Showing posts with label Tref Ddiwylliant. Show all posts
Showing posts with label Tref Ddiwylliant. Show all posts

16.6.26

Cais i Ddod yn Dref Ddiwylliant

Mae tref Blaenau Ffestiniog wedi cyflwyno cais i gael ei dynodi'n Dref Ddiwylliant gyntaf Gwledydd Prydain. O dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Lisa Nandy, bydd y dref fuddugol yn cael £3m a’r ddwy dref sy'n dod yn ail yn cael £250,000, i'w ddefnyddio i hyrwyddo diwylliant lleol. 

Cyflwynwyd y cais gan Gyngor Tref Ffestiniog ac fe'i lluniwyd ar y cyd efo’r rhwydwaith menter gymunedol - Cwmni Bro Ffestiniog. Bydd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Opra Cymru, Ysgol y Moelwyn a Chymdeithas Hanes y Blaenau. 

Gweledigaeth – ‘Llechi Byw’ yw dathlu adfywiad drwy greadigrwydd. Bydd yn anrhydeddu hanes diwydiannol y dref wrth arddangos ei harloeswyr cyfoes – ffilmwyr fel Dyl Goch, artistiaid fel David Nash, Howard Bowcott, Gareth Parry a Lleucu Gwenllian, cerddorion fel Gai Toms a Chôr Meibion y Brythoniaid, ynghyd â beirdd sydd wedi’u gwreiddio yn yr hunaniaeth Gymreig. Mae hon yn gymuned sy’n ‘dawnsio yn y glaw’, yn canu ei hanes ac yn awyddus i ysgrifennu ei dyfodol ei hun - yn Gymraeg ac yn ieithoedd y byd! 

Bydd panel arbenigol dan arweiniad y cynhyrchydd teledu Phil Redmond yn gwerthuso'r cyfan ac yn dewis rhestr fer o drefi a fydd yn derbyn £60,000 yr un i'w cefnogi i ddatblygu cais llawn. 

Mae’r cerddor Gai Toms yn dweud: 

“Mae Blaenau Ffestiniog yn dref wedi’i hadeiladu ar lechi, calon a chân. Unwaith roedd yn cael ei gweld fel prifddinas y diwydiant llechi – y dref ‘a roddodd do ar y byd’. Mae bellach yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Tirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Heddiw, mae ei thirwedd ddramatig a’i chymuned Gymraeg agos yn tanio egni creadigol unigryw sy’n cael ei gydnabod ledled Cymru”.

Mae Rory Francis, Cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog, yn egluro: 

“Bwriad y cynllun yw rhoi cyfle i bawb rannu eu balchder o’r fan lle maen nhw’n byw, ac mae gan Flaenau Ffestiniog stori anhygoel i’w hadrodd. Dim ond y cam cyntaf ydy hwn, ond os byddwn yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio y gall hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol - i dre’r Blaenau ac i Fro Ffestiniog gyfan”. 

Am ragor o wybodaeth am hyn cysylltwch â Rory Francis ar 07539 322678 neu Cynghoryddroryfrancis@cyngortrefffestiniog.cymru
 - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2026

  

8.4.26

Senedd Stiniog -Mawrth 2026

Adnewyddu’r Parc Sglefrio
Fe gynhaliodd Cyngor Tref Ffestiniog gyfarfod arbennig ym mis Chwefror i bennu praesept ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Penderfynwyd neilltuo £100,000 i adnewyddu’r Parc Sglefrio, sydd wedi bod ar gau ac yn segur am sawl blwyddyn oherwydd fod yr hen offer wedi dirywio ac yn berygl. Mi fydd y Cyngor yn ariannu hwn trwy dynnu arian o’r balansau, gan gyfyngu’r codiad yn y praesept i 4%, sef mwy neu lai lefel chwyddiant. Mi fydd y Cyngor hefyd yn trio codi cymaint â phosibl o’r arian ar gyfer y Parc Sglefrio o grantiau, er mwyn cadw cymaint â phosibl o’r arian hwn ar gyfer gwelliannau a blaenoriaethau eraill yn y fro.   

Tref Ddiwylliant 2026
Roedd Gwenlli Evans o Gwmni Bro Ffestiniog wedi trefnu i fynychu’r cyfarfod i siarad am gyflwr Stryd Fawr y Blaenau. Wnaeth hi gyfeirio at Westy’r Queens yn ogystal a hen siop Lewis. Beth y gellir wneud eu cylch? Mi ofynnodd y Cyng. Dafydd Dafis ba hawliau sydd gan y Cyngor Tref i roi pwysau ar y bobl sy biau’r adeiladau hyn i’w defnyddio? Ydy’r waliau a’r toeau’n ddiogel? 

Roedd pob aelod o’r Cyngor yn awyddus i fynd i’r afael â’r broblem. Aethpwyd ymlaen i drafod y cyfle i Flaenau Ffestiniog gael ei dynodi fel Tref Ddiwylliant y DU, gan fod Llywodraeth y DU wedi gwahodd ceisiadau a’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts wedi tynnu sylw’r Cyngor at y cyfle hwn. A oes modd defnyddio’r cyfle hwn i sicrhau fod y safleoedd hyn yn cael eu datblygu a’u defnyddio? 

Yn y pendraw, cytunwyd i ffurfio is-bwyllgor arbennig i drafod hyn, gyda Chwmni Bro yn cymryd rhan. Dafydd Walter gynigiodd hwn gyda Morwenna Pugh yn eilio. Roedd pawb yn cytuno fod eisiau cydweithio i gael y gorau o hyn. 


Gwella bioamrywiaeth yn Sgwâr Ocli
Mae anghydfod wedi codi am gynlluniau’r Cyngor Tref i ddefnyddio grant o Bartneriaeth Natur Gwynedd i blannu coed ffrwythau ar ran o Sgwâr Ocli, yn ogystal â dôl flodau gwyllt a gwrych traddodiadol wedi ei blygu. Yn anffodus, doedd dim ymgynghoriad wedi digwydd gyda thrigolion y Sgwâr ymlaen llaw ac roedd nifer ohonyn nhw anhapus iawn i weld fod ffens ddwbl wedi ymddangos ar hyd un ochr y Sgwâr. Roedd hwn wedi cael ei godi i amddiffyn y gwrych newydd yn ystod ei flynyddoedd cyntaf. Roeddwn i, y Cyng. Rory Francis, wedi rhoi cynnig i lawr i drefnu cyfarfod safle gyda thrigolion a Hywyn Williams o’r Bartneriaeth i drafod hyn. Ddywedodd y Cyng. Mark Thomas fod y ffens yn y lle anghywir beth bynnag, gan y byddai rhan o’r polyn trydan o fewn y gwrych oni bai fod y ffens yn cael ei symud. Cytunwyd i drefnu cyfarfod safle.            

Pobl ifanc yn gwirfoddoli
Derbyniwyd llythyr oddi wrth yr elusen GISDA, sy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 14-25 oed, yn gofyn a fyddai modd i rai o’r bobl ifanc wneud gwaith gwirfoddol gyda’r Cyngor Tref. Dywedodd y Cyng. Morwenna Pugh fod hwn yn syniad gwych a mi gynigiodd y Cyng. Dei Mur y dylid gwahodd rhywun o GISDA i ddod i gyfarfod efo’r Cyngor i drafod y manylion. Cafodd y syniad hwnnw ei gymeradwyo. 
- - - - - - - - - - 

Addasiad o'r golofn reolaidd a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2026