20.1.22

Ymweliad Esgobol

Roedd Dydd Sadwrn, Hydref yr 8fed, yn ddiwrnod arbennig ac arwyddocaol iawn i gymuned Eglwys Uniongred Holl Saint Cymru yn y Manod. Y bore hwnnw daeth esgob newydd yr eglwys – Ei Ras Yr Esgob Matthew, i ymweld â’i braidd newydd am y tro cyntaf. 


Yr Esgob Matthew yw esgob Swrozh, sef y rhan honno o’r Eglwys Uniongred Rwsiaidd sy’n cynnwys ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Swrozh yw enw hen esgobaeth fu ar benrhyn y Crimea ar lan y Môr Du. Yn ddiddorol i ni yn y Blaenau felly, mae Eglwys Holl Saint Cymru, sydd cwta dair milltir o fwlch y ‘Crimea’, yn rhan o esgobaeth sydd wedi ei henwi ar ôl dinas ar benrhyn y Crimea. Yr hyn sy’n gwneud y cyswllt yn fwy diddorol fyth yw diddordeb mawr yr Esgob Matthew yng Nghymru, ac yn hen Saint Cymru.

Cyfarchwyd yr Esgob Matthew yn Gymraeg wrth ddrws yr eglwys gan Mrs Nita Thomas a gyflwynodd iddo’r rhoddion traddodiadol o fara a halen. 

Croesawyd ef wedyn yng ngorllewin yr eglwys gan y clerigwyr. Yna aeth yr Esgob rhagddo i weinyddu’r Offeren Ddwyfol, a chyda’r ddau offeiriad a’r diacon hefyd yn gwasanaethu, roedd yn gyfle hyfryd a bendithiol, ac yn brofiad newydd i lawer o’r gynulleidfa, i addoli o dan arweiniad gweinidogaeth driphlyg y Testament Newydd o esgobion, offeiriaid a diaconiaid. 

 

Roedd is-ddiacon o gadeirlan Esgobaeth Swrozh yn cynorthwyo yn y gwasanaeth hefyd. Defnyddiwyd pedair iaith – Cymraeg, Saesneg, Rwmaneg a Hen Slafoneg Eglwysig, sef iaith litwrgaidd sy’n gyffredin i nifer o wledydd dwyrain  Ewrop.

Mae hi’n sawl blwyddyn ers i esgob Uniongred ymweld ddiwethaf ag ardal y Blaenau, a rhaid bod degawd a mwy wedi mynd heibio ers i esgob weinyddu’r Offeren Ddwyfol yn Eglwys Holl Saint Cymru. Roedd yr achlysur hwn yn un o lawenydd mawr felly, a thrwy’r esgob, yn amlygiad ac yn ymgorfforiad o’r cwlwm sy’n cydio cynulleidfa Eglwys Holl Saint Cymru yma ym mherfeddion gogledd Cymru ag eglwysi Uniongred eraill ym mhedwar ban byd. 

Ar ôl yr Offeren Ddwyfol, cyflwynwyd llyfrau ar agweddau ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru yn anrhegion i’r Esgob, ei gyd-glerigwyr a gwesteion eraill o Esgobaeth Swrozh oedd yn ymweld. Fe’u gwahoddwyd wedyn i’r Bryn Arms yng Ngellilydan am ginio a oedd yn wirioneddol flasus. 

Rydym yn cwrdd bob Sul am 10:30 y bore i ddathlu’r Offeren Ddwyfol (yr Ewcharist – Gwasanaeth y Cymun Sanctaidd). Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni.
Glyn Lasarus Jones

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2021


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon