14.10.24

Plas Tan y Bwlch Ar Werth

Oes gennych chi £1.2 miliwn i’w sbario?
Erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2024

Mae llawer iawn o son a thrafod a phryderu wedi bod am ddyfodol Canolfan Addysg Parc Cenedlaethol Eryri ym Maentwrog, ond cadarnhawyd ofnau nifer ym mis Awst wrth i’r Parc roi Plas Tan y Bwlch ar y farchnad agored.

Plas Tan y Bwlch, y gerddi a'r berllan a rhan o'r coedydd sy'n llawn llwybrau. Llun Llywelyn2000 CC BY-SA 4.0

Ganol y mis roedd datganiad i’r wasg gan y Parc yn son bod ‘trafodaethau’n parhau efo un cwmni cymunedol...’ na chafodd ei enwi, ac heb lawer o wybodaeth am ddyfodol perthynas y gymuned â’r plas, felly mi wnaeth eich papur bro gysylltu’n uniongyrchol efo’r Parc i holi ymhellach am ddyfodol y gerddi a'r berllan, ac am fynediad at Llyn Mair a’r llwybrau yn y coed, a sut fydd cymuned Maentwrog/Ffestiniog yn elwa o'r gwerthiant, ac ati. 

Ymatebodd y Parc yn dweud eu bod yn “ymwybodol o bryderon bobl leol” ac wedyn ailadrodd cynnwys eu datganiad cyffredinol i’r wasg. 

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ceisio nifer o wahanol opsiynau yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf er mwyn darganfod model busnes fyddai yn lleihau’r gôst i’r Awdurod o gynnal canolfan Plas Tan y Bwlch. Mae’r Awdurdod yn awyddus i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Plas ond rhaid cydnabod bellach nad yw yn ein gallu i ariannu’r ganolfan ein hunain. Mae hyn o ganlyniad i doriadau sylweddol iawn yn ein cyllidebau a gyda ychwanegiad chwyddiant nid yw’n gynaladwy i’r busnes barhau ar y model presennol. Fel rhan o’n hymdrechion i sicrhau dyfodol hir dymor y Plas rydym wedi cysylltu gyda chwmniau lleol ac mae trafodaethau yn parhau gydag un cwmni cymunedol ar hyn o bryd. Bu i’r Awdurod hefyd benderfynu y byddai angen opsiwn pellach, os nad yw trafodaethau o’r fath yn llwyddiannus, ac i’r diben yma mae penderfyniad hefyd wedi ei wneud i hysbysebu’r ffaith ein bod yn agored i gynigion ar y farchnad agored. Mi fydd dyfodol hir dymor Plas Tan y Bwlch yn chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw benderfyniad gan yr Awdurdod.”

Wnaethon nhw ddim ymhelaethu ar ymholiad benodol Llafar Bro am y gerddi a Llyn Mair, a ph’run ai oedd posib rhoi amodau yn gwarchod mynediad i bobl leol wrth werthu (does yna ddim llwybrau cyhoeddus, dim ond mynediad trwy ganiatâd y Parc, felly fyddai yna ddim rheidrwydd gyfreithiol ar brynwr preifat i’ch gadael chi na fi ar y tir o gwbl), gan ddweud y dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau pellach at yr asiant gwerthu, Carter Jonas.

Yn y cyfamser mae’r elusen, Cyfeillion Plas Tan y Bwlch -sydd wedi bod yn casglu arian ar gyfer y plas a threfnu gweithgareddau rheolaidd yno- wedi sgwennu at eu haelodau yn dweud mai “ychydig o wybodaeth a gawsom ar waethaf ein llythyru gyda Phrif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri... Mae’r diffyg ymateb wedi bod yn siomedig a thrist, ac rydym yn teimlo ein bod yn siarad â’r wal.

Mae’r Cyfeillion yn annog pawb i sgwennu at brif weithredwr y Parc i ddweud pa mor bwysig ydi cadw’r Plas mewn perchnogaeth gyhoeddus. Mae deiseb hefyd i geisio achub y Plas, os hoffech lofnodi: ewch i wefan change.org a chwilio efo’r geiriau ‘Achub Plas’.

Wrth fynd i’r wasg daeth Llafar Bro i ddeall mae Cymunedoli ydi’r ‘cwmni cymunedol’ -sef yr ymbarél i rwydwaith o fentrau sy’n cydweithio er budd eu cymunedau- a theg dweud fod mentrau cymunedol Bro Stiniog yn allweddol yn y rhwydwaith hwnnw. Maen nhw rwan yn edrych ar opsiynau ac wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb/cynllun datblygu i weld be sy’n bosib. 

Edrychwn ymlaen yn arw i weld be ddaw o’r astudiaeth a’r trafodaethau. Chwith na fyddai’r Parc wedi aros am ganlyniad hyn cyn rhoi’r plas ar y farchnad agored, ond efallai fod eu brawddeg olaf “Mi fydd dyfodol hir dymor Plas Tan y Bwlch yn chwarae rhan flaenllaw mewn unrhyw benderfyniad...” yn rhoi lle i fod yn obeithiol. Mae’n sicr yn rhywbeth y gellid eu hatgoffa wrth bwyso arnyn nhw i wneud y peth iawn dros y misoedd nesa.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon