr afon, sef rhyw filltir o’r pentref gan y ci hoffus a rhyfeddwyd at ei fedr ar hyd y llwybr. Er bod amryw o lidiardau ar y daith gallai Major eu hagor nhw i gyd ar wahân i un oedd efo sbring a braidd allan o’i gyrraedd.

Yr Abbey Arms yn ei fri a Major y ci yn eistedd y tu allan i’r drws

Pan glywyd sŵn y rhaeadr diflannodd yr arweinydd am ysbaid fel ei fod yn cael ymdrochi ychydig mewn dŵr gerllaw, ac yna, wedi dychwelyd aethpwyd a ni i lawr llwybr serth at raeadr sydd a chwymp o ryw 40 troedfedd. Yno, cafwyd golygfa wych oddi ar bont a godwyd uwchlaw’r ceunant. Ar un ochr yr oedd y llifeiriant yn arllwys tros y creigiau a’r dŵr yn chwistrellu yn yr awyr oddi amgylch. Ar yr ochr arall ceid dŵr yr afon yn ystumio hyd ymylon cul y creigiau. Roedd yr olygfa yn syfrdanol a ninnau yn dal ein gafael yn dynn ar y bont.


Y bont uwchlaw’r rhaeadr

Wrth droi ein camau yn ôl gwelwyd nad oedd Major yn mynd ar yr un llwybr. Yn hytrach, troediodd ar lwybr arall am ychydig, ac yna, aros gyferbyn â cholofn o graig a enwir 'Pulpud Huw Llwyd' lle byddai dewin yn y dyddiau gynt yn ymarfer eu swynion gyda’r nos. Ychydig wedyn aethpwyd a ni i fyny at ‘Llam yr Afr’, sef craig naturiol ar ffurf pont uwchlaw yr afon. Anelodd Major i lawr at yr afon wedyn, ond gan ein bod ni’n fodlon ar y lle yr oeddem, arhoswyd yno nes y deallwyd ein bod yn gadael rhan o’r daith o’i drefniant. 

Yn y cyfamser, dechreuodd ein harweinydd gyfarth yn iawn, ac o ganlyniad, aethom i lawr ato er mwyn ei dawelu. Trodd wedyn a’n harwain i fyny’r boncen at y rhaeadr uchaf lle ceid yr afon yn llamu dros yr ymyl yn dair rhan enfawr i bantle tywyll a chreigiau cysgodol. Roedd eisteddfainc ar y boncen a man hwylus i gael seibiant, ac yno y mwynhawyd ein brechdanau gyda Major yn cael ei gyfran haeddiannol ohonynt.

O/N. – A ydyw Pont Llam yr Afr yn dal yno, neu a ydyw wedi dymchwel i’r ceunant islaw?