Showing posts with label Melin Maenofferen. Show all posts
Showing posts with label Melin Maenofferen. Show all posts

17.9.26

Hanes a Threftadaeth Bro Ffestiniog

Melin Maenofferen
Mae ein treftadaeth bensaernïol i’w weld yn glir o’n cwmpas – o gapeli i dai cynharaf y fro i olion diwydiannol. Un o’r enghreifftiau amlycaf yw melin lechi Maenofferen, adeilad pedwar rhan gafodd ei adeiladu rhwng 1870 a 1897 yn Chwarel Maenofferen. Mae’r adeilad yn un rhestredig gradd II*, ac yn un o’r melinau llechi mwyaf cyflawn ar ôl yn y gogledd. 

Elusen Slate Heritage International sydd yn gyfrifol am y felin, ac mae gwaith wedi cael ei wneud yn ddiweddar i sefydlogi’r adeilad, gan gynnwys y distiau anferth ddaeth yno o Ganada. Ddechrau Mehefin cafwyd noson agored yn yr Aelwyd er mwyn i’r gymuned gael gwybod am y gwaith sydd wedi digwydd yno, a dechrau rhannu eu syniadau am ei dyfodol. Daeth dros 30 o bobol i’r digwyddiad, a diolch iddyn nhw am rannu eu barn a’u brwdfrydedd.

Bythefnos wedyn, yn ystod yr haul poeth, daeth tua 35 o bobol ar ymweliad i’r felin er mwyn gweld y datblygiadau yno eu hunain. Cafwyd cyflwyniadau yn y felin gan Michael Bewick o elusen Slate Heritage International, y pensaer Rob Chambers, a Dan Amor o gynllun Llewyrch o’r Llechi Cyngor Gwynedd. Roedd yn gyfle i bawb ddechrau dychmygu sut allai dyfodol y felin edrych, a holi cwestiynau am y gwaith gwerth tua £600,000 sydd wedi ei wneud yno i sicrhau nad yw cyflwr yr adeilad yn gwaethygu. Mae croeso i chi gysylltu â fi ar cadi@cwmnibro.cymru i rannu syniadau neu gydag unrhyw gwestiynau.

Gwefan hanes lleol
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes lleol a diogelu straeon ein bro? Cynhaliwyd sgyrsiau cychwynnol er mwyn trafod sefydlu gwefan hanes lleol ar gyfer Bro Ffestiniog. Byddai’r wefan yn byw dan rwydwaith bro360, prosiect gan Gwmni Golwg i sefydlu gwefannau bro ledled Cymru. Gallai unrhyw un o’r fro greu proffil a chyfrannu pwt o hanes, hen luniau o’r ardal, erthygl hanesyddol, clip sain neu fideo, cyn iddyn nhw gael eu golygu a’u cyhoeddi gan olygydd lleol, y cwbl yn Gymraeg. Hyd yma, mae’r gwefannau eraill yn rhai newyddion lleol a hon fyddai’r gyntaf i gael ei defnyddio yn benodol ar gyfer hanes. Cysylltwch i glywed mwy a mynegi eich diddordeb. Pobol y fro fydd yn siapio’r wefan.

Taith hanes Tanygrisiau
Fore Sadwrn, Gorffennaf 25 bu taith gerdded hanes o amgylch Tanygrisiau yng nghwmni haneswyr lleol. Cyfle i glywed ychydig o hanesion a straeon am y pentref, a dysgu mwy am gefndir y gymuned sydd yn ceisio prynu eu post. 

Cadi Dafydd, Swyddog Datblygu Hanes a Threftadaeth, Cwmni Bro Ffestiniog
- - - - - - - 

Addasiad o erthygl yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026

 

5.6.26

Dyddiau Cynnar Chwarel Maenofferen

Cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog ar y 18fed o’r mis a rhoddwyd croeso i’r siaradwr gwadd, Dylan Jones. Un a fagwyd yn y Blaenau yw Dylan ac un o hogiau Plas Canol ar y Stryd Fawr. Roedd ei dad, Geraint yn chwarelwr yn Chwarel Maenofferen a does ryfedd fod ganddo gymaint o wybodaeth ddifyr am y chwarel honno. 

Mae'n gweithio i Lywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ac yn ymddiddori mewn hanes chwareli - yn enwedig rhai Stiniog. Mae wedi bod yn weithgar a brwd iawn i arbed dirywiad melin Chwarel Maenofferen a'i diogelu ar gyfer yr oesoedd a ddêl. Mae'n aelod selog o'r Fforwm Hanes ac wedi rhoi ambell sgwrs ar Chwarel Maenofferen. Yn rhifyn 41 o Rhamant Bro cyhoeddodd yr erthygl ddifyr Ffrwydrad Boeler Ager Chwarel Maenofferen yn 1882 -pan laddwyd 4 o weithwyr y chwarel a thrychineb i’r holl fro. 

Testun Dylan oedd Dyddiau Cynnar Chwarel Maenofferen a chafwyd ganddo druth o wybodaeth am ddechrau cloddio llechi ar y tir a berthyn i Arglwydd Newborough a sut oedd cysgod o’r chwarel wedi ei sefydlu yn ddiweddar yn y 18fed ganrif. Roedd yn enwi ffynonellau a thraethodau pwysig a hefyd roedd wedi ymchwilio i fywyd rhai o’r chwarelwyr cynnar ar ddechrau’r 19eg ganrif. 


Cyflwynodd dipyn o ganlyniadau ei ymchwil personol ac i rai nad oedd yn gyfarwydd â chyfnod cynnar y chwareli llechi roedd llawer o wybodaeth ddifyr a lluniau o wahanol ffynonellau. Mae Chwarel Maenofferen yn un o’r chwareli hanesyddol pwysicaf ym Mro Ffestiniog. Ddim hyd 1861, pan brydleswyd y tir a'r chwarel bresennol gan y perchennog Arglwydd Newborough y ffurfiwyd y Maenofferen Slate Quarry Company Cyf. Tyfodd i fod yn un o chwareli mwyaf llwyddiannus yn y fro a’r pumed cynhyrchydd mwyaf yn y rhanbarth.

Mae'r chwarel wedi'i lleoli o fewn tirwedd ddramatig o fynyddoedd garw a dyffrynnoedd serth, sy'n nodweddiadol o dirwedd Eryri. Mae Maenofferen yn adnabyddus am ei lechi glas tywyll nodweddiadol, a gafodd ei werthfawrogi'n fawr am ei wydnwch a'i rinweddau esthetig, gan ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer toi ac adeiladu. Mae'r chwarel yn cynnwys pyllau agored dwfn, siambrau tanddaearol, a thomennydd sbwriel helaeth. Mae olion seilwaith diwydiannol y chwarel, fel yr hen dai weindio, melinau prosesu, a systemau tramffyrdd, yn rhoi cipolwg ar dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal. Roedd y strwythurau hyn yn hanfodol ar gyfer cludo a phrosesu llechi, ac roedd y systemau rheilffordd cul yn chwarae rhan hanfodol wrth symud y llechi i drefi a phorthladdoedd cyfagos i'w hallforio. 

Erbyn diwedd yr 20fed ganrif, daeth gweithrediadau chwareli ar raddfa fawr i ben, a gadawyd llawer o'r safle. Heddiw, mae Chwarel Maenofferen yn safle hanesyddol arwyddocaol, gyda rhai rhannau yn dal i fod yn hygyrch i ymwelwyr sydd â diddordeb mewn archwilio gweddillion diwydiant llechi Cymru, sydd wedi'i gydnabod fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. 

Mae tirwedd y chwarel, gyda'i adfeilion dramatig a'i golygfeydd, yn cynnig atgof ingol o orffennol diwydiannol yr ardal a bywydau'r gweithwyr a oedd unwaith yn llafurio yno. Diolch i Dylan am gyflwyno’r hanes cynnar i’r hyn a dyfodd, maes o law, yn chwarel fasnachol lwyddiannus iawn.

Mae’r arlunydd Falcon Hildred wedi gwneud cyfres o frasluniau dyfrliw gwych o chwarel Maenofferen i’w gweld fan hyn ar wefan yr arlunydd [nid yw Llafar Bro yn gyfrifol am wefannau allanol].
TVJ
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2026

 

24.1.22

Melin Maenofferen

Mi gofiwch erthygl, efallai, yn rhifyn Gorffennaf 2021 ar ddyfodol y felin eiconig yma. Roedd Llafar Bro yn adrodd bod un o is-gwmnïau Llechwedd wedi cael grant sylweddol ym mis Mai i archwilio posibiliadau datblygu Melin Maenofferen, gyda chanolfan weithgareddau i ymwelwyr yn un syniad. 

Cafwyd addewid y byddai’r gymuned yn cael cyfrannu syniadau ar be hoffai bobl leol weld yn digwydd yno, ac roedd Cwmni Bro Ffestiniog wedi cynnig hwyluso’r ymgynghoriad, ond heb glywed yn ôl gan neb. 


Mi gymrodd tan Tachwedd i Llafar Bro gael unrhyw fanylion pellach trwy ymholiadau efo cwmni Greaves. Meddai datganiad ar eu rhan (cyfieithiad):

“Mae llawer o ymdrech wedi mynd i arolygu’r adeiladau, yn arbennig prif strwythur y felin, ac rydym yn trefnu arolygon pellach i weld lle mae angen cryfhau’r adeilad. Byddwn wedyn yn gweithio efo awdurdodau lleol a chenedlaethol i godi arian er mwyn gwarchod y felin rhag dirywio ymhellach. Rydym yn cynghori’r cyhoedd i gadw allan o’r adeiladau oherwydd eu cyflwr, ac mi fyddwn yn codi arwyddion rhybydd dwyieithog ar y safle. Bûm yn diweddaru LleChi am y broses ac mi fyddwn yn parhau i wneud hynny. Gobeithiwn fynychu cyfarfod y cyngor tref ym mis Rhagfyr hefyd er mwyn diweddaru’r gymuned ar y gwaith ac am gynlluniau i’r dyfodol. Os hoffai unrhyw un yn y gymuned rannu barn neu awgrymiadau am y gwaith ym Maenofferen, mae croeso i chi gysylltu ag adam@ jwgreaves.co.uk”

Mi gysylltodd Llafar Bro wedyn yn annog y cwmni i wahodd pobl Stiniog i sesiwn alw-i-mewn yn y dref, a’u hatgoffa o gynnig hael Cwmni Bro i hwyluso, ond ni chafwyd ymateb.

Yn y pendraw swyddog LleChi Cyngor Gwynedd sydd wedi darparu’r wybodaeth gliriaf hyd yma am be sy’n dod nesa, er nad oes dyddiad eto!

“Mae trefniadau ar y gweill i gynnal cyfarfod rhwng y Cynghorydd Erwyn Jones a Llechwedd i drafod melin Maenofferen, a bydd cyfle i’r grŵp LleCHI lleol (cynrychiolaeth o’r gymuned ee Cwmni Bro, Cymdeithas Hanes, Antur Stiniog, Aelodau Lleol, Llechwedd, Gwasanaeth ieuenctid, CellB, Cyngor Tref) fod yn rhan o'r cyfarfod hwnnw. Pwrpas y cyfarfod fydd trafod sut i fynd ati i gael mewnbwn lleol i’r trafodaethau ar ddyfodol y Felin.”
Golau ym mhen draw’r twnnel felly, efallai. Gwyliwch y gofod gyfeillion; mae’n bwysig i bobol Bro Stiniog gael cyfrannu at sut fydd y felin yn cael ei datblygu er budd y gymuned leol.

 


Celfi ac Offer Billy Rice
Bu Llafar Bro yn gohebu efo cwmni Greaves hefyd ynglŷn a’r wybodaeth a gafwyd yn rhifyn Hydref 2021, bod lathe a chelfi eraill o eiddo’r diweddar grefftwr lleol wedi eu rhoi yn rhodd i Llechwedd, ond na wireddwyd y bwriad o’u harddangos yno.

Fe gafwyd ymateb prydlon ddiwedd mis Hydref yn gaddo gwneud ymholiadau a chysylltu’n ôl mewn da bryd ar gyfer rhifyn Tachwedd. Ond er i ni eu hatgoffa eto cyn dyddiad cau rhifyn Rhagfyr- ni ddaeth ymateb pellach cyn i ni fynd i’r wasg. Aros ydan ni hyd heddiw (24 Ionawr 2022)
PW

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2021

 

11.9.21

Henebion o Bwys

Cyn clywed am benderfyniad UNESCO ar ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, bu llawer iawn o weithgaredd ym myd llechi Bro Ffestiniog.

Mae CADW, corff henebion llywodraeth Cymru, wedi bod yn brysur iawn yn dynodi llawer o olion diwydiant llechi Stiniog fel henebion o bwys cenedlaethol yn ddiweddar. Dyma’r statws -a’r gwarchodaeth- a roir i’r cestyll a safleoedd archeolegol hynafol Cymru hefyd.

Efallai fod hyn yn hysbys i rai o’n darllenwyr, ond roedd yn newyddion newydd sbon danlli i Llafar Bro nes mynd ati i chwilio am wybodaeth mewn ymateb i erthygl fach hyfryd ddaeth i mewn gan un o’n dosbarthwyr lleol ni am grwydro chwarel Rhiwbach.

Dynodwyd inclêns Trefeini a Maenofferen; ffordd haearn Rhiwbach; argaeau Llyn Newydd a Llyn Bowydd; inclên Blaen y Cwm; ac inclên a chwarel Rhiwbach a’i hadeiladau amrywiol, yn heneb swyddogol a warchodir o hyn allan gan y gyfraith. Enw'r heneb ar y gofrestr o henebion o bwys cenedlaethol ydi Chwarel Rhiwbach, y Dramffordd a’r System Inclein (CN414), ac fe hysbyswyd y perchnogion tir o'r dynodiad swyddogol yn gynharach eleni, ar ôl cyfnod o ymgynghori.


Ffordd Haearn Rhiwbach ar lan Llyn Bowydd. Llun PW.

 

Bu’n ddigon anodd canfod manylion am hyn ar y we, ond o edrych yn fanylach (Archwilio -adnodd gwych ar gyfer nodweddion hanesyddol Cymru) mae’n ymddangos fod Cadw wedi dynodi’r canlynol hefyd: 

Dynodwyd Chwarel Diffwys yn heneb ym mis Gorffennaf y llynedd (CN413); Tomen Fawr yr Oclis ac olion Chwarel Nyth y Gigfran (CN422) ym mis Chwefror eleni; Chwarel y Wrysgan a’i hinclên drawiadol (CN423) fis Mai, a Chwarel Cwmorthin (CN425) fis Mehefin eleni! 

Mae Llafar Bro yn deall na fu ymgynghori efo Cyngor Tref Ffestiniog nac efo Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, ac yn siomedig, nid yw Cadw wedi rhannu unrhyw wybodaeth efo papur bro y cylch! Nid yw’n amlwg i mi fel rhywun sydd wedi crwydro pob un o’r chwareli yma llynedd ac eleni, fod arwyddion na hysbysiadau cyhoeddus wedi eu rhoi allan ar y safleoedd i annog y gymuned i ymateb i’r ymgynghoriad ychwaith. 

Serch hynny, testun balchder dwi’n siwr ydi’r cydnabyddiaeth o bwysicrwydd chwareli Stiniog i dreftadaeth Cymru.

Efallai y cawn fanylu mewn rhifyn arall o Llafar Bro. Be mae ein darllenwyr yn feddwl? Gyrrwch air atom.

Melin Maenofferen
Mae un o is-gwmniau Llechwedd, 'slate heritage international ltd' wedi cael £7,500 gan y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol, er mwyn archwilio'r posibilrwydd o droi melin eiconig Maenofferen yn 'residential and activity centre for youth groups from across the UK'...

Mewn ymateb i ymholiad gan Llafar Bro, dywedodd llefarydd ar ran y gronfa “Bydd cyfleoedd i’r gymuned fod yn rhan o siapo’r cynlluniau am ddyfodol cynaliadwy.” 

Mae Cwmni Bro Ffestiniog wedi cysylltu â Llechwedd i gynnig hwyluso’r ymgynghoriad cymunedol hefyd, ac mi fyddwn yn rhannu unrhyw drefniadau efo chi yn y rhifyn nesa* ac ar ein cyfryngau cymdeithasol. 

Ai dyma'r defnydd gorau i safle mor bwysig? Onid oes digon o ganolfannau awyr agored yn Eryri eisoes, o Blas Dolymoch i Blas Gwynant a Bwlch Nant yr Haearn a llawer un arall? Be ydi'ch barn chi? Edrychwn ymlaen i gael cyfrannu at y drafodaeth.

Nôl yn y gwanwyn fe gyhoeddodd Clwb Clinc ieuenctid Cell -fel rhan o brosiect LleChi- ffilm fer am hogyn lleol -Owain Jones- yn apelio’n angerddol ac aeddfed iawn am warchod y felin ar gyfer y gymuned; gwarchod treftadaeth a hanes diwydiannol ein hardal i genedlaethau’r dyfodol. 


 Mae angen cryn waith i atgyweirio’r felin, a hoffai Owain weld amgueddfa yno neu rywbeth fel bod pobl leol yn cael gweld rhan bwysig o’u hanes. 


Melin Maenofferen; mae cyflwr y to yn dirywio o ddydd i ddydd. Llun PW.

--------------------------------------

* Yn anffodus wnaeth Llechwedd ddim ymateb o gwbwl i gais Cwmni Bro, ond gobeithir y bydden nhw'n gweld bod gan y gymuned hawl i'w llais ar ddyfodol yr adeilad.

 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn  rhifyn Gorffennaf/Awst 2021

Diweddariad -o ryw fath- o Ragfyr 2021