12.1.22

Tra Môr- Elin

Y Stiniogwyr Rhyngwladol! Colofn gan Gai Toms yn nodi hynt a helynt rhai o blant ardal Llafar Bro sydd bellach yn byw dramor.

Elin Roberts, Paris, Ffrainc.

Lle wyt ti? A pam?
Ar hyn o bryd dwi’n byw ym Mharis ble dwi’n astudio fy ngradd meistr mewn International Governance and Diplomacy ym mhrifysgol Sciences Po Paris. Yn ogystal â hynny, dwi’n gweithio fel Export Growth Adviser yn yr Adran Masnach Ryngwladol yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis. 

Sawl iaith wyt yn siarad?
Ar hyn o bryd dwi’n siarad pedair iaith yn rhugl: Y Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Sbaeneg. 

Cymraeg a Saesneg yw fy ieithoedd brodorol ac yna fe astudiais lefel A mewn Ffrangeg a TGAU mewn Sbaeneg. Fe ddois i’n rhugl mewn Ffrangeg a Sbaeneg wrth astudio fy ngradd israddedig yng nghampws De America y brifysgol ym Mhoitiers. Yn ogystal â hynny, mae fy nyweddi, Armando, yn dod o Fecsico ac rydym yn siarad yn Sbaeneg ac yn Saesneg gyda’n gilydd ac mae yntau’n dysgu’r Gymraeg. Dwi hefyd yn astudio Portiwgaleg a Rwsieg yn Sciences Po. 

Mae gwefanau cymdeithasol yn gneud hi’n haws cadw mewn cysylltiad, a gwybod be sy’n mynd ymlaen adref. Ydi hynny’n effeithio’r teimlad o hiraeth?
Mae gwefanau cymdeithasol yn helpu’n sicr – mae posib siarad gyda Mam a Llinos yn rhwydd a hefyd gweld Baby Willow (ein milgi bach). Er ei bod yn rhwydd cadw mewn cysylltiad, dwi’n methu tirwedd yr ardal – y mynyddoedd a’r traethau cyfagos. 

Ydi bobl Paris yn ymwybodol o Gymru fel gwlad?
Yndi – yn sicr, diolch i’n tîm Rygbi! Hefyd dwi’n sicrhau bod fy nghyd-fyfyrwyr yn gwybod fy mod yn dod o Gymru ac yn dysgu iddynt sut i ddweud Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll-llantysiliogogogoch yn ogystal â phobi cacenau cri bob mis Mawrth. Hefyd, fel rhan o fy ngwaith yn y llysgenhadaeth, cefais y cyfle i roi gwers Gymraeg i’r cyn lysgennad, Ed Llewelyn.

Dy gymar, Armando, beth mae o’n feddwl o Gymru?
Mae o’n hoff iawn o Gymru ac yn hoffi’r iaith, yr hanes, a’r diwylliant. Ar hyn o bryd mae’n astudio ieitheg Sbaen (Spanish Philology) ym mhrifysgol Sorbonne ac mae’n hoff iawn o hanes ieithoedd ac wrth gwrs, hanes Cymru.  Pan oedd yn Mecsico fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg ar-lein gyda’r athrawon Cymraeg o Batagonia. Mae ef hefyd yn hoff iawn o’r tirwedd ac yn hoff o’r eira – fe welodd yr eira am y tro cyntaf yng Nghymru wrth i ni gerdded fyny i Stwlan.  

Mae Paris yn enwog am ei ‘cuisine’… wyt wedi profi rhywbeth newydd? Dy hoff fwyd Parisienne?!
Rydym yn byw drws nesaf i fecws, boulangerie, ac mae’r bara a’r cacennau yn flasus dros ben. Dwi wrth fy modd gyda éclair au chocolat neu’r tartlette au poire. Dwi eisioes wedi bwyta malwod – ond mae’r patisserie yn llawer mwy blasus. Mae’r malwod fel rwber. 

Dy hoff le ym Mharis? (Adeilad/ardal/parc)
Dwi wrth fy modd yn cael seibiant ar ddydd Sadwrn ac yn hoff o gerdded ar draws Paris. Fy hoff le agos i’r tŷ yw Sacré-Coeur. Mae’n cymryd deg munud i gerdded yno ac rydym wastad yn aros yn la Porteña am empanadas ac yna eu bwyta yn Sacré-Coeur. Dwi’n hoff iawn o’r gerddi yma. Mae yna gymaint ohonynt fel Jardin du Luxembourg neu Jardin des Tuileries.  Dwi’n meddwl mai fy hoff le yw Musée de l’Orangerie ble mae posib gweld darluniau enfawr o lilïau Claude Monet. 

Oes rhyddid gwahanol i’w gael mewn dinas rhyngwladol i’w gymharu ac adref?
Dwi wrth fy modd cael byw mewn dinas ryngwladol. I ddechrau mae’n braf gallu gweld fy ffrindiau eto yma ym Mharis wedi bod adref am bron i ddeunaw mis o achos COVID. Dwi’n hoffi gallu cael mynediad i orielau ac amgueddfeydd a chael dysgu mwy am y byd. Dwi’n hoff iawn o arddangosfa’r Eifftwyr yn yr Louvre. Yn ogystal â hynny dwi’n hoffi’r ffaith fy mod yn gallu gwrando ar gymaint o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad tra’n cerdded lawr y stryd a chael blasu bwyd o wahanol wledydd. Er fy mod yn caru byw yn y ddinas, dwi’n colli llonyddwch y mynyddoedd a’r traethau ar adegau.

Lle yn Stiniog sy’n le da i’r ‘enaid gael llonydd’?! (Rywle fyddi di’n mynd am dro pan ti adref)
Pan dwi’n dod adref dwi’n hoffi ymlacio a chael diffodd popeth drwy gerdded. Dwi’n hoff iawn o gerdded i Gwm Orthin ac eistedd ger y llyn yn gwrando ar y dŵr. Dwi hefyd yn hoffi mynd i nofio i Hafod y Llyn. 

Ti isio dweud helo wrth rhywyn?
Oes! – Helo i Mam, Llinos a Baby Willow.

DDARLLENWYR!! Ydych chi'n nabod Stiniogwyr tramor a fysa'n fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad ysgafn fel hyn? Neu, oes gennych stori / hanes am gymeriadau Stiniog tramor? Cysylltwch!

- - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon