Showing posts with label Plas Tanybwlch. Show all posts
Showing posts with label Plas Tanybwlch. Show all posts

3.10.26

Diweddariad Plas Tan y Bwlch

Darn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2026

Ym mis Awst eleni, [roedd] Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cyflwyno cais Cyfnod Datblygu i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer datblygiad Plas Tan y Bwlch. Adroddwyd eisoes i ddarllenwyr Llafar Bro bod cynlluniau cychwynnol yn cael eu datblygu ar gyfer y Plas, a bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys sawl elfen amrywiol ond cydnaws. Y prif nod yw sefydlu defnydd a dyfodol cynaliadwy ar gyfer un o adeiladau a gerddi hanesyddol pwysicaf Eryri.


Bydd sefydlu pencadlys i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch, o fewn ffin y Parc, yn darparu un angor ar gyfer y datblgyiad, gan ddod â’r Awdurdod yn agosach at gymunedau’r ardal a rhanddeiliaid. Yn hynny o beth, bydd y Plas yn parhau i ddarparu gofod ar gyfer defnydd ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr, ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau. 

Bydd agweddau eraill o’r prosiect yn adeiladu ar esgyrn da hanes addysgiadol y Plas, drwy ddarparu mannau dysgu o fewn y prif adeiladau a thirwedd y stad ehangach, ar gyfer darganfod ac archwilio Parciau Cenedlaethol, bioamrywiaeth, treftadaeth ddiwylliannol, tirwedd, ac unigedd a darparu hyfforddiant sgiliau gwledig a thraddodiadol, gan dargedu cynulleidfaoedd allweddol yn cynnwys cymunedau, teuluoedd, darparwyr addysg, busnesau, cyrff traws-sector ac ymwelwyr.

Bydd atgyweirio a gwella cyflwr yr adeilad rhestredig hefyd yn gyfle i ddangos yr hyn sy’n bosibl o ran adeilad modern, addas i’w bwrpas, eco-gyfeillgar sy’n cyd-fynd â’i leoliad o fewn adeilad rhestredig, Safle Treftadaeth y Byd a thirwedd ddynodedig. Bydd yr elfen hon yn heriol iawn, ond mae’n cynnig cyfle gwirioneddol arbennig ar gyfer cyfarch adferiad natur, datgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol ac economaidd.

Mae elfen pellach wedi’i ychwanegu at y weledigaeth ar gyfer dyfodol Plas Tan y Bwlch yn lled ddiweddar, sef sefydlu gofod newydd ar ffurf oriel, i arddangos casgliad yr hanesydd celf, Peter Lord o gelf hanesyddol Cymreig, ynghyd â benthyciadau o gasgliadau eraill. Bydd Amgueddfa Cymru yn bartner allweddol yn yr elfen hon a bydd hefyd yn cynnwys partneriaethau gyda sefydliadau eraill sy’n gofalu am gasgliadau arwyddocaol o gelf Gymreig. Y nod fydd darparu arddangosfeydd sy’n dehongli hanes Eryri a Chymru i gynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

I gefnogi’r cyfan, bydd gweithgarwch masnachol ehangach ar y safle, er mwyn cynhyrchu ffrydiau incwm amrywiol a gall rhain gynnwys darpariaeth caffi, canolfan groeso a llety. 

[Cafodd] y cais cyfnod datblygu ei gyflwyno i’r Gronfa Dreftadaeth ym mis Awst a disgwylir ymateb i’r cais hwnnw erbyn diwedd Rhagfyr. Os yn llwyddiannus, bydd hynny’n esgor ar gyfnod o ddwy flynedd i ddatblygu a mireinio cynlluniau manwl, gan arwain at gyflwyno cais cyfnod cyflawni ar ddechrau 2029. Os bydd y cais pellach hwnnw yn llwyddiannus, bydd cyfnod o 5 mlynedd i gyflawni’r prosiect ar safle’r Plas a chymunedau lleol (ardal Ffestiniog, Maentwrog, Llanfrothen, Talsarnau, Penrhyndeudraeth a Phorthmadog). 

Yn gyfochrog â’r gwaith ar y cais i’r Gronfa Dreftadaeth, mae swyddogion wedi bod yn brysur ar ffrydiau gwaith eraill yn y Plas. Derbyniwyd grant gan Cadw er mwyn llunio Cynllun Rheoli Cadwraeth gerddi rhestredig y Plas a bydd hwn yn ddogfen allweddol er mwyn gwarchod y gerddi a hysbysu penderfyniadau ar eu datblygiad yn y dyfodol. 

Bu cais i Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer prosiect ‘Plas y Bobl’ hefyd yn llwyddiannus ac mae’r grant wedi ein galluogi i benodi Meleri Davies (yn wreiddiol o Gwm Prysor) yn Artist Mewn Gwasanaeth i weithio gydag Awdurdod y Parc a chymunedau lleol i sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed yn nyfodol Plas Tan y Bwlch. Bydd rhagor o wybodaeth i ddilyn am y prosiect hwn yn yr hydref. 

Carem ddiolch i bawb sy’n dangos cefnogaeth i ddyfodol Plas Tan y Bwlch drwy fynychu digwyddiadau fel darlithoedd a sesiynau gwybodaeth i’r gymuned a thrwy barhau’r drafodaeth am ddyfodol y Plas. Mae pob llais yn cyfri ac rydym yn awyddus i’r sgwrs barhau gydol cyfnod y prosiect datblygu a thu hwnt. Os am gael sgwrs bellach, cofiwch gysylltu.

Naomi Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 
naomi.jones@eryri.llyw.cymru 

 

27.9.25

Diweddariad am y Plas

Darn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025

Go brin fod Plas Tan y Bwlch yn ddiethr i unrhyw un o ddarllenwyr Llafar Bro. 

Saif y Plas uwchlaw pentref Maentwrog a bydd gan amryw o ddarllenwyr atgofion personol ohono fel cyflogwr, canolfan addysg a lleoliad bendigedig i dreulio amser hamdden. Bellach, mae’r Plas yn adnabyddus fel cartref gwledig hanesyddol teulu’r Oakeley, Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri, ac eiddo arwyddocaol o fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. 

Llun Arthur C Harris, CC BY-SA 2.0

Mae’r enw ‘Tan y Bwlch’ yn dyddio’n ôl i’r G17 a’r teulu Griffith yn berchnogion cynnar ar y stad. Bu’n adnabyddus fel cyrchfan beirdd fel Wiliam Cynwal, Lewys Dwn, Sion Phylip o Ardudwy ac Ellis Rowland, a ddywedodd ym 1722:

“Llwyn gân mawl, llwyn gwin a medd
Llwyn i gynnal llên Gwynedd.”
Mae’r Plas sy’n gyfarwydd i ni heddiw wedi’i gwreiddio mewn treftadaeth gyfoethog. Mae’r system hydro yn adlewyrchu blaengaredd y Plas ym maes cynhyrchu ynni – dyma’r tŷ preifat cyntaf yng Nghymru i dderbyn trydan ac ym 1889, adeiladwyd Llyn Mair, yn anrheg penblwydd 21ain oed i Mary Caroline, merch Mary a William Edward Oakeley. Mae’r berllan gymunedol yn atseinio’r dreftadaeth arddwriaethol: tua chanol y G19, cyflogwyd hyd at ddeuddeg o arddwyr dan arweiniad y prif arddwr, John Roberts. Roedd meithrinfa goed y Plas yn un fasnachol, ac ar gyrion y stad gweithredai’r Home Farm, yr efail a’r melinau coed a blawd. 

Dylanwadodd y Plas yn aruthrol ar bob agwedd o amgylchedd, economi a chymdeithas yr ardal: cyflogaeth (drwy’r Plas a’r chwareli), datblygu pentref stad Maentwrog, newid cwrs afon Dwyryd er mwyn creu’r drofa siap ‘S’, i atgyfnerthu’r olygfa picturesque o’r Plas a phlannu coed pîn yn siap monogram WEO (William Edward Oakeley) yng Nghoed Camlan. Yn gymdeithasol, roedd rheolau lleol yn gorchymyn ar ba ddyddiau ceid sychu dillad y tu allan ac yn dilyn cais gan Annibynwyr lleol, caniatawyd codi Capel Gilgal ar gyrion y pentref, nid ym mlaendir yr olygfa o’r Plas. 

Hawdd, efallai, yw portreadu hanes y Plas o safbwynt y perchnogion a hepgor stori’r teuluoedd a’r cymunedau a roddodd iechyd ac einioes i lafurio yn chwareli’r Oakeley a thalu am ddatblygiad stad Plas Tan y Bwlch. Disgrifiwyd y Plas gan sawl unigolyn lleol, fel cofeb i’r rhai hyn a’r ffaith bod y Plas bellach yn eiddo cyhoeddus, sy’n creu daioni drwy brofiadau addysgiadol, hyfforddiant a llesiant drwy lwybrau, gwaith cadwraethol, gweithgareddau ac addysg, yn destun balchder eithriadol. Mae’r rhwydweithiau proffesiynol a sefydlwyd ar gyrsiau’r Plas yn weithredol yn sector rheolaeth cefn gwlad Cymru hyd heddiw a “Ffatri Gymdeithasau” Plas (ys dywed Twm Elias) yn dal i gyfrannu at ein dealltwriaeth o amgylchedd naturiol a threftadaeth ddiwylliannol Eryri. Mae’r Plas yn eicon yn nhirwedd a threftadaeth ddiwylliannol Eryri ac mae pobl a chymunedau Eryri yn rhan lawn o’r Plas.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’r Plas yn destun trafod yn dilyn penderfyniad ariannol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’w werthu. Ymatebodd y gymuned yn angerddol i’r newyddion. Mynychodd dros 250 o drigolion ddeuddydd o sesiynau galw i mewn, i’r cyhoedd leisio barn a derbyniwyd mewnbwn ar ebost gan 80 arall. Dangosodd yr ymateb grymus y cysylltiad agos rhwng y Plas a chymunedau’r ardal hyd heddiw a’r balchder ymysg trigolion mai pobl Eryri sy’n berchen arno erbyn hyn. 

Ar ddechrau 2025, adolygwyd y feddylfryd am ddyfodol y Plas gan Awdurdod y Parc a phenderfynwyd tynnu’r Plas oddi ar y farchnad er mwyn galluogi swyddogion i ymgeisio am gefnogaeth ariannol i atgyweirio a datblygu Plas Tan y Bwlch. 

Angor y prosiect hwn fydd symud pencadlys y Parc o’i gartref presennol ym Mhenrhyndeudraeth, i Blas Tan y Bwlch. Byddai hyn yn cartrefu’r Awdurdod o fewn ffiniau’r Parc, am y tro cyntaf. O amgylch y craidd hwn, bydd y Plas yn safle aml-ddefnydd, yn cyflawni pwrpasau’r Parc Cenedlaethol i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol, rhoi cyfleoedd i bobl ddysgu am a mwynhau rhinweddau arbennig yr ardal a meithrin lles economaidd a chymdeithasol yr ardal. Bydd sgwrs agored gyda chymunedau a phartneriaid i benderfynu hyd a lled hynny ac mae syniadau wedi’u crybwyll, fel: canolfan hyfforddiant sgiliau traddodiadol, canolfan wybodaeth, arddangosfeydd celf a threftadaeth, llety, digwyddiadau a gweithgareddau, gydag elfen gymunedol gref yn perthyn i’r cyfan. Wrth gwrs, bydd y gerddi, y goedwig a Llyn Mair yn parhau yn agored i’r cyhoedd. 

Byddwn yn cyflwyno cais Cyfnod Datblygu i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Chwefror 2026 ac rydym yn y broses o benodi tîm dylunio ar hyn o bryd. Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd yr Awdurdod yn derbyn grant datblygu i gefnogi datblygu cynlluniau llawn a hynny’n arwain maes o law at gyflwyno cais cyfnod cyflawni, gwerth hyd at £10m. 

Fel rhan o’r gwaith, rydym yn awyddus i gasglu atgofion o Blas Tan y Bwlch a byddem yn falch o glywed gan drigolion sydd gan straeon i’w rhannu - efallai eich bod chi neu aelod o’r teulu wedi gweithio yno, wedi mynychu cyrsiau neu yn mwynhau crwydro’r stad? Mae croeso i chi gysylltu drwy ebostio: naomi.jones@eryri.llyw.cymru 
Naomi Jones. Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 
 

14.10.24

Senedd Stiniog- Tan y Bwlch a Rhaeadr y Cwm

Cyfarfod diwethaf Cyngor Tref Ffestiniog cyn y toriad oedd yr un ‘Mwynderau’ a gynhaliwyd ar y 15fed o Orffennaf.  Derbyniwyd adroddiad ROSPA am gyflwr diweddaraf y caeau chwarae a’r argymhellion i’w gwella.  Cytunwyd fod yr argymhellion yn rhai dilys ac mae’r gwaith trwsio eisoes wedi dechrau.  

Hefyd, croesawyd y Swyddog Llwybrau Cerdded newydd, sef Marc A o Lan Ffestiniog.  Cyflwynodd ei adroddiad cyntaf i’r Cyngor a derbyniodd fap o’r holl lwybrau yn yr ardal y bydd angen eu hasesu.  Dymunwn bob llwyddiant iddo yn y gwaith.  Aeth y cyfarfod ymlaen i drafod rhai gobeithion ar gyfer Parc Sglefrio newydd.

Cynhaliwyd Hwyl yn y Parc ar y penwythnos cyn Gŵyl Banc Awst ac rwyf yn falch i ddweud, bu’n llwyddiant ysgubol.  Diolch bod y tywydd wedi cadw’n sych inni wrth gwrs, hynny o hyd yn helpu.  Cafodd y plantos a’r oedolion eu diddori gan sawl stondin a gwesteion arbennig, gyda’r wal ddringo’n brysur tu hwnt.  Rhaid rhoi diolch mawr i gynghorwyr yr is-bwyllgor am y gwaith caled a’r holl amser a aberthwyd ganddynt at yr achos.  Mewn cyfarfod anarferol fe benderfynwyd mai symud yr ŵyl o amgylch yr ardal fyddai orau yn y dyfodol, hyn fel ei bod yn cael ei hystyried yn wir ŵyl i’r fro gyfan, a Thanygrisiau mae hi am fod blwyddyn nesaf.

Oherwydd prinder amser rhaid oedd cynnal cyfarfodydd Anarferol yn ystod Awst ble trafodwyd, ynghyd â phethau eraill:

Dyfodol Plas Tan y Bwlch

Roedd holl aelodau’r Siambr yn ystyried y gwerthiant yn warth ac am fynegi hynny drwy lythyru’r Parc Cenedlaethol ac ein holl gynrychiolwyr gwleidyddol yn eu herfyn i geisio’i rwystro rhag mynd ar y farchnad agored. 

Y datblygiad hydro-electrig ger Pont yr Afon Gam

I’r darllenwyr sydd heb glywed, mae Cynllun Cynhyrchu Trydan darpariedig uwchben Cwm Cynfal.  Tri brawd, ffermwyr, yw perchnogion y tir ac maent yn gobeithio datblygu cynllun hydro-electrig fydd yn darparu cyflenwad trydan i oddeutu 300 o dai.  Bydd y trydan yn bwydo i mewn i’r grid a’r cyflenwad yn cael ei ddarparu o’r is-orsaf yng Ngheunant Sych.  Y tai sy’n derbyn eu trydan o’r is-orsaf hon yn unig sy’n debygol o gael eu heffeithio, os o gwbl, gan y cynllun.  Pan fuom yn trafod y prosiect gyda’r brodyr yn Neuadd y Pentref, Llan Ffestiniog yn ddiweddar roeddynt mewn trafodaeth â chwmni o’r gogledd ‘ma sy’n arbenigo mewn cynlluniau o’r fath, am sut byddai tai lleol yn derbyn cyflenwad rhatach.  Gwn i ddim beth yw’r diweddaraf ynglŷn â’r trafodaethau hyn ond doedd fawr o ffydd ymysg y Cynghorwyr y byddai unrhyw gwtogiad mewn biliau yn debygol o ddilyn ond, amser a ddengys.  Aeth y drafodaeth at bleidlais ac aeth o blaid cefnogi’r cynllun.  Pleidlais agos iawn a holltodd y Siambr, fel bydd yn sicr yn creu hollt ymysg trigolion yr ardal dwi’n siŵr.

Colofn ddiduedd dylai Senedd Stiniog fod, felly er tegwch, ac i’r darllenwyr gael gwell dealltwriaeth gytbwys o’r dadleuon, mi fydd y Cynghorydd Rory Francis, oedd yn erbyn y cais yn egluro ei resymau dros wrthwynebu yn Llafar Bro hefyd.

Er y pryderon am fywyd gwyllt ac am yr olion archeolegol sy’n bodoli ger y safle arfaethedig, a gan nad NIMBY ydwyf, penderfynais mae pleidleisio o blaid y cynllun oedd y peth iawn i’w wneud.  

Hoffaf weld Cymru yn dilyn Norwy ac yn arbenigo mewn cynlluniau hydro-electrig.  Mae’r dirwedd gennym a digon o law yn disgyn arnom yma, ac mae’r potensial i greu trydan gwyrdd, cynaliadwy yn anferth. Rhedeg mae pob diferyn o’r copaon i’r môr yn y diwedd, a gwell inni, a’r fam ddaear, os gallem ddefnyddio grym disgyrchiant a’i drawsnewid yn ynni. Teimlaf fod yr ymgeiswyr wedi gwneud eu gwaith cartref yn drylwyr, Byddai neb yn cytuno i gael peiriannau’n rhwygo ochr mynydd ac yn gadael creithiau hyll ar y dirwedd, heb reolau priodol mewn bod i’w warchod ar gyfer y dyfodol.  Tyda ni ddim isio Llan fod fel Blaenau nac oes!  Mae llawer yn gwrthwynebu adeiladu coredau, (‘weirs’), oherwydd eu bod yn rhwystro symudiad pysgod tymhorol.  Bydd rhaid adeiladu pwll uwchben rhaeadr Cwm Cynfal ond go brin y byddai’n effeithio ar unrhyw bysgod tymhorol yn y safle hwnnw.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar mae’r diwydiant amaeth oedd â’r canran fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ychydig dros 42% os dwi’n cofio’n iawn.  Y gŵyn gyson yn ddiweddar yw bod y ffermydd bach teuluol yn ei chael hi’n anodd cadw pen uwchlaw’r dŵr, yn poeni am eu dyfodol, efallai’n gorfod gwerthu tir bu yn y teulu ers cenedlaethau.  Arallgyfeirio ydi’r unig ateb i rai ac efallai y gall cynlluniau bach fel hyn fod y gwahaniaeth rhwng parhau i ffermio neu roi’r gorau iddi.  Oes, cytuno, mae’n rhaid inni gymryd gofal o fyd natur a sicrhau nad ydym yn ei andwyo, yn edrych ar ôl y mwsogl a’r pryfetach ond, os nad ydym yn ofalus, y fferm deuluol Gymraeg fydd yr ‘endangered species’ nesaf.
DMJ. (Safbwynt fy hun yn unig)
- - - - - - - - - - 

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024


Plas Tan y Bwlch Ar Werth

Oes gennych chi £1.2 miliwn i’w sbario?
Erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024

Mae llawer iawn o son a thrafod a phryderu wedi bod am ddyfodol Canolfan Addysg Parc Cenedlaethol Eryri ym Maentwrog, ond cadarnhawyd ofnau nifer ym mis Awst wrth i’r Parc roi Plas Tan y Bwlch ar y farchnad agored.

Plas Tan y Bwlch, y gerddi a'r berllan a rhan o'r coedydd sy'n llawn llwybrau. Llun Llywelyn2000 CC BY-SA 4.0

Ganol y mis roedd datganiad i’r wasg gan y Parc yn son bod ‘trafodaethau’n parhau efo un cwmni cymunedol...’ na chafodd ei enwi, ac heb lawer o wybodaeth am ddyfodol perthynas y gymuned â’r plas, felly mi wnaeth eich papur bro gysylltu’n uniongyrchol efo’r Parc i holi ymhellach am ddyfodol y gerddi a'r berllan, ac am fynediad at Llyn Mair a’r llwybrau yn y coed, a sut fydd cymuned Maentwrog/Ffestiniog yn elwa o'r gwerthiant, ac ati. 

Ymatebodd y Parc yn dweud eu bod yn “ymwybodol o bryderon bobl leol” ac wedyn ailadrodd cynnwys eu datganiad cyffredinol i’r wasg. 

“Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ceisio nifer o wahanol opsiynau yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf er mwyn darganfod model busnes fyddai yn lleihau’r gôst i’r Awdurod o gynnal canolfan Plas Tan y Bwlch. Mae’r Awdurdod yn awyddus i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Plas ond rhaid cydnabod bellach nad yw yn ein gallu i ariannu’r ganolfan ein hunain. Mae hyn o ganlyniad i doriadau sylweddol iawn yn ein cyllidebau a gyda ychwanegiad chwyddiant nid yw’n gynaladwy i’r busnes barhau ar y model presennol. Fel rhan o’n hymdrechion i sicrhau dyfodol hir dymor y Plas rydym wedi cysylltu gyda chwmniau lleol ac mae trafodaethau yn parhau gydag un cwmni cymunedol ar hyn o bryd. Bu i’r Awdurod hefyd benderfynu y byddai angen opsiwn pellach, os nad yw trafodaethau o’r fath yn llwyddiannus, ac i’r diben yma mae penderfyniad hefyd wedi ei wneud i hysbysebu’r ffaith ein bod yn agored i gynigion ar y farchnad agored. Mi fydd dyfodol hir dymor Plas Tan y Bwlch yn chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw benderfyniad gan yr Awdurdod.”

Wnaethon nhw ddim ymhelaethu ar ymholiad benodol Llafar Bro am y gerddi a Llyn Mair, a ph’run ai oedd posib rhoi amodau yn gwarchod mynediad i bobl leol wrth werthu (does yna ddim llwybrau cyhoeddus, dim ond mynediad trwy ganiatâd y Parc, felly fyddai yna ddim rheidrwydd gyfreithiol ar brynwr preifat i’ch gadael chi na fi ar y tir o gwbl), gan ddweud y dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau pellach at yr asiant gwerthu, Carter Jonas.

Yn y cyfamser mae’r elusen, Cyfeillion Plas Tan y Bwlch -sydd wedi bod yn casglu arian ar gyfer y plas a threfnu gweithgareddau rheolaidd yno- wedi sgwennu at eu haelodau yn dweud mai “ychydig o wybodaeth a gawsom ar waethaf ein llythyru gyda Phrif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri... Mae’r diffyg ymateb wedi bod yn siomedig a thrist, ac rydym yn teimlo ein bod yn siarad â’r wal.”

Mae’r Cyfeillion yn annog pawb i sgwennu at brif weithredwr y Parc i ddweud pa mor bwysig ydi cadw’r Plas mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae deiseb hefyd i geisio achub y Plas, os hoffech lofnodi: ewch i wefan change.org a chwilio efo’r geiriau ‘Achub Plas’.

Wrth fynd i’r wasg daeth Llafar Bro i ddeall mae Cymunedoli ydi’r ‘cwmni cymunedol’ -sef yr ymbarél i rwydwaith o fentrau sy’n cydweithio er budd eu cymunedau- a theg dweud fod mentrau cymunedol Bro Stiniog yn allweddol yn y rhwydwaith hwnnw. Maen nhw rwan yn edrych ar opsiynau ac wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb/cynllun datblygu i weld be sy’n bosib. 

Edrychwn ymlaen yn arw i weld be ddaw o’r astudiaeth a’r trafodaethau. Chwith na fyddai’r Parc wedi aros am ganlyniad hyn cyn rhoi’r plas ar y farchnad agored, ond efallai fod eu brawddeg olaf “Mi fydd dyfodol hir dymor Plas Tan y Bwlch yn chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw benderfyniad...” yn rhoi lle i fod yn obeithiol. Mae’n sicr yn rhywbeth y gellid eu hatgoffa wrth bwyso arnyn nhw i wneud y peth iawn dros y misoedd nesa.

9.11.21

Gwreiddiau

Erthygl gan Gareth Jones

Cyfeiriaf at 'Henebion o Bwys' a 'Crwydro', dwy erthygl* yn rhifyn Gorffennaf/Awst oedd yn hynod o ddiddorol imi am nifer o resymau.

Mae ardaloedd llechi y gogledd wedi gweld twf aruthrol fel maes i astudiaethau archaeoleg diwydiannol dros y degawdau diwethaf. Fel Dirprwy Bennaeth Canolfan Astudiaethau Plas Tan y Bwlch ym 1975 un o'm cyfrifoldebau oedd trefnu ymweliadau gwaith maes i chwareli ardal Blaenau megis Cwmorthin; Y Rhosydd; a'r Diffwys. Prin oedd y llyfryddiaeth a'r wybodaeth am ddatblygiad y chwareli adeg hynny o'i gymharu â heddiw ond fe oedd campweithiau ar gael yn amrywio o lyfrau gwerthfawr hanes y plwyf gan G J Williams a Ffestinfab, i erthyglau J Gordon Jones (Tanygrisiau) yn y Trafodaethau a Cyril Parry (Rhiwbryfdir) ar dwf undebaeth chwarelwyr y diwydiant llechi. 

Cwt weindio inclên rhif 3, uwch ben chwarel Maenofferen, ar ben gorllewinol tramffordd Rhiwbach

Tua 1975 hefyd cyhoeddwyd gwaith Lewis a Denton ar Chwarel y Rhosydd ac i mi mewn llawer ystyr roedd y llyfryn yma yn gyfraniad chwyldroadol a arweiniodd at y diddordeb anhygoel yn yr ardal sy'n parhau hyd heddiw. Peidied anghofio chwaith pwysigrwydd 'Y Caban' cylchgrawn yr Oclis a Lord a'r cyfoeth hanesyddol a chymdeithasol sydd yn eu tudalennau. 

Mae'n dyled yn fawr i'r unigolion lleol hynny a sgrifennodd ac a gyhoeddodd erthyglau a llyfrau am chwareli a chymunedau ein bro dros y blynyddoedd. Diolch amdanynt a diolch am y rhai sy'n dal ati ac yn cyfrannu'n gyson i Llafar Bro a Rhamant Bro. Heb enwi neb - mawr yw ein dyled iddynt.

Fy olynydd fel dirprwy ym Mhlas Tan y Bwlch oedd y diweddar Merfyn Williams aeth ymlaen i ddatblygu rhaglen a darpariaeth astudiaethau maes y ganolfan yn hynod effeithiol a llwyddiannus. Colled drom i'n bro ac i faes astudiaethau hanes lleol oedd ei farwolaeth yn llawer rhy gyn amserol.

Dim rhyfedd felly bod Cadw yn deall, a phellach, yn cydnabod statws treftadaeth byd eang yr hyn sydd gennym ym mro chwarelyddiaeth Ffestiniog ac ardaloedd eraill y gogledd orllewin! Mae pobl Stiniog yn ymwybodol o hynny ers blynyddoedd maith. Ymddiheuraf imi grwydro chydig o'm testun ond dof yn ôl at yr erthyglau. 

Ddechrau Mehefin eleni cerddais heibio Fuches Wen i fyny hen lwybr y Diffwys at Llynnoedd Dubach ac oddi yno tros domennydd rhan uchaf y chwarel i gyfeiriad rheilffordd Rhiwbach. Es heibio yr hen Dŷ'r Mynydd, tros y gamfa wal y mynydd sy'n haeddu sylw a chofnod fel un o'n henebion dybiwn i, tuag at Tŷ'r Mynydd gyda Moelydd Barlwyd a Phenamnen yn y cefndir. Golygfa anhygoel a thu hwnt tuag at fawrion Eryri. 


Mae gennyf ddiddordeb hanesyddol teuluol yn y Tŷ'r Mynydd (a nodir fel 'sheepfold' ar fapiau OS) sy'n sefyll yn adfail heddiw ger ffordd haearn Rhiwbach. Yma y ganwyd a magwyd fy nhad Thomas tan ‘roedd yn dair oed cyn i'r teulu symud ac ailgartrefu yn y Blaenau tua 1905. Mae'n ddirgelwch imi o dan pa delerau neu denantiaeth yr oedd fy nhaid a'i deulu yn cael byw yn yr hen dŷ. Deallaf fod fy hen daid Thomas wedi ei gyflogi i oruchwylio defnydd a rheolaeth dŵr Llynnoedd Bowydd a'r afon Bowydd a ddefnyddiwyd i weithio'r peiriannau chwarel. 

Cyfeirir at Tŷ'r Mynydd yn Hanes Plwyf Ffestiniog, G J Williams (tud.86) lle mae o'n son am Chwarel Maenofferen a bod Morgan Jones wedi ei benodi i fyw yno i ehangu lefel oedd eisioes ar y ffin rhwng tiroedd Maenofferen a Gelli. 'Lefel Morgan' fel y gelwid hi. Dw i ddim yn credu bod Morgan yn perthyn i'n teulu ac os deallaf yn iawn, symud o Langollen i Dŷ'r Mynydd ddaru fy hen, hen daid Thomas a'i deulu gan gynnwys fy nhaid Wmffra, i oruchwylio ac i adeiladu a chynnal y cronfeydd a'r cafnau.

Treuliodd fy nhaid, Wmffra Jones, (Wmffra Tŷ'r Mynydd) flynyddoedd maith fel saer coed yn Chwarel y Llechwedd. Un tystiolaeth o’i waith a'i gyd seiri/chwarelwyr sydd wedi goroesi yw'r cafnau dŵr sy'n rhedeg o Lyn Newydd Bowydd i lawr at bwll nofio cyhoeddus cyntaf y Blaenau (wel dyna oedd o i hogia a genod Maenfferam) sef Llyn Fflags! Cyfeiriwyd dwy nant gan y chwarel i greu y gronfa: 'Ceg Afon' oedd y fan yma inni - man lle dysgodd dwsinau ohonom ar hyd y blynyddoedd i nofio -nid cystal a Tarzan Pictiwrs Parc; wel yn ei steil o beth bynnag!

Tystiolaeth arall o'u crefftwaith ond ysywaeth, sydd heb oroesi, oedd yr Erial. Gwn i Wmffra Jones fod yn flaenllaw yn y tîm o chwarelwyr (dan arweiniad arbenigwr peirianyddol o Dde Affrig -os deallais yn iawn)- a adeiladodd fecanwaith yr Erial fu yn dirnod mor amlwg yn yr ardal am flynyddoedd cyn ei dymchwel yn gymharol ddiweddar. Enghraifft arall o fedrusrwydd anhygoel ein chwarelwyr i addasu'r broses chwarelyddol ar gyfer strwythurau daearegol ein hardal. Credaf y dylai Cadw ryw ffordd neu'i gilydd, ystyried y gampwaith beirianyddol yma fel rhywbeth unigryw i Stiniog. Dyffryn Nantlle wrth gwrs yw canolfan y Blondins fel eu gelwid ond peidied anghofio cyfraniad ein Blondin ninnau i'r diwydiant!

Cyn iddo ymddeol pan oedd tua 80 oed ym 1959 cerddai fy nhaid y llwybr gweddol serth o'r A470 yn ddyddiol hyd at ei ddiwrnod olaf yn y gwaith.  Yr un llwybr yn y llun a welsom yn Stolpia a hanes y digwyddiad anffodus a gyfeiriwyd ato gan Steffan Ab Owain** yn rhifyn Gorffennaf/Awst.  'Pwyll bia'i' - dw i'n siwr bod Steffan wedi cael sawl cyngor fel yna gan ei gydweithwyr hŷn.

Rhyw ddeugan llath i'r gorllewin o Dŷ'r Mynydd saif adeilad a ddefnyddiwyd i weithio'r inclên fyddai'n cludo llechi chwarel Rhiwbach i lawr i gyfeiriad Chwarel Maenofferen. Adfail yw hwn erbyn heddiw ond mae'n sefyll yn urddasol fel tŵr hen gastell yn dysteb i aberth a chaledi miloedd o chwarelwyr y fro ac yn sicr mi fydd hwn yn un o'r henebion 'iconic' mae Cadw wedi ei gofnodi. Tynnais ei lun [uchod] a mawr obeithiaf ei fod yn gwneud cyfiawnder â'r hyn mae'r adeilad yn ei olygu yn hanesyddol, economaidd a chymdeithasol i'r ardal. Yn y llun mae cefndir y chwareli a Carreg Flaenllym yn tanlinellu y caledi a'r heriau hinsoddol a thirweddol bu rhaid eu goresgyn i ennill bywoliaeth a chreu cymunedau. 

Fel y nodwyd yn erthygl 'Henebion o bwys', roedd Tŷ’r Mynydd yn “lle anhygoel i fyw”. Ia wir, ar uchder o 1500 troedfedd - i fyny'r inclenau o Blaenau ym mhob tywydd; yn dibynnu ar gyswllt y lein fach i gludo nwyddau i gynnal y teulu a pha bynnag gynhaliaeth oedd bosib o'r tir a chadw anifeiliaid dros ganrif yn ol bellach.

Diolch i Llafar Bro a chymdogaeth Stiniog am gadw ein treftadaeth yn fyw ac o'i ddeall, yn sail i wynebu heriau'r dyfodol yn ieithyddol ac yn gymdeithasol.
Gareth Jones. Un o hogia Maen Fferam
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021. Lluniau gan yr awdur.

* Henebion o Bwys

* Crwydro

** Stolpia

26.1.16

Cytgord i uno

Dathliadau Seindorf yr Oakeley a Chôr Rhiannedd y Moelwyn

Cafwyd noson lwyddiannus iawn ym Mhlas Tan-y-bwlch pan lansiodd y Seindorf, yn swyddogol, eu CD newydd  DATHLU 150.

Fel yr oedd y gwesteion a’r gynulleidfa yn cyrraedd y Plas cafwyd darllediad byw  gan Gerallt Pennant a chriw Heno (S4C)  i gofnodi’r digwyddiad arbennig yma yn hanes y band.

Cafwyd eitemau amrywiol a chyflwyniad gan yr arweinydd John Glyn Jones o gefndir ynghŷd â hanes recordio’r CD. Cyflwynwyd crynodeb o ’Hanes Cynnar y Seindorf’ 1864-1923 gan yr arweinydd gan ganolbwyntio ar gysylltiad y band a Phlas Tan-y-bwlch (cartref W. E. Oakeley a’i deulu).

Yn ogystal,  rhoddodd hanes dau arweinydd a cherddorion o fri sef Mr William Jones a Mr.W.R.Edwards. Braf oedd deall i Mr Trefor Edwards ŵyr i Mr.W.R.Edwards fod yn y gynulleidfa.

Yn ystod y noson cyflwynodd y bardd ifanc Gruffudd Antur (cyn aelod o’r band) englyn i John Glyn Jones a’r band fel anrheg i gofnodi’r pen-blwydd hanesyddol yma i’r gymdeithas hynaf yn ardal ‘Stiniog. Ar ôl ei dderbyn gan Gruffudd, cyflwynodd yr arweinydd yr englyn i Mr Dewi Lake ar gyfer ei osod ar furiau Ysgol y Moelwyn er  cof a chadw  am flynyddoedd i ddod.        [Glen Jones]
DATHLU 150
Ar gwr y creigiau geirwon – fe glywaf
     y glaw a'r morthwylion
yn creu, fesul carreg gron,
gytgord i uno'r dynion.

                                  Gruffudd Antur

Bu'r Seindorf  yn cystadlu yng Nghystadleuaeth ‘Bandiau Pres Gogledd Cymru’  a gynhaliwyd yn Rhuthun. Daeth y band yn drydydd. Profiad arbennig ac unigryw arall i aelodau ifanc y band.

Dyfarnwyd yr anrhydedd o chwaraewr gorau Cystadleuaeth Bandiau Pres Gogledd Cymru i Alan Jones o Senidorf yr Oakeley. Alan yw prif gornetydd yr Oakeley.  Derbyniodd Alan darian  'Accent Insurance Shield'.

Llongyfarchiadau i Alan a'r band.

******

Côr Rhiannedd y Moelwyn yn dathlu'r dwbwl!

Wedi deufis prysur dros ben gydag ymarferion ddwywaith yr wythnos, mae Côr Rhiannedd y Moelwyn bellach ar ben eu digon wedi iddynt gael buddugoliaeth mewn dwy gystadleuaeth yn ddiweddar. Yn gôr ifanc sydd ond wedi mentro i gystadleuaeth un waith cyn hyn, roedd cryn nerfau i'w teimlo ymysg yr aelodau yn yr ymarferion a oedd yn arwain fyny at y cystadlu.

Ar nos Wener, yr ail o Hydref, bu iddynt berfformio o flaen cynulleidfa hwyliog a chroesawgar Neuadd Bentref Trawsfynydd ble daethant i'r brig yng nghystadleuaeth y corau yn Eisteddfod Stesion, a hynny yn erbyn dau gôr safonol a lleol arall, sef Meibion Prysor a Lliaws Cain. Wedi i'r beirniad, Nia Morgan ddisgrifio sain y côr fel 'treibal' a'r aelodau fel 'wariars' tra'n canu 'Adiemus' daeth y côr adref gyda'r wobr gyntaf, sef Tlws Coffa Wyn, Cae Glas (yn rhoddedig gan Meibion Prysor) a £70.

Llun Eray Guner
Doedd fawr o amser i ddathlu gan y byddant angen ail-ymgynnull i ymarfer yn syth ar gyfer cystadleuaeth y corau merched yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru ar Dachwedd y seithfed.

Yn gôr cyntaf y gystadleuaeth i gamu ar lwyfan Venue Llandudno, cafwyd perfformiad penigamp gyda phrofiad Sylvia Ann Jones yr arweinyddes, yn disgleirio trwy'r rhaglen amrywiol ac eang ddewisiwyd ganddi.

Roedd mwynhad y merched yn amlygu ei hun, yn enwedig yn eu perfformiad o 'Hail Holy Queen' allan o'r ffilm Sister Act, ble cafodd offerynnau taro a chlapio eu hychwanegu i gyfeiliant arbennig arferol Awen Davey.

Wedi cystadleuaeth gref rhwng y pum côr gyda thri beirniad profiadol yn gwylio a gwrando pob gair a nodyn gan lynnu at reolau a phob cyfyngiad amser, dyfarnwyd Côr Rhiannedd y Moelwyn yn fuddugwyr y gystadleuaeth, gan ennill tlws y wobr gyntaf a £500.

Wedi wythnos o ysbaid, bu'r côr wrthi unwaith eto efo perfformiadau yng Nghlwb y Ddraig Goch, noson Goleuo Stiniog, Nadolig y Pengwern, ac Wedi'r Ŵyl ym Mhentrefoelas ym mis Ionawr.

Mawr yw diolch y côr am gefnogaeth parod yr ardal pob amser.                      [Catrin Williams]
-------------------------------

Addaswyd o rifynnau Tachwedd a Rhagfyr 2015
.

11.10.15

Sgotwrs Stiniog -ymladdfa ffyrnig

Erthygl arall o gyfres reolaidd Emrys Evans.


Gwaith difyr yn aml yw pori mewn hen bapurau newyddion, ac wrth wneud hynny gall rhywun daro ar ambell i hanesyn neu ddigwyddiad diddorol iawn.

Pan fu gy nghyfaill Vivian P. Williams, y Blaenau, wrthi beth amser yn ôl, tarodd ar hanesyn am rai wedi mynd i lawr i Faentwrog i botsio samons, a’r ciperiaid yn dod ar eu gwarthaf.  Dyma’r hanes fel y’i ceir ym Maner ac Amserau Cymru, y 5ed o Fawrth, 1879.  Ar wahan i’r digwyddiad ei hun, mae y dull o gyflwyno yr hanes yn ddiddorol, ac yn ddigrif mewn mannau.
“Ymladdfa Ffyrnig ar Lannau’r Ddwyryd
Nos Wener, neu yn gynnar fore Sadwrn cyn y diweddaf, bu ymladdfa dost rhwng rhyw bump ar hugain o herwhelwyr pysgodawl, a thua phymtheg o geidwaid helwriaeth ac eraill o’u cynnorthwywyr o dŷ Mr Oakeley, Tan y Bwlch, ger llaw i ddolydd y Llechrwd, a Glan yr Afon, yn nyffryn tlws Ffestiniog.  Saethwyd ergydion meddid o’r ddeutu, i geisio dychrynu y naill y llall.  Ond â ffyn y bu’r ymladdfa fawr, nes y bu agos i benglogau un neu ddau o’r ceidwaid gael eu malu yn dost.  Pur ddrwg y daliai archollion un ceidwad o Sais i fyny i ddiwedd yr wythnos, a deallai oddi wrth ei feddyg, G.J. Roberts, Ysw., nad oedd allan o berygl am ei fywyd.  Gresyn ofnadwy fod y fath gyflafan a hyn yn digwydd yng “
ngwlad yr Efengyl”.  Fawr gwell na’r Indiaid Cochion tu draw i’r môr.
Y mae yn debyg i nifer o’r poachers gael eu hanafu, ond ni ddyweid iddynt hwy orfod galw am feddygon, trwyddedig felly, rhag y byddai eu hwynebau yn haws i’w hadnabod na’r hetiau a gollasant yn y ffrwgwd.”
Yr adeg hynny roedd stâd Tan-y-bwlch yn dal yr afon Ddwyryd, ac am ei chadw iddynt eu hunain.  Yr adeg hynny, hefyd, roedd digonedd o eogiaid a sewin yn yr afon, fel mewn afonydd eraill.  O sylwi ar ddyddiad yr hanesyn yma, sef mis Mawrth, mae hi’n amlwg fod yna bysgod yn dod i’r afon yn gynnar iawn yn y tymor, a’i bod hi felly’n werth i’r ‘herwhelwyr pysgodawl’ yma fynd ar gyrch i’r afon.  Credai llawer yr adeg hynny, efallai fod llawer yn dal i gredu hynny hyd heddiw! – fod pysgod yn eiddo cyffredin i’r werin.  Fel y dywedodd un o hen drigolion ardal, “Cwpwrdd y dyn tlawd yw’r afon.”

Diolch i Vivian am godi’r hen hanes diddorol yma ar gyfer y golofn.  Melys moes mwy.

Rhai blynyddoedd yn ôl bellach cefais nifer o blu sewin wedi eu cawio gan Illtyd Griffiths o Aberystwyth.  Mae yna un-ar-ddeg yn y casgliad.  Plu ydynt sy’n cael eu defnyddio yn afonydd canolbarth Cymru, yr afonydd Rheidol, Teifi, Tywi ac eraill.  Maent yn gasgliad diddorol, ac yn amrywio yn eu maint ac yn eu patrymau.  Du ac arian yw’r ddau liw mwyaf amlwg ynddynt.  Yn naw o’r un-ar-ddeg pluen mae arian yn eu cyrff, y corff i gyd yn arian neu yn rhannol.  Mae du yn amlwg iawn, yn y corff, y traed a’r adain.  Nodwedd arall yn y plu yma ydi rhoi bach trebl bychan yn sownd yng nghwt y bluen hefo gyt cryf.  Dywedir fod hyn yn help i gael bachiad pan mae’r sewin yn pinsio, fel y dywedir.  O’r un-ar-ddeg pluen yma y mae chwech ohonynt â’r bach trebl bychan wrth eu cwt.  Oes yna rywun yn defnyddio plu hefo bachyn trebl wrth sgota am sewin yn Afonydd Dwyryd a Glaslyn, tybed?

Ymhlith y plu yma y mae yna un sy’n cael ei galw’n ‘Allrounder’.  Creadigaeth Illtyd Griffiths yw hon, ac mae yna ganmol mawr arni yn llyfr Moc Morgan ar batrymau plu ar gyfer afonydd a llynnoedd Cymru.

Dyma’r patrwm.  Efallai fod yna rywun o’r ardal yma awydd rhoi cynnig ar y bluen yma yn ein hafonydd ni.

Bach:    Maint 6 ac 8
Cynffon: Pluen felen oddi ar war ffesant euraidd
Corff:    Blewyn morlo wedi’i lifo yn ddu.  Rhoi cylchau o eda arian amlwg amdano.
Traed:    Ceiliod du
Adain:    Blewyn wiwer wedi’i lifo yn ddu, a blewyn wiwer wedi’i lifo’n goch drosto.  Yna, dros y cwbl, rhoi cynffon paun gwyrdd (y rhan a elwir yn ‘sword’)  Gorffen y bluen drwy roi pluen ddu a gwyn ceiliog y gwyllt bob ochr i lygad y bach fel dwy lygaid.

Yn ôl fel yr ydw i’n deall does dim caniatad yn afonydd canolbarth Cymru i ddefnyddio cynrhon ar blu pan yn pysgota am sewin, felly plu yw y rhain ar gyfer eu pysgota yn ddi-gynrhon.

---------------------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 1998. Gallwch ddarllen erthyglau eraill Sgotwrs Stiniog gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


23.5.15

Galwad Cynnar- Plas Tanybwlch

Trwy wahoddiad Cymdeithas Ted Breeze Jones, recordwyd pennod holi-ac-ateb o'r rhaglen Galwad Cynnar ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog, ar nos Fawrth, Ebrill 28.

Daeth criw da ynghŷd i wrando ar gyngor aelodau’r panel, Bethan Wyn Jones, Rhys Owen, Kelvin Jones a Twm Elias, gyda Gerallt Pennant yn llywyddu.



Darlledwyd y rhaglen ar Radio Cymru, fore Sadwrn, Mai 23ain a gallwch wrando eto yn fan hyn o tua 34 munud (am 29 diwrnod).

http://www.bbc.co.uk/programmes/b05wh9t8

24.4.15

Llên Gwerin

Erthygl o rifyn Mawrth 2006 gan Nesta Evans, yn adrodd ar benwythnos difyr iawn ym Mhlas Tanybwlch.

Dyro Gân i Mi
Dyna oedd teitl y Cwrs Llên Gwerin a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhlas Tanybwlch. Braf oedd cyfarfod ffrindiau a gwneud rhai newydd yn ystod y cwrs, a hynny o fewn ffiniau croesawus y Plas.

Eleni, mae Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn gant oed, a chynhadledd ar y cyd rhwng Plas Tanybwlch a Chymdeithas Llafar Gwlad i dynnu sylw at benblwydd Cymdeithas Alawon Gwerin oedd hwn. Roedd hoelion wyth y Gymdeithas yno a chawsom wledd wrth wrando arnynt.


I ddechrau’r cwrs ar nos Wener, ‘Canrif y Gân’ oedd darlith Dr. Rhiannon Ifans, Penrhyn Coch, Cadeirydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Mwynhawyd y ddarlith hon yn fawr, gyda phersonoliaeth hyfryd, diymhongar y darlithydd yn cyfrannu’n fawr at y cynnwys.

Fore Sadwrn, daeth un arall o hoelion wyth y Gymdeithas atom, sef Mrs Buddug Lloyd Roberts, Cricieth. Ei thestun hi oedd John Morris – casglwr cynnar o fro Ffestiniog. Wrth gwrs, roedd y ddarlith hon yn apelio’n fawr ataf, a diddorol oedd clywed amdano yn chwilio ac yn casglu rhai o’r alawon gwerin hyfrytraf megis ‘Lliw gwyn rhosyn yr haf’ ymhlith tua hanner cant a gasglwyd ganddo. Diddorol oedd ei glywed yn darlithio ac yn canu ar dâp o eiddo Mrs Roberts. Pleser prin hefyd oedd gwrando arni hi ei hun yn canu dwy alaw werin inni a’i llais yn dal yn hyfryd i wrando arno.

Yna cawsom ddarlith ddiddorol gan Myrddin ap Dafydd ar y teitl ‘Geiriau newydd, hen fesurau’, pan drafododd Myrddin eiriau newydd a gaiff eu cyfrif yn nhraddodiad alawon gwerin – mae hyn eisoes wedi digwydd gyda rhai penillion mwy diweddar.

Ar ôl cinio blasus aeth Twm Elias â ni i Sarn Meillteyrn ac yno yn ein disgwyl yn y neuadd hardd roedd y ddau frawd, y Parch Emlyn Richards a Harri Richards – sgwrs gan un a chanu baledi, rhai hen ac ambell un ar eiriau gan Gruffydd Parri gan y llall. Te bendigedig gan ferched caredig Sarn ac yn ôl i fwyta cinio blasus eto!

I orffen nos Sadwrn daeth Twm Morus gyda’i delyn fechan a’i gitâr, a’i destun oedd ‘Tw rym di ro radi rwdl idl ol’. Roeddem yn siomedig na chanodd fwy ar y delyn, ac na chwaraeodd y gitâr o gwbl! Cas ganddo eiriau’r testun sydd yn ei dyb yn difetha aml i alaw werin, a chred mai geiriau llenwi a chwareuid gan wahanol offerynnau oedd y geiriau rhain un waith.

Fore Sul, roeddem yn ôl eto, i wrando ar Dr Rhidian Lewis, Aberystwyth, yn trafod ‘Alawon ac Emynau’ – darlith feistrolgar oedd yn dangos dylanwad y naill ar y llall. Pleser oedd ei glywed ef yn canu’n hyfryd a’r gynulleidfa wrth ei bodd yn ymuno.

‘Siwgwr a Halen’ oedd testun y ddarlith olaf gan y cymeriad hynaws Gwilym Morris o Lanufydd. Eto, cyfrannodd personoliaeth hynaws y darlithydd hwn at ddarlith a roddodd fwynhad arbennig i ni a bu canu gydag o hefyd.

Rhy fuan o lawer, fe orffennodd! A dyno fo y cwrs drosodd am flwyddyn arall. Soniwyd am lawer enw cyfarwydd i ni megis Bob Roberts Tai’r Felin, a Merêd a Phyllis wrth gwrs – dau a wnaeth gyfraniad gwerthfawr dros ben. Wrth sôn amdanynt hwy eu dau, cofiaf fynd i Theatr Ardudwy gyda Mary, fy ffrind, flynyddoedd lawer yn ôl i wrando ar Merêd a Phyllis yn canu. Nid anghofiaf hwy’n canu ‘Tra Bo Dau’ – gallaf eu clywed wrth ‘sgwennu hyn!

Cyn gorffen, hoffwn som am Benja Williams. Pwy oedd o? Wel, hen-daid i Mary (Parry) sef taid ei mam. Clywodd John Morris ef yn canu hen alaw i fabi bach yn ei freichiau yng ngardd gefn ei gartref, sef drws nesa i gartref John Morris yn y Manod. Roedd Dr John Lloyd Williams o Brifysgol Bangor wedi siarsio’r myfyrwyr i chwilio am hen alawon yn eu hardal. Clywodd yr hen ŵr yn canu am hwyaid ar y llyn, ac aeth ato i ofyn iddo ei chanu ei mwyn iddo gael ei chofnodi. Yr eilwaith y canodd yr hen wr hi nid oedd y geiriau’n union run fach – peth cyffredin iawn. Benja Williams a’i cychwynodd ar ei gasglu gan ei annog i fynd i weld rhai eraill y gwyddai ef amdanynt yma ac acw yn yr ardal. I mi, mae’r alawon rhain yn drysorau sy’n swynol dros ben – weithiau’n drist (halen) ac weithiau’n hapus (siwgr) fel bywyd, fel y dywedodd Gwilym Morris yn ei ddarlith. Mae’n hynod bwysig cofio am lafur y casglwyr a’r rhai sy’n cynnal y Gymdeithas heddiw.

Gan fod gennym sianel Gymraeg buaswn wrth fy modd petai rhaglen neu raglenni yn cael eu dangos yn ystod blwyddyn can mlwyddiant y Gymdeithas Alawon Gwerin i nodi’r ffaith ac i roi mwynhad i lawer ohonom. Beth amdani S4C?


[Lluniau PW]
---------------------------------

Ôl-nodyn:
Erthygl arall -o 1975 gan Merêd- am y casglwr alawon John Morris, i ddilyn (Trem yn ôl- Y Gŵr Diwyd).

Erthygl gan Ffion Mair am y gân 'Lliw gwyn rhosyn yr haf ', yn fan hyn.