Showing posts with label Rhamant Bro. Show all posts
Showing posts with label Rhamant Bro. Show all posts

5.6.26

Dyddiau Cynnar Chwarel Maenofferen

Cynhaliwyd cyfarfod mis Mawrth Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog ar y 18fed o’r mis a rhoddwyd croeso i’r siaradwr gwadd, Dylan Jones. Un a fagwyd yn y Blaenau yw Dylan ac un o hogiau Plas Canol ar y Stryd Fawr. Roedd ei dad, Geraint yn chwarelwr yn Chwarel Maenofferen a does ryfedd fod ganddo gymaint o wybodaeth ddifyr am y chwarel honno. 

Mae'n gweithio i Lywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ac yn ymddiddori mewn hanes chwareli - yn enwedig rhai Stiniog. Mae wedi bod yn weithgar a brwd iawn i arbed dirywiad melin Chwarel Maenofferen a'i diogelu ar gyfer yr oesoedd a ddêl. Mae'n aelod selog o'r Fforwm Hanes ac wedi rhoi ambell sgwrs ar Chwarel Maenofferen. Yn rhifyn 41 o Rhamant Bro cyhoeddodd yr erthygl ddifyr Ffrwydrad Boeler Ager Chwarel Maenofferen yn 1882 -pan laddwyd 4 o weithwyr y chwarel a thrychineb i’r holl fro. 

Testun Dylan oedd Dyddiau Cynnar Chwarel Maenofferen a chafwyd ganddo druth o wybodaeth am ddechrau cloddio llechi ar y tir a berthyn i Arglwydd Newborough a sut oedd cysgod o’r chwarel wedi ei sefydlu yn ddiweddar yn y 18fed ganrif. Roedd yn enwi ffynonellau a thraethodau pwysig a hefyd roedd wedi ymchwilio i fywyd rhai o’r chwarelwyr cynnar ar ddechrau’r 19eg ganrif. 


Cyflwynodd dipyn o ganlyniadau ei ymchwil personol ac i rai nad oedd yn gyfarwydd â chyfnod cynnar y chwareli llechi roedd llawer o wybodaeth ddifyr a lluniau o wahanol ffynonellau. Mae Chwarel Maenofferen yn un o’r chwareli hanesyddol pwysicaf ym Mro Ffestiniog. Ddim hyd 1861, pan brydleswyd y tir a'r chwarel bresennol gan y perchennog Arglwydd Newborough y ffurfiwyd y Maenofferen Slate Quarry Company Cyf. Tyfodd i fod yn un o chwareli mwyaf llwyddiannus yn y fro a’r pumed cynhyrchydd mwyaf yn y rhanbarth.

Mae'r chwarel wedi'i lleoli o fewn tirwedd ddramatig o fynyddoedd garw a dyffrynnoedd serth, sy'n nodweddiadol o dirwedd Eryri. Mae Maenofferen yn adnabyddus am ei lechi glas tywyll nodweddiadol, a gafodd ei werthfawrogi'n fawr am ei wydnwch a'i rinweddau esthetig, gan ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer toi ac adeiladu. Mae'r chwarel yn cynnwys pyllau agored dwfn, siambrau tanddaearol, a thomennydd sbwriel helaeth. Mae olion seilwaith diwydiannol y chwarel, fel yr hen dai weindio, melinau prosesu, a systemau tramffyrdd, yn rhoi cipolwg ar dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal. Roedd y strwythurau hyn yn hanfodol ar gyfer cludo a phrosesu llechi, ac roedd y systemau rheilffordd cul yn chwarae rhan hanfodol wrth symud y llechi i drefi a phorthladdoedd cyfagos i'w hallforio. 

Erbyn diwedd yr 20fed ganrif, daeth gweithrediadau chwareli ar raddfa fawr i ben, a gadawyd llawer o'r safle. Heddiw, mae Chwarel Maenofferen yn safle hanesyddol arwyddocaol, gyda rhai rhannau yn dal i fod yn hygyrch i ymwelwyr sydd â diddordeb mewn archwilio gweddillion diwydiant llechi Cymru, sydd wedi'i gydnabod fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. 

Mae tirwedd y chwarel, gyda'i adfeilion dramatig a'i golygfeydd, yn cynnig atgof ingol o orffennol diwydiannol yr ardal a bywydau'r gweithwyr a oedd unwaith yn llafurio yno. Diolch i Dylan am gyflwyno’r hanes cynnar i’r hyn a dyfodd, maes o law, yn chwarel fasnachol lwyddiannus iawn.

Mae’r arlunydd Falcon Hildred wedi gwneud cyfres o frasluniau dyfrliw gwych o chwarel Maenofferen i’w gweld fan hyn ar wefan yr arlunydd [nid yw Llafar Bro yn gyfrifol am wefannau allanol].
TVJ
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2026

 

22.1.25

Y Gymdeithas Hanes- Tipyn o Hwyl

Arferai pobl ‘Stiniog ddweud bod cael eira cyn Ffair Llan yn beth anarferol iawn, ond gyda’r Newid Hinsawdd, y mae popeth yn newid ac fe fu yn rhaid i’r Gymdeithas Hanes ohirio eu cyfarfod fis Tachwedd am wythnos oherwydd tywydd garw. 

Ta waeth am hynny, pan gynhaliwyd y cyfarfod, wythnos yn hwyr, fe gafwyd noson i’w chofio. Y siaradwr oedd Hefin Jones-Roberts a thestun ei sgwrs oedd “Tipyn o hwyl ac o hanes” a dyna yn union a gafwyd.

Dechreuodd efo hanes ei blentyndod yn Stryd y Pant (neu Glanafon Terrace) yn Nhanygrisiau. Adroddodd am y tlodi oedd yn bodoli yn y ’30au a pha mor galed y gweithiai y gwragedd i gadw tŷ ar gyfer teuluoedd mawr. Aeth ymlaen wedyn i drafod arferion pysgota – neu potsio, y dynion, gyda straeon difyr am gymeriadau lliwgar. Pêl droed oedd yn mynd â diddordeb llawer o ddynion eraill a chlywsom eto straeon am b’nawniau Sadwrn prysur ar Gae Ddôl.

Soniodd lawer am ddylanwad yr heddwas lleol ar ei gymuned. Diddorol oedd clywed am y nosweithiau gwyllt a gafwyd yn y dawnsfeydd a’r tafarndai a sut yr oedd y Sarjant yn gallu eu sortio yn ddi-lol.

 

Gyda Hefin ei hun wedi gwasanaethu ein cymuned mor ffyddlon am yr holl flynyddol, nid yw’n syndod bod ganddo lawer iawn o straeon am y gwasanaeth iechyd yn lleol. Clywsom am helyntion yr ambiwlans a’r meddygon lleol a’r gwasanaeth gwych a gafwyd dan amgylchiadau anodd.

Fe wnaeth pawb fwynhau y noson yn arw iawn. 


Cofiwch bod Rhamant Bro allan rwan, ac ar gael mewn sawl lle, er enghraifft Siop Lyfrau'r Hen Bost, Co-op, Siop y Gloddfa, Londis, Tŷ Coffi Antur Stiniog, Siop Pen-bryn Llan, a siopau Eifionydd a Pikes ym Mhorthmadog. Dim ond £4 am wledd o erthyglau a lluniau.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2025


12.5.24

Stolpia- Yr Ardal ar Hen Ffilmiau

Ffilmiwyd beth wmbredd o leoedd a phobl a digwyddiadau yn ein hardal tros y blynyddoedd. Crybwyllais yn Rhamant Bro (2022) bod T.E. Griffiths, sef perchennog Park Cinema yn ei ddyddiau cynnar, yn arloeswr gyda ffilmio amryw o ddigwyddiadau lleol, megis cymanfaoedd y gwahanol enwadau, ac agoriad yr Ysbyty Coffa yn 1927. Ffilmiwyd cannoedd o bobl a berthynai i gymdeithasau amrywiol y cyfnod yn gorymdeithio trwy’r dref yn y riliau hyn ganddo. Cofier mai ffilmiau du a gwyn a rhai mud oedd y rhain, ond er hynny yn gronicl pwysig o hanes ein bro.

Fel y gŵyr y mwyafrif ohonoch, y ffilm gyntaf yn yr iaith Gymraeg oedd ‘Y Chwarelwr’ (1935) o waith Syr Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams, a fu’n brifathro ar Ysgol Glan-y-pwll. Er mai ffilm ddrama ydyw, ceir sawl golygfa ac amryw o ddelweddau o’r cyfnod nad ydynt yn bodoli bellach. Cawsom weld y ffilm rai blynyddoedd yn ôl yng Ngwesty’r Frenhines (Y Queens) gyda’r rhan olaf ohoni wedi ei diweddaru gan Gwmni Da, Caernarfon, gydag actorion cyfoes yn chwarae rhan y chwarelwyr a’u teuluoedd. 

Golygfa o'r ffilm efo gweithwyr Chwarel yr Oakeley ar y Trwnc Mawr

Ffilm arall gyda lluniau da o orchwylion amrywiol y chwarelwyr a golygfeydd ysblennydd o Chwarel Lord, a’r Erial (rhaff awyr) yn rhan uchaf Chwarel Llechwedd yw The Roof Over Your Head (1937). Yn ddiau, daw hon ag atgofion lu i amryw ohonom a fu’n gweithio yno flynyddoedd yn ôl.

Gwnaed nifer o ffilmiau ym Mhrydain a sawl gwlad arall gan gwmni Walt Disney yn yr 1950au. 

Ffilmiwyd People and Places -Wales yn 1958, yn ogystal â’r un yn yr Alban. Ceir amryw o olygfeydd wedi eu tynnu yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Chwareli Oakeley a Llechwedd. Heddiw ceir cerbyd pwrpasol yno ar gyfer cludo ymwelwyr i grombil y chwarel i ryfeddu ar waith yr hen feinars, y creigwyr a’r llafurwyr.

Llun o’r ffilm yn dangos y gweithwyr yn cerdded i lawr i’r ‘Twll’, sef y gwaith tanddaearol yn Llechwedd

Os ewch chi ar y we ac ar chwiliadur Google, Yahoo, neu un o’r llaill, a rhoi enwau’r ffilmiau i mewn ynddynt, cewch eu gweld am ddim ar Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru neu ar YouTube.
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024




23.1.24

Y Gymdeithas Hanes a Rhamant Bro

Roedd cyfarfod mis Tachwedd y Gymdeithas yn trafod y pandemig a ddilynodd y Rhyfel Mawr yn 1918-19. Fe’i gelwid yn Spanish Flu ac anwydwst a thebyg fod enwau eraill ar yr aflwydd marwol hwn. Can mlynedd yn ddiweddarach cafwyd pandemig arall, y Covid ac roedd y sgwrs ar y Spanish Flu yn dymhorol iawn a ninnau yn dal i fod dan gysgod hwnnw a’r llanast a grewyd mewn amrywiol ffyrdd.

Y siaradwr gwadd oedd Charles Roberts o Ben Bryn Llan, Llanefydd yn sir Ddinbych, saer coed wrth ei alwedigaeth yn cadw busnes gwneud dodrefn. Ond mae hefyd wedi gwneud ymchwil sylweddol ar bandemig 1918-19 a chawsom sgwrs ddifyr iawn ar dwf ac effaith y ffliw mawr hwnnw yng Nghymru a syndod gweld yn ei ystadegau mae gogledd orllewin Cymru a ddioddefodd waethaf gyda’r nifer mwyaf o achosion yn yr ardal hon.

Roedd yr ystadegau yn ysgytiol a theuluoedd cyfan yn marw … nid oedd y wyddoniaeth cystal bryd hynny ac yr oedd hi gan mlynedd yn ddiweddarach wrth drin y Covid ac roedd pobl yn dal i gymysgu mewn mannau oeddynt debygol o ymfflamychu’r clefyd. Soniodd am hanes trist y milwyr ifanc a fu farw yng ngwersyll milwrol Bae Cinmel … milwyr o Ganada yn bennaf oeddynt yn disgwyl llong i’w cludo yn ôl i’w gwlad. Roedd y rhain i gyd wedi goresgyn yr ymladd yn ffosydd Ffrainc ond ildio’u bywydau yn y pendraw i’r ffliw erchyll yma ac mae eu beddau i’w gweld heddiw ym mynwent Eglwys Farmor Bodelwyddan. 

Roedd y darlithydd yn dyfynnu yn helaeth o bapurau newydd y cyfnod … ond prin oedd y sylw a gafodd y ffliw hwn o’i gymharu â Covid ein hamser ni oedd ar dudalennau blaen y papurau newydd bob dydd am fisoedd lawer. Diddorol oedd cymharu sut oedd y llywodraeth yn trin a’r aflwydd yn y ddau gyfnod. Soniodd hefyd fod Lloyd George y Prif Weinidog yn y cyfnod hwn, wedi syrthio i grafangau’r clefyd a bu’n wael iawn ac yn ôl rhai sylwebyddion bu bron iddo golli ei fywyd.

Caed sylwadau difyr mewn ymateb i’r sgwrs ac yn amlwg roedd pawb wedi cael blas ar y pwnc.
Cynhelir y cyfarfod nesaf, nos Fercher, Ionawr 24 pan fydd Steffan ab Owain yn parhau ei sgwrs ddifyr ar hen furddunod y plwyf. Cynhelir y cyfarfodydd yn Ysgol Maenofferen a chroeso cynnes i bawb.
Yn y llun mae Charles Roberts y siaradwr a Dafydd Roberts Cadeirydd y Gymdeithas.
TVJ

RHAMANT BRO

Newyddion da i’r rhai ohonoch chi sy’n awchu i ddarllen y rhifyn diweddaraf o Rhamant Bro, sef cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog – y mae ar gael yn y siopau rwan! 

Unwaith yn rhagor ceir arlwy amrywiol o erthyglau ynddo, megis:

Streic Fawr y Llechwedd gan Gareth T. Jones; 

Yr Athro Jack Darbyshire gan Enid Roberts; 

Trin Cerrig gan Vivian Parry Williams; 

‘Pwyllgor Cerdd Meirion’ gan Aled Ellis; 

Cofnodion Ysgol Glanypwll gan Nia Williams; 

Pam Cofio Tryweryn gan Geraint V. Jones; 

Cymdeithas Enweiriawl Ffestiniog gan Marian Roberts;

Trawsfynydd Ddoe, a Trychineb yn Nhrawsfynydd gan y Golygyddion; 

Cipdrem ar Hanes Sinemâu Stiniog gan Steffan ab Owain. 

Yn ogystal, ceir tipyn o hanes Freeman Evans, Hen Siopau’r Dref, Celf ym myd y Llechen, ac ambell stori ddifyr arall. Mynnwch gopi cyn iddynt werthu’r cwbl!

- - - - - - - - - - - -

Dau ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2023

Ffliw Sbaen yn Yr Ysgwrn


10.3.21

Llygad Newydd -Dyma'r Tywydd!

‘Wir i chi mae hi’n braf o hyd...’

Rhwng pob peth –gwynt, glaw, eira, a gofid covid- dwi’n siwr y byddech chi’n cytuno ei bod yn hen bryd i ni gael gwanwyn! Mae’r newyddion a’r rhagolygon tywydd bob nos yn medru bod yn ddigon digalon.

O ystyried bod Stiniog mor enwog am y tywydd, mae’n rhyfedd ‘tydi nad ydi’r lle BYTH yn ymddangos ar y mapiau tywydd. Mae Harlech yn cael lle ar fap tywydd S4C bob nos, a’r Bala sy’n mynd a hi ar ragolygon Saesneg BBC Cymru. Felly mi yrrodd Llafar Bro nodyn bach ar y cyfryngau cymdeithasol, ganol Ionawr, at lawer o bobol tywydd Cymru yn holi pam!

Chwarae teg i Steffan Griffiths, cyflwynydd a chynhyrchydd tywydd S4C; o fewn dyddiau, roedd o wedi gyrru nodyn yn ôl yn dweud “Helo bobol. Rhywle arbennig ar y mapiau tywydd heno...”
A dyma fo, ar ôl bwletinau Nos Wener y 14eg o Ionawr.
  


Ar ben y pleser anarferol o weld ein tref ar y map, roedd o’n gaddo diwrnod sych i ni hefyd! Iawn, dim pawb sy’n gwirioni ‘run fath, dwi’n deall hynny, ond mae hi wedi bod yn llwm ar rywun am adloniant dros gyfnod y pandemig tydi!

Diolch Steffan am dderbyn yr her yn hwyliog, ac i Chris Jones Tywydd am ymateb (anwybyddu wnaeth y lleill i gyd!). Diolch hefyd i Eirian a Gwilym Dafydd, dau o olygyddion papur bro Y Dinesydd yng Nghaerdydd (ac Eirian yn dod o Stiniog wrth gwrs) am gyfrannu at y drafodaeth.

Mi fedrwch fentro bod Stiniog wedi diflannu o’r map eto drannoeth; mae Harlech a’r Bala yn llai o waith teipio am wn i... Ond os oes gennych chi ddiddordeb yn y tywydd, mae erthygl Dorothy Williams ‘Tywydd y Cyfnod Clo’ yn rhifyn cyfredol Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, yn werth ei darllen. 

Cofiwch hefyd am erthyglau ‘Son am Dywydd Stiniog’ gan Bruce Griffiths o 2020, sydd bellach ar gael ar wefan Llafar Bro. Yno hefyd mae erthygl Steffan ab Owain –Glaw Stiniog- o’i gyfres Stolpia, ym Medi 2012, a llawer mwy o drafod ein tywydd unigryw.

 

Cyn cloi, wyddoch chi fod Bragdy Cybi wedi cynhyrchu cwrw o’r enw Glaw ‘Stiniog yn eu cyfres dymhorol? Blasus oedd o hefyd, gobeithio’u bod yn bwriadu bragu mwy. Mmm, be ga’i heno dwad? 


 

Hwyl bawb; iechyd da!
PW

-------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021


7.1.20

Deunydd darllen yn y flwyddyn newydd

RHAMANT BRO  -Rhifyn 38.

Os nad ydych wedi cael eich copi diweddaraf o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog y mae rhai ar werth rŵan yn ein siopau lleol, a chan aelodau’r gymdeithas.


Ceir 48 tudalen ynddo gyda hanesion ar bynciau amrywiol, megis rhai o enwogion y fro, Maen Bwlch Gorddinan, Beddau Gwŷr Ardudwy, Atgofion Dafydd Hughes, Tŷ Newydd Ffynnon, Llyn Manod, a’r Sbïwr o Fuches Wen yn ogystal â llawer o luniau diddorol.


Heb os, dyma gylchgrawn rhagorol i unrhyw un sy’n hoff o hanes ‘Stiniog.


Cyhoeddiad arbennig arall ar gyfer y rhai sy’n hoff o hanes yr ardal yw cyfrol ddiweddaraf Steffan ab Owain, sef:


'Hanes y Twnnel Mawr a Rheilffordd London and North Western 1872-1881 '. 


Cynnwys y gyfrol yw hanes un o anturiaethau mwyaf cyffrous cwmni Rheilffordd London and North Western yng ngogledd Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ystod y cyfnod hwn estynnwyd ei linell gan gannoedd o weithwyr, o Fetws y Coed trwy Ddyffryn Lledr i dref chwarelyddol Blaenau Ffestiniog gyda’r bwriad i ennill cyfran o’r fasnach lechi ffyniannus a fodolai yn y gymdogaeth y pryd hwnnw.

Dyma’r adeg hefyd y bu’n rhaid gyrru twnnel oddeutu dwy filltir a chwarter o hyd a thair siafft ddofn ar gost ariannol aruthrol, a bywydau dynion er mwyn cyrraedd eu nod.

Ar werth gan yr awdur. Mynnwch gopi rhag blaen. Nid oes llawer ar ôl .
---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2019.


10.1.19

Rhamant Bro

Y  mae’r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, sef Rhamant Bro yn y siopau yn barod ar eich cyfer.


Dyma gylchgrawn delfrydol i bob un ohonoch sydd â diddordeb yn hanes ein bro a’r cyffiniau. Ac unrhyw un sy'n ymddiddori yn y tywydd hefyd!

Yn y rhifyn hwn cawn hanesion am Fastiau Clogwyn Bwlch y Gwynt gan Gareth T Jones, â Phen Uchaf Cwm Cynfal gan Vivian Parry Williams. Yn ogystal, cawn stori rhai o enwogion yr ardal - Harri, Parri a Kate, gan Aled Ellis, Richard Henry Wood gan Keith O’Brien a’r bardd Ioan Grych.

Hanes Glaw Stiniog sydd gan Marian Roberts y tro hwn, a chofnodion y Tywydd sydd gan Dorothy Williams.

Gweld y Pell yn Agos a gawn gan Dafydd Jones, ac ail hanes Hen Ffotograffwyr Stiniog gan Steffan ab Owain. Ceir hefyd gipdrem ar hanes Tanygrisiau, Llyn Bowydd, Y Felin ar Dân a sawl hanesyn difyr arall.

Mynnwch eich copi cyn iddynt ddiflannu o’n siopau!
--------

Cofiwch hefyd am y ddisg sydd ar gael gan y Gymdeithas efo pob rhifyn o Rhamant Bro rhwng 1983 a 2012.




21.10.15

Stolpia -Hen Bapurau Newydd

Erthygl o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn yn edrych ar rai o bapurau newydd eraill y fro.Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn 250, Mawrth 1998.
 
Hen bapurau newydd ‘Stiniog.
Dyma ‘Llafar Bro’ wedi cyrraedd Rhifyn 250, ynte? Llongyfarchiadau iddo .... a bydded i lawer iawn o rifynnau ohono ymddangos eto. Rwan, dyliwn ni sydd o gylch yr hanner cant oed yma a throsodd gadw mewn cof nad yw’n pobl ifanc yn cofio papur wythnosol diwethaf ‘Stiniog heb son am y rhai a ddiflannodd gyda’r deinosoriaid. Felly, rhoddaf ychydig o hanes yr hen newyddiaduron wythnosol a ymddnagosodd o weisg ein tref i chi isod.
W. Lloyd Roberts, cyd sylfaenydd Y Rhedegydd

Dechreuaf gyda’r un cyntaf ... ac yn wir, yr un a barhaodd hiraf.

Yn ddiau, y mae’r mwyafrif ohonoch wedi clywed amdano – os nad ydych wedi gweld copi ohono ... ie, ‘Y Rhedegydd’.

Daeth y papur Cymraeg a Radicalaidd hwn allan gyntaf yn 1878 a bu’n rhedeg am lawer blwyddyn, ac hyd at y flwyddyn 1951.

Darllener Rhamant Bro, 1992 os am fwy o’i hanes.

Y newyddiadur nesaf i’w ddilyn oedd ‘Y Gwir’ yn 1889, ac yna yn 1891 daeth ‘Y Chwarelwr’ allan o wasg Humphrey Evans. Taid y brodyr Evans, Gwasg y Faner oedd y gŵr hwn. Ni pharhaodd y ddau yma ddim mwy na rhyw flwyddyn neu ddwy, fodd bynnag.

Erbyn diwedd y ganrif, sef yn 1899 daeth newyddiadur arall allan o wasg Thomas Williams. Enw hwn oedd ‘Y Glorian’, ac o beth gasglais, bu yn cylchredeg hyd at tua 1916. Gwelodd degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif cymaint a phedwar papur newydd wythnosol yn ymddangos o weisg ‘Stinog ... h.y. ar wahan i’r Rhedegydd a’r Glorian, cofiwch.

Yn y flwyddyn 1903 daeth Lewis Davies a phapur o’r enw ‘Y Gloch’ allan o’i wasg yn y ‘Co-operative Buildings’, lle bu’r Clwb Sboncen rai blynyddoedd yn ôl. Yna, yn 1906 daeth Thomas Williams ac ail bapur allan o’i wasg brysur sef ‘Yr Arweinydd’.

Cofier, roedd y gweisg hyn yn argraffu llyfrau, pamffledi, rhaglenni a thocynnau, a.y.b. yn ogystal.

Gwelodd y flwyddyn 1908 bapur newydd o’r enw ‘Yr Aelwyd’ yn cystadlu yn galed yn erbyn y pedwar arall. Hyd yn oed gyda phoblogaeth o ddeng mil o bobl methaf a deall sut yr oedd Lewis Davies yn disgwyl i hwn werthu digon i gadw’i ben uwchben y dŵr ... oherwydd o beth welwn i, nid oedd ddim gwahanol i’r un o’r lleill!

Pa fodd bynnag, erbyn diwedd y ddegawd cyntaf, sef oddeutu 1910 ymddangosodd ‘Y Gwyliedydd Newydd’, eto o wasg Lewis Davies, Credaf i’r Aelwyd a’r Arweinydd barhau tan tua 1915/1916, ond bu i’r Gloch ddarfod ychydig flynyddoedd cyn hynny. Serch hynny, ail-ymddangosodd Y Gloch ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, oddeutu 1922, mi gredaf, a pharhaodd tan tua 1936.

Fel y gwelwch, byrhoedlog oedd hanes amryw o’r papurau newydd yma, ac yn sicr, nid oedd galw am gymaint a saith o newyddiaduron ar y tro ym Mlaenau Ffestiniog a’r cyffiniau. Byddai dau bapur gyda gwahanol safbwyntiau ac agweddau gwleidyddol wedi bod yn ddigon derbyniol, feddyliwn i ... ond wedyn, nid felly y bu pethau, a phwy ydwyf i, i newid hanes, ynte?

-------------------------


Gallwch ddilyn cyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

8.4.15

Sgotwrs Stiniog -Now Lord

Erthygl o'r archif. Y tro hwn pennod o golofn y diweddar Emrys Evans, a ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2005.

Englyn – Pluen Sgota
Wrth fynd drwy rifynnau y flwyddyn 1931 o hen bapur wythnosol Stiniog, sef Y Rhedegydd, tarewais ar yr englyn yma i’r ‘Pluen Sgota’ yn un o rifynnau mis Medi.

       ’Cain ei gwedd, dal pysg wna’n gaeth, - gan sugn
        A swyn ei thwyll – weniaeth;
        Un ddel, chwyrn, o ddwylaw chwaeth,
        A delw o hudoliaeth.’

Tybed a oes rhywun yn gwybod am englyn, neu hyd yn oed gywydd sy’n disgrifio pluen sgota? Os oes, beth am eu rhannu gyda ni?

Hefyd, tybed pwy oedd J. Christmas Williams? Does dim yn ‘Y Rgedegydd’ i ddweud lle’r oedd yn byw, beth oedd ei waith, nac un dim amdano. Fedr rhywun ein goleuo ynglyn ag awdur yr englyn?

Pwt o Atgof
Mewn rhifyn [o 2005] o ‘Rhamant Bro’ sef cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, mae gan Keith O’Brien, Trawsfynydd, ysgrif ar ‘Hanes Llyn Trawsfynydd’. Adrodd y mae fel y boddwyd rhan o dir yr ardal a elwid yn ‘Gors Goch’ er mwyn creu y llyn. Yng nghorff ei ysgrif mae’n dweud hyn, ‘Byddai chwedlau sgotwrs di-ri yn bodoli am y pysgod anferth a drigai yn nyfnder pyllau y Gors Goch.’

Cyn creu y llyn bu Afon Prysor, ers cyn cof, yn dolennu ei llwybr drwy y Gors Goch cyn diflannu i lawr Ceunant Llennyrch. Dros y blynyddoedd cafniodd yr Afon Prysor byllau dyfnion a thywyll yn y mawndir. Yn y Gors Goch yr arferai trigolion Trawsfynydd a chodi mawn, hyn eto ers cyn cof, gan gludo beichiau ohono mewn cewyll i’w cartrefi. Dyna’r hyn a ddywedodd un o hen drigolion y Traws wrthyf.

Ond yr hyn a wnaeth darllen am y Gors Goch a phyllau dyfnion Afon Prysor ynddi i mi oedd fy atgoffa’n fyw iawn o rhywbeth a ddigwyddodd pan oeddwn i’n grwt yn Ysgol y Manod. (Yr hen Ysgol y Manod, wrth gwrs). Roedd hynny rywbryd yng nghanol y 1920au, cyn bo’r Gors Goch wedi diflannu o dan y dŵr.

Yn byw drws nesaf ond un i mam a nhad, yn y tŷ a elwir yn Llys Tegid yn Ffordd y Manod, yr oedd Owen Roberts a’i wraig, Gwen. Now Lord y gelwid ef ar lafar, a hynny am ei fod wedi bod yn gwneud gwaith meinar yn Chwarel y Lord am flynyddoedd. Dyna oedd enw-bob-dydd pobl yr ardal ar Chwarel Foty a Bowydd ers talwm.

Diddordeb pennaf Now Lord oedd pysgota, a physgota pry-genwair a wnai bron bob amser, boed yn yr afon neu yn y llyn. A doedd dim dwywaith amdani hi, yr oedd Now Lord yn gryn giamstar ar bysgota pry-genwair.

Now Lord yng nghwch Llyn Bach y Gamallt. Credir fod y llun wedi’i dynnu yn y 1920au cynnar.
Yng ngardd-gefn ei gartef yn Llys Tegid, yng nghysgod coeden gwsberis, roedd twmpath o bridd, digon diniwed yr olwg, wedi tyfu’n las drosto. O’r golwg yng nghanol y twmpath yr oedd casgen bowdwr fach o’r chwarel wedi’i chladdu a llechen gron ar ei gwyneb, ac yna clwt o dywarchen ar honno. Doedd yna mo’r awgrym lleiaf y tu allan o’r hyn a oedd o’r golwg yn y twmpath pridd. Yr adeg hono mewn casgenni bach y deuai y powdwr du i’r chwareli ar gyfer y gwaith o dynnu’r llechfaen o’i wely. Yn rhyw dri-chwarter lenwi y gasgen bach yr oedd migwyn, ac wedi ymgladdu yn hwnnw yr oedd rhai cannoedd o bryfaid genwair, yn gwau drwy’i gilydd. Felly, pan geid llif sydyn yn yr afon, neu pan godai awydd i fynd ar sgiawt i ryw lyn neu’i gilydd am sgodyn, roedd yna gyflenwad parod ar gael o hoff abwyd pysgota Now Lord.

Dyna a ddigwyddod drwy ddydd Sadwrn diwedd mis a dim gweithio’n Chwarel y Lord, pryd yr aeth Now Lord i Drawsfynydd ac i’r Gors Goch i bysgota’r Afon Prysor. Rhywbryd cyn swper y diwrnod hwnnw roeddwn i’n digwydd bod yn stwna gwneud rhywbeth neu’i gilydd o flaen tŷ mam a nhad pan ddaeth Gwen Roberts o’i thŷ, ac meddai wrthyf, gan fynd heibio imi, “Dos i weld y pysgod y mae Now wedi eu dal.”

Ar drot eis innau i Lys Tegid a thrwy’r drws a oedd yn llydan agored ac i’r gegin. Ar ganol y bwrdd yr oedd plât cig, y mwyaf a oedd yn y tŷ, yn eithaf sicr, ac arno ddau bysgodyn – brithyllod – yn llenwi’r plât, gyda’u pennau a’u cynffonnau dros ei ymylon.

Yn y gadair freichiau  wrth ochr y tân eisteddai Now Lord, ei wyneb main yn grychau fel y gwenai arnaf, a rhyw olau bodlon braf yn ei ddau lygaid tywyll, fel y cofiaf. Syllais innau’n geg agored ar y pysgod. Doeddwn i erioed yn fy mywyd wedi gweld rhai cymaint.

Ma hwna,” meddai Now Lord, wedi imi fod yn rhythu arnynt am ysbaid, gan gyfeirio at y mwyaf o’r ddau bysgodyn, “yn bum pwys a chwarter. Ac mae’r llall bron iawn yn bum pwys.

Gyda’r gwaith ar y gweill o greu llyn yn y Gors Goch yn mynd rhagddo, dal ar y cyfle a wnaeth Now Lord i roi ei bryfaid genwair yn rhai o byllau dyfnion Afon Prysor a oedd yno cyn bo’r cyfle i wneud hynny wedi darfod am byth. Ac ohonynt, denodd a bachodd, a chael i’r dorlan ac i dir sych y ddau larp o sgodyn a oedd ar fwrdd cegin Llys Tegid, ac a barodd i bawb a’u gwelodd i ddotio ac i ryfeddu at eu maint, eu graen a’u lliw.

Felly, fe oedd yna wir yn y ‘chwedlau sgotwrs di-ri’, y mae Keith O’Brien yn cyfeirio atynt yn ei hanes difyr am greu Llyn Trawsfynydd. Diolch iddo am godi rhyw bwt o atgof fel yna i’r wyneb.




2.1.15

Y Cymdeithasau Hanes

Rhannau o'u hadroddiadau, o rifynnau Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2014

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog: 
Adroddodd y Llywydd, Robin Davies fod yr arddangosfa unwaith eto eleni wedi bod  yn bur llwyddiannus a bod tua 1800 o ymwelwyr wedi galw i mewn ac arwyddo llyfr yr ymwelwyr. Diolchwyd i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith  yn stiwardio dros y tymor.

Gŵr gwadd cyfarfod Medi oedd Bill Jones. Cafodd Bill ei addysg yn lleol a bu’n gweithio ar hyd yr amser i’r Comisiwn Coedwigaeth a thra yno enynnodd diddordeb mewn hanes lleol ac archaeoleg.  Testun ei sgwrs oedd 'Canfyddiadau diweddar wrth gloddio' a defnyddiodd sleidiau i egluro’r ddarlith. Dechreuodd drwy sôn am y gwaith a wnaeth ef ynghyd a Mary a’r tîm yn tyllu yng Nghwm Penamnen i ddatguddio tai hynafol Meredudd ap Ieuan (1500).

Bu’r Gymdeithas yn ymweld â’r safle rhai blynyddoedd yn ôl. Soniodd  hefyd am rai o’r bobl oedd yn byw yno megis Angharad James a’i dylanwad yn yr ardal. Y man nesaf a gyfeiriodd ato oedd y Cribau. Dangosodd sleidiau o’r hen adfail a chlywsom am y bywyd caled a’r trychinebau a ddigwyddodd yno. Soniodd hefyd am lefydd eraill yn ardal Dolwyddelan fel Bryn Beddau, Ffynnon Elan a Chwarel Hones. Diddorol oedd gweld yr offer a ddefnyddiwyd i lifio'r cerrig yn y chwarel. Daeth a ni wedyn i Gwmorthin a dangoswyd nifer o luniau o’r hen adeiladau oedd yno. Maent yn parhau i dyllu a darganfod llawer o eitemau diddorol ac mae yn rhaid canmol Cymdeithas Cofio Cwmorthin am eu gwaith rhagorol. Mae Bill newydd gael ei benodi yn Gadeirydd Cymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog ac yr ydym yn ei longyfarch am yr anrhydedd. Talwyd diolchiadau am ddarlith llawn hiwmor, fel y buasech yn disgwyl gan Bill, gan Dafydd Jones sydd wedi bod yn tyllu sawl tro efo fo.   

Ym mis Hydref roedd yn braf croesawu nifer nad oeddynt wedi bod yn ein cyfarfodydd o’r blaen. Wrth gyflwyno'r gŵr gwadd, Geraint Vaughan Jones, disgrifiodd y Llywydd, Robin Davies, ef fel nofelydd a chyn-athro ond yn bennaf fel cymwynaswr mawr i’r ardal drwy ei waith clodwiw yn llywio'r ymgyrch i amddiffyn ein Hysbyty Goffa. Testun ei sgwrs oedd Dyddiau Cynnar yr Ysbyty Goffa. Eglurodd Geraint fod ei sgwrs wedi ei seilio ar y llyfr “Ysbyty Coffa Dewrion Ffestiniog a’r Cylch 1925-1948” gan Doctor Eddie John Davies, un ohonom ni  o’r Blaenau  wrth gwrs. 

Defnyddiodd Geraint sleidiau o adroddiadau blynyddol yr ysbyty ac yr oedd hyn yn fwy effeithiol na’r gynulleidfa yn derbyn manylion moel a ddarllenid gan ddarlithydd. Gwelsom sleidiau yn rhestru pob math o ffeithiau am yr ysbyty o’r dyddiau cynnar fel pwy oedd wedi cyfrannu a phwy oedd ar y pwyllgor ac yn pwysleisio fod yr ysbyty yn un i ardal eang, ddim i Blaenau yn unig. Cawsom ystadegau yn dangos faint o gleifion a anfonwyd i’r ysbyty a pha feddyg anfonwyd hwy. Gwelwyd yn syth mae'r diweddar Dr Morris oedd ar ben y rhestr. Dangoswyd y paneli derw ar furiau'r coridor ac arnynt Rôl Anrhydedd y bechgyn a gollwyd yn y Rhyfel Mawr 1914-18 a'r ardaloedd lle yr oeddynt yn byw. 

Dangoswyd ffilm fer am agoriad yr ysbyty gyda niferoedd lu yn gorymdeithio i’r ysbyty ac yn ymgasglu mewn llefydd fel Carreg Defaid – biti na fasa Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gweld y ffilm cyn gwneud ei benderfyniad i gau'r ysbyty! Gorffennwyd gyda nifer o luniau o’r staff, nyrsys a meddygon, ac y mae yn siŵr fod y nyrsys oedd yn y gynulleidfa wedi mwynhau gweld eu hen ffrindiau ar y sgrîn. Talwyd y diolchiadau gan Dafydd Roberts, Cae Clyd, un sydd ar bwyllgor amddiffyn yr ysbyty,  gan ddweud mor ysbrydoledig a gweithgar oedd Geraint yn arwain y ffordd iddynt yn y pwyllgor. 

Yng nghyfarfod Tachwedd, daeth nifer dda o aelodau a llawer o wrandawyr newydd i glywed ein hysgrifennydd, Gareth Jones, yn darlithio ar “O Fethania i Seion”. Yr oedd cryn ddyfalu o flaen llaw beth oedd ystyr y testun a chlywsom hanes Mormon cyntaf Stiniog -Dafydd Roberts- yn cael ei fedyddio yn 1846 er gwaethaf gwawdio ei gyd-chwarelwyr, a'i daith o Fethania, 'Stiniog, i Salt Lake City yn 1856. Roedd y rhan fwyaf o Formoniaid Stiniog wedi cychwyn am Utah gyda David Peters o Rhydsarn yn 1849. Clywsom am drafferthion y daith a gafodd criw Dafydd o Lerpwl i Boston- gyda chorwynt garw  tra ar y fordaith a sychder a newyn  wrth iddynt groesi y Great Plains a’r Black Hills gyda’u troliau wrth gerdded o Iowa City i gyrraedd pen eu taith. Cafodd y teulu amser caled yn Utah a bu  farw Dafydd yn 1858 o ddiphtheria.
Daeth un aelod o'i deulu, David yn ymgeisydd i'r Gweriniaethwyr ac enillodd sedd yn y Senedd yn 1902.   Roedd yn ddiddorol clywed bod 20% o bobl Utah heddiw efo gwaed Cymreig.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Ionawr 21ain, 2015  pryd y disgwylir  Steffan ab Owain i roi yr ail ran o’i ddarlith  Pensaerniaeth Wledig.
 Robin Davies

RHAMANT BRO
Erbyn hyn mae cylchgrawn y Gymdeithas, Rhamant Bro, ar werth. Beth am yrru copi'n anrheg i aelodau o'r teulu sydd wedi symud o'r fro?
Mae'n werth bob dima' o deirpunt, ac yn llawn dop o erthyglau, lluniau a phigion.





Cymdeithas Hanes Bro Cynfal:
Coffáu Dechreuad y Rhyfel Mawr. Cyfarfu’r Gymdeithas ar ddechrau tymor newydd ar nos Fawrth, Medi 10, pan aethom i Ganolfan Llys Ednowain, Trawsfynydd, i gyfarfod a Keith O’Brien. Roedd yn noson braf a phobman ar ei orau, a chafwyd croeso cynnes yn yr adeilad hwylus. Yno'r oeddym i glywed ganddo rai o hanesion Maes y Magnelau a Hedd Wyn gan ei bod yn gan mlynedd ers dechrau ‘y rhyfel i orffen pob rhyfel’. Diddorol oedd gwrando ar Keith a chlywed hanes y ‘Camp’ fel ei gelwid a fu yn yr ardal o 1903-1959. Hefyd clywyd i 34 o fechgyn o ardal Traws gael eu lladd yn rhyfel 1914-18 a gwelwyd llun ohonynt sydd ar gadw ymhlith pethau diddorol eraill yn Llys Ednowain.

Soniodd Keith hefyd am ddadorchuddio’r gofeb i’r milwyr Cymreig yn Langenmark a ddigwyddodd ychydig ynghynt a chyfraniad Isgoed Williams a’i gyfaill, Leiwen, a fu’n gymorth mawr i wireddu hyn. Diweddwyd y noson gyda swper blasus yn Rhiw Goch (a ddefnyddiwyd gan y fyddin wrth gwrs) gyda Keith yn ymuno a ni. Noson dda i gychwyn y tymor.

Yng nghyfarfod Hydref aeth yr aelodau i Harbwr Porthmadog i ymweld â’r Amgueddfa Forwrol yno.  Croesawyd ni gan Robert Cadwaladr Jones a Dewi Jones i’r lle diddorol hwn, a chawsom hanes ynghyd a fideo'r llongau a’u cargo a hwyliodd yn ôl ac ymlaen o borthladd prysur iawn Porthmadog i bob rhan o’r byd.  Diddorol oedd enwau'r llongau a hefyd y mannau lle’r oeddynt yn hwylio iddynt, a diddorol fuasai mynd yn ôl mewn amser i weld y bwrlwm oedd yn Port yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth gwrs roedd gan bob chwarel yn y Blaenau ei chei arbennig lle llwythid y llechi a ddeuai i lawr afon Dwyryd i Ynys Cyngar yr adeg honno.  Clywsom fod y capteiniaid a’r peilotiaid yn byw ym Morth-y-gest lle’r adeiladwyd llawer o’r llongau. Diweddwyd y noson gyda phryd o fwyd yn Nhafarn Pencei - noson ddifyr a diolch i John am drefnu.


Ein gŵr gwâdd ym mis Tachwedd oedd Tecwyn Vaughan Jones, sydd yn un o drigolion Llan ers rhai blynyddoedd bellach.  Rhoddwyd crynodeb o yrfa ddisglair Tecwyn gan Lonna oedd yn cynnwys swydd yn Sain-Ffagan, swydd yn Newfoundland, Caerdydd, Celtica yn Machynlleth, a chyfnod yn America ac ym Mhrifysgol Bangor. Ymddeolodd eleni.  Mae’n un o olygyddion Llafar Bro, ac mae yn gweithio i ail-sefydlu cangen o’r British Heart Foundation yn y Blaenau.  Treuliwyd noson ddifyr yn ei gwmni yn son am arferion Nadolig a Chalan Gaeaf a difyr oedd clywed am darddiad yr arferion ynglŷn â’r Gwyliau hyn, a deall fod cysylltiad paganaidd ynghlwm â’r hyn a ddathlwn.  Roedd yn noson ddifyr  aeth a ni ar daith i lawer ardal yng Nghymru i sôn am wahanol arferion yr adeg hon o’r flwyddyn. 

30.8.13

Rhamant Bro ar ddisg

Eisiau chwilio trwy hen gopiau o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog?

Wedi colli un rhifyn arbennig?

Erbyn hyn gall bawb chwilio a phori trwy'r casgliad cyfa' o
RHAMANT BRO gan fod y gymdeithas wedi cynhyrchu disg efo pob rhifyn wedi'i sganio arno.Pob un erthygl, o bob un rhifyn, o 1983 hyd at 2012, mewn fformat hawdd i'w chyrraedd, a hawdd i'w gweld.

Credwch neu beidio, dim ond £5 yr un ydyn nhw! Maen nhw ar gael yn nosweithiau'r Gymdeithas (nesa: nos Fercher 18fed Medi, "O fewn cyrraedd" gan Dafydd Jones. Yn neuadd y WI am 7.15yh), neu gan Robin Davies y llywydd, Steffan a Vivian y golygyddion, Gareth yr ysgrifennydd -a chynhyrchydd y disgiau- ac aelodau eraill y pwyllgor.

Dyma flas o'r cynnwys:




 Diolch i'r Gymdeithas Hanes a'i gwirfoddolwyr brwd am gymwynas arall.
Cofiwch y bydd rhifyn 2013 o Rhamant Bro allan ym mis Tachwedd.

8.3.13

Paneli dehongli

Mae hanner dwsin o baneli newydd wedi ymddangos ar hyd Stryd yr Eglwys a'r Stryd Fawr, efo gwybodaeth ddifyr am hanes a diwylliant ein bro.

Mae un hefyd wedi ei osod ar Ben Carreg Defaid hefyd, rhwng ysgol y Moelwyn a'r Ysbyty Coffa.


Maen nhw'n arbennig o dda, a'r awduron, sef colofnwyr rheolaidd LLAFAR BRO, a golygyddion cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, RHAMANT BRO: Vivian Parry Williams a Steffan ab Owain- wedi cael hwyl garw ar roi manylion difyr a chryno ar bob un, a chynnwys lluniau arbennig o ddifyr hefyd; lluniau y bydd nifer o drigolion heb eu gweld o'r blaen dwi'n siwr.

Mae'r paneli yn rhoi gwybodaeth werthfawr iawn i bobl y fro yn ogystal a phobl ddiarth, ac yn ychwanegu dyfnder i'r gwaith arbennig a wnaed efo'r dywediadau yn y palmentydd, a'r cerfluniau a'r celf yng nghanol y dref dros y gaeaf.



Un o'r lluniau ar banel Carreg Defaid; arbennig o berthnasol i'r Ysbyty Coffa heddiw.
I GADW'N FYW. Gallwn ond gobeithio....


1.12.12

STOLPIA

Darn o erthygl Stolpia, Steffan ab Owain, o rifyn Tachwedd 2012.
Mae'r rhfyn dal ar werth tan ail wythnos Rhagfyr.


Gloddfa Ganol, o'r Cribau.   LLUN: PW



Deuthum ar draws y cofnod canlynol rai blynyddoedd yn ôl mewn hen newyddiadur :

Cwymp yn un o chwarelau Ffestiniog yn 1853 – Ar fore Sadwrn yn mis Chwefror  1853  daethai darn arswydus  o’r mynydd i lawr nes claddu y rhan fwyaf o chwarel Mri Matthew  a’i Fab (sef y Gloddfa Ganol ) ond drwy ryw ragluniaeth ryfedd a lwc  bu i’r amgylchiad ddigwydd  rhwng 5 a 6  o’r gloch y bore. Pe syrthiasai  awr yn hwy  buasai tua  200  o fywydau wedi eu colli yn anocheladwy.

10.9.12

Pytiau...


Ambell i ddarn o rifyn Medi.
Tamaid i aros pryd...



Arddangosfa Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
Cynhaliwyd  arddangosfa lwyddiannus iawn unwaith eto gan Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog dros yr haf. Dymuna'r trefnwyr ddiolch o galon i bob un a fu'n gwirfoddoli fel gofalwyr ar ran y gymdeithas. 
Os na fuoch chi yn yr arddangosfa, cofiwch y gallwch wylio fideo poblogaidd y Gymdeithas –Stori Stiniog- ar You Tube. [Dolen ar y dde].




Bydd Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, ar werth yn eich siopau lleol fis Tachwedd, yn llawn o erthyglau diddorol fel arfer. Dyma'r unig gylchgrawn blynyddol o'r fath a gyhoeddir drwy Gymru gyfan. 
Sicrhewch eich copi!





Gwobr Cymdeithas Cyfeillion Ysgol y Moelwyn
Mae’r gronfa wedi cyrraedd y nod. Y cyfanswm ar y pryd yw £5213. Tra y mae’r arian yn dod i mewn bwriedir wobrwyo disgyblion yr ysgol am gyfnod hwy na’r deg mlynedd gwreiddiol.


Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
Mae’r tymor  newydd  wedi  cychwyn a Bro wedi cael dwy fuddugoliaeth. Curwyd Nant Conwy o 11 i 8, mewn gêm oedd yn ddigon blêr am gyfnodau, a'r tîm lleol yn chwarae efo dim ond tri dyn ar ddeg yn y pum munud olaf.   Curwyd Dolgellau yn yr ail gêm, o 25 i 17.


Y Golofn Werdd
Bu’n dymor prysur i Glwb Natur Bro Ffestiniog eto, gyda nifer o weithgareddau cyffrous wedi eu trefnu ar gyfer y criw brwdfrydig.
Bu’r clwb yn dal ac astudio mamaliaid bychain -fel llygod y maes, a llygod pencrwn- yng Nghoed Cymerau, a hefyd ar daith gerdded, ac yn dysgu sut i hel bwyd yn y gwyllt, cynnau tân, a chodi lloches rhag y tywydd, yng Nghoed y Brenin.


murlun newydd y Tap