Showing posts with label Llyn Bowydd. Show all posts
Showing posts with label Llyn Bowydd. Show all posts

4.3.22

Stolpia- trawstiau a mwsog

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Rwyf wedi sôn ychydig am gwt compresor Ponc Ganol o’r blaen, ond nid wyf yn credu fy mod wedi crybwyll y stori hon. Cofiaf fel y bu’n rhaid newid rhan o’r cywasgydd awyr un tro, ond gan nad oedd y distyn uwchlaw y peiriant yn ddigon cryf i godi’r partiau trwm, penderfynwyd gosod trawst haearn o un talmaen i’r llall. 

Codwyd ystol i gyrraedd y lle a gwnaed dau dwll yn y wal ar ei gyfer gan y diweddar Barry Williams a finnau. Daethpwyd â’r gyrdar yno a chodwyd un pen i fyny ar silff a wnaed tros dro ger twll y talmaen gorllewinol a rhywfodd medrwyd ei gael i mewn yn weddol ddidrafferth. Pa fodd bynnag, roedd angen codi ei ben dwyreiniol i fyny at y twll, yn ogystal â’i wthio i mewn iddo, a chan nad oedd fawr o le i fwy nag un wneud y gwaith ar yr ystol, roedd yn golygu cael dyn cryf i gwblhau y gwaith. 

 

Robin Gof a Hefin Bryfdir (Llun Geoff Charles)
Y gŵr hwnnw oedd Robert George Griffiths (Robin Go’). Yn y cyfamser, roedd Barry a finnau i dynnu ar raff a oedd wedi ei daflu dros y distyn a’i glymu o amgylch y gyrdar er mwyn rhannu tipyn ar y pwysau. 

Gafaelodd Robin ymhen y gyrdar a’i godi, ac yna dringodd yr ystol yn bwyllog a phan gyrhaeddodd gyferbyn a’r twll yn y wal, a ninnau yn tynnu’n gorau glas ac yn hongian ar y rhaff, bellach, ceisiodd Robin godi ei ben dwyreiniol a’i wthio i mewn i’w le priodol, ond er yr holl fustachu, a’i wyneb yn fflamgoch, methodd yn lan a llwyddo y tro cyntaf gan fod cryn bwysau ar y gyrdar. Daeth i lawr yr ystol a dywedodd wrth Emrys, “mi dreiaf eto ar ôl cael fy ngwynt ataf,” a dyna a wnaeth, ac ymdrechodd yr eilwaith, ond methu eto. Ceisiodd am y trydydd tro, ac wedi cael nerth o rywle gallodd roi pen dwyreiniol y gyrdar yn ei le. Llwyddiant o’r diwedd.

Golygodd y job dipyn o strach inni, ac aeth rhan dda o’r prynhawn i’w chwblhau, a phan sylweddolodd Robin ar yr amser mi ddywedodd “rwyf angen mynd i fyny i gau fflodiat Llyn Bowydd rŵan,” a ffwrdd a fo ar ei daith hirbell.

Llyn Bowydd (blaen) a Llyn Newydd y tu ôl iddo (llun SabO) 
 

Stori’r migwyn – cofiaf Robin yn dweud wrthym un tro pan oedd ar ei ffordd un bore i agor y llifddor yn Llyn Bowydd iddo ddod ar draws Boreugwyn (Brigwyn) yn hel migwyn (sef mwsog cors) nid ymhell o Lyn Fflags. 

Roedd Brigwyn a’i ben i lawr yn rhoi peth o’r migwyn mewn sach, a dyma Robin yn ei gyfarch – “Bore da Migwyn, hel brigwyn, ia ?” Sylweddolodd Robin, ar ôl ychydig gamrau, beth a oedd wedi ei ddweud wrtho, a dyma fo’n cywiro ei hun – “daria, fel arall yr oeddwn yn meddwl ei ddweud!”

- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2022
Gallwch ddilyn cyfres Stolpia trwy glicio ar y ddolen isod (rhaid clicio Web View os yn darllen ar ffôn)



9.11.21

Gwreiddiau

Erthygl gan Gareth Jones

Cyfeiriaf at 'Henebion o Bwys' a 'Crwydro', dwy erthygl* yn rhifyn Gorffennaf/Awst oedd yn hynod o ddiddorol imi am nifer o resymau.

Mae ardaloedd llechi y gogledd wedi gweld twf aruthrol fel maes i astudiaethau archaeoleg diwydiannol dros y degawdau diwethaf. Fel Dirprwy Bennaeth Canolfan Astudiaethau Plas Tan y Bwlch ym 1975 un o'm cyfrifoldebau oedd trefnu ymweliadau gwaith maes i chwareli ardal Blaenau megis Cwmorthin; Y Rhosydd; a'r Diffwys. Prin oedd y llyfryddiaeth a'r wybodaeth am ddatblygiad y chwareli adeg hynny o'i gymharu â heddiw ond fe oedd campweithiau ar gael yn amrywio o lyfrau gwerthfawr hanes y plwyf gan G J Williams a Ffestinfab, i erthyglau J Gordon Jones (Tanygrisiau) yn y Trafodaethau a Cyril Parry (Rhiwbryfdir) ar dwf undebaeth chwarelwyr y diwydiant llechi. 

Cwt weindio inclên rhif 3, uwch ben chwarel Maenofferen, ar ben gorllewinol tramffordd Rhiwbach

Tua 1975 hefyd cyhoeddwyd gwaith Lewis a Denton ar Chwarel y Rhosydd ac i mi mewn llawer ystyr roedd y llyfryn yma yn gyfraniad chwyldroadol a arweiniodd at y diddordeb anhygoel yn yr ardal sy'n parhau hyd heddiw. Peidied anghofio chwaith pwysigrwydd 'Y Caban' cylchgrawn yr Oclis a Lord a'r cyfoeth hanesyddol a chymdeithasol sydd yn eu tudalennau. 

Mae'n dyled yn fawr i'r unigolion lleol hynny a sgrifennodd ac a gyhoeddodd erthyglau a llyfrau am chwareli a chymunedau ein bro dros y blynyddoedd. Diolch amdanynt a diolch am y rhai sy'n dal ati ac yn cyfrannu'n gyson i Llafar Bro a Rhamant Bro. Heb enwi neb - mawr yw ein dyled iddynt.

Fy olynydd fel dirprwy ym Mhlas Tan y Bwlch oedd y diweddar Merfyn Williams aeth ymlaen i ddatblygu rhaglen a darpariaeth astudiaethau maes y ganolfan yn hynod effeithiol a llwyddiannus. Colled drom i'n bro ac i faes astudiaethau hanes lleol oedd ei farwolaeth yn llawer rhy gyn amserol.

Dim rhyfedd felly bod Cadw yn deall, a phellach, yn cydnabod statws treftadaeth byd eang yr hyn sydd gennym ym mro chwarelyddiaeth Ffestiniog ac ardaloedd eraill y gogledd orllewin! Mae pobl Stiniog yn ymwybodol o hynny ers blynyddoedd maith. Ymddiheuraf imi grwydro chydig o'm testun ond dof yn ôl at yr erthyglau. 

Ddechrau Mehefin eleni cerddais heibio Fuches Wen i fyny hen lwybr y Diffwys at Llynnoedd Dubach ac oddi yno tros domennydd rhan uchaf y chwarel i gyfeiriad rheilffordd Rhiwbach. Es heibio yr hen Dŷ'r Mynydd, tros y gamfa wal y mynydd sy'n haeddu sylw a chofnod fel un o'n henebion dybiwn i, tuag at Tŷ'r Mynydd gyda Moelydd Barlwyd a Phenamnen yn y cefndir. Golygfa anhygoel a thu hwnt tuag at fawrion Eryri. 


Mae gennyf ddiddordeb hanesyddol teuluol yn y Tŷ'r Mynydd (a nodir fel 'sheepfold' ar fapiau OS) sy'n sefyll yn adfail heddiw ger ffordd haearn Rhiwbach. Yma y ganwyd a magwyd fy nhad Thomas tan ‘roedd yn dair oed cyn i'r teulu symud ac ailgartrefu yn y Blaenau tua 1905. Mae'n ddirgelwch imi o dan pa delerau neu denantiaeth yr oedd fy nhaid a'i deulu yn cael byw yn yr hen dŷ. Deallaf fod fy hen daid Thomas wedi ei gyflogi i oruchwylio defnydd a rheolaeth dŵr Llynnoedd Bowydd a'r afon Bowydd a ddefnyddiwyd i weithio'r peiriannau chwarel. 

Cyfeirir at Tŷ'r Mynydd yn Hanes Plwyf Ffestiniog, G J Williams (tud.86) lle mae o'n son am Chwarel Maenofferen a bod Morgan Jones wedi ei benodi i fyw yno i ehangu lefel oedd eisioes ar y ffin rhwng tiroedd Maenofferen a Gelli. 'Lefel Morgan' fel y gelwid hi. Dw i ddim yn credu bod Morgan yn perthyn i'n teulu ac os deallaf yn iawn, symud o Langollen i Dŷ'r Mynydd ddaru fy hen, hen daid Thomas a'i deulu gan gynnwys fy nhaid Wmffra, i oruchwylio ac i adeiladu a chynnal y cronfeydd a'r cafnau.

Treuliodd fy nhaid, Wmffra Jones, (Wmffra Tŷ'r Mynydd) flynyddoedd maith fel saer coed yn Chwarel y Llechwedd. Un tystiolaeth o’i waith a'i gyd seiri/chwarelwyr sydd wedi goroesi yw'r cafnau dŵr sy'n rhedeg o Lyn Newydd Bowydd i lawr at bwll nofio cyhoeddus cyntaf y Blaenau (wel dyna oedd o i hogia a genod Maenfferam) sef Llyn Fflags! Cyfeiriwyd dwy nant gan y chwarel i greu y gronfa: 'Ceg Afon' oedd y fan yma inni - man lle dysgodd dwsinau ohonom ar hyd y blynyddoedd i nofio -nid cystal a Tarzan Pictiwrs Parc; wel yn ei steil o beth bynnag!

Tystiolaeth arall o'u crefftwaith ond ysywaeth, sydd heb oroesi, oedd yr Erial. Gwn i Wmffra Jones fod yn flaenllaw yn y tîm o chwarelwyr (dan arweiniad arbenigwr peirianyddol o Dde Affrig -os deallais yn iawn)- a adeiladodd fecanwaith yr Erial fu yn dirnod mor amlwg yn yr ardal am flynyddoedd cyn ei dymchwel yn gymharol ddiweddar. Enghraifft arall o fedrusrwydd anhygoel ein chwarelwyr i addasu'r broses chwarelyddol ar gyfer strwythurau daearegol ein hardal. Credaf y dylai Cadw ryw ffordd neu'i gilydd, ystyried y gampwaith beirianyddol yma fel rhywbeth unigryw i Stiniog. Dyffryn Nantlle wrth gwrs yw canolfan y Blondins fel eu gelwid ond peidied anghofio cyfraniad ein Blondin ninnau i'r diwydiant!

Cyn iddo ymddeol pan oedd tua 80 oed ym 1959 cerddai fy nhaid y llwybr gweddol serth o'r A470 yn ddyddiol hyd at ei ddiwrnod olaf yn y gwaith.  Yr un llwybr yn y llun a welsom yn Stolpia a hanes y digwyddiad anffodus a gyfeiriwyd ato gan Steffan Ab Owain** yn rhifyn Gorffennaf/Awst.  'Pwyll bia'i' - dw i'n siwr bod Steffan wedi cael sawl cyngor fel yna gan ei gydweithwyr hŷn.

Rhyw ddeugan llath i'r gorllewin o Dŷ'r Mynydd saif adeilad a ddefnyddiwyd i weithio'r inclên fyddai'n cludo llechi chwarel Rhiwbach i lawr i gyfeiriad Chwarel Maenofferen. Adfail yw hwn erbyn heddiw ond mae'n sefyll yn urddasol fel tŵr hen gastell yn dysteb i aberth a chaledi miloedd o chwarelwyr y fro ac yn sicr mi fydd hwn yn un o'r henebion 'iconic' mae Cadw wedi ei gofnodi. Tynnais ei lun [uchod] a mawr obeithiaf ei fod yn gwneud cyfiawnder â'r hyn mae'r adeilad yn ei olygu yn hanesyddol, economaidd a chymdeithasol i'r ardal. Yn y llun mae cefndir y chwareli a Carreg Flaenllym yn tanlinellu y caledi a'r heriau hinsoddol a thirweddol bu rhaid eu goresgyn i ennill bywoliaeth a chreu cymunedau. 

Fel y nodwyd yn erthygl 'Henebion o bwys', roedd Tŷ’r Mynydd yn “lle anhygoel i fyw”. Ia wir, ar uchder o 1500 troedfedd - i fyny'r inclenau o Blaenau ym mhob tywydd; yn dibynnu ar gyswllt y lein fach i gludo nwyddau i gynnal y teulu a pha bynnag gynhaliaeth oedd bosib o'r tir a chadw anifeiliaid dros ganrif yn ol bellach.

Diolch i Llafar Bro a chymdogaeth Stiniog am gadw ein treftadaeth yn fyw ac o'i ddeall, yn sail i wynebu heriau'r dyfodol yn ieithyddol ac yn gymdeithasol.
Gareth Jones. Un o hogia Maen Fferam
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021. Lluniau gan yr awdur.

* Henebion o Bwys

* Crwydro

** Stolpia

10.1.19

Rhamant Bro

Y  mae’r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, sef Rhamant Bro yn y siopau yn barod ar eich cyfer.


Dyma gylchgrawn delfrydol i bob un ohonoch sydd â diddordeb yn hanes ein bro a’r cyffiniau. Ac unrhyw un sy'n ymddiddori yn y tywydd hefyd!

Yn y rhifyn hwn cawn hanesion am Fastiau Clogwyn Bwlch y Gwynt gan Gareth T Jones, â Phen Uchaf Cwm Cynfal gan Vivian Parry Williams. Yn ogystal, cawn stori rhai o enwogion yr ardal - Harri, Parri a Kate, gan Aled Ellis, Richard Henry Wood gan Keith O’Brien a’r bardd Ioan Grych.

Hanes Glaw Stiniog sydd gan Marian Roberts y tro hwn, a chofnodion y Tywydd sydd gan Dorothy Williams.

Gweld y Pell yn Agos a gawn gan Dafydd Jones, ac ail hanes Hen Ffotograffwyr Stiniog gan Steffan ab Owain. Ceir hefyd gipdrem ar hanes Tanygrisiau, Llyn Bowydd, Y Felin ar Dân a sawl hanesyn difyr arall.

Mynnwch eich copi cyn iddynt ddiflannu o’n siopau!
--------

Cofiwch hefyd am y ddisg sydd ar gael gan y Gymdeithas efo pob rhifyn o Rhamant Bro rhwng 1983 a 2012.




30.4.15

Sgotwrs 'Stiniog -Llynnoedd Gwneud

Erthygl o Chwefror 2003 yng nghyfres reolaidd Emrys Evans.

Y tro hwn y testun oedd:
Llynnoedd Gwneud y Cambrian

Mae ardal Ffestiniog - ‘Hen ardal y chwareli’ fel y byddai’n cael ei galw - wedi’i donio’n eithaf helaeth â llynnoedd.  Yn y mynyddoedd sydd yn cwmpasu’r fro, ceir aml i glwt o ddŵr mewn rhyw gwm neu’i gilydd neu’n llechu mewn rhyw gilfach glogwynog.


Mae rhain yma ymhell cyn i’r un llechen gael ei chloddio a’i llunio; ymhell, mae’n debyg, cyn bo’r arloeswr cynharaf wedi mentro i blith y mynyddoedd i chwilio ei chymoedd a’i chilfachau - i weld ystad y wlad, fel petae.  Roedd rhain yma, megis ‘dagrau Duw’ yn disgleirio, a neb i’w gwerthfawrogi.


Ond, er y nifer o lynnoedd a oedd yma’n barod, a’r rheini wedi eu cronni’n naturiol ers rhyw amser maith yn ôl, pan ddarganfuwyd y llygadau llechfaen cyfoethog yng nghreigiau’r ardal ac i’r diwydiant llechi dyfu a datblygu a blodeuo, aeth y galw am ddŵr gan y gwahanol chwareli yn fwy hyd yn oed nag y medrai llynnoedd ‘Stiniog ei ddiwallu.

Doedd dim amdani hi wedyn ond ychwanegu atynt - creu mwy o lynnoedd.

Yn y man, wedi ffurfio Cymdeithas Enweiriol y Cambrian yn 1885, daeth y Gymdeithas i ddal yr hawl pysgota ar rai o’r llynnoedd gwneud hyn, gan eu cyflenwi â brithyllod.
Dyma rhyw nodyn ar ddau neu dri o’r llynnoedd hyn, gan ddechrau efo Llyn Dŵr Oer, a fyddai’n ffefryn gan aml i bysgotwr. 

Llyn Dŵr Oer
Yn yr hen bapur newydd ‘Baner ac Amserau Cymru,’ rhifyn 24ain o Dachwedd, 1866, mae yr adroddiad a ganlyn i’w weld dan y pennawd ‘Llyndoriad a Llifeiriant Mawr’.

‘Ychydig uwch law Bethania, ar ben un o’r bryniau, y mae llyn newydd wedi ei gau gan Gwmpeini y Graig Ddu, at wasanaeth peiriandy a fwriadant ei wneud yn y lle.  Pa fodd bynnag rhoddodd y gwlawogydd trymion a ddisgynodd yma ddoe (Iau) a neithiwr y fath brawf ar ei nerth, nes yr ymollyngodd, gan anfon cenllif o ddyfroedd tua’r gwaelodion islaw - a gwnaeth alanastr dychrynllyd ....'
Llyn Dŵr Oer sydd dan sylw yn yr adroddiad yna, a dyna’r flwyddyn, - sef 1866 - pryd y codwyd argae yn Nant Dŵr Oer er mwyn ei ffurfio.

Y rheswm dros wneud y llyn ydoedd, fod y Cwmni a weithiai Chwarel y Graig Ddu wedi penderfynu ehangu.  Cyn hyn roedd y chwarel wedi cael ei gweithio yn lle’r oedd y gwelyau llechfaen, sef ym mhen gogleddol y Manod Mawr. Yn y cyfnod yma roedd mwy a mwy o fecaneiddio yn digwydd yn y diwydiant llechi, a rhaid oedd codi melinau, - ‘peiriandy’ medd yr adroddiad yn y papur newydd, - i roi y peiriannau llifio a naddu ynddynt.  Rhaid, hefyd, oedd sicrhau y grym i droi y peiriannau hyn, a’r adeg hynny dŵr oedd hwnnw.

Gan fod adnoddau dŵr yn brin yn rhan ucha’r chwarel dyma felly benderfynu ffurfio ponc yn Nant Dŵr Oer a chronni llyn yno.  Hefyd gwnaed inclên i gysylltu’r bonc newydd â rhan ucha’r chwarel, er mwyn dod â’r deuynydd crai i lawr i’r bonc newydd. Codwyd cei trwy ganol Llyn Dŵr Oer i gysylltu troed yr inclên â‘r ‘peiriandy’ gan rannu’r llyn yn ddau.

Yn fuan ar ôl iddi gael ei sefydlu ym mis Mehefin 1885 daeth Cymdeithas Enweiriol y Cambrian i ddal yr hawl pysgota ar Lyn Dŵr Oer, hawl sydd wedi parhau hyd heddiw.

Llyn Newydd Dubach
Ar wyneb argae Llyn Newydd Dubach arferai bod llechen mewn ffrâm, ac wedi’i dorri arni, -
‘Built by the Craig Ddu Slate Quarry Company 1915’
Dyna’r flwyddyn, felly, pryd y codwyd yr argae ac y cronnwyd Llyn Newydd Dubach.

Llyn naturiol yw’r Hen Lyn Dubach.  Fe’i dangosir ar fap 1846, a hynny flynyddoedd cyn bod sôn am ffurfio Ponc Dŵr Oer gan Gwmni Chwarel y Graig Ddu.  Wedi ffurfio Ponc Dŵr Oer a chronni Llyn Dŵr Oer yn 1886, tynnid dŵr o Hen Lyn Dubach i Lyn Dŵr Oer.  Roedd yna rediad tir naturiol o’r Hen Lyn i Ddŵr Oer.

Fel y tyfai Ponc Dŵr Oer cynyddai’r galw am ddŵr, a chodwyd argae ym mhen isaf Hen Lyn Dubach gan ei ehangu rywfaint. Yna, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-1918) penderfynwyd crynhoi holl waith cynhyrchu y chwarel ar Bonc Dŵr Oer.  Ychwanegwyd melin newydd at y dair a oedd yno’n barod, ac i geisio sicrhau cyflenwad digonol o ddŵr ffurfiwyd Llyn Newydd Dubach yn 1915.
Gan fod Cymdeithas y Cambrian eisioes yn dal yr hawl pysgota ar yr Hen Lyn daeth Llyn Newydd Dubach hefyd i gael ei gynnwys ymhlith llynnoedd y Gymdeithas.  Ers hynny mae aml i bysgodyn da wedi dod o’r Llyn Newydd.

Hen Lyn Bowydd - Llyn Newydd Bowydd
Yn ei lyfr, ‘Hanes Plwyf Ffestiniog’ (1882) mae gan Griffith John Williams y nodyn hwn ar Lyn Bowydd -
‘Yr oedd yma lyn bychan yn yr hen oesau, ond ehangwyd ef, er ei ddefnyddio at wasanaeth y chwarelau.  Ciliodd y pysgod ohono, a rhoddwyd dynion ar waith i ddal rhai yn y llynnoedd eraill, a’u dwyn yno i’w ail-gyflenwi.’
I ategu’r hyn mae G.J. Williams yn ei ddweud, sef fod ‘yma lyn bychan’, fe’i dangosir ar fap 1846, a’r enw arno yw ‘Llyn Bowydd’.  Tynnid dŵr ohono gan Chwarel y Bowydd - ‘Chwaral Lord’ ar lafar - ar y dechrau. Fel y datblygai ac y tyfai y chwarel, ac fel y mecaneiddiwyd y diwydiant llechi, cynyddodd y galw am ddŵr i droi’r melinau a godwyd yno. Buan yr aeth y dŵr o Hen Lyn Bowydd, hyd yn oed wedi iddo gael ei ehangu, yn annigonol, a bu’n rhaid ffurfio cronfa arall, sef Llyn Newydd Bowydd. Dyma gofnod neu ddau ar y mater allan o Lyfr Cofnodion Chwarel y Foty a Bowydd (wedi eu cyfieithu) -

‘18 Ebrill 1883. Methwyd a gweithio’r chwarel am oddeutu hanner mis Mawrth oherwydd fod y cronfeydd wedi mynd mor isel, ac yna cael eu tagu gan rew.  Does dim amheuaeth fod y cronfeydd yn annigonol i roi digon o ddŵr ar dymor sych, a bydd yn rhaid inni ystyried cael un arall ar unwaith.  Mae y pedwar haf wedi bod yn rhai gwlyb, ac ym mhob un ohonynt mae ein cronfeydd wedi bod bron yn sych rywbryd neu’i gilydd.’
Ymhen pum mis, ar y 27ain o Fedi 1883, ceir cofnod pellach-
(Cyfarfod o’r Bwrdd yn y Chwrael) 'Aethant i weld y gronfa newydd a ystyrid yn ychwanegiad sylweddol, ac a adlewyrchid yn ffafriol iawn ar Reolwr y Chwarel’. 
Y gronfa hon a ddaeth i gael ei galw’n Llyn Newydd Bowydd, er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth Hen Lyn Bowydd, a rhwng Ebrill a Medi 1883 y’i ffurfiwyd hi. 



[lluniau- PW]