31.5.21

Cwm Teigl Teg ei Lun

Atgofion EMLYN WILLIAMS [1]

Wn i ddim os mai’r cyfnod clo a bod yn gaeth i’r tŷ a’m hysgogodd i eistedd i lawr a rhoi pin ar bapur. Mae’n debyg fod gofidio am gyflwr truenus yr hen fyd yma ar y funud yn gwneud i ni gymryd cipolwg dros ein hysgwyddau a chamu’n ôl i’r gorffennol, gan obeithio cael rhyw fath o gysur yn y fan honno. 

Beth bynnag, yr hyn sy’n sicr yw fod fy atgofion cyntaf o fyw ar yr hen ddaear yma yn hanu o Gwm Teigl.

 

Treuliais fy mhlentyndod cynnar yno o dair tan naw mlwydd oed (1955- 1961), ac felly, mae fy ngwreiddiau’n ddwfn yn nhirwedd y cwm, ac mae rhan o fy mhersonoliaeth, mae’n siŵr, wedi ei lunio a’i ddylanwadu gan y cymeriadau oedd yn trigo yno yr adeg hynny. Roedd fy rhieni yn rhentio fferm fach Llechwedd Isa, ac ar yr un pryd, roedd fy nhad yn gweithio yn Chwarel y Bwlch yn mhen uchaf y cwm a mam yn gofalu am y tŷ a’r fferm yn ystod y dydd.

Yr atgofion cyntaf sy’ gen i yw clywed yn y boreau cynnar sŵn ‘Lori Bwlch’ oedd yn cludo’r gweithwyr i’r chwarel yn ail-gychwyn o gatiau Pant yr Hedydd, a Tom Owen, y dreifar, yn newid gêr y Bedford lwyd bob tro wrth fynd heibio’r cwt mochyn ar ochr y ffordd tu ôl i Llechwedd Isa. Ychydig o funudau wedyn, gwrando ar feic modur Emrys Jones, Minafon, yn gwichian heibio blaen y tŷ, yntau ar ei ffordd i’w waith.

Clustfeinio a disgwyl am Land Rover y ‘Ministry’ … erbyn hyn, roeddwn yn hollol effro, a thra’r oedd sŵn lori Cwt Bugail yn diflannu yn y pellter, dyna ddiwedd ar y dilyniant clywedol boreuol, a roeddwn innau ar fy ffordd lawr y grisiau ac yn barod am fy Weetabix.

Ond yr hwn oedd yn tarfu fwyaf ar lonyddwch a heddwch y cwm yn fy mhlentyndod oedd Moffat. Roedd y defaid a’r gwartheg yn sgrialu o’r neilltu pan roedd o yn taranu i fyny ac i lawr y cwm ar hyd y lôn gul yn ei ‘Lagonda’ neu ‘Bugatti’. Sais oedd Hamish Moffat, ac fe dreuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Awstralia gyda’i rieni. Ar ôl y rhyfel, fe ddychwelodd i Brydain, ond cyn prynu fferm fynydd Hafod Ysbyty, roedd yr hen Moffat wedi byw bywyd llawn antur eisoes trwy deithio ar hyd a lled Affrica, ar draws anialwch y Sahara, a sawl gwlad arall hyd at Cape Town... 12,500 o filltiroedd... ac wrth gwrs, ar ben ei hun mewn 1923 Lagonda Vintage... yr union gerbyd welwn i’n rhuthro fel cath i gythraul ar hyd ffordd dawel Cwm Teigl yn y pumdegau. Dyma’r car hynaf i groesi’r Sahara erioed, medd Mr Google.

Fel y tybiwch, roedd Moffat yn gymeriad lliwgar a digon dadleuol ar adegau. Ond eto i gyd, roedd yn glên bob amser, yn chwifio ei law wrth wibio heibio ac yn barod ei gymwynas. Bu yn cadw ieir deeplitter ar un adeg, ac rwy’n cofio iddo ddod i Lechwedd Isa unwaith gyda’i dractor a threlar i helpu efo’r gwair. Tra’n dadlwytho, fe sylwodd fy nhad fod plu yn chwyrlïo ymhobman o gwmpas y tŷ gwair. 

Doedd hynny ddim yn plesio Dad o gwbl, a chafodd yr hen Moffat ddim gwadd i ddod yn ôl! Na, nid ffarmwr mo Moffat yn y bôn. Doedd bwydo, tipio a chneifio defaid ddim yn rhan o’i fyd, ac ymhen ychydig iawn, fe ddaeth ysfa enfawr arno eto i grwydro drachefn. Fe adawodd Cwm Teigl yn nechrau’r chwedegau. Ond nid anturiaethwr cyffredin mo Moffat chwaith, ond yn hytrach, chwip o yrrwr a pheiriannydd, arloeswr mentrus a beiddgar. Ac i brofi hynny, yn 1969, fe deithiodd dros fôr a mynydd, bryn a dôl o Brydain i Awstralia trwy Ffrainc, yr Eidal, Groeg, Twrci, Affganistan, India a chyrraedd Perth a wedyn Sydney yn ei 1928 OM Tourer Vintage. Yn ddiweddarach, fe ddaeth yn boblogaidd iawn ar draciau rasio Silverstone ac Oulton Park. Fe enillodd dros 200 o gwpanau yn ystod ei yrfa hynod o lwyddiannus.

Mae ei holl hanes ar gael ar y we ac yn ddiddorol dros ben. Hyd heddiw, rwy’n dal i gofio geiriau Mam yn fy rhybuddio pan roeddwn yn cerdded adref o ysgol Llan yn y pnawniau:

“Os wnei di glywed sŵn Lagonda Moffat ar y ffordd, cer i mewn i’r ffos neu neidia i ben y wal, mae’n beryg bywyd!!” 

[i’w barhau]

------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2021

Dyma ddywed Iwan, un o olygyddion Llafar Bro:

Braint o’r mwya fu derbyn ysgrifau gan Emlyn Williams, un o hogia’r Llan sy’n byw yn Llydaw ers dros ddeugain mlynedd. Mab i’r diweddar David Bryn a Kit Williams, Dylem, Heol yr Orsaf ydi Emlyn, a brawd mawr i Dylan.
Yn ninas Brest, sydd ym mhegwn gorllewinol Llydaw, sefydlodd ganolfan dysgu Saesneg. Wedi gyrfa hynod lwyddiannus, mae bellach wedi ymddeol. Mae’n ieithydd penigamp. Fe’i clywsom sawl gwaith yn mynegi ei farn ar radio a theledu pan fo gohebyddion Cymreig yn ceisio gwybodaeth am faterion cyfoes yn Ffrainc. Llwydda i gyfleu ei farn mewn Cymraeg naturiol, graenus. Yn ei atgofion difyr am gwm ei febyd, mae cynhesrwydd arddull i’w deimlo.

28.5.21

Chwedl Calaffate

Addasiad Cymraeg cyntaf chwedl o Batagonia, gan Lleucu Gwenllian
Gwasg Carreg Gwalch, £6.50

El que come calafate, siempre vuelve – Mae’r sawl sy’n bwyta’r calaffate, wastad yn dychwelyd.

Os ei di i’r Wladfa, rwyt ti’n siŵr o gael cynnig jam ffrwyth y Calaffate, ac rwyt ti’n sicr o weld y blodau aur tlws yn tyfu dros y paith. 

Yn ôl y sôn, caiff pawb sy’n blasu’r ffrwyth eu swyno i ddod yn ôl i Batagonia.

Amser maith yn ôl, ymhell cyn bodolaeth y Wladfa, roedd merch ifanc dlos yn byw ymysg llwyth y Tehuelche – pobl wreiddiol talaith Chubut. 

Un dydd, wrth chwilio am baent i’w nain, dyma Calaffate yn cyfarfod bachgen o lwyth y Selk’nam – gelynion y Tehuelche! 

Wrth i’r ddau sgwrsio dyma nhw’n disgyn mewn cariad, ond dydi llwybr cariad byth yn ddirwystr ...


Dyma’r addasiad Cymraeg cyntaf o’r chwedl drist o gariad, brad a thor calon, sy’n rhoi cipolwg i ni o fywyd ym Mhatagonia ymhell cyn i’r Cymry groesi’r môr yn 1865. Wedi’i anelu ar gyfer plant 7-11 oed.

Meddai’r awdur, Lleucu Gwenllian:

“Yn ôl yn 2018, cefais y cyfle i deithio i’r Wladfa am fis diolch i Ysgoloriaeth Patagonia Cyngor Tref Ffestiniog. Roedd popeth yno mor hudolus - y bobl a’u hacen Sbaeneg-Gymraeg hyfryd, y bwyd, y mynyddoedd a’r paith a’r bywyd gwyllt; ond yr hyn ddaliodd fy nychymyg oedd dysgu am y berthynas rhwng y Cymry a’r Tehuelche. Clywais y dywediad y bydd pawb sy’n blasu ffrwyth y Calaffate yn dod yn ôl i Batagonia, a gyda ‘chydig o ymchwil dois ar draws chwedl Calaffate. Yn ôl y chwedl, caiff pawb sy'n bwyta’r Calaffate eu hudo gan y tir yn yr un ffordd a gafodd y cariadon ifanc yn y stori eu hudo gan ei gilydd.”


Ychwanegodd: 

“Mae’r addasiad yma o’r chwedl wedi bod yn llafur cariad i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf - mi wnes i ddisgyn mewn cariad efo'r stori, y cymeriadau a’r diwylliant cyfoethog. Dwi wedi gwneud fy ngorau i ddod â nhw yn fyw, a dwi wir yn gobeithio y byddwch chi'n mwynhau’r chwedl gymaint â gwnes i."

Mae'r awdur a'r cyflwynydd teledu poblogaidd Bethan Gwanas wedi rhoi adolygiad hyfryd o'r llyfr ar ei blog:

"Dwi wedi dotio! Mae’r llyfr yma’n berl" meddai. "Mae’n cael ei farchnata fel llyfr i blant 7-11 oed, ond mae’n addas i bawb dros 11 hefyd yn fy marn i. Bu’r llyfr yn llafur cariad i Lleucu am ddwy flynedd, ac mae’r llafur hwnnw’n dangos, a’r cariad hefyd. Diolch am ei sgwennu a’i ddarllunio, Lleucu.

- - - - - - -

Gallwch brynu Chwedl Calaffate mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru  a gwefan y Cyngor Llyfrau,  www.gwales.com

Mae Lleucu Gwenllian yn ddarlunydd 24 oed o Flaenau Ffestiniog ac â BA mewn Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd. Gellir gweld esiamplau o’i gwaith ar ei chyfrif Instagram a Facebook @studio.lleucu. 

Mae hefyd wedi cyfrannu gwaith celf at Llafar Bro . Hi hefyd yw artist Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy, Myrddin ap Dafydd a chyfres Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel, Gwennan Evans.




25.5.21

Pytiau Plentyndod yn Llan

Cefais fy magu yn Ffestiniog, a fy mam o’m blaen. Felly, wrth ddarllen cerdd Gwaenfab am ‘Seindorf Arian Ffestiniog’ ar ddiwedd erthygl W Arvon Roberts yn rhifyn Ionawr Llafar Bro ac yn arbennig y llinell ‘Pwy arafa’r Band llawryfog?’, cofiais am y cwpled herfeiddiol byddai hi yn ei adrodd weithiau: 

Band Llan, ennill ymhob man

Band Nantlle, ennill yn unlle. 

Cafodd fy ngŵr, nad yw’n hanu o ’Stiniog, hwyl ar ei adrodd i’w gyd-athrawon mewn ysgol yn Y Rhyl. 

Ond ni fu i un o’r cwmni, brodor o Ddyffryn Nantlle, ymuno yn y chwerthin. Fel yr hen Cwîn Fictoria – he was not amused.

Roedd y cyfreithiwr (bargyfreithiwr yn ddiweddarach) John Jones-Roberts yn Llafurwr mawr. Safodd yn erbyn yr AS Rhyddfrydol Haydn Jones mewn pedwar etholiad seneddol am sedd Sir Feirionnydd yn y 1920au – yn aflwyddiannus bob tro. Soniai Mam fel y byddai rhai o blant y pentre’n cael hwyl wrth fynd o gwmpas dan lafarganu:-

John Jones Roberts forever, forever Amen;
Haydn yn y gwter a’i din dros ei ben.

Roedd ei wraig, Kate Winifred Jones-Roberts, yn amlwg ym mywyd cyhoeddus Sir Feirionnydd: ynglŷn â gweinyddu’r gyfraith ac fel aelod o’r Cyngor Sir a’i Bwyllgor Addysg, heblaw bod yn ddarlithydd yn Coleg Harlech.

Hanesyn arall gan Mam oedd am Bryfdir yn arwain cyngerdd gan y band yn yr Hall. Roedd dwy wraig yn siarad yn ddi-baid yn ystod un darn. Mae’n amlwg mai coginio oedd y pwnc dan sylw, oherwydd yn ystod ysbaid pianissimo, clywodd y gynulleidfa gyfan un ohonyn nhw’n dweud yn uchel: ‘efo saim bydda i’n ’u ffrio nhw’, ac yn yr egwyl ar ddiwedd y darn ymatebodd Bryfdir gyda’r sylw ffraeth: ‘Biti na fuasai hi wedi ffrio ei thafod hefyd’.

Soniodd Mam am gwsmer yn gofyn am fisgedi mewn siop yn Llan. Roedd y dewis yn brin ar y pryd, ac eglurodd y siopwr iddo mai ond Ryvita oedd ganddo. ‘Rai fwyta ’dw’i isho, siŵr ddyn’ atebodd yntau.

Roedd y Parchedig Edward Powell, gweinidog ifanc Capel Peniel, yn ddi-briod. Dyma’r llinellau diniwed a luniwyd iddo gan fy ewythr, William Jones, Bodawel mewn noson gymdeithasol: 

Mistar Powell yw ein gweinidog.
Gwna ei waith yn wir odidog.
Ond awgrymwn iddo welliant:
Gymryd gwraig yn Gristmas presant.

Lisa Lloyd, Yr Wyddgrug

-----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2021


22.5.21

Rhod y Rhigymwr- Iaith

Pennod o gyfres lenyddol Iwan Morgan, o rifyn Ebrill 2021

Yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddar, clywyd yr Arweinydd, sy’n Aelod Seneddol dros Ogledd-Ddwyrain Gwlad yr Haf, yn cyfeirio at y Gymraeg fel iaith estron. 

Bu’r ymateb yn chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth i’m cof innau ddyfyniad ddarllenais mewn gwerslyfr hanes yn Ysgol Tywyn yn niwedd y chwedegau- dyfyniad gan yr hanesydd o Sais, H.A.L.Fisher:

‘The Welsh had their own language and culture when the English were eating bark in the bogs of Bavaria.’

 

Mae beirdd Cymreig dros y canrifoedd wedi cyfansoddi cerddi di-ri i glodfori’r hen iaith. Diolch i’r cyfaill Gwyn Elfyn, Pontyberem am dynnu sylw ar Facebook at englyn o waith ei hen daid, mab y tyddynnwr o Gwm Croesor a dreuliodd ran helaethaf ei oes yn nhre’r Blaenau - Humphrey Jones, Bryfdir [1867-1947] a hynny mewn ymateb i sylwadau Jacob Rees-Mogg:

Iaith bur, iaith eglur, iaith hyglod, - iaith gref
Iaith â grym ddiddarfod,
Iaith wen annwyl, iaith hen hynod,
Iaith ein beirdd heb well iaith yn bod.

Englynion Gwladgarol’ a gofiaf yn cael eu cyflwyno ar gerdd dant ers talwm oedd y rhai a glywyd ar Facebook ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi eleni, a Peter Rowlands, i gyfeiliant ei wraig, Nia, gynt o’r Vanner, Llanelltyd, yn gwneud hynny mor naturiol ar yr hen gainc ‘Consêt y Siri’:
Mawryga gwir Gymreigydd – iaith ei fam,
Mae wrth ei fodd beunydd;
Pa wlad wedi’r siarad sydd
Mor lân â Chymru lonydd?

Bendith ar iaith fy mabandod, - iaith fwyn,
Iaith fy holl gydnabod;
Mae’n iaith dda, mae’n iaith i ddod
I’r nefoedd ar fy nhafod.

Un o feibion Dinbych, William Williams, Caledfryn [1801-69] ydy awdur y cyntaf, a Robert Williams, Trebor Mai [1830-77] pia’r ail o’r englynion. Wedi ei eni yn Llanrhychwyn, Trefriw, teiliwr yn nhref Llanrwst ydoedd Trebor Mai wrth ei alwedigaeth. Cofiaf ddarllen yn rhywle rywdro mai 'I am Robert' ar yn ôl oedd ei enw barddol.

Un a drigai’n yr ardal yma bedair canrif a mwy yn ôl oedd Edmwnd Prys [1544-1623]. Er iddo gael ei urddo yn offeiriad Ffestiniog a Maentwrog ym 1572, mae’n debyg mai wedi iddo ddod yn Archddiacon Meirionnydd ym 1576 y daeth i fyw i’r Tyddyn Du, Gellilydan, lle’r arhosodd hyd ei farwolaeth. Gwyddom fod Prys yn ŵr dysgedig. Mae’r dyfyniad canlynol yn tystio fod ganddo afael ar nifer o ieithoedd, ond yn datgan fod un o’r rheiny’n rhagori ar y gweddill:

Profais, ni fethais, yn faith,
O brif ieithoedd braf wythiaith;
Ni phrofais dan ffurfafen
Gwe mor gaeth â’r Gymraeg wen.

Dau o gyffiniau Llanbrynmair ym Maldwyn oedd Richard Davies, Mynyddog [1833-77] a Richard E. Jones, Glan Ednant [1852-1927]. Fel ei gyfoeswr, John ‘Ceiriog’ Hughes, [1832-87], roedd Mynyddog yn fardd poblogaidd ymysg y werin bobol. Mae rhai o’i ganeuon yn dal yn boblogaidd heddiw … rhai fel Myfanwy [a ystyrir ‘y gân serch orau’n y byd’], a’r gerdd wladgarol ysgafn, Gwnewch bopeth yn Gymraeg.

Cerdd arall o’i eiddo ydy Gwerthu’r Gymraeg [cyflwynedig i deulu Dic Shôn Dafydd]. Yn y Gymru ddwyieithog sydd ohoni, dyfynnaf yr olaf o’i phenillion:

Mae dysgu iaith y Saeson
Yn rhinwedd ymhob dyn,
Ac wrth reolau rheswm
Mae dwy yn well nag un;
Ond pam y rhaid i’r hogiau,
Wrth ddysgu newydd aeg
Fynd yn rhy falch i siarad gair
O’r annwyl hen Gymraeg?
Na wertha dy Gymraeg
Am unrhyw estron aeg;
Ti elli ddysgu iaith y Sais
A chadw dy Gymraeg.
A dyma gyngor Glan Ednant, er nad ydw i’n siŵr a fyddai Rees-Mogg yn llwyr gytuno:
Pan eloch i ffwrdd oddi cartref
I rywle na wyddoch i ble,
Siaradwch hen iaith eich cyndadau,
Ni chlywir ei gwell tan y ne’;
Oblegid mae’n well gan y Saeson
Eich clywed yn siarad Cymraeg –
‘Does dim â yn fwy at eu calon
Na’ch clywed yn mwydro eu haeg;
Siaradwch Gymraeg, siaradwch Gymraeg,
‘Does iaith ar y ddaear mor goeth â’r Gymraeg.

Ym 1892 y cyhoeddodd Syr John Morris-Jones [1864-1929] ei awdl Cymru Fu: Cymru Fydd. Dangos ei anfodlonrwydd ynglŷn â Chymru ei gyfnod a wna’r bardd gan ymfalchïo yng ngogoniannau’r gorffennol. Cyfeiria at y bonedd a drigai yma gynt ac a fyddai’n noddi ei beirdd:

Gwŷr iawn a garai’r heniaith,
Gwŷr hael a garai ei hiaith.
Ond roedd y sefyllfa erbyn cyfnod ysgrifennu’r awdl wedi dirywio’n enbyd:
Ein hiaith i’n bonedd heddyw,
Barb’rous jargon’ weithion yw,
Sŵn traws y ‘
peasant’, a rhu
I’r ‘
ignorant’ ei rygnu.

Cân wladgarol y bu llawer o ganu arni dros y blynyddoedd oedd un Eifion Wyn [1867-1926] - Eu Hiaith a Gadwant. Mae pendantrwydd hon yr un mor gyfoes o hyd:

Gwnawn, ni a’i cadwn. Os aed â’n gwlad,
Nid aed â’n heniaith oddi ar ein had;
A mefl ar dafod yr unben rhaith
A’i gwnelo’n gamwedd in garu ein hiaith.
O fannau Epynt i fannau Llŷn,
Mynnwn gael siarad ein hiaith ein hun.

Canodd W. Rhys Nicholas [1914-96], y barddbregethwr a’r emynydd oedd yn enedigol o Ogledd Penfro gerdd brydferth i’r Iaith Gymraeg:

Ti sy’n fy rhwymo wrth y tiroedd mwyn
Ac wrth dreftadaeth na all neb ei dwyn;
Dy briod-ddulliau sydd fel clychau clir
I’m galw’n daer at wleddoedd bras fy nhir …

Ti sy’n trysori rhin y dyddiau gynt
A’r hoen sydd heddiw’n afiaith yn y gwynt;
Os bydd fy sêl i’th arddel ‘fory’n llai,
Maddeued Crëwr pob rhyw iaith fy mai.

A dyma roi’r gair olaf i Roger Jones [1903-82], bardd-bregethwr arall ac englynwr sicr ei drawiad o Roshirwaun, Llŷn. Dyma fel y canodd yntau i’r Iaith Gymraeg:

Iaith fy nghân, iaith fy ngeni, - iaith olau,
Iaith aelwyd a chwmni;
Iaith ddi-nam fy mam i mi,
Iaith gyhoeddus, iaith gweddi.

19.5.21

Stolpia- Lefel A i'r Pympiau

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain: Atgofion am Chwarel Llechwedd yn y 60au

Cofiaf am un tro arall yn yr eira a'r rhew, ac yn helpu Emrys, fy mos, i drwsio un o'r peipiau awyr a fyddai ar fath o drestl ar Bonc Rhif 6, a chan bod cryn dipyn o waith arni hi, bum yn sefyll mewn dŵr rhewllyd am sbelan. 

Erbyn inni orffen atgyweirio'r beipen roeddwn wedi fferru ac erbyn y noson honno roeddwn mewn loes a'r ddwy ochr uwchlaw'r ddwy glun imi yn boenus iawn. Mynd i'm gwely a photeli dŵr poeth i geisio lleddfu'r boen ond nid oeddwn dim gwell erbyn y bore drannoeth. Roeddwn yn dal mewn gwayw, ac o ganlyniad, galwyd ar y doctor i ddod i'm gweld , ac ar ôl cael fy archwilio ganddo, deall fy mod wedi cael oerfel ar fy arennau. 

Gorfod aros adre o'm gwaith oedd fy hanes, wedyn, a  hawlio yswiriant, ond y dyddiau hynny, nid oeddech yn cael eich cyfrio am y tridiau cyntaf. Felly, gorfod byw yn gynnil am yr wythnos a hanner y bum adref. Mor wahanol yw pethau y dyddiau hyn, ynte?

LLUN- Emrys Williams,Trydanwr a Ffitar Chwarel Llechwedd (o gasgliad yr awdur)

Ar adegau, byddai'n ofynnol i'r ffitars wneud rhyw joban yn rhannau tanddaearol y chwarel a bum gydag Emrys sawl tro i lawr yn 'ystafell y pympiau' yng ngwaleod Inclên Sinc Mynydd. Pa fodd bynnag, roeddwn yn digwydd bod wrth Bonc yr Offis un prynhawn a daeth galwad imi fynd i lawr i'r pympiau i gynorthwyo Robin George Griffiths (gof) a weithiai yno y diwrnod hwnnw a phan oeddwn am ei throedio i fyny i fynd yno y ffordd yr oeddwn wedi arfer, dyma  Bleddyn Williams (Conglog) y Stiwart yn dweud wrthyf   "Pam a wnei di ddilyn ffos yr 'A'  i fynd yno ? " - (sef y ffos a gludai'r dŵr o'r pympiau i'r afon yng ngodre'r domen ger Pant yr Afon). Dyma finnau yn ei ateb   "Dwi ddim di bod ffor' na o'r blaen". 

"Y mae hi'n ddigon hawdd wsti, dim ond cerdded hyd y lefel efo ochr y ffos sy'n rhaid iti " meddai.   "Iawn" , meddwn innau, ac ar ôl cael benthyg lamp, dyma ei throedio hi wedyn i berfeddion y ddaear gyda'r lamp yn un llaw a'r stilson yn y llaw arall. 

Wedi mynd am tua chwarter awr hyd ochr y ffos dyma ddod ar draws 'cwymp', h.y. roedd rhan o'r graig wedi dod i lawr yn un swp i ganol y lefel. Gan imi feddwl mai digwyddiad diweddar oedd y rhwb (sef y cwymp) dyma'r galon yn dechrau curo yn gyflymach, ac ychydig o banig yn dod trostof, ac fel yr oeddwn am ei heglu hi yn fy ôl y ffordd y deuais, dyma sylwi bod twll cul ar ben y cwymp ac ôl traed ar rannau ohono. Mentrais ychydig iddo a gwelwn ei bod yn glir y tu draw iddo, a mwy na hynny, gallwn glywed sŵn y pympiau yn y pellter.

Brasgamais wedyn nes cyrraedd y lle ac ar ôl gwneud y joban, penderfynais mai mynd i fyny yn ôl hyd  Inclên Sinc Mynydd oedd orau, er bod honno yn un faith. Dyna'r unig dro imi gerdded ar hyd Lefel yr 'A' i'r pympiau a  gwell oedd gennyf fynd yno y ffordd yr oeddwn wedi arfer a gwneud.

LLUN- Ponc yr Offis ac Injian Isaf Chwarel Llechwedd yn yr 1950au, o gasgliad yr awdur.

------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2021



17.5.21

Twmffat- Tywysogion Cymru!

Yn gynharach eleni, cafodd Oes Pys, albym newydd Twmffat, y supergrŵp o ardal Stiniog ei ryddhau ar label Recordiau Sbensh ac ar yr un noson cafwyd parti gwrando drwy ryfeddod technoleg fodern a’i ddarlledu ar dudalen Facebook y grŵp. 

Twmffat yw casgliad o gyn aelodau bandiau megis Anweledig ac Estella o dan arweinyddiaeth yr enigma (fel y galwyd ef mewn erthygl ddiweddar), Ceri Cunnington.

Dyma’r 3ydd albym i’r band ei ryddhau wedi Myfyrdodau Pen Wŷ (2009) a Dydi Fama’n Madda i Neb (2012) a’r deunydd llawn cyntaf iddynt ryddhau ers yr EP, Tangnefedd yn 2014. Fe recordiwyd yn Stiwdio Cefn Cyffin, Llanfrothen, sef stiwdio drymiwr y band a’r cyn aelod o Maffia Mr Huws, Gwyn Jones. 

Y bwriad gwreiddiol nôl yn Hydref 2019 oedd i greu “casgliad o ganeuon pop llon hapus i ddathlu cyrraedd canol oed” - ond, gyda Brexit a’r pandemig yn codi ei ben yn y cyfamser a chyflwyno’r ‘normal newydd’ i’n bywydau, daeth terfyn ar y syniad yma a rhaid oedd dychwelyd i’r fformiwla llwyddiannus o’r albyms blaenorol. Ceir yma yn lle “13 o ganeuon amrwd ac onest i gofnodi’r cyfnod gwallgof yma”, ac yn ôl rheolwr Sbensh, Gai Toms, dyma’r albym gorau y mae’r band wedi ei ryddhau ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno’n llwyr efo fo. 

Cyn rhyddhau’r albwm, daeth cyngor gan Ceri ynglŷn â sut i wir fwynhau’r casgliad yma: “Gwrandewch ar ‘Oes Pys’ drwyddi draw efo headffons, mewn stafell dywyll, a chan o Special Brew” – ac felly, dyna’n rhannol wnes i, gan anelu am stafell dywyll a rhoi’r headffons ymlaen i fwynhau’r daith o’r Lockdown Rockdown i daith Am Dro Yn Y Coed ar Ddiwrnod Braf-ish.  Mae’n deg dweud fod y canllawiau yma wedi ychwanegu mwynhad ychwanegol i’r daith gerddorol yma, ond dwi’n eitha sicr y byddai’n swnio gystal yn dod allan o seinydd yn y gegin, ystafell fyw neu’r ardd! 

Twmffat (Llun o'u tudalen ffesbwc)

Mae’r ardal hon yn cael ei hadnabod fel un sy’n llawn beirdd a llenorion a dwi’n grediniol y dylid ychwanegu enw Ceri Cunnington i’r rhestr hon, gan ei fod o wir yn meddu ar ddawn geiriol arbennig sydd wedi creu sawl clasur dros y blynyddoedd - ceir traciau fel Byd Mawr Sgwâr a Cae Chwara sydd yn ein cludo ni nôl i’r dyddiau da ble roedd Anweledig yn ei hanterth. 

Efo sefyllfa’r byd fel mae hi ar hyn o bryd, byddwn i’n argymell i chi ddefnyddio’r platfformau ffrydio i wrando ar y gampwaith hon – ond, unwaith y bydd y siopau yn cael ail-agor, mynnwch gopi o Oes Pys!

RhM
-----------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2021



15.5.21

Ysgoloriaeth Patagonia 2021

Noson Gŵyl Ddewi, Mawrth 1af, oedd noson dyfarnu ysgoloriaeth Patagonia. Ond eleni roedd pethau
ychydig yn wahanol ac fe drefnwyd y noson, dan gadeiryddiaeth y Cynghorydd Glyn Daniels, dros Zoom ac yn rhithiol felly ymunodd nifer o bobl yn y gweithgareddau, a rhai yn ymuno’n fyw ym Mhatagonia. 

Dyna ryfeddod y Zoom ‘ma, galluogi pobl na fedrant fod yno mewn person, i fedru bod yno yn rhithiol a chael yr un fantais ac unrhyw berson oedd yn ymuno yn Stiniog! Cafwyd beirniadaeth y pedwar beirniad sef Nans Rowlands, Ceinwen Humphreys, Anwen Jones a Tecwyn Vaughan Jones a chyhoeddwyd Gari Wyn Jones fel yr enillydd eleni.

Mae Gari yn 26 oed ac yn gyn ddisgybl Ysgol Manod ac Ysgol y Moelwyn ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cymhorthydd Dosbarth yn Ysgol y Moelwyn. Mae’n hoff o gerdded y  mynyddoedd a rhedeg yn ogystal â theithio pan gai gyfle. 

 

Meddai: "Dw i’n edrych ymlaen gymaint i gael ymweld â Phatagonia ac ymweld â rhai o’r ysgolion yno". 

 

Bwriad Gari yw mynd yno tua diwedd y flwyddyn hon (yn ddibynnol ar reoliadau COVID wrth gwrs), ond does ond gobeithio y bydd pethau wedi llacio dipyn erbyn hynny os nad wedi eu dileu yn llwyr - pwy a ŵyr ar hyn o bryd!

 Mae Gari’n dilyn y pum enillydd blaenorol, pedwar ohonynt eisoes wedi ymweld â Phatagonia ac oeddynt yn lysgenhadon gwych i’r ardal hon.

2016 Maia Jones
2017 Elin Roberts
2018 Lleucu Gwenllian
2019 Mark Wyn Evans
2020 Hanna Williams
2021 Gari Wyn Jones 

Nid yw Hanna wedi medru gwneud y siwrnai eto oherwydd y rheolau COVID, ond gobeithio y medr hithau deithio yno eleni neu ddechrau flwyddyn nesaf, fel Gari.

Rhan bwysig o’r noson oedd cyfle i weld y ffilm wych a wnaeth Mark Wyn Evans ar ei ymweliad yno yn 2019. Roedd pawb wedi dotio at y ffilm hon* ac mae hi’n wirioneddol wych a llongyfarchiadau mawr i Mark ar y cysylltiadau a wnaeth gydag awdurdodau tref Rawson.

Mae’r Ysgoloriaeth yn ganlyniad i’r trefeillio rhwng y Blaenau a Rawson ym Mhatagonia a ddigwyddodd saith mlynedd yn ôl erbyn hyn. Mae’r Ysgoloriaeth yn gyfyngedig i rai sy’n byw o fewn ffiniau Cyngor Tref Ffestiniog, neu sydd a’u cyfeiriad cartref yma, ac sydd hefyd rhwng 16 a 30 oed.

Noddir yr Ysgoloriaeth gan y Cyngor Tref ac mae werth £2000, sydd yn swm anrhydeddus wrth gwrs yn galluogi’r enillydd i ymweld â Phatagonia a chyflawni gofynion yr Ysgoloriaeth - neu mae’n mynd yn bell iawn i helpu i wneud hynny! Mae ysgoloriaeth fel hon, sy’n unigryw ymysg cynghorau cymuned a thref Cymru yn rhywbeth ardderchog ac yn tystio fod y Cyngor yn buddsoddi yn y berthynas sy’n dechrau blodeuo rhwng y ddwy dref.

Mae’r Ysgoloriaeth yn anelu at gael pobl ifanc lleol i feithrin perthynas hir dymor gyda’r Wladfa ac i sicrhau fod ein cymuned ni yma yn elwa o’r berthynas hon ac nid rhyw berthynas farw fydd hi, elwa’n ddiwylliannol os nad yn y pendraw ar lefel busnes - pwy a ŵyr be fydd posibiliadau'r dyfodol. 

TVJ

---------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2021

* O 'Stiniog i Rawson- hanes Mark, a'i ffilm.

Diolch Stiniog; Gracias Rawson- hanes Lleucu.

Dathlu Dau Ddiwylliant- hanes Elin.


13.5.21

Ymchwil Cymunedol Bro Ffestiniog

Blog-bost gan Gwmni Bro Ffestiniog

Mae Cwmni Bro'n chwilio am farn pobl yr ardal am ein cymuned: 

Beth sydd o bwys?  Beth sydd, neu sydd ddim, yn gweithio?

Dros y misoedd nesaf, bydd ymchwil yn cael ei gynnal ym Mro Ffestiniog i siapio blaenoriaethau datblygiad cymunedol. 

Mae holiadur wedi ei gydlynu gyda chefnogaeth gan Gyngor Gwynedd, ac wedi ei gynllunio gan dîm arbennigol:

 

Yr Athro Karel Williams a’r Athro Julie Froud, o Ysgol Fusnes Prifysgol Mancenion, sydd yn arweinwyr ym maes astudiaeth o’r economi sylfaenol ac wedi bod yn allweddol wrth ddylanwadu ar academyddion, llunwyr polisi a'r Llywodraeth yng Nghymru. Aelodau eraill o'r tîm cydweithredol ydi Dr. Lowri Cunnington, Prifysgol Aberystwyth; ymchwilwyr Cyngor Sir Gwynedd; Cyngor Tref Ffestiniog; Arloesi Gwynedd Wledig; gweithwyr datblygu Cwmni Bro Ffestiniog ac, yn bwysicaf oll, pobl Bro Ffestiniog.

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, gwnaeth y tîm ymchwil drwy holiadur ar-lein i ddarganfod ymateb y gymuned i’r pandemig. Roedd y cwestiynau’n holi trigolion am eu pryderon ynglyng â sut byddai’r argyfwng yn effeithio eu cymuned, yr economi a’u cymdogion.

I ddarllen mwy am ganlyniadau’r darn cyntaf o ymchwil cymunedol, dilynnwch y ddolen yma:
Cymuned a Chorona


Prif bwrpas yr ymchwil newydd ydi deall natur ein cymuned a'r economi, er mwyn teilwra datblygiadau'r dyfodol yn ôl y galw. Bydd y canlyniadau’n galluogi i Gwmni Bro a mentrau cymunedol eraill y gymuned ddatblygu prosiectau a newidiadau sydd wir o bwys i’r gymuned.

Bydd yr ymchwil yma hefyd yn wers sy'n berthnasol i ddealltwriaeth datblygiadau cymunedol drwy Wynedd a Chymru, yn enwedig ym maes yr economi sylfaenol.

Plîs llenwch yr holiadur drwy ddilyn y ddolen, a'i rannu’n eang gyda’ch teulu a ffrindiau.

Diolch.


11.5.21

Y Gwcw a Choel Gwlad

“Fy amser i ganu yw Ebrill a Mai
a hanner Mehefin chwi wyddoch bob rhai”

Erthygl o rifyn Mehefin 2020 gan Tecwyn Vaughan Jones

I nifer fawr o bobl mae’r gwanwyn yn dechrau unwaith y clywir y gog neu’r gwcw’n canu, ac yn ôl tystiolaeth o’r ardal, bu’r gog yn ffyddiog iawn yn y cyffiniau hyn eleni. Yn wir, sonnir fod nifer o gogau i’w clywed yn canu’r un pryd ac amryw wedi gweld y gog hefyd. Roedd sôn fod y gog yn araf ddiflannu o’r tir gan gyn lleied oedd yn ei chlywed yn canu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly braf oedd clywed am ei hynt yn yr ardal eleni. [Ond dylid nodi tystiolaeth adarwyr fod nifer y cogau wedi lleihau dros 40% yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf].

Bydd amryw yn disgwyl yn eiddgar i’w chlywed, ac mae llên gwerin yn ein cynghori i gario arian yn ein poced. Pan glywn y gwcw’n canu am y tro cyntaf, rhaid rhoi tro i’r arian sydd yno. O ganlyniad, byddwn yn gyfoethog am weddill y flwyddyn! Gwell fyth fyddai inni godi’r arian o’n poced a phoeri arno! 

Llun gan chris_romeiks trwy Gomin Wikimedia

Yn y pedair blynedd diwethaf, y lle cyntaf yn yr ardal i mi glywed y gog yn canu oedd Cwm Teigl, a bob tro, roedd ei sŵn yn cyrraedd o wahanol gyfeiriad. Dw i’n siŵr fod y gog arbennig yma yn anelu at Gae Canol Mawr gan mai yn fanno y byddaf yn ei chlywed.

Mae sôn fod y llonyddwch mawr sydd wedi disgyn dros y wlad, a phawb ohonom dan gyfyngiadau’r llywodraeth yn hunan-ynysu - (clywais rywun yn defnyddio'r gair ardderchog ‘meudwyo’ am yr hunan-ynysu) - wedi rhoi hwb i fywyd gwyllt a natur yn gyffredinol. Cododd y tarth llygredd o’r dinasoedd, ac yn nistawrwydd cefn gwlad, clywir yr adar yn canu o ddifri a nifer yn sôn am glywed côr y wig o’r newydd bob bore. Mae’r distawrwydd wedi dod â nifer o synau i’n clyw – rhai yr oeddem wedi anghofio amdanynt mae’n ymddangos! A rhyfedd pa mor sydyn mae natur yn ymgynefino â newid …mae adar ac anifeiliaid i weld yn llawer mwy powld y dyddiau hyn fel pe baent yn synhwyro fod rhywbeth mawr wedi mynd o’i le ymysg y ddynol ryw … cofiwn am gampau geifr y Gogarth yn Llandudno yn difa gerddi tai na welodd eifr erioed o’r blaen!

Mae gan y gog, fel y gŵyr pawb, strategaeth fridio grefftus. Yn hytrach nag adeiladu eu nythod eu hunain, mae’r cogau yn defnyddio nythod adar 'lletyol', megis llwyd y gwrych a chorhedydd y waun. Pan fydd cwcw benyw yn canfod nyth addas, a'r perchen yn absennol, mae’n bwrw un o'r wyau dros ochr y nyth ac yn dodwy un yn ei le!

Mae’r cyw gog yn deor o fewn 12 niwrnod ac yn gwthio wyau neu gywion eraill allan o'r nyth bron yn syth. Ar ôl 19 diwrnod, mae'n gadael y nyth, ond deil y rhieni i'w fwydo am bythefnos arall, ac erbyn hynny, mae wedi tyfu'n llawer mwy na’i riant.

Mae cogau (yr oedolion felly) ymhlith y cynharaf o'n hymwelwyr haf i adael. Does dim angen iddynt fagu cywion, ac felly maen nhw'n rhydd i fynd. Mae'r rhan fwyaf yn gadael Cymru yn ystod mis Mehefin. Bydd y cyw gog yn gadael yn nes ymlaen. Wrth gwrs, ni fydd y rheini byth yn gweld eu rhieni.

Mae Ymddiriedolaeth Adar Prydain (BTO) wedi bod yn olrhain llwybr mudo’r gog ers 2011. Gwyddys bod cywion cogau yn treulio misoedd y gaeaf yng nghanolbarth Affrica. Maen nhw'n dilyn llwybr mudo gwahanol yn yr hydref i'w taith yn y gwanwyn, ac mae llefydd i stopio i orffwys a bwydo - yn Ewrop ac Affrica yn rhan bwysig o daith ymfudol y gog.

Yn ôl llên gwerin, ystyrir y gog fel aderyn lwcus yn gyffredinol, a cheir coel mai ar y 14eg Ebrill y bydd yn cyrraedd Cymru - ac mae’r goel hon yn amrywio rhwng pedair ac wyth niwrnod - dibynnu pa ran o’r wlad yr ydych yn byw! Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gog wedi tueddu i gyrraedd pum diwrnod yn gynt nag arfer, sy'n debygol oherwydd newid hinsawdd. Ers blynyddoedd, bu’n arfer sgwennu llythyr i bapur newydd The Times i weld pwy sydd wedi clywed y gog gyntaf, a hwyrach y byddai cael gwybodaeth am gyrhaeddiad y gog yn y parthau hyn yn ddifyr i ddarllenwyr Llafar Bro ... ymhle y clywyd y gog gyntaf yn yr ardal eleni tybed?

Yn ogystal â’r goel sy’n gysylltiedig â chael arian yn eich poced, sut bynnag f’och iechyd yn ystod yr  amser y byddwch yn clywed y gwcw am y tro cyntaf, tebygol y bydd yn parhau felly drwy’r flwyddyn. Dylech, yn ogystal, wneud dymuniad, ac mae coel werin yn sicrhau fod pob dymuniad yn cael ei wireddu! Ers canrifoedd, tadogwyd nifer o ystyron i ganiad y gog. Os ydych yn ifanc, yna mae'r nifer o weithiau y clywch y ‘cw-cw’ yn nodi’r dyddiau, misoedd neu flynyddoedd tan y byddwch yn priodi; os ydych eisoes yn briod, mae’n dynodi dyfodiad eich plentyn cyntaf/nesaf; ac os ydych hen, bydd yn nodi faint o amser y byddwch fyw!

Yn ôl coel werin, mae’r gwcw yn cadw’n rhy brysur i wneud nyth ac felly yn bwrw ei wyau i nythod adar eraill.

Yng Nghymru, credir ei bod yn anlwcus i glywed yr alwad gyntaf cyn Ebrill 6ed, ac os caiff ei glywed ar 28ain Ebrill, bydd y flwyddyn ganlynol yn un lewyrchus iawn. Ystyrid hi’n anlwcus i glywed y gog pan fyddwch yn dal yn y gwely, ond yn arwydd o lwc dda os clywir hi yn yr awyr agored, yn enwedig os ydych chi'n sefyll ar dir glaswelltog! Mae clywed yr aderyn ym mis Gorffennaf yn cael ei ystyried yn anlwcus iawn, gan y dylai’r aderyn erbyn hynny fod wedi gadael y wlad am diroedd cynhesach. O glywed caniad y gog am y tro cyntaf i’r dde ohonoch, yna anlwc, a’r gwrthwyneb, os clywir hi’n canu i’r chwith.

Cysylltir canlyniad clywed y gog yn canu am y tro cyntaf yn ogystal gyda’r arfer o ramanta yng Nghymru ... hynny yw, ymhél â phob math o arferion neu ddefodau i geisio darganfod pwy fydd eich cariad neu’ch gŵr neu wraig! Os ydych yn ddyn, yna dylech dynnu esgid pan glywch ganiad y gog ac edrych y tu mewn iddi. Os cewch hyd i wallt, bydd hwn yn arwydd o liw gwallt eich partner.

Ers talwm, cysylltid rhyw goel efo nifer fawr o achlysuron neu ddigwyddiadau, ac yn sicr, roedd clywed y gog am y tro cyntaf yn destun sgwrs a gobaith i bawb. Roedd y gwanwyn wedi cyrraedd, a gellid rhoi heibio holl bryder y gaeaf a throi golygon at adfywiad natur o’n cwmpas a gwres yr haf!

Tecwyn Vaughan Jones