Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain
Gan fod fy ngwaith fel ffitar yn gallu amrywio o ddydd i ddydd y pryd hynny, deuthum i wybod am lawer man o fewn Chwarel Llechwedd. Un o’r lleoedd cyntaf imi glywed amdano oedd ‘Twll Tarw’, sef twll tebyg i siafft a oedd nid nepell o ben Inclên y Bôn, y soniwyd amdani o’r blaen. Cysylltai’r twll â lefel fach (twnnel) a ddeuai allan ar ochr yr inclên.
Gan mai fi oedd yr ieuengaf, ac o bosib yr ystwythaf o’r criw, gofynnwyd imi un diwrnod a fuaswn yn dringo i lawr y twll ar raff i drwsio un o’r peipiau awyr a oedd wedi dechrau gollwng. Ar ôl hel popeth at ei gilydd, dringais i lawr y twll, a thua hanner ffordd i lawr, gosodais greffyn ar dwll yn y beipen a gorffen y job. Gwelais fod y rhaff yn ddigon hir, a gwaeddais ar y dynion i’m gollwng i waelod y twll ac i’r lefel islaw.
Ychydig wedyn, wrth ein bwrdd bwyd yn ‘Caban y Black Gang’ holais Emrys, fy mós, a oedd wedi bod yn gweithio yno am flynyddoedd lawer, sut y derbyniodd y twll hwn ei enw? Atebodd yntau, gan ddweud i darw syrthio i lawr iddo rywdro. Ymhen blynyddoedd wedyn trawais ar yr hanes yn un o bapurau newydd Cymru. Dyma hi’r stori gyfan o’r Rhedegydd, 3 Ebrill 1909 gydag ychydig o ddiweddaru:
Tarw Gwyllt yn Lladd ei Hun
Magodd Mr William Owen, Penrhiw, Dolwyddelan, darw oedd yn tynnu sylw'r wlad fel un o'r eidionnau gorau a welwyd yn y plwyf ers blynyddoedd. Gwerthodd ef am ugain punt i Mr Albert Roberts, cigydd, Blaenau Ffestiniog. Bore dydd Mawrth deuwyd ag ef dros Fwlch y Gorddinen i'w berchennog Mr Roberts.
Tarw Rhydygro. llun o gasgliad yr awdur |
Daeth yn hwylus a didramgwydd hyd nes cyrraedd gyferbyn a phen Newboro Street, pan ddechreuodd fynd yn aflonydd, a throes yn ei ôl er gwaethaf pawb am Church Street ac am y Rhiw. Cafodd ar y Llinell Gul wrth y Dinas, a rhedodd i fyny'r Incline o Pantyrafon i Chwarel y Llechwedd. Yn y chwarel yr oedd pawb yn rhedeg am gysgod, yntau yn myned yn ei flaen nes cael ei hun mewn cwt ar ben un o'r dyfniau. Caewyd y drws arno yn y fan honno, ac oddi allan yr oedd sŵn y compressor a nifer o hogiau. Bu i un o'r hogiau edrych i mewn trwy'r ffenestr. Ac ar hynny neidiodd y tarw trwodd allan.
Yr oedd y lle mor gyfyng â'r anifail mor fawr fel y codid y to wrth iddo neidio o'r cwt. Yr oedd y lle wrth y cwt mor gul ar ôl dod allan fel nad allai droi ynddo, ac o'i flaen yr oedd mab Mr William Davies, Cariwr, yr hwn a fethodd ddianc fel y bechgyn eraill i ben y cwt. Rhoddodd y tarw ei gorn tano gan ei luchio i fyny yn sydyn, a disgynnodd i lawr i'r dyfn islawr, yn ffodus, ar ei draed, neu gallasai'r codwm fod yn angheuol iddo. Gan nad allai'r tarw droi yn ei ôl, disgynodd yntau i'r dwfn gan chwilfriwio ei esgyrn.
Lladdwyd ef, ac anfonwyd ei gorff i Ynysfor yn fwyd i'r helgwn. Da gennym ddeall nad yw'r bachgen wedi ei anafu yn drwm er ei fod yn dioddef yn fawr oddi wrth yr ysgydwad a gafodd. Mae cydymdeimlad yr holl ardal a Mr Albert Roberts yn wyneb y golled a gafodd.
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon