24.1.22

Melin Maenofferen

Mi gofiwch erthygl, efallai, yn rhifyn Gorffennaf 2021 ar ddyfodol y felin eiconig yma. Roedd Llafar Bro yn adrodd bod un o is-gwmnïau Llechwedd wedi cael grant sylweddol ym mis Mai i archwilio posibiliadau datblygu Melin Maenofferen, gyda chanolfan weithgareddau i ymwelwyr yn un syniad. 

Cafwyd addewid y byddai’r gymuned yn cael cyfrannu syniadau ar be hoffai bobl leol weld yn digwydd yno, ac roedd Cwmni Bro Ffestiniog wedi cynnig hwyluso’r ymgynghoriad, ond heb glywed yn ôl gan neb. 


Mi gymrodd tan Tachwedd i Llafar Bro gael unrhyw fanylion pellach trwy ymholiadau efo cwmni Greaves. Meddai datganiad ar eu rhan (cyfieithiad):

“Mae llawer o ymdrech wedi mynd i arolygu’r adeiladau, yn arbennig prif strwythur y felin, ac rydym yn trefnu arolygon pellach i weld lle mae angen cryfhau’r adeilad. Byddwn wedyn yn gweithio efo awdurdodau lleol a chenedlaethol i godi arian er mwyn gwarchod y felin rhag dirywio ymhellach. Rydym yn cynghori’r cyhoedd i gadw allan o’r adeiladau oherwydd eu cyflwr, ac mi fyddwn yn codi arwyddion rhybydd dwyieithog ar y safle. Bûm yn diweddaru LleChi am y broses ac mi fyddwn yn parhau i wneud hynny. Gobeithiwn fynychu cyfarfod y cyngor tref ym mis Rhagfyr hefyd er mwyn diweddaru’r gymuned ar y gwaith ac am gynlluniau i’r dyfodol. Os hoffai unrhyw un yn y gymuned rannu barn neu awgrymiadau am y gwaith ym Maenofferen, mae croeso i chi gysylltu ag adam@ jwgreaves.co.uk”

Mi gysylltodd Llafar Bro wedyn yn annog y cwmni i wahodd pobl Stiniog i sesiwn alw-i-mewn yn y dref, a’u hatgoffa o gynnig hael Cwmni Bro i hwyluso, ond ni chafwyd ymateb.

Yn y pendraw swyddog LleChi Cyngor Gwynedd sydd wedi darparu’r wybodaeth gliriaf hyd yma am be sy’n dod nesa, er nad oes dyddiad eto!

“Mae trefniadau ar y gweill i gynnal cyfarfod rhwng y Cynghorydd Erwyn Jones a Llechwedd i drafod melin Maenofferen, a bydd cyfle i’r grŵp LleCHI lleol (cynrychiolaeth o’r gymuned ee Cwmni Bro, Cymdeithas Hanes, Antur Stiniog, Aelodau Lleol, Llechwedd, Gwasanaeth ieuenctid, CellB, Cyngor Tref) fod yn rhan o'r cyfarfod hwnnw. Pwrpas y cyfarfod fydd trafod sut i fynd ati i gael mewnbwn lleol i’r trafodaethau ar ddyfodol y Felin.”
Golau ym mhen draw’r twnnel felly, efallai. Gwyliwch y gofod gyfeillion; mae’n bwysig i bobol Bro Stiniog gael cyfrannu at sut fydd y felin yn cael ei datblygu er budd y gymuned leol.

 


Celfi ac Offer Billy Rice
Bu Llafar Bro yn gohebu efo cwmni Greaves hefyd ynglŷn a’r wybodaeth a gafwyd yn rhifyn Hydref 2021, bod lathe a chelfi eraill o eiddo’r diweddar grefftwr lleol wedi eu rhoi yn rhodd i Llechwedd, ond na wireddwyd y bwriad o’u harddangos yno.

Fe gafwyd ymateb prydlon ddiwedd mis Hydref yn gaddo gwneud ymholiadau a chysylltu’n ôl mewn da bryd ar gyfer rhifyn Tachwedd. Ond er i ni eu hatgoffa eto cyn dyddiad cau rhifyn Rhagfyr- ni ddaeth ymateb pellach cyn i ni fynd i’r wasg. Aros ydan ni hyd heddiw (24 Ionawr 2022)
PW

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2021

 

23.1.22

Awydd helpu eich papur bro?

Wedi wynebu sawl problem yn ystod y cyfnod argyfwng hwn, rydym fel papur bro yn awyddus i sicrhau dyfodol Llafar Bro

Oherwydd i werthiant y papur ostwng yn ystod y cyfnod, a’r costau argraffu godi, mae’r pryderon yn cynyddu am y ffordd ymlaen. Er i’r rhoddion hael ddaw i’r coffrau gan ddarllenwyr cefnogol yn rheolaidd ysgafnhau’r baich ariannol arnom, mae angen syniadau newydd. 

 

Un cynnig a ddaeth gerllaw yn ein pwyllgor diwethaf oedd y dylid ceisio perswadio rhywun i fod yn swyddog codi arian, neu Fundraiser yn yr iaith fain. Rhywun gyda syniadau ar sut i drefnu digwyddiadau megis cyngerdd, gig, ocsiwn neu unrhyw achlysur ddaw â’r gobaith am ddyfodol llewyrchus eich hoff bapur bro yn nes. 

Os oes unrhyw un a fyddai’n barod i wirfoddoli i gymryd y cyfrifoldeb am lenwi swydd newydd fel Swyddog Codi Arian ar gyfer Llafar Bro, a fyddech gystal â chysylltu -dros facebook, neu twitter, trwy e-bost, dros y ffôn, neu os gwelwch unrhyw un sy’n gwirfoddoli eisoes fel swyddogion! 

Bydd croeso twymgalon yn eich disgwyl! Diolch.

 

20.1.22

Ymweliad Esgobol

Roedd Dydd Sadwrn, Hydref yr 8fed, yn ddiwrnod arbennig ac arwyddocaol iawn i gymuned Eglwys Uniongred Holl Saint Cymru yn y Manod. Y bore hwnnw daeth esgob newydd yr eglwys – Ei Ras Yr Esgob Matthew, i ymweld â’i braidd newydd am y tro cyntaf. 


Yr Esgob Matthew yw esgob Swrozh, sef y rhan honno o’r Eglwys Uniongred Rwsiaidd sy’n cynnwys ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Swrozh yw enw hen esgobaeth fu ar benrhyn y Crimea ar lan y Môr Du. Yn ddiddorol i ni yn y Blaenau felly, mae Eglwys Holl Saint Cymru, sydd cwta dair milltir o fwlch y ‘Crimea’, yn rhan o esgobaeth sydd wedi ei henwi ar ôl dinas ar benrhyn y Crimea. Yr hyn sy’n gwneud y cyswllt yn fwy diddorol fyth yw diddordeb mawr yr Esgob Matthew yng Nghymru, ac yn hen Saint Cymru.

Cyfarchwyd yr Esgob Matthew yn Gymraeg wrth ddrws yr eglwys gan Mrs Nita Thomas a gyflwynodd iddo’r rhoddion traddodiadol o fara a halen. 

Croesawyd ef wedyn yng ngorllewin yr eglwys gan y clerigwyr. Yna aeth yr Esgob rhagddo i weinyddu’r Offeren Ddwyfol, a chyda’r ddau offeiriad a’r diacon hefyd yn gwasanaethu, roedd yn gyfle hyfryd a bendithiol, ac yn brofiad newydd i lawer o’r gynulleidfa, i addoli o dan arweiniad gweinidogaeth driphlyg y Testament Newydd o esgobion, offeiriaid a diaconiaid. 

 

Roedd is-ddiacon o gadeirlan Esgobaeth Swrozh yn cynorthwyo yn y gwasanaeth hefyd. Defnyddiwyd pedair iaith – Cymraeg, Saesneg, Rwmaneg a Hen Slafoneg Eglwysig, sef iaith litwrgaidd sy’n gyffredin i nifer o wledydd dwyrain  Ewrop.

Mae hi’n sawl blwyddyn ers i esgob Uniongred ymweld ddiwethaf ag ardal y Blaenau, a rhaid bod degawd a mwy wedi mynd heibio ers i esgob weinyddu’r Offeren Ddwyfol yn Eglwys Holl Saint Cymru. Roedd yr achlysur hwn yn un o lawenydd mawr felly, a thrwy’r esgob, yn amlygiad ac yn ymgorfforiad o’r cwlwm sy’n cydio cynulleidfa Eglwys Holl Saint Cymru yma ym mherfeddion gogledd Cymru ag eglwysi Uniongred eraill ym mhedwar ban byd. 

Ar ôl yr Offeren Ddwyfol, cyflwynwyd llyfrau ar agweddau ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn anrhegion i’r Esgob, ei gyd-glerigwyr a gwesteion eraill o Esgobaeth Swrozh oedd yn ymweld. Fe’u gwahoddwyd wedyn i’r Bryn Arms yng Ngellilydan am ginio a oedd yn wirioneddol flasus. 

Rydym yn cwrdd bob Sul am 10:30 y bore i ddathlu’r Offeren Ddwyfol (yr Ewcharist – Gwasanaeth y Cymun Sanctaidd). Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni.
Glyn Lasarus Jones

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021


16.1.22

Stolpia- Twll Tarw

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Gan fod fy ngwaith fel ffitar yn gallu amrywio o ddydd i ddydd y pryd hynny, deuthum i wybod am lawer man o fewn Chwarel Llechwedd. Un o’r lleoedd cyntaf imi glywed amdano oedd ‘Twll Tarw’, sef twll tebyg i siafft a oedd nid nepell o ben Inclên y Bôn, y soniwyd amdani o’r blaen. Cysylltai’r twll â lefel fach (twnnel) a ddeuai allan ar ochr yr inclên. 

Gan mai fi oedd yr ieuengaf, ac o bosib yr ystwythaf o’r criw, gofynnwyd imi un diwrnod a fuaswn yn dringo i lawr y twll ar raff i drwsio un o’r peipiau awyr a oedd wedi dechrau gollwng. Ar ôl hel popeth at ei gilydd, dringais i lawr y twll, a thua hanner ffordd i lawr, gosodais greffyn ar dwll yn y beipen a gorffen y job. Gwelais fod y rhaff yn ddigon hir, a gwaeddais ar y dynion i’m gollwng i waelod y twll ac i’r lefel islaw.

Ychydig wedyn, wrth ein bwrdd bwyd yn ‘Caban y Black Gang’ holais Emrys, fy mós, a oedd wedi bod yn gweithio yno am flynyddoedd lawer, sut y derbyniodd y twll hwn ei enw? Atebodd yntau, gan ddweud i darw syrthio i lawr iddo rywdro. Ymhen blynyddoedd wedyn trawais ar yr hanes yn un o bapurau newydd Cymru. Dyma hi’r stori gyfan o’r Rhedegydd, 3 Ebrill 1909 gydag ychydig o ddiweddaru:

Tarw Gwyllt yn Lladd ei Hun

Magodd Mr William Owen, Penrhiw, Dolwyddelan, darw oedd yn tynnu sylw'r wlad fel un o'r eidionnau gorau a welwyd yn y plwyf ers blynyddoedd. Gwerthodd ef am ugain punt i Mr Albert Roberts, cigydd, Blaenau Ffestiniog. Bore dydd Mawrth deuwyd ag ef dros Fwlch y Gorddinen i'w berchennog Mr Roberts. 

Tarw Rhydygro. llun o gasgliad yr awdur

Daeth yn hwylus a didramgwydd hyd nes cyrraedd gyferbyn a phen Newboro Street, pan ddechreuodd fynd yn aflonydd, a throes yn ei ôl er gwaethaf pawb am Church Street ac am y Rhiw. Cafodd ar y Llinell Gul wrth y Dinas, a rhedodd i fyny'r Incline o Pantyrafon i Chwarel y Llechwedd. Yn y chwarel yr oedd pawb yn rhedeg am gysgod, yntau yn myned yn ei flaen nes cael ei hun mewn cwt ar ben un o'r dyfniau. Caewyd y drws arno yn y fan honno, ac oddi allan yr oedd sŵn y compressor a nifer o hogiau. Bu i un o'r hogiau edrych i mewn trwy'r ffenestr. Ac ar hynny neidiodd y tarw trwodd allan. 

Yr oedd y lle mor gyfyng â'r anifail mor fawr fel y codid y to wrth iddo neidio o'r cwt. Yr oedd y lle wrth y cwt mor gul ar ôl dod allan fel nad allai droi ynddo, ac o'i flaen yr oedd mab Mr William Davies, Cariwr, yr hwn a fethodd ddianc fel y bechgyn eraill i ben y cwt. Rhoddodd y tarw ei gorn tano gan ei luchio i fyny yn sydyn, a disgynnodd i lawr i'r dyfn islawr, yn ffodus, ar ei draed, neu gallasai'r codwm fod yn angheuol iddo. Gan nad allai'r tarw droi yn ei ôl, disgynodd yntau i'r dwfn gan chwilfriwio ei esgyrn. 

Lladdwyd ef, ac anfonwyd ei gorff i Ynysfor yn fwyd i'r helgwn. Da gennym ddeall nad yw'r bachgen wedi ei anafu yn drwm er ei fod yn dioddef yn fawr oddi wrth yr ysgydwad a gafodd. Mae cydymdeimlad yr holl ardal a Mr Albert Roberts yn wyneb y golled a gafodd.

- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021



12.1.22

Tra Môr- Elin

Y Stiniogwyr Rhyngwladol! Colofn gan Gai Toms yn nodi hynt a helynt rhai o blant ardal Llafar Bro sydd bellach yn byw dramor.

Elin Roberts, Paris, Ffrainc.

Lle wyt ti? A pam?
Ar hyn o bryd dwi’n byw ym Mharis ble dwi’n astudio fy ngradd meistr mewn International Governance and Diplomacy ym mhrifysgol Sciences Po Paris. Yn ogystal â hynny, dwi’n gweithio fel Export Growth Adviser yn yr Adran Masnach Ryngwladol yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis. 

Sawl iaith wyt yn siarad?
Ar hyn o bryd dwi’n siarad pedair iaith yn rhugl: Y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg. 

Cymraeg a Saesneg yw fy ieithoedd brodorol ac yna fe astudiais lefel A mewn Ffrangeg a TGAU mewn Sbaeneg. Fe ddois i’n rhugl mewn Ffrangeg a Sbaeneg wrth astudio fy ngradd israddedig yng nghampws De America y brifysgol ym Mhoitiers. Yn ogystal â hynny, mae fy nyweddi, Armando, yn dod o Fecsico ac rydym yn siarad yn Sbaeneg ac yn Saesneg gyda’n gilydd ac mae yntau’n dysgu’r Gymraeg. Dwi hefyd yn astudio Portiwgaleg a Rwsieg yn Sciences Po. 

Mae gwefanau cymdeithasol yn gneud hi’n haws cadw mewn cysylltiad, a gwybod be sy’n mynd ymlaen adref. Ydi hynny’n effeithio’r teimlad o hiraeth?
Mae gwefanau cymdeithasol yn helpu’n sicr – mae posib siarad gyda Mam a Llinos yn rhwydd a hefyd gweld Baby Willow (ein milgi bach). Er ei bod yn rhwydd cadw mewn cysylltiad, dwi’n methu tirwedd yr ardal – y mynyddoedd a’r traethau cyfagos. 

Ydi bobl Paris yn ymwybodol o Gymru fel gwlad?
Yndi – yn sicr, diolch i’n tîm Rygbi! Hefyd dwi’n sicrhau bod fy nghyd-fyfyrwyr yn gwybod fy mod yn dod o Gymru ac yn dysgu iddynt sut i ddweud Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll-llantysiliogogogoch yn ogystal â phobi cacenau cri bob mis Mawrth. Hefyd, fel rhan o fy ngwaith yn y llysgenhadaeth, cefais y cyfle i roi gwers Gymraeg i’r cyn lysgennad, Ed Llewelyn.

Dy gymar, Armando, beth mae o’n feddwl o Gymru?
Mae o’n hoff iawn o Gymru ac yn hoffi’r iaith, yr hanes, a’r diwylliant. Ar hyn o bryd mae’n astudio ieitheg Sbaen (Spanish Philology) ym mhrifysgol Sorbonne ac mae’n hoff iawn o hanes ieithoedd ac wrth gwrs, hanes Cymru.  Pan oedd yn Mecsico fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg ar-lein gyda’r athrawon Cymraeg o Batagonia. Mae ef hefyd yn hoff iawn o’r tirwedd ac yn hoff o’r eira – fe welodd yr eira am y tro cyntaf yng Nghymru wrth i ni gerdded fyny i Stwlan.  

Mae Paris yn enwog am ei ‘cuisine’… wyt wedi profi rhywbeth newydd? Dy hoff fwyd Parisienne?!
Rydym yn byw drws nesaf i fecws, boulangerie, ac mae’r bara a’r cacennau yn flasus dros ben. Dwi wrth fy modd gyda éclair au chocolat neu’r tartlette au poire. Dwi eisioes wedi bwyta malwod – ond mae’r patisserie yn llawer mwy blasus. Mae’r malwod fel rwber. 

Dy hoff le ym Mharis? (Adeilad/ardal/parc)
Dwi wrth fy modd yn cael seibiant ar ddydd Sadwrn ac yn hoff o gerdded ar draws Paris. Fy hoff le agos i’r tŷ yw Sacré-Coeur. Mae’n cymryd deg munud i gerdded yno ac rydym wastad yn aros yn la Porteña am empanadas ac yna eu bwyta yn Sacré-Coeur. Dwi’n hoff iawn o’r gerddi yma. Mae yna gymaint ohonynt fel Jardin du Luxembourg neu Jardin des Tuileries.  Dwi’n meddwl mai fy hoff le yw Musée de l’Orangerie ble mae posib gweld darluniau enfawr o lilïau Claude Monet. 

Oes rhyddid gwahanol i’w gael mewn dinas rhyngwladol i’w gymharu ac adref?
Dwi wrth fy modd cael byw mewn dinas ryngwladol. I ddechrau mae’n braf gallu gweld fy ffrindiau eto yma ym Mharis wedi bod adref am bron i ddeunaw mis o achos COVID. Dwi’n hoffi gallu cael mynediad i orielau ac amgueddfeydd a chael dysgu mwy am y byd. Dwi’n hoff iawn o arddangosfa’r Eifftwyr yn yr Louvre. Yn ogystal â hynny dwi’n hoffi’r ffaith fy mod yn gallu gwrando ar gymaint o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad tra’n cerdded lawr y stryd a chael blasu bwyd o wahanol wledydd. Er fy mod yn caru byw yn y ddinas, dwi’n colli llonyddwch y mynyddoedd a’r traethau ar adegau.

Lle yn Stiniog sy’n le da i’r ‘enaid gael llonydd’?! (Rywle fyddi di’n mynd am dro pan ti adref)
Pan dwi’n dod adref dwi’n hoffi ymlacio a chael diffodd popeth drwy gerdded. Dwi’n hoff iawn o gerdded i Gwm Orthin ac eistedd ger y llyn yn gwrando ar y dŵr. Dwi hefyd yn hoffi mynd i nofio i Hafod y Llyn. 

Ti isio dweud helo wrth rhywyn?
Oes! – Helo i Mam, Llinos a Baby Willow.

DDARLLENWYR!! Ydych chi'n nabod Stiniogwyr tramor a fysa'n fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad ysgafn fel hyn? Neu, oes gennych stori / hanes am gymeriadau Stiniog tramor? Cysylltwch!

- - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021



8.1.22

Rhod y Rhigymwr- Ynysu ac Ynys 'Stiniog

Cyfres lenyddol Iwan Morgan

Ers i mi ddechrau llunio ‘Rhod y Rhigymwr’ ym Mehefin 2014, chefais i erioed gymaint o drafferth â’r tro hwn. Yn rhyfedd ddigon, llwyddais i ddod o hyd i ddeunydd bob tro ... ond mae’r ysgrif yma, rhif 82 wedi profi’n dipyn o dreth arnaf. Na, dydw i ddim wedi rhedeg allan o syniadau i ysgrifennu amdanyn nhw. Fe ddaeth y rheiny’n bur ddidrafferth dros y blynyddoedd. Y rheswm am y rwystredigaeth ydy’r Covid. 

Gall rhywun ddisgwyl dioddef sawl anhwylder yn ystod ei oes. Ond wir yr, mae’r haint ddieflig yma’n rhywbeth na fyddwn yn ei dymuno ar fy ngelyn pennaf. Cychwynnodd arnaf fel peswch caled ar fy mrest, a chefais gwrs o dabledi gwrth-fiotig i geisio lleddfu dipyn arno. Ymhen ychydig ddyddiau, collais synnwyr blasu ac arogli’n llwyr. Cafodd hynny’n ei dro effaith ar fy stumog. Teimlwn cyn wanned â chadach llawr, a’r blinder parhaus yn fy llethu bron yn llwyr. 

Wythnos yn ddiweddarach, fedra i ddim dweud mod i fawr gwell, a dyma fi’n ôl a blaen o’r gwely at y cyfrifiadur i geisio cyflwyno hyn o lith i'r golygydd. A minnau’n byw mewn gobaith mod i’n troi ar wella ychydig, mae ‘na ail-bwl yn dod drosta i o hyd ac o hyd. Does gen i ond mawr obeithio na fydd hynny’n parhau’n rhy hir! 

Ar ôl cael gwybod i sicrwydd fod rhaid i mi hunan-ynysu am ddeng niwrnod, dyma fynd ati i geisio disgrifio’n nheimladau: 

Rwy’n ddiwerth, heb nerth na nwyf, - ynysaf
Dan bwysau’r erchyll-glwyf;
Rhyw ŵr llegach, afiach wyf
A meudwy yma ydwyf. 


Pleser o’r mwyaf ydy cael croesawu awen Simon Chandler unwaith yn rhagor. Cywydd a dau englyn sydd ganddo, sy’n ceisio mynegi ei deimladau tuag at Flaenau Ffestiniog, a’i freuddwyd o gael dod yno i fyw yno ryw ddydd, er ei fod yn ofni mai breuddwyd gwrach yn unig ydy’r freuddwyd honno ar hyn o bryd. Does gen i a llawer un arall o’r fro ond gobeithio y gwireddir y freuddwyd yn fuan.  

‘Ynys drosiadol’ ydy’r un sydd gan Simon. Edmygaf eto’r modd y llwyddodd i gyfleu ei weledigaeth mor grefftus: 

YNYS ‘STINIOG 
Ein hynys yw’n hunaniaeth:
o’r môr synhwyrir y maeth 
mae hi’n ei roi, mwyn ei rym,
â choflaid dwys a chyflym.
Mae anian a chymuned
yn llwyr dros ei hyd a lled
a’i rhodfa hir a phrydferth.
Awel anochel ei nerth
sy’n fy nilyn a’i hunawd,
a phoen sy’n selio fy ffawd.
Ni ddaw hwyl, ni ddaw boddhad
o hyd, mae’n rhithwelediad.
 
Am encil rwyf yn chwilio, rhyw achau
mor uchel eu croeso.
Cymaint yw’r fraint yn y fro
ac amryw fath o Gymro!
 
Lle annwyl ond pellennig,
chwaer a mam sy’n chwarae mig:
fy nhylwyth a fy nheulu,
golau yn y dyddiau du.
Fy nhymor ar y môr mawr,
unig yng ngwyntoedd Ionawr,
sy’n para. Nid da yw’r daith:
anaf sy’n brifo unwaith 
ac am byth, un gêm o boen
a ddaw, a finnau’n ddihoen.

Yn em o fy nychymyg:
nico’r haul mewn cae o ryg.

Addewid aur fy mreuddwyd i: adar
y grodir a’u miri.
Wel dacw, yn llanw’r lli,
fy hedd sy’n cael ei foddi.

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021

Llun- Paul W

4.1.22

Tŷ Tŵr Llys Dorfil

Pan gloddiwyd yn Llys Dorfil, darganfuwyd olion clir o dŷ tŵr, neu dŷ caerog, o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Os cadarnheir y rhagdybiaeth hon, nid oes gan Lys Dorfil unrhyw gysylltiad â Derfel Gadarn, a fodolai yn nechrau'r Oesoedd Tywyll, fel yr awgrymir gan draddodiad lleol. Roedd Llys Dorfil oddeutu chwe chant o flynyddoedd yn ddiweddarach na chyfnod Derfel Gadarn. Ond mae adeiladau eraill yn y lloc sy’n dyddio canrifoedd o flaen amser Derfel.


Roedd tai caerog Cymru yn dai a godwyd rhwng dechrau'r G14eg a'r G15fed. Maent yn gysylltiedig â thai tŵr, sydd i'w cael mewn niferoedd sylweddol yn Iwerddon a'r Alban ac i raddau llawer llai yn Lloegr. Mae mwyafrif tai tŵr Cymru yn ne Sir Benfro, gydag ychydig iawn o enghreifftiau yn y gogledd. Yn aml, gelwir tai tŵr, neu dai caerog yn gestyll, am nad oes gwahaniaeth clir i’w gael rhyngddynt. Nid yw'r tai tŵr o Gymru yn arbennig o fawr ac mae ganddynt hyd at dri llawr.


Y prif resymau dros gredu mai tŷ tŵr yw Llys Dorfil yw:

•    Y wal ddwbl a adeiladwyd o'i gwmpas i’w amddiffyn rhag ymosodiad.

•    Y fynedfa lle mae'r grisiau'n mynd i mewn drwy'r ddwy wal.

•    Wedi'i adeiladu â cherrig orthostat, a oedd yn golygu bod yn rhaid i'r lloriau uchaf fod o
    bren,oherwydd y cyfyngiadau pwysau.

•    Hefyd daethpwyd o hyd i garreg golyn y tu mewn i'r adfail.

•    Dim lle tân ar y llawr gwaelod.

•    Y ffaith mai dim ond llawr sylfaenol iawn oedd ar lefel isaf.


Mae prinder crochenwaith yn dweud wrthym na feddiannwyd y lle lawer ar ôl yr G17eg - G18fed, gan fod yr ychydig o grochenwaith a  ddarganfuwyd yn dyddio o'r cyfnod hwnnw.

 

 

Y mae’n anodd credu fod llawr cyntaf Llys Dorfil bron ddwbl maint y llawr cyntaf yng Nghastell Dolwyddelan. 

 

 

Efallai nad oes llawer yn gwybod hyn, ond Cymru yw’r wlad sydd a’r nifer mwyaf o gestyll i’r filltir sgwâr yn y byd!

Efallai fod yma un arall...
Bill a Mary Jones

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021.