24.1.22

Melin Maenofferen

Mi gofiwch erthygl, efallai, yn rhifyn Gorffennaf 2021 ar ddyfodol y felin eiconig yma. Roedd Llafar Bro yn adrodd bod un o is-gwmnïau Llechwedd wedi cael grant sylweddol ym mis Mai i archwilio posibiliadau datblygu Melin Maenofferen, gyda chanolfan weithgareddau i ymwelwyr yn un syniad. 

Cafwyd addewid y byddai’r gymuned yn cael cyfrannu syniadau ar be hoffai bobl leol weld yn digwydd yno, ac roedd Cwmni Bro Ffestiniog wedi cynnig hwyluso’r ymgynghoriad, ond heb glywed yn ôl gan neb. 


Mi gymrodd tan Tachwedd i Llafar Bro gael unrhyw fanylion pellach trwy ymholiadau efo cwmni Greaves. Meddai datganiad ar eu rhan (cyfieithiad):

“Mae llawer o ymdrech wedi mynd i arolygu’r adeiladau, yn arbennig prif strwythur y felin, ac rydym yn trefnu arolygon pellach i weld lle mae angen cryfhau’r adeilad. Byddwn wedyn yn gweithio efo awdurdodau lleol a chenedlaethol i godi arian er mwyn gwarchod y felin rhag dirywio ymhellach. Rydym yn cynghori’r cyhoedd i gadw allan o’r adeiladau oherwydd eu cyflwr, ac mi fyddwn yn codi arwyddion rhybydd dwyieithog ar y safle. Bûm yn diweddaru LleChi am y broses ac mi fyddwn yn parhau i wneud hynny. Gobeithiwn fynychu cyfarfod y cyngor tref ym mis Rhagfyr hefyd er mwyn diweddaru’r gymuned ar y gwaith ac am gynlluniau i’r dyfodol. Os hoffai unrhyw un yn y gymuned rannu barn neu awgrymiadau am y gwaith ym Maenofferen, mae croeso i chi gysylltu ag adam@ jwgreaves.co.uk”

Mi gysylltodd Llafar Bro wedyn yn annog y cwmni i wahodd pobl Stiniog i sesiwn alw-i-mewn yn y dref, a’u hatgoffa o gynnig hael Cwmni Bro i hwyluso, ond ni chafwyd ymateb.

Yn y pendraw swyddog LleChi Cyngor Gwynedd sydd wedi darparu’r wybodaeth gliriaf hyd yma am be sy’n dod nesa, er nad oes dyddiad eto!

“Mae trefniadau ar y gweill i gynnal cyfarfod rhwng y Cynghorydd Erwyn Jones a Llechwedd i drafod melin Maenofferen, a bydd cyfle i’r grŵp LleCHI lleol (cynrychiolaeth o’r gymuned ee Cwmni Bro, Cymdeithas Hanes, Antur Stiniog, Aelodau Lleol, Llechwedd, Gwasanaeth ieuenctid, CellB, Cyngor Tref) fod yn rhan o'r cyfarfod hwnnw. Pwrpas y cyfarfod fydd trafod sut i fynd ati i gael mewnbwn lleol i’r trafodaethau ar ddyfodol y Felin.”
Golau ym mhen draw’r twnnel felly, efallai. Gwyliwch y gofod gyfeillion; mae’n bwysig i bobol Bro Stiniog gael cyfrannu at sut fydd y felin yn cael ei datblygu er budd y gymuned leol.

 


Celfi ac Offer Billy Rice
Bu Llafar Bro yn gohebu efo cwmni Greaves hefyd ynglŷn a’r wybodaeth a gafwyd yn rhifyn Hydref 2021, bod lathe a chelfi eraill o eiddo’r diweddar grefftwr lleol wedi eu rhoi yn rhodd i Llechwedd, ond na wireddwyd y bwriad o’u harddangos yno.

Fe gafwyd ymateb prydlon ddiwedd mis Hydref yn gaddo gwneud ymholiadau a chysylltu’n ôl mewn da bryd ar gyfer rhifyn Tachwedd. Ond er i ni eu hatgoffa eto cyn dyddiad cau rhifyn Rhagfyr- ni ddaeth ymateb pellach cyn i ni fynd i’r wasg. Aros ydan ni hyd heddiw (24 Ionawr 2022)
PW

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2021

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon