27.9.25

Diweddariad am y Plas

Darn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2025

Go brin fod Plas Tan y Bwlch yn ddiethr i unrhyw un o ddarllenwyr Llafar Bro

Saif y Plas uwchlaw pentref Maentwrog a bydd gan amryw o ddarllenwyr atgofion personol ohono fel cyflogwr, canolfan addysg a lleoliad bendigedig i dreulio amser hamdden. Bellach, mae’r Plas yn adnabyddus fel cartref gwledig hanesyddol teulu’r Oakeley, Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri, ac eiddo arwyddocaol o fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. 

Llun Arthur C Harris, CC BY-SA 2.0

Mae’r enw ‘Tan y Bwlch’ yn dyddio’n ôl i’r G17 a’r teulu Griffith yn berchnogion cynnar ar y stad. Bu’n adnabyddus fel cyrchfan beirdd fel Wiliam Cynwal, Lewys Dwn, Sion Phylip o Ardudwy ac Ellis Rowland, a ddywedodd ym 1722:

“Llwyn gân mawl, llwyn gwin a medd
Llwyn i gynnal llên Gwynedd.”
Mae’r Plas sy’n gyfarwydd i ni heddiw wedi’i gwreiddio mewn treftadaeth gyfoethog. Mae’r system hydro yn adlewyrchu blaengaredd y Plas ym maes cynhyrchu ynni – dyma’r tŷ preifat cyntaf yng Nghymru i dderbyn trydan ac ym 1889, adeiladwyd Llyn Mair, yn anrheg penblwydd 21ain oed i Mary Caroline, merch Mary a William Edward Oakeley. Mae’r berllan gymunedol yn atseinio’r dreftadaeth arddwriaethol: tua chanol y G19, cyflogwyd hyd at ddeuddeg o arddwyr dan arweiniad y prif arddwr, John Roberts. Roedd meithrinfa goed y Plas yn un fasnachol, ac ar gyrion y stad gweithredai’r Home Farm, yr efail a’r melinau coed a blawd. 

Dylanwadodd y Plas yn aruthrol ar bob agwedd o amgylchedd, economi a chymdeithas yr ardal: cyflogaeth (drwy’r Plas a’r chwareli), datblygu pentref stad Maentwrog, newid cwrs afon Dwyryd er mwyn creu’r drofa siap ‘S’, i atgyfnerthu’r olygfa picturesque o’r Plas a phlannu coed pîn yn siap monogram WEO (William Edward Oakeley) yng Nghoed Camlan. Yn gymdeithasol, roedd rheolau lleol yn gorchymyn ar ba ddyddiau ceid sychu dillad y tu allan ac yn dilyn cais gan Annibynwyr lleol, caniatawyd codi Capel Gilgal ar gyrion y pentref, nid ym mlaendir yr olygfa o’r Plas. 

Hawdd, efallai, yw portreadu hanes y Plas o safbwynt y perchnogion a hepgor stori’r teuluoedd a’r cymunedau a roddodd iechyd ac einioes i lafurio yn chwareli’r Oakeley a thalu am ddatblygiad stad Plas Tan y Bwlch. Disgrifiwyd y Plas gan sawl unigolyn lleol, fel cofeb i’r rhai hyn a’r ffaith bod y Plas bellach yn eiddo cyhoeddus, sy’n creu daioni drwy brofiadau addysgiadol, hyfforddiant a llesiant drwy lwybrau, gwaith cadwraethol, gweithgareddau ac addysg, yn destun balchder eithriadol. Mae’r rhwydweithiau proffesiynol a sefydlwyd ar gyrsiau’r Plas yn weithredol yn sector rheolaeth cefn gwlad Cymru hyd heddiw a “Ffatri Gymdeithasau” Plas (ys dywed Twm Elias) yn dal i gyfrannu at ein dealltwriaeth o amgylchedd naturiol a threftadaeth ddiwylliannol Eryri. Mae’r Plas yn eicon yn nhirwedd a threftadaeth ddiwylliannol Eryri ac mae pobl a chymunedau Eryri yn rhan lawn o’r Plas.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’r Plas yn destun trafod yn dilyn penderfyniad ariannol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’w werthu. Ymatebodd y gymuned yn angerddol i’r newyddion. Mynychodd dros 250 o drigolion ddeuddydd o sesiynau galw i mewn, i’r cyhoedd leisio barn a derbyniwyd mewnbwn ar ebost gan 80 arall. Dangosodd yr ymateb grymus y cysylltiad agos rhwng y Plas a chymunedau’r ardal hyd heddiw a’r balchder ymysg trigolion mai pobl Eryri sy’n berchen arno erbyn hyn. 

Ar ddechrau 2025, adolygwyd y feddylfryd am ddyfodol y Plas gan Awdurdod y Parc a phenderfynwyd tynnu’r Plas oddi ar y farchnad er mwyn galluogi swyddogion i ymgeisio am gefnogaeth ariannol i atgyweirio a datblygu Plas Tan y Bwlch. 

Angor y prosiect hwn fydd symud pencadlys y Parc o’i gartref presennol ym Mhenrhyndeudraeth, i Blas Tan y Bwlch. Byddai hyn yn cartrefu’r Awdurdod o fewn ffiniau’r Parc, am y tro cyntaf. O amgylch y craidd hwn, bydd y Plas yn safle aml-ddefnydd, yn cyflawni pwrpasau’r Parc Cenedlaethol i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol, rhoi cyfleoedd i bobl ddysgu am a mwynhau rhinweddau arbennig yr ardal a meithrin lles economaidd a chymdeithasol yr ardal. Bydd sgwrs agored gyda chymunedau a phartneriaid i benderfynu hyd a lled hynny ac mae syniadau wedi’u crybwyll, fel: canolfan hyfforddiant sgiliau traddodiadol, canolfan wybodaeth, arddangosfeydd celf a threftadaeth, llety, digwyddiadau a gweithgareddau, gydag elfen gymunedol gref yn perthyn i’r cyfan. Wrth gwrs, bydd y gerddi, y goedwig a Llyn Mair yn parhau yn agored i’r cyhoedd. 

Byddwn yn cyflwyno cais Cyfnod Datblygu i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Chwefror 2026 ac rydym yn y broses o benodi tîm dylunio ar hyn o bryd. Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd yr Awdurdod yn derbyn grant datblygu i gefnogi datblygu cynlluniau llawn a hynny’n arwain maes o law at gyflwyno cais cyfnod cyflawni, gwerth hyd at £10m. 

Fel rhan o’r gwaith, rydym yn awyddus i gasglu atgofion o Blas Tan y Bwlch a byddem yn falch o glywed gan drigolion sydd gan straeon i’w rhannu - efallai eich bod chi neu aelod o’r teulu wedi gweithio yno, wedi mynychu cyrsiau neu yn mwynhau crwydro’r stad? Mae croeso i chi gysylltu drwy ebostio: naomi.jones@eryri.llyw.cymru 
Naomi Jones. Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 
 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon