8.1.22

Rhod y Rhigymwr- Ynysu ac Ynys 'Stiniog

Cyfres lenyddol Iwan Morgan

Ers i mi ddechrau llunio ‘Rhod y Rhigymwr’ ym Mehefin 2014, chefais i erioed gymaint o drafferth â’r tro hwn. Yn rhyfedd ddigon, llwyddais i ddod o hyd i ddeunydd bob tro ... ond mae’r ysgrif yma, rhif 82 wedi profi’n dipyn o dreth arnaf. Na, dydw i ddim wedi rhedeg allan o syniadau i ysgrifennu amdanyn nhw. Fe ddaeth y rheiny’n bur ddidrafferth dros y blynyddoedd. Y rheswm am y rwystredigaeth ydy’r Covid. 

Gall rhywun ddisgwyl dioddef sawl anhwylder yn ystod ei oes. Ond wir yr, mae’r haint ddieflig yma’n rhywbeth na fyddwn yn ei dymuno ar fy ngelyn pennaf. Cychwynnodd arnaf fel peswch caled ar fy mrest, a chefais gwrs o dabledi gwrth-fiotig i geisio lleddfu dipyn arno. Ymhen ychydig ddyddiau, collais synnwyr blasu ac arogli’n llwyr. Cafodd hynny’n ei dro effaith ar fy stumog. Teimlwn cyn wanned â chadach llawr, a’r blinder parhaus yn fy llethu bron yn llwyr. 

Wythnos yn ddiweddarach, fedra i ddim dweud mod i fawr gwell, a dyma fi’n ôl a blaen o’r gwely at y cyfrifiadur i geisio cyflwyno hyn o lith i'r golygydd. A minnau’n byw mewn gobaith mod i’n troi ar wella ychydig, mae ‘na ail-bwl yn dod drosta i o hyd ac o hyd. Does gen i ond mawr obeithio na fydd hynny’n parhau’n rhy hir! 

Ar ôl cael gwybod i sicrwydd fod rhaid i mi hunan-ynysu am ddeng niwrnod, dyma fynd ati i geisio disgrifio’n nheimladau: 

Rwy’n ddiwerth, heb nerth na nwyf, - ynysaf
Dan bwysau’r erchyll-glwyf;
Rhyw ŵr llegach, afiach wyf
A meudwy yma ydwyf. 


Pleser o’r mwyaf ydy cael croesawu awen Simon Chandler unwaith yn rhagor. Cywydd a dau englyn sydd ganddo, sy’n ceisio mynegi ei deimladau tuag at Flaenau Ffestiniog, a’i freuddwyd o gael dod yno i fyw yno ryw ddydd, er ei fod yn ofni mai breuddwyd gwrach yn unig ydy’r freuddwyd honno ar hyn o bryd. Does gen i a llawer un arall o’r fro ond gobeithio y gwireddir y freuddwyd yn fuan.  

‘Ynys drosiadol’ ydy’r un sydd gan Simon. Edmygaf eto’r modd y llwyddodd i gyfleu ei weledigaeth mor grefftus: 

YNYS ‘STINIOG 
Ein hynys yw’n hunaniaeth:
o’r môr synhwyrir y maeth 
mae hi’n ei roi, mwyn ei rym,
â choflaid dwys a chyflym.
Mae anian a chymuned
yn llwyr dros ei hyd a lled
a’i rhodfa hir a phrydferth.
Awel anochel ei nerth
sy’n fy nilyn a’i hunawd,
a phoen sy’n selio fy ffawd.
Ni ddaw hwyl, ni ddaw boddhad
o hyd, mae’n rhithwelediad.
 
Am encil rwyf yn chwilio, rhyw achau
mor uchel eu croeso.
Cymaint yw’r fraint yn y fro
ac amryw fath o Gymro!
 
Lle annwyl ond pellennig,
chwaer a mam sy’n chwarae mig:
fy nhylwyth a fy nheulu,
golau yn y dyddiau du.
Fy nhymor ar y môr mawr,
unig yng ngwyntoedd Ionawr,
sy’n para. Nid da yw’r daith:
anaf sy’n brifo unwaith 
ac am byth, un gêm o boen
a ddaw, a finnau’n ddihoen.

Yn em o fy nychymyg:
nico’r haul mewn cae o ryg.

Addewid aur fy mreuddwyd i: adar
y grodir a’u miri.
Wel dacw, yn llanw’r lli,
fy hedd sy’n cael ei foddi.

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021

Llun- Paul W

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon